Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
| 19" Yr Unig Bapur Cymraeg a Argreffir yn Lerpwl. '•I
EGLURHAD.
EGLURHAD. AT [MR. T. GWYNN JONES.-Cyhoedd- asom yn ein rhifyn diweddaf mai y Parch. E. O. Jones, Llanidloes, ac nid Mr T.Gwynn Jones, ydoedd y buddugwr yn Abertawe am gyfieithu awdlyr olaf ar "Ymadawiad Arthur i'r Saesneg. Daeth yr hysbysiad i law oddiwrth Hesgin," ein gohebydd rheolaidd o'r De, ac fe'i cyhoeddwyd gan gredu ei fod yn gywir; ac nid gyda'r bwriad o gamarwain y cyhoedd nac o beri'r niwed lleiaf i Mr. Gwynn Jones, yr hwn ei hun a enillodd y wobr. Drwg gennym am y camgymeriad.
At ein Gohebwyr.
At ein Gohebwyr. UN OFEIB Y WAENFAWR.-Popeth yn dda. Da gennym fyddai cyhoeddi'r siwt felfet pan y daw. Gadawer i'r^BnYTHON wybod weithiau beth a welwch o ben Moel Eilian. CARWR G WIRIONEDD. -Gohebydd rheol- aidd a chyflogedig y BRYTHON a anfonodd yr hanes am gyngerdd Cor Undebol Birken- head i rifyn Awst 1. Y mae efe yn gerddor cyfarwydd, a'i sylw ar ganu Eos Mawddach yn ddatganiad cwbl deg a didramgwydd o'i farn a thra y mae perffaith groeso i chwi wahaniaethu oddiwrtho, nis gallwn ganiatau i chwi ei athrodi na'i sarhau. SPRING VIEW, WI GAN.—Adroddiad arall wedi ei gysodi cyn i'r eiddoch gyrraedd. ENWOGION CYMRU.—Y gyfrol mewn IlL llaw, a cheir gair ami yn fuan.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Lerpwl a'r Cylch. Medi ll-Côr Plant Rhyl St (B.) yn Assembly Hall Marsh Lane Medi 21-Eisteddfod New Brighton Medi 22-Cyfarfod Agoriadol Bousfield Street Hydref 2-Cyfarfodvdd Blynyddol y Feibl Gym. Hyd. 4-Darlith yn M.C. Edge Lane gan Ap Glaslyn Hyd. 15.16—Cyfarfodydd Blynyddol Cymanfa Ddir* westol Gwynedd ac Undeb Dirwesto1 Merched Gogledd Cymru, yn Princcs rd Hyd. 16-Te Parti a Chyngerdd Trinity Road (A) Hyd. 22-Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 26 7-Cyf. Pregethu Peel Road. Hyd. 29-Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St., Edge Lane, Douglas Rd., a Newsham Park Hyd. 30—TS a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,-Nodachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 9-10-C:sfarfod Pregethu Bousfiekl Street Tach. 12-Te Parti a Chyngerdd Bousfield Street Tach. 16-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tachwedd 24-Cvf. Pregethu yn Marsh Lane. Tach. 26—Cyf. Cystadleuol Anfield Road. Rhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed yo1 Gt. Mersey St. Rhag. 16—Cyf. Blvnyddol Ymdrech Grefy ddol yn Crosshall Street. Elfed yn anner ch, Rhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Nadolig—Eisteddfod Gadeiriol Nantglyn Rhagfyr 26—Eisteddfod y Temlwyr Da. Rhag, 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. 2-Cyf. Cystadleuol Laird Street. Ion. 14-Parch. F. B, Meyer yn Bootle Chwef. 1-2-Cyf, Pregethu Edge Lane Chwef. 29-Cyf. Cystadleuol Peel Road. Maw. 5, 6, 7.—Bazaar Eglwys Martin's Lane Maw. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Ebrill 25-Eisteddfod M.C. Tyldesley. Manceinion. Medi 14 a 15-Cymanfa Bregethn Booth Street. Medi 20 a 21—Oynhadledd y Bobl Ienainc. Hyd. 12—Oym. Ganu Methodistiiid y Moss Side. Cymru. 1908. Mehefin 8-9—Eisteddfod Gadeiriol M6n
