Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MILES & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and A 4 Fancy Drapers. a THE LARGEST AND MOST COMPLETE STOCK OF LADIES' AND CHILDREN'S LONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. ø Latest Novelties in all Departments. THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. Telephone No. 7385.
Advertising
KEENORA Self- u-nun i SELF- Raising RAISING | FLOUR. FLOUR. I TRY IT TRY IT! TRY IT I You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., Gd. and Is. per packet From all Grocers and Dealers. Sole Wholesale Agent." Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
ROBERTS <5 EDWARDS 1 ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. Are Your Eyes Rigbt ? Or have you noticed some little sign that makes you suspect defects ? If in doubt don't delay; don't wait until neglect has aggravated the defects. Let us test your eyes by the best methods known. Then, if you need them, we can supply Glasses that will give immediate comfort and preserve good vision. ARCH ER & SONS Eyesight Specialists, 73, LORD STREET Estb.1848. LIVERPOOL Telephone—157Y Birkenhead. Er amlder ei gwsmeriaid,-yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd byad, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. & ø & JOHN HUGHES Tailor & Draper, 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD ASK FOR IDRIS JL Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER.. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. I ^3— hJ [[ 0 EATY J TAILORING ) CELEBRATED | 1 TATTORS- I THE MATERIALS ON OFFER FOR ° I THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY T A1T1V AIT N A i iv I GOOD, BOTH IN VALBE S STYLE LONDON ROAD I AND WELL WORTH INSPECTION. RI .I|TIN.T( | # ALL CAREFULLY FITTED # g tllUKtil 01. S X'SSZa LIVERPOOL i $OIL MW =W-6 AM-NBB rk I N n n EL. JONES S OILCLOTHS LINOLEUMS ong oil LAID FREE THIS MONTH. 'Bee Hive,' 59,61,63 WWM% Brunswick Road. I ASK FOR I | KYDD & KYDD'S | I NEW SEASON JAMS j Pure and Delicious I •mmam • mmmm • k 4 • f9 • A GOOD Artificial ■ i TEETH are 8 PPT || NEEDED BY ■ *-»« ■ • EVKRY0NK To Keep the bloom of youth To Keep good looKs. To Keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former has given us the precise knowledge of our Clients' requirements, the latter to meet those needs in a perfect and satisfactory way. They are both in fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost, FREE. Mr. HELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets and such-like things. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., ndon Rd. Corner ø ø Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
Pulpud Cymru
Pulpud Cymru HEDDYW. ONID dyma gefn ein gwlad, ymffrost ein cenedl, a choron ein gogoniant ? Hyd yn hyn mae wedi cael hufen talent, dysg, a dawn y Cymry. Hir y parhao gwaed goreu ein cenedl i ruddo ei hanwylfan, a'r traed glanaf yn ogystal a'r dwylo puraf, a'r eneidiau gwynnaf, i sangu ei le sanctaidd ef. Egyr pob drws, o'r palas i'r bwthyn, i groesawu ei genhadon, a llama calonnau llawer mewn llawenydd i wasanaethu arnynt. Onid ystyr- id gwyr y pulpud yn eilunod y bobl ac yn brif gymwynaswyr y genedl, ac, yn yr adeg a fu, yn rhagredegwyr ein gwlad mewn diwylliant a moes ? Mawr ydoedd y cri byddarol I godi'r Hen Wlad yn ei hoi." Wrth lwc, mae wedi distewi dipyn erbyn hyn, neu buasai wedi ein syfrdanu. Maentumia rhai Cymry Fydd eu bod wedi cael yr hen genedl ar y domen—mor dlawd, os nad mor llygredig hefyd a'r dom, ac mai hwy a doaturiodd gyntaf wrthi, ac a roddes yr help blaenaf iddi at godi. I bawb diragfarn, tystia hanes Cymru fod ei phulpud wedi gwneud mwy at oleuo, moesoli, a chrefyddoli nag a lwyddodd y wasg, y llwyfan, a'r eisteddfod i wneud gyda'u gilydd.
Dim ond Pulpud.
