Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908 Price 6d. ø Post 7d. 2 EVANS, SONS FOULKES, .1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road CYNRIC, Y TEILIWR 0 CYMREIG 0 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES a E. C. Kenriclk, ■062jjRENSHAW STREET.^ #EAW?ORDS ■ RGA M RACKeaS RIS'P
! TREM ! I^TRWY V DRYCH. j
TREM I^TRWY V DRYCH. j Gwerthu Teitlau- MAE y Drych ar y seneddwr pybyr, Mr. Hugh Cecil Lea, yr hwn a barodd lawer o gyffro a thrafferth i Dy y Cyffredin trwy ymofyn ynghylch y modd y teitlwyd yr Arglwyddi Michelham a Northcliffe. Myntumiai efe i fargeinion cudd gael eu gwneud rhwng rhywrai o aelodau y Llyw- odraeth a'r personau ffafredig, ac mai er mwyn chwyddo trysorfa plaid y gwnaed hynny. Wel, mor bell ag y mae teitlo dyn i anrhydedd a gallu defosiynol, heb yn- ddynt ddim cymhwyster neilltuol i hynny, mae miloedd o'r un farn a Mr., Lea; a phe profid i'r fath fargen gael ei gwneud gan arweinwyr Rhyddfrydol, profid eu bod yn fradychwyr eu hegwyddorion proffes- edig. Eto, ymddengys i ni mai go ar- wynebol yw syniadau Mr. Lea ei hun ar y mater. Y mae ar hyn o bryd yn codi cri dros werthu teitlau, a'u gosod ar yr un tir a thrwyddedau i gadw cwn, &c. Y gwaethaf yw, y gellir casglu oddiwrth areithiau y gwr hwn ei fod o ddifrif. Pe mai ffordd o duchanu y drwg fuasai ganddo, gallesid gweld mwy cysondeb ynddo. Ond hyd y gallwn ni ddeall, mae y dyn o ddifrif. Ae os felly y mae, ymddengys i ni ei fod yn chwarae a'r pwne, ac yn arwynebol dros ben. Nid nwydd i'w fwrw i'r farchnad yw egwyddor. Os yw gwerthu tuallan trwy fargen gudd yn anghyfiawn, credwn y byddai y fargen yn ddrwg pe gwneid hi yn y cyhoedd hefyd. Nid yw o fawr wahaniaeth i'r dyn a grogir pa un ai yn gel neu gyhoedd y gwneir hynny. Mae y syniad o werthu cyfiawnder, a gosod cydwybod ar y price list, yn wrthuni. Hanfod y drwg yw hyn fod yr hawl i ymyryd ag ewyllys cenedl, a gwrthdroi deddfwriaeth gwlad, fel y gwneir yn Nhy yr Arglwyddi, yn beth y gellir o gwbl ei brynnu ag arian, ei gyfrannu fel ffafr, neu ei hawlio trwy ddamwain gwaed. Angen mawr y wlad hon heddyw yw canfyddiad dyfnach a chliriach i egwyddorion tragwyddol iawnder, a naturiol hawliau dyn, ynghyda gwroldeb a doethineb i'w datblygu trwy yr holl gyfundrefnau cymdeithasol a gwleidyddol. Mae arnom eisieu dynion, ac eled y teitlau rhwng y own a'r brain. Os John Jones yw y dyn goreu, pam y gofynnir i ni ddewis ei gymydog yn ei le am yr unig reswm ei fod yn dwyn yr enw John Alexandra Paul Gabriel Jones ? Gloewch eich golygon, Mr. Lea, syllwch yn ddyfnach i natur pethau, a gallem wedi hynny ddygymod yn well a'r miri fyddwch yn ei godi yn Nhy y Cyffredin. Y diweddar Wm. Williams, Pwllcrwn. ADWAENEM ef yn dda, a chyda chwithdod a hiraeth y daliwn y Drych ar ei breswyl- fod yn Hebron, rhwng Sarn Meillteyrn ac Aberdaron. Yr oedd y dyn-fel y Pwll "-yn grwn, yn gyflawn. An- fynnych y gwelsom neb mwy pwyllog nag ef ond byddai yn bur sicr yn ei farn ac yn ei amcan. Yr oedd mewn gwirionedd yn gynghorwr i'w ardal, a gwelodd ei gym- dogion hynny fel yr etholwyd ef i amryw swyddau, ac ymhlith ereill yn aelod o'r Cyngor Sir. Er yn dawel, yr oedd yn wrol, a phrofodd ei hun yn ffyddlon i'w egwyddorion crefyddol a pholiticaidd yn wyneb profion go danllyd. Pregethai gyda'r Anibynwyr, a bu ei wasanaeth i eglwysi gweiniaid yn fawr iawn. Fel engraifft o'i ddull hamddenol o lefaru, adroddir hanesyn am dano yn pregethu yn Aberdaron, ar