Glannau'r Mersey
Glannau'r Mersey PULPUDAU Y SABOTH NESAF. Y Methodistiaid Calfinaidd. PRINCES RD-10,tR. A Jones, 6, G. Hughes DAVID ST—10-30, G. Hughes, 6, R. Aethwy Jones FITZCLARENCE ST.—10 a 6, R. Humphreys DOUGLAS RD.-10 a 6, R; Morris, Dolgellau CHATHAM ST.—10-30 a 6, J. Hughes CROSSHALL ST-10 a 6, W. M. Jones ANFIELD RD-10-30 a 6, S. G. Evans NEWSHAM PARK—10 a 6, E. J. Evans BOOTLE-10 a 6, G. Ellis PARKFIELD—10-30 a 6, H. Jones SEACOMBE—10-15 a 6, J. Roberts GARSTON—10-30 a 6, L. Lewis ROOK FERRY—10-30 a 6, O. J. Owen WALTON—10-30 a 6, W. Henry WATERLOO—10-30 a 6, D. Jones PEEL RD-10-30 a 6, R. W. Roberts EDGE LANE-10-30 a 6, J. D. Evans WEBSTER RD-10-30 a 6, W. Owen LAIRD STREET—10-30 a 6, O. Owens WOODOHURCH RD-10-30 a 6, J. E. Hughes,B'menai NEW BRIGHTON-IO-30 a 6-30, J.E.Da vies,T'ffynon WEST KIRBY-ll a 6, O. Davies, Caernarfon HUYTON QUARRY—10-30 a 6, J. Williams SOUTHPORT—10-30 a 6-30, R. G. Roberts, Cysegr WARRINGTON—10-30 a 6, J. Peron Jones WILLIAM MOULT ST-6, ELLESMERE PORT—10 30 a 6-30, BANKHALL—6-15, Yr Achosion Seisnig. OAKFIELD RD-10-45 a 6-30, T. G. Owen EVERTON BROW—10-45 a 6-30, D. W. Morgan CATHERINE ST-10-30 a 6-30, EGREMONT-IO-30 a 6-30, R. G. Jones WILLMER RD—10-45 a 6-30, R. D. Edwards, Hay Yr Anibynwyr. Y GYMANFA. TABERNACL, BELMONT RD-Nos Wener, 7, D. Rhagfyr Jones, Treorci a R. P Williams, Caergybi. Saboth, 10, J, J., Williams, Pentre a Dr. Oliver, Treffynnon; 2, W. J. Nicholson, Porthmadog; 6, H. M. Hughes. Caerdydd, a W. James, Abertawe. PARK ROAD-Nos Wener, 7, E. Keri Evans, Caer- fyrddin a R. Gwylfa Roberts, Llanelli; Saboth, 10, R. P. Williams a R. Roberts, Rhos; 2, W. James 6, J. J. Williams a Rhys J. Huws, Bethesda. GROVE ST-Nos Wener, 7, A. Penry Evans,Porth, a W. J. Nicholson; Saboth, 10, Proff Rees, Aber- honddu, a H, Seiriol Williams, Pontardawe 2, R. Rees, Alltwen 6, E. Keri Evans a Rowland Hughes, Tylorstown. EARLB ROAD gaboth, 2-30, R. Gwylfa Roberts GT. MERSEY ST-Nos Wener, 7, R. Hughes a R., Rees; Saboth, 10, H. M. Hughes a W.M Davies Abergele 2, H. S. Williams; 6, A. P. Evans a D. Rhagfyr Jones CLIFTON RD—Nos Wener, 7, H. M. Hughes a W. Keinion Thomas, Porthdinorwig Saboth, 10, W. J. Nicholson a H. O. Jones, Brynaman 2, Rhys J. Huws 6, Profi. Rees a R. Rees MARSH LANE-Nos Wener, 7, Rhys J. Huws a H. O. Jones Saboth, 10, A. P. Evans a R. Rees 2, D. Rhagfyr Jones; 6, R. Gwylfa Roberts a R. P. Williams LiscA.