Dim ond Pulpud. Ymbinacla ein gwlad ymhell uwchlaw cpn- liedloedd beilch ac ymddangosiadus. mewn rhif, ansawdd, a dylanwad ei phre- gethwyr. Cymwynas a ni-ydyw peidio ein cymharu a gwledydd ereill mewn athron- iaeth, gwyddoniaeth, arluniaeth, a llawer aeth arall; ond mewn pregethwr iaetli ni raid cywilyddio ein henwi unrhyw ddiwrnod. Gwir fod i ni feirdd o fri, a cherddorion o nod, ond lleol a phlwyfol ydynt yn hytrach na chyfandirol ac ymher- odrol. Ond yn ein pregethwyr daliwn ein cymharu ac i'n cyfartalu a mawrion wledydd y byd. Rhoed i'r Groegiaid duedd at athroniaeth, i'r Rhufeiniaid ysbryd i lywodr- aethu, i'r Saeson sgil i fasnachu, ond i'r Cymry y rhoed y ddawn bregethu. Pwy a'n beia na ragorwn yn y canghennau a nodwyd ? Oitid yw natur a gras yn pwyntio mai mewn cyfeiriad arall y gorwedd cuddiad ein cryf- der, ac y gorffwys dirgelwch ein bri ? Nid yw cenedl, mwy na pherson unigol, yn gyfrifol i Dduw na dyn ond yn ol graddau ei gallu, rhif ei manteision, a nodwedd ei chyfleusterau. Mae prinder ein hiaith o dermau athronyddol a gwyddonol yn profi amddifadrwydd o anianawd na chwiw at y eyfryw. Ein perygl ydyw, fel plentyn bach wedi deffro yn dra sydyn o drwm a dwys gwsg, fod eisio popeth, a hynny ar unwaith. Mae ein cenedl wedi dihuno mewn meddiant o yni, asbri, a nerth fel cawr wedi yfed gwin, ac yn yr ymdeimlad newydd, dieithr, a pherygl- us hwn, yn credu ei bod yn atebol i rywbeth a phopeth. Ceir arwyddion eisoes ei bod am geisio ymddisgleirio mewn rhodfeydd na fwriadwyd iddi gan natur na gras a thrwy hyn afradu ei hadnoddau, gwasgaru ei nerth, a difrodi ei hamser ddylesid ei ddefn- yddio i ragori mewn cylchoedd naturiol a chyraeddadwy. Nid oes gan genhedloedd enwocach na ni ddim ond prin ddigon i anfarwoli eu hunain mewn dim ond un cyf- eiriad. Gymru, ni raid i ti godi dy het, bowio dy ben, na phlygu dy lin yng nghyfoeth, amrywiaeth, a disgleirdeb dy ddoniau pre- gethu. Edrych ati, Gymru anwyl, na ddygo neb dy goron.
Pulpud wedi ei ostwng.
Pulpud wedi ei ostwng. Er's talm, arferai pwyllgor adeiladu a'r penseiri osod y pulpud mewn llannau a chapelau yn uchel ar y mur. Yr oeddynt am i'r rhai a safent ynddo wybod fod gwaith esgyn iddo. Onid oedd uchter ei osodiad gan y tadau yn lied arwyddo yr hyn a olyg- ent iddo fod mewn cyfoeth meddwl, disgleir- deb talent, ac amrywiaeth doniau ? Coleddai ein hynafiaid syniad mor ddyrchafedig am dano nes ei grogi mor uchel fel na fedrai pob penwan sefyll ynddo. Ond er ein gofid, os nad ein cywilydd, mae'r hen bulpud uchel, llydan, a hardd wedi ei ddisodli gan rhyw gocyn bach, salw, ise], o bulpud ar lawr canol y set fawr. Ac er ei fod wedi ei ostwng gyfuddau, mae rhai yn tystio ac yn tuchan yn ofnadwy ei fod yn rhy uchel eto, ac fod yn rhaid cael y saer i dynnu troedfedd arall ohono, a hynny erbyn y Sul nesaf. Ie, dyna ein hanes- gostwng y pulpudau; y gri nesaf fydd eu claddu dan y llawr, a gosod bwrdd hir- gul ar eu bedd yn eu lie. Fel hyn mae rhai am wastatu'r byd crefyddol ac gynllun sosialistaidd-codi a gostwng, a chael pawb yr un faint, heb wahaniaeth rhwng neb. Wedi gostwng y pulpud, ni raid i'r pregethwr edrych lawr, a chaiff y gwrandawyr arbed edrych i fyny. Cofied y cennad hwnnw sydd yn ymdrechu yn ol ei wiriondeb ei hun bregethu i lawr at ei bobl nad oes fawr rhyng- ddo a'r gwaelod ac wedi iddo, druan, daro y palmant, wel ef ddim ond cefn ei gynull- eidfa. Serve him right. A oes eisieu dehongl- wr i ddeall fod gostwng, culhau, a bychanu y pulpud mewn ystyr lythrennol yn fyneg- iant o ysbryd yr oes i gyfyngu ar ei waith., gostwng ei safon, a pnrinhau ei amser ? Gesyd yr amaethwr profiadol y rhesal yn uchel ar y mur gwell ganddo i'r anifail gael yr ymborth uwchlaw ei ben na than ei draed. Mae lefelu yn eithaf yn ei le, ond gofaler lefelu i fyny, ac nid i lawr. Gan fod y bregeth yn drom, yn faith, a diflas, rhaid cael organ yn gefn i'r pulpud, ac anerchiad i blant i ysgafnu tipyn arno, ac unawd neu ddwy gan rianod cyngherddau i'w felysu. Y bregeth chwarter awr sydd yn cymeryd,— ac un gymerodd lai na hynny i'w chyfansoddi.
