Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Ond na ddigalonwn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ond na ddigalonwn. Ond er mai cymharu yn anffafriol y mae y pulpud heddyw mewn amrai ystyron a'r hyn a fu, eto meiddiwn ddweyd mai ef ydyw y dylanwad cryfaf yn ein gwlad. Mae pobl- ogrwydd eithriadol yr eisteddfod ar ei brawf, ond mae poblogrwydd sasiynau Cymru wedi bwrw eu prentisiaeth. Yr hyn sydd bwysig ydyw iddo, wrth ymestyn at ragor- iaethau perthynol i'r amseroedd, beidio gollwng gafael o'i addurniadau pennaf yn y gorffennol. Nid newydd i neb ydyw clywed fod ysgol newydd o bregethwyr wedi ym- ddangos yn ein plith, a thuedd rhai ohoni ydyw esgeulnso os nad dirmygu y pethau hynny oeddynt yn elfennau nerth yn ein tadau. Gwendid mawr colegau pregethwr- ol Cymru ydyw nad oes yn yr un ohonynt un ag y gellid ei ystyried yn born preacher. Gwir fod ynddynt ddynion dysgedig, yn bregethwyr llafurus ac egniol, ond heb fod o'r dylanwad a foldia genhedlaeth newydd ar eu delw. Y golled drymaf gafodd ein gwlad ydoedd marwolaeth Thomas Charles Edwards Dyma bregethwr, a buasai wedi shapio llawer ar ei gynllun pe wedi byw. Er y rhaid i'r gwir bregethwr fod wedi dyfod oddiwrth Dduw, eto gallasai cadair mewn coleg a gwr cymwys yn eistedd ynddi helpio llawer i droi allan weinidogion a phregethwyr diamheuol. Peidiwn a digalonni, mae'r Nailer dwyfol wrth ei waith. Amlwg ydyw nas gall codi safonau, estyn hyd tymor prawf, amlhau yr arholiadau, nac ennill teitlau, sicrhau pulpud teilwng i'r ugeinfed ganrif. Mae y gwir bregethwr yn dod o bellach ffordd ac o amgenach lie na'r Cyfarfod Misol a'r Cwrdd Chwarter, a rhaid iddo fod wedi mynd drwy arholiadau yr Ysbryd ac ennill teitl Spurgeon, sef S.S.-Sinner Saved- cyn y medr dynion ddweyd wrth ei wrando Ni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddiwrth Dduw." A great orator," meddai Cato, is just a good man skilled in speaking, but especially a good man." Ni bydd holl addurniadau'r pulpud ond blodau'r bedd heb lygad syml a chalon lan a buan y gwel hyd yn oed cynulleidfa ddieithr drwy bob cochl rhagrith a fo'n amddifad o lygad a chalon felly.

Yn Ynys Mon ac Arfon

--0--COEDLLAI.

NOD AC ESBONIAD.

YMPRYDIWR LLANDUDNO.

--0--Y Parch. T. J. WHELDON,…

Advertising

I Manteision gwell: gwaclach…