-RD-Nos Wener, 7, Dr. Oliver Saboth, 10, D. Rhagfyr Jones; 2,A.P.Evans; 6,W.K.Thomas TRINITY RD-Nos Wener, 7, W. James; Saboth, 10, R. J. Huws 2, H. O. Jones 6, Dr. Oliver KENSINGTON- Wener, 7, Proff .rRees a W.M Davies Saboth, 10, Keri Evans a W. K. Thomas; 2, R P. Williams 6, W. J. Nicholson a H. S.Williams VITTORIA ST—Nos Wener, 7, J. J. Williams a R. Roberts, Rhos Saboth, 10, R. Hughes a R. G. Roberts; 2,Proff.Rees,6,H.O. Jones a W.M.Davies PRESCOT-Nos Wener, 7, H. S. Williams; Saboth, 10, W. James 2 a 6, R. Roberts BALMORAL RD—10-30 a 6, R. H. Davies, Bangor SOUTHPORT—11 a 6-30, J. Evans Y Wesleaid. OAKFIELD—10-30, W. Evans, 6, D. Jones SHERLOOK ST—10-30, R. Lewis, 6, W. Evans TRINITY RD.—10-30, J. Evans, 6, T. Hughes EDGE HILL-Ii-SO, D. Jones, 6, J. Evans KNOWSLEY RD—10-30, T. Hughes, 6, R. Lewis MYNYDD SEION-10-30, E. Humphreys, 6, J. Felix BIRKENHEAD—10-30, W. M. Jones,6,E.Humphreys WIDNEs-10-30 a 6, R. J. Williams GARSTON—2-30 ,E.Humphreys, 6, P. Lloyd EGREMONT—10-30, J. Felix, 6, W. M Jones ROCK FERRY—2-30, W. M. Jones, 6, E. Evans Y Bedyddwyr WINDSOR ST.—10-30 a 6, O. M. Owen BOUSFIELD ST.—10-30,M. Griffith, EDGE LANE—10-30 a 6, H. R. Roberts BALLIOL RD.-10-30 a 6, P. Williams EVERTON VIL.-10-30 a 6, D. Powell WOODLANDS-10-30 a 6, E. Williams, Rhos SEACOMBE—2-30 a 6, KNOWSLEY RD.—10-30 a 6, L. W. Lewis Eglwys Rydd y Cymry CANNING ST-10-30, E. Price, 6-30, R. T.'Roberts HIGH PARK ST.—10-30, W. A. Lewis, 6, BooTLE-IO-SO a 6, W. O. Jones BIRKENHEAD—10-30, E. Evans, 6, W. A. Lewis GARMOYLE ROAD—10-30, T. Jones, 6, E. Evans DONALDSON ST—10-30, D. Davies, 6, T. Jones EGRBHONT—10-45, H. Jones, 6-30, D. Davies Yr Eglwys Sefydledig SANT DEWI-IO-30 a 6-30, J. Davies SANT ASAPH—10-45 a 6-30, E. Williams. SANT DBHNIOL—11 a 6-30, ST WINIFRED, BIHNAI) -10-45 a 6-30, J. Hughes -_r\
EBION LERPWL.
EBION LERPWL. Yr Hen a'r Newydd ydyw teitl cyfrol sydd yn yr esgoreddfa gan y Parch. D. Adams, B.A., ar y cyffrawd diwinyddol. Disgwylir hi allan yn yr hydref. Dyddorol i bawb hanes priodi; a dyma bar ieuanc wedi eu huno yn Hamburg, Germani, ddydd Mawrth diweddaf. Y briodferch oedd Miss Martha Wynne (merch y diweddar Mr. John Wynne, diacon yn Peel Road), a'r priodfab y Capten R. T. Jones, prif swyddog yr agerlong Bagdari. Yn ol defod y wlad, aed drwy y gwasanaeth yn y British Consulate ac yn yr Eglwys Seisnig ac wedi boreufwyd yn y Washing- ton Hotel, aeth y par ieuanc i dreulio eu mis mel yn Gluckstadt i fyny'r wlad. Yr oedd Miss Wynne yn yr America er's blwydd- yn, ac o New York yr aeth i Hamburg. Ond, wedi yr hwylio y llong, deallwn y daw y wraig ieuanc yn ol i'n plith eto. "Boed i'wrhanoeslwyddiannus,—Rhydderch Haeddai'r chwaer ofalus [wir 0 fyw'n hir bywyd fwynha Drwy ei Fartha drafferthus." Mwy dyddorol hyd yn oed na Phageant diweddar Lerpwl a fydd y Palestine in Liverpool, sef yr arddanghosfa sydd i'w chynnal yn St. George's Hall, Medi 25 hyd Hydref 