Pulpud Gwan.
Pulpud Gwan. Y funud yr a'r pregethwr yn ddarlithydd, y pulpud yn llwyfan, y bregeth gref, gyflawn, yn sermonette fer, felus, fain, dyna hi ar ben, a'r awrlais yn yr adeilad hwnnw wedi taro deuddeg. Dywedir yn Dan a thraethir ar hyd heolydd Beersheba, fod pulpud Lloegr, fel Samson, wedi colli ei nerth a llawer yw y dyfalu pwy ydyw y Dalilah ffals barodd iddo dlodi ei gryfder. Gwelir a chlywir saint y Goruchaf, fel Mair fore y trydydd dydd, yn wylo y Suliau ar hyd Uwybrau'r Cysegr, am ddwyn ohonynt eu Harglwydd ymaith. Mae ami i hen bulpud clodwiw, fu yn llathru gogoniant Crist allan, ac yn cael ei berarogli gan ei bersawr, a'i eneinio a'i olew, mor wag heddyw o Grist ag ydoedd bedd Joseph y dydd cyntaf o'r wythnos. Raid dim picio i'r Brifddinas i gael engraifft o hyn ysywaeth. Doluria ein llygaid, merwina ein clustiau, a gwaeda ein calon, oherwydd canlyniadau hyn yn ein dinasoedd poblog. Uda pulpud llawer tref oherwydd pallu o'i bleidwyr a chilio o'i wrandawyr. Mae y cwac feddygon wrthi yn brysur yn cael allan wreiddiau y drwg, ac yn potelu y feddyginiaeth wrth y miloedd ond 'does dim yn tycio. Er i'r newyddiaduron gael eu pardduo a thaflenni cyfrif presenoldeb, ac er cynadleddu droion sut i gael gwellhad-nid yw y llanw wedi troi eto. Mewn gair, dyna'r esboniad—pulpud isel: seti gweigion. Os bydd bwyd ar y bwrdd, mae y cadeiriau wrtho yn o debyg o fod yn llawn. Ofnwn fod rhai proffwydi y dylid eu cymeryd i fyny fel dynleiddiaid— oblegid y maent yn euog o newynu eu cynull- eidfaoedd a man us, ond a alwant hwy yn serious problem, burning question, &c. &c. Os na wyliwn, cyffelyb fydd ein tynged ninnau a'n diwedd fel eiddo rhannau o Loegr. Oni edrydd hanes y bu felly unwaith yn ein gwlad, pan gymerodd y Book of Sports le Gair Duw ar estyll pulpudau eglwysydd ? Troes y werin yn anffyddlon i'r Ty, a dirywiodd gyda chyflymdra mellten mewn moes a chrefydd. Ni chlywsom eto am un genedl wedi gwegilio ar bulpud cryf a difrif (earnest). Dyma ei brif angen yng Nghymru heddyw— awdurdod a difrifweh. Rhydd Dr. Newman yn ei ddarlith ar "University Preaching," y lie blaenaf i ddifrifwch hyd yn oed mewn pregethu athrofaol:— Talent, .logic, learning, words, manner, voice, action,—all these things, he admits, are required for the perfecting of a preacher. But he holds that there is one thing, very different from all these, but which is abso- lutely indispensable if the preacher is to have any real influence over his hearers, and is to do his hearers any real good. He must be in earnest. But he who has before his mental eye the Four Last Things will have true earnestness." Gwyr y Cymry p'rai ydynt—angau, adgyf- odiad, barn, a thragwyddoldeb. Mewn grym, gwres, a gafael ar y wlad, ni ddeil y Pulpud Sydd ei gymharu a'r Pulpud Fu.
I Manteision gwell: gwaclach…
Manteision gwell: gwaclach pulpud. Son mawr fu ychydig yn ol am y Bardd Newydd, wedi hynny am y Ddynes Newydd, yn awr sibrydir am Bregethwr Newydd ond nid yw yr adeg eto wedi dod i'w fedyddio felly. Os bydd hwn gymaint erthyl a'i ragflaenoriaid, gwell iddo beidio ymddangos. Mae cyfleusterau bod yn bregethwr mawr yn fwy lliosog nag a fuont erioed. Nid poblogaidd wyf yn ei feddwl-ond mawr. (Y gweddill ar tudal. 2.)