Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fanceinion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Fanceinion. [GAN CYFRIN] Y Gymdeithas Genedlaethol. MAB tymor y gaeaf yn nesu, y pwyllgorau yn Cel eu creu, a gwaith y cymdeithasau yn cael fapio allan. Y gyntaf sydd agos a chwbl- hau ei threfniadau ydyw yr uchod. Llanc a'i galon wedi cynhesu at y gwaith, nid yn ymroddedig oherwydd dyledswydd yn unig, ydyw yr ysgrifennydd newydd, Mr. Francis Williams. Dyfeisiodd gynlluniau gwreiddiol 1 wneud y cyfarfodydd yn fwy llwyddiannus. Bydd yn werth ei weled yn eu rhoddi mewn gweithrediad. Mae'r abwyd ar y bach, ceir Y pysgota ar fyrder, a dechreuir cyfrif yr helfa Hydref 18. Mr. Harry Evans, Lerpwl, ddaw i'r cwrdd cyntaf, i draethu ar The Future of Music in Wales." Gofidiaf fod y testyn yn Saesneg, oblegid yn Gymraeg y dylai y ddarlith fod. Eithriad yw cael noson i gerddoriaeth a'r tro diweddaf y cafwyd un daeth mwy na llond yr ystafell 1 glywed y traddodiad Cymreig campus hwnnw. Caiff Ellis o'r Nant" noson i ddweyd am Ddychmygion y Pentan, hirnos gaeaf." Go dda, onide, meddai'r ysgrif- ennydd. Da iawn, meddaf finnau. A dyweded yr holl bobl, Amen." Testyn arall ydyw Bywyd y Pentre gan William George, Ysw., Criccieth, brawd y seneddwr enwog. Addawa'r Proffeswr Anwyl roi darlith ar"The Poetry of Dafydd ab Gwilym." Dewisodd golygydd y City News y testyn "George Borrow and Wild Wales." Mae trefniadau yn cael eu gwneud i sicrhau ereill, ond heb eu hollol gwblhau eto. Gwelir fod holl raglen y tymor nesaf yn dwyn perthynas uniongyrchol a Chymru a'r genedl. Amheuaf a fu cystal rhagolwg yn hanes y Gymdeithas yr un tro o'r blaen, a dylai'r tocynau werthu nes gorfodi llogi yr ystafell fawr bob noson cwrdd. I fyny bo'r nod Cwympodd rhan o furiau Jerico cystadleu- aeth fawr Belle Vue eleni, gan seiniau udgyrn chwarelwyr Ffestiniog. Enillodd y seindorf £ 15, sef y bedwaredd wobr. Hwy yn unig a gynrychiolent Gymru, ac yr oedd pob Cymro yn y ballroom a'i galon yn llamu gan lawenydd wrth glywed y dyfarniad. Clod i'r seindorf am ddringo cystal ond eto mae lie. Daeth llawer o ddieithriaid o fan drefi a chymoedd yr hen wlad gyda'r tripiau, a chlywyd cystal Cymraeg yng ngorsaf Long- Sight y noson honno ag a glywir ar ddiwrnod cneifio wrth gorlannau defaid Cader Idris. Dyma ddwy engraifft,-y flaenaf ar yr allt ^rth y bont Fuost ti yn edrych ar yr anifeiliaid y tro yma, Evan ?" Naddo wir, ^eldi,Ted,'ro'n i wedi mwydro ar y band yna. Mi gysges yn y tren wrth ddwad bore, a breuddwydiais fod Ffestiniog allan o diwn a'r argten fawr, bu agos i mi roi fy nwrn trwy y ffenestr wrth ddeffro yn fy nig." Yr ettgraifft arall a ddigwyddodd wrth y lamp fawr ar y platform. Cyfarchodd merch ifanc sydStlanc oedd yn dyfod ati fel hyn :—" O'r, hen gono, lie buost ti trwy y pnawn ?" "Wei, bach," meddai yntau, mi fum yn chwilio am danat am oriau." Taw, John, cael hyd i rywun arall ddaru ti mi wn." Nid fttebodd John trwy eiriau, ond mi glywais glats o gusan nes oedd mam y gas yn wincio. Cymraeg ar y Bedd. Yn ffenestr gweithdy Mr. Lewis, Great Western Street, gwelir carreg glws sydd bron y orffenedig a pharod i'w gosod ar fedd y diweddar Mr. Robert Kyffin (Ap Cyffln). Wedi ei gerfio ar y feddfaen mae englyn i Obaith," yr hwn a enillodd wobr i'r awen- Ydd gwladgar yn Llanfairtalhaiarn. Englyn gWych yw, yn anrhydedd i goffa'r awdwr, yn ^rddas i'r bedd, ac yn fri i'r gladdfa Dde- j*euol. Mae englynion yn y gladdfa hon yn brinach na chomedau. Wele'r englyn :— I, Gun obaith,—ynot gwynebaf-y byd, A'r bedd nid arswydaf Trwy ing erch, trwy angeu af, A'th adenydd fyth danaf." --0--

PULPUDAU MANCHESTER.

Advertising

Senedd y Byd.

0 DREF GWRECSAM.

Nodiodou Cerddorol.

Advertising