9fed. Ynddi ceir golwg ar Jeru- salem, ei phobl a'u defodau, fel yr oeddynt yn adeg Crist ceir myrdd o models hefyd o gartref yr Iesu yn Nazareth, o'i fedd yn y graig, o'i hen gythruddwyr yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, ac o bron bob digwyddiad a sefydliad a gofnodir yn yr Efengylau, hyd at chwipio'r bargeinwyr allan o'r Deml. Bydd y cwbl o tan arolygiad Mr. Schor, Iddew o Jerusalem, a'r gwr a feddyliodd am yr arddanghosfa a cheir mynd trwy bob un o'r pum adran tan gyfarwyddyd a chan wrando eglurhad brodorion cyfarwydd o Balestina. Aeth pedwar can mil o bobl i'w gweled yn Llunden, a diau y daw miloedd cyfatebol i Lerpwl, yn eu plith filoedd o Gymry, yn ddiau. k Fe ddysgir drwyddi fwy am Balestina a'r Dwyrain mewn un ymweliad na phe treulid blwyddyn uwchben llyfr ac i gar- edigion yr Ysgol Sul, dyma Faes Llafur y cant fwy o'i un gwers nag yn yr esboniad cyfundebol, pa mor gystled bynnag hwnnw. Bydd y Dwyrain draw yno'n gryno gerbron y llygaid, yr hyn a fydd yn fawr gymorth I weld gogoniant Iesu, A chofio'r mannau bu." I* Dywed Mr. W. Gough-un o Gymreigwyr yswiliaf ond goreu Glannau'r Ferswy-yn Ymwelydd Misol capel Stanley Road, Bootle, fod "lie i ofni fod llawer yn ein cynulleidfa- oedd yn canu emynau Sul ar ol Sul, ac heb ddeall i sicrwydd beth yw ystyr llawer llinell a llawer ymadrodd a geir ynddynt." Oes, yn ddiau ac yn addoli dim, pa mor felus bynnag y lleisiont. Gwelsom ami i gynhulliad'yn beichio'r hwyliog gydag emyn- au Edmwnt Prys, ond heb ddeall dim ar rai o'i eiriau. Y mae yn Lerpwl rai Cymry da, a phe ceid un ohonynt i baratoi darlith ar ''Eiriau Anghynefin ein Hemynau," a'i thraddodi ar gylch drwy'r eglwysi yn ystod y gaeaf dyfodol, gwnai gymwynas ddeublyg- byddai'r emyn yn fwy dyddorol a'n canu ninnau yn fwy gonest. Ymysg yr hysbysiadau, gwelir y manylion am Gymanfa Anibynwyr Lerpwl ac am y Gyfeillach Gyffredinol sydd i'w chynnal yng nghapel Great George Street nos Sadwrn nesaf. Yr Eglwys a'r Byd ydyw testyn y seiat, ac y mae'r rhaniadau yn rhai hapus, ac yn rhoddi cyfle i'r siaradwyr ddweyd pethau amserol ac angenrheidiol. Bydd adroddiad llawn yn ein nesaf, Ein cymydog Pedr Hir oedd prif atdyniad Gorsedd Abertawe, a hyderir y bydd ei ddameg gofadwy am y Twrch Trwyth yn angau effeithiol i'r Die Shona sy'n ffynnu mewn Llan a Chapel a Choleg. Yr oedd y Llydawiaid yn dotio arno a phe'r ymfodd- lonai i droi'n Babydd, cawsai alwad yn y fan a'r lie i fod yn Archesgob ein cefndryd yn y wlad ddyddorol honno. Rhyfedd mor ddieithr ym ni'r Cymry i Lydaw a'i phobl, ac mor lleied o'n pobl gefnog a feddyliant fyth am fynd yno am wyliau haf. Byddai'r diweddar Mr. W. G. Jones, Lleyn, Birkenhead, a'i chwaer yn ymweled ag yno agos bob blwyddyn ac yng nghapel Bedyddwyr y Woodlands yn unig o holl gapelau Cymreig y cylch y cesglid at genhad- aeth yn Llydaw. Golygfa gyffredin ar heolydd Lerpwl flynyddau'n ol a fyddai gweld y Llydawiaid yn helcyd o heol i heol i werthu wynwyn wedi ymwisgo yn ei bragoz braz—(llodrau llac)—a'u het gantal-lydan a phluen paun yn ei hocbr a byddai Mr. W. G. Jones yn picio i'r stor yn Duke Street ar brydnawn Sul i ddarllen iddynt yr Ysgrythyrau yn eu hiaith eu hunain, ac i'w goleuo am yr iawn Iwybr a'r wir athrawiaeth. Wedi ei farw ef, ni ddaeth y Llydawiaid yma mwy. k Gofynnid yn ein rhifyn diweddaf pwy ydoedd awdwr yr emyn canlynol y cyfeirid ato yn atgofion Mr. Williams, Corwen, am Wesleaeth Gymreig Lerpwl, a'r emyn a achlysurodd y gorfoledd mawr yn oedfa Evan Roberts y Diwygiwr yn Princes Road Mae Duw fy Nhad yn Seion, yn cadw ty fy mam Mae Crist fy Mrawd yn Seion,—ni raid im' ofni cam Mae'r Ysbryd Glan yn Seion—cysuron sydd i'w saint, 'Rwyf finnau'n byw yn Seion, a diolch am y fraint." Yng nghyfrol newydd y Parch. T. Morgan, Sciwen, ar Enwogion Cymru, dywedir mai'r awdur ydyw Hannah Bellis, Fflint, yr hon a aned yn Llaneilian, ac a fu farw yn 1881. k Cafodd Elwyn groeso calonnog gan ei bobl yn eglwys Norwood y Sul diweddaf, ar ol bod i ffwrdd am fis o wyliau. 'Roedd y capel yn bur lawn yn y bore, ond llanwyd pob sedd yn yr adeilad yn yr hwyr. Wrth gyhoeddi ynghylch y seddau, erfyniai ar y bobl oedd wedi apelio am rai yn ddiweddar-a methu eu cael-i arfer amynedd am ychydig, gan fod pob sedd a feddent ar hyn o bryd wedi ei gosod-rai ohonynt ddwywaith drosodd. Addawai atdrefniad cyn hir, a gobeithiai allu cyrraedd dymuniadau mwy- afrif yr ymgeiswyr mewn canlyniad. Ymysg y cyfarfodydd neilltuol a gynhelir yn ystod yr Hydref a'r gaeaf, traddodir cyfres o bre- gethau arbennig i bobl ieuainc ar Emynau ac Emynwyr," pryd y cynorthwyir y pre- gethwr gan y cor. *5? Y mae Undeb Ysgolion Sabothol M.C. Lerpwl wedi trefnu cyfarfod Hydref 17 i gyflwyno'r gwobrwyon i'r rhai a lwyddasant yn yr Arholiad Cyfundebol. Llywyddir gan Mr. P. Lloyd Jones (llywydd yr Undeb), a chyflwynir y gwobrwyon gan Mr. J. Morris, Y.H. (llywydd y Cyfarfod Misol). Ac i geisio deffro'r eglwysi i sylweddoli'r lleihad sydd yn hanes yr Ysgol Sul, ceir anerchiadau gan amryw wyr lien a lleyg ar sut i gael gwell gwedd ar y sefydliad da. «5b Un o'r cyfrolau tlysaf ei diwyg a melus ei barddoniaeth ydyw Drwy Gil y Drws, ffrwyth awen bur ein cymydog Mr. R. H. Jones, Upper Brighton. Y mae'r lluniau sydd yma ac acw drwyddi yn rhai da a chwaethus ac ond i bwyllgorau ein cyrddau cystadleuol a'n Gobeithluoedd ac yn y blaen agor cil ei drws, gwelant ynddi liaws o ddarnau campus i'w hadrodd, yn enwedig o rai y mae mwyaf o'u prinder yng Nghymraeg, sef darnau i rai ieuainc. Gallai hiliogaeth Gymreig Glannau'r Mersey ddeall y gyfrol drwyddi draw, gan mor syml a llyfn a'i Chymraeg, ac mor loew ei meddyliau.
.....-TO THE EDITOR.
TO THE EDITOR. The Recent Historical Exhibition at Liverpool. Sin,-My attention has been drawn to the letter of Mr. Hugh Lloyd in your issue of August 29th; and in reply I hasten to say that Welsh books printed in Liverpool were not forgotten at the time when the exhibits were being collected. Application was made to several good local authorities for in- formation abouth Welsh books published in Liverpool, but in no case was any assist- ance forthcoming. It would be invidious to give the names here, but if Mr. Lloyd will write to me privately, I shall be glad to supply them. Our chief object was to exhibit Liverpool books published prior to 1850, and I think that not many (if any) Welsh books were printed in Liverpool during that period. However, a bibliography of Liverpool litera- ture is now being prepared by myself in conjunction with Mr. J. S. Arthur, and I should be extremely obliged if any of your readers would send me the titles and dates of Welsh books or pamphlets published in Liverpool at any time up to the present day. The name of the Welsh clockmaker alluded to by your correspondent is unknown to me. If he can remember it, he would do me a service by acquainting me with it, as I am making a list of Liverpool clockmakers for the great authority Mr. Britten, who will include it in the next edition of his standard work on clocks. I regret, Sir, that my acquaintance with Welsh is not sufficient to enable me to write this letter in that language. Yours faithfully, ROBERT GLADSTONE (Jun.), (Vice-Chairman). The Athenaeum, Liverpool, 3rd September, 1907.
Advertising
DYFYNIADAU LLEN CYMRU.-Gan y Parch. D. D. Williams, Manchester. Budd- ugol yn Eisteddfod Caernarfon, 1906. Ar- graffwyd yn Swyddfa'r BRYTHONTfros Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1 CYMANFA ANIBYNWYR I LIVERPOOL a BIRKENHEAD. Cynhelir y Gymanfa uchod Medi 6ed, 7fed, a'r 8fed, 1907, yn y Tabernacl. Park Road. Grove Street. Gt. Mersey Street. Clifton Road. Birkenhead. Marsh Lane. Liscard. Trinity Road. Kensington. Vittoria Street. Prescot. I Yr oedfaon yn dechreu yn y gwahanol gapelau nos Wener am 7 o'r gloch, ac am 10, 2 a 6 y Sabot • a I Disgwylir presenoldeb y Gweinidogion canlynol :—Y Parchn. I D. RHAGFYR JONES, Treorci. R. P. WILLIAMS, Caergybi. E. KERI EVANS, M.A., Caerfyrddin. R. GWYLFA ROBERTS, Llanelli. A. PENRY EVANS, Porth. W. J. NICHOLSON, Porthmadog. R. HUGHES, B.D., Tylorstown R. REES, Alltwen H. M. HUGHES, B.A., Caerdydd. W. KEINION THOMAS, Port Dinorwic. RHYS J. HUWS, Bethesda H. O. JONES, Brynaman Dr. OLIVER, Treffynnon W. JAMES, Abertawe. Prof. REES, M.A., Aberhonddu. W. M. DAVIES, Abergele. J. J. WILLIAMS, Pentre. R. ROBERTS, Rhos. H. SEIRIOL WILLIAMS, Pontardawe. Cynhelir y Gyfeillach Gyffredinol E nghapel Gt.George st NOS SADWRN, MEDI 7fed, AM 6-30 O'R GLOOH. Cadeirydd Parch. J. O. WILLIAMS (Pedrog) Testyn-" YR EGLWYS A'R BYD (Seiliedig ar Matt. v. 13-16.) Chwi yw halen y ddaear Parch. D. OLIVER, D.D. Chwi yw goleuni y byd „ J. J. WILLIAMS. __nn, Ac ni oleuant ganwyll a'i dodi dan lestr." ROWLAND HUGHES, Llewyrched felly eich goleuni." H. M. HUGHES, B. I Undeb Cymdeithasau Ymdrech Grefyddol Pobi leuainc Lerpwl a'r Cyffiniau. NOS SADWRN, HYDREF 26ain, Yng a Nghapel b. Fitzclarence a Street, Traddodir DARLITH (yn Saesneg), gan y Parch. H. Elwyn Thomas, M.A. TESTYN—> "RISE AND PROGRESS OFITNONCONFORMITY." Cadeirydd-HENRY JONES, Ysw., Y.H.,C.D. Tocynau 6ch. yrun. Manylionpellacheto Beibl Gymdeithas Gymreig LIVERPOOL. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn HOPE HALL LIVERPOOL, Nos Fercher, Hyd. 2il, 1907, Pryd yr Anerchir y Cyfarfod gan y Parchn. EVAN JONES, Caernarfon, OWEN DAVIES, D.D., Caernarfon, E. KERI EVANS, M.A., Caerfyrddin, a D. GWYNFRYN JONES, Llandudno. Cymerir y Gadair am 7-30 o'r gloch. GWYL GERDDOROL. EISTEDDFOD Gadeiriol a Choronog COLWYN, a Chystadleuaeth Seindyrf Pres Ym Mhaflliwn Colwyn Bay, DYDD CALAN, 1908. Y BRIF GYSTADLEUAETH GORAWL- Gwobr, £30 a Chadair Dderw Hardd i'r Arweinydd CORAU MEIBION-Y,20 o Choron Arian i'r Arweinydd. PEDWARAWD, DEUAWDAU, UNAWD- AU, ADRODDIADAU, &c., &c. Beirniad Cerddorol- W. THOMAS, Ysw., Treorkey. Testynau (l|c. drwy y Post), oddiwrth— R. JONES, Gwynfor, Colwyn T. CADWGAN DAVIES, Bethafen, Colwyn AT Y CANTORION. DWY GAN NEWYDD RAGOROL "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). OSBORNE ROBERTS, (I.landudno) A TELYNAU R SAINT" (" The Harps of gold.") Gan W. O. JONES, A.U.C.W. (Ffestiniog). Geiriau Cymraeg Bryfdir' (Seisnig Glanceri,') SOL-FFA A HEN NOD= p, c 1/ IANT AR YR UN COPI ^riS 1/ = (Sylwer fod y ddwy gin mewn Cyweirnodau cyfaddas i bawb-SOPRANOS TENORS, CONTRALTOS, BARITONE. Cofiwch enwi y llais wrth anfon am danynt. Catalogue Pianos &c.,p?5f?A^§E I'w chael oddiwrth D. R. JONES (Alaw Madog), 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. General Printing of every kind, Commercial and Artistic, at Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358A Stanley Road, Liverpool (Tele- phone 591 Bootle). • t;apel M.C. Laird 5treell BIRKENHEAD. G WR a gwraig yn eisieu i ofalu glanhau y capel uchod. Y ceislac- b fod yn llaw erbyn y 14eg o'r mis hwn. manylion i'w cael gan yr Ysgrifennydd, WILLIAM EDWARDS, E8tate Agent, 138 Park Road North, d Birkeiihead, COMFORTABLY FURNISHED count Cottage TO LET in Anglesey. Large Dining Room, Kitchen, Pantry, Four 131; lovely scenery, bracing. Convenient 1 Shops, Post, Station, Church and Chapels, Terms moderate.—Apply 25X Brython PARTREF CYSURUS, mewn lie cyfljjj gyda theulu bychan, i ddau parchus. Telerau Rhesymol. 20 Foxhill.Street, PRINCES ROAj*, Channel fCruises. FARE 6d. Two Hours' Channel Cro The Favourite Saloon Steamer PATHFINDER {Si other Steamers, specially fitted up for Passeng the haying every convenience on board, leaving, p Prince's Landing-stage [weather and other civ^ stances permitting] Week days 3.15 p.m. Pr0 hAitf Sunday 11.15 a.m. [short trip], arriving back 2.45,3.30, 4.30, 6.30. and 7.30 p.m. Liverpool&North wales Regular Daily Sailings (Sundays included). From Prince's,Landing Stage (weather and Olr- cumstances permitting), Every day by La Marguerite (Fridays, St. Tudno "). 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, and Menai Bridge, allowing 4 hours aSgj, at Llandudno, and due back about 7-30 P- (Carnarvon connection week-days,) ,n. 2-30 p.m. Fri., 30, Sat., 31, & Mon., 2, at 2-15 P' Early boat on Mondays, due Liverpool 10-15 •* EXTRA SAILINGS 9-15 a.m., Anglesey Trips, Sunday, Sept. lot. Through Bookings from Principal Stations. For Fares, &c., apply to the Liverpool and f, Wales Steamship Company, Ltd., T. Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Guide, post free 3d. Richard Williams ê Sons, COAL, COKE D- CANNEL MERCHANTS,^ Head Office: 39 OLDHALL STRESS Depots: 6, 8 &,10 Carruthers st., I i ol 217a Crown Street, Liverpoo —AND— T 3 Jackson St., Birkenhc^' sod All Classes of Coal kept in StpoK* delivered in lots of One Ton and upwards part of Liverpool and Birkenhead. SP" PRICES FOR DEALERS. Write for T Telephone—2270. Richard owell, PRACTICAL TAILOR and COSTUME MA 152 Dale st., LIVERPOOL. propt Printed and Published for etbrs, EVANS, SONS & FOULKES, Chambers, 8 Paradise Street, Tel. 1112 Central, by HUGH EØNt JRF 358a Stanley Road, Liverpool, m County of Lancaster.