brydnawn Sul trymaidd o haf. Yn eistedd dan y pulpud, ac yn rhoi yr emynau allan, yr oedd hen gym- eriad diddan a ffraeth o'r enw Sion Robet. Dyn byw a sydyn oedd efe, ond nid uwchlaw cymeryd nap ar brydnawn trymllyd. Felly fu y tro hwnnw. Yr oedd y pregethwr wrthi yn hamddenol, a daeth i saib go faith wrth symud o un adran o'i bregeth i'r llall. Deffrodd Sion Robet yn ddisymwth, a chan dybio fod y bregeth ar ben, dechreuodd roi allan yr emyn-heb son am rif na dim arall:— Awn gyda Ruth i loffa," &c. Ar hyn, ebai y pregethwr, uwch ei ben 'Rhoswch, 'rhoswch, Sion Robet, dyda ni ddim wedi gorffen hau eto Ysgrif- ennodd Mr. Williams lawer iawn i gy- hoeddiadau ei enwad, a gohebodd lawer i newyddiaduron-yn ddeheuig a dyddorol hefyd. Bydd yn golled fawr i'r holl ardal ar ei ol, a chwith i'w gyfeillion lliosog fydd cerddedfy ffordd hwnnw heb obaith cyfarfod wyneb serchog a mwynhau ymddiddanion difyr William Williams, Pwllcrwn." Mr. Lloyd George ar ei wir. LLA WER o ysgrifennu fu ar berthynas y Llywodraeth bresennol a, chwestiwn y Datgysylltiad yng Nghymru; a diau ddarfod i rai pethau go gelyd gael eu cyhoeddi gan y rhai a wahaniaethent ar y mater. Ofnodd a chredodd llawer fod Cymru, yn y peth hwn, yn cael ei throi o'r neilltu, ac y cymerid mantais ar ei goddefgarwch tawel hi er mwyn ffafrio pleidiau a chenhedloedd ereill mwy eu trwst. Codwyd cri yn erbyn yr esgeul- ustra tybiedig, a chlywid adsain y waedd yn neuaddau y Llywodraeth. Daeth Mr. Lloyd George allan i sicrhau y Rhydd- frydwyr fod pob peth yn dda, ac nad anghofid mohonom. Bu hynny yn beth boddlonrwydd, ond nid yn ddigon i lonyddu yr holl ddwndwr ac uno pob adran o'i edmygwyr a'i gefnogwyr yng Nghymru. Nid oedd fawr o amheuaeth am egwyddorion ac arfaethau Mr. Lloyd George ei hun, ond ofnid fod ereill o aelodau y Llywodraeth yn gwneud ei lais ef yn ddi-rym. Unwaith eto, beth bynnag, dyma y Glewlwyd Gafaelfawr o Griccieth wedi anfon datganiad arall i Undeb y Bedyddwyr yn Llanelli, ac yn dweyd ar ei wir na fuasai efe yn y Llywodraeth am ddiwrnod pe credasai nad oedd yr addewid i Gymru i gael ei chyflawni. Da iawn. Ond wedi'r cyfan, nid yw yn debyg y buasai y sicrwydd hwn yn cael ei gyhoeddi mor groew onibae am y cyffrawd a dorrodd allan yn y wlad. Yn raddol y cafwyd y datganiad cadarn presennol, ac hyd nes ei gael nid oes le i feio y Rhyddfrydwyr ffyddlon a'r Ymneilltuwyr cydwybodol a deimlent gymaint eiddigedd dros gwestiwn a gostiodd yn ddrud i'w tadau, ac i rai ohonynt hwythau, hefyd, a chwestiwn sydd yn ymyryd a sylfaeni ein rhyddid gwladol a chrefyddol. Ar hyn o bryd, mae Trem y Drych ar Mr. Lloyd George yn cychwyn i ffwrdd ar ei wyliau, ac yr ydym o galon yn dymuno pob rhwyteb iddo fynd a dod. Eisteddfod Caernarfon. COFNODION A CHYFANSODDIADAU ElS- TEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON, 1906, sydd o flaen y Drych yn awr, dan olygiaeth yr Eisteddfodwr digymar, Mr. E. Vincent Evans. Barddoniaeth yn unig, gyda'r beirniadaethau arni, sydd yn y llyfr hwn. Mae Hesgin eisoes wedi galw sylw at ryw bethau yn y llyfr ac wedi gosod rhai beirniaid i ymladd au gilydd yn enbydus-o leiaf, y beirniad- aethau. Ond awdl y Parch. J. J. Will- iams ar Y Lloer a dynnodd ein sylw ni, a chawsom fwynhad dirfawr wrth ei darllen. Nid rhyfedd i'r beirniaid fod yn unfryd unfarn ar y cyfansoddiad hwn, ac ni fu ei deilyngach o'r Gadair Genedl- aethol er's llawer blwyddyn. Mae y gynghanedd yn ystwyth fel gwiail helyg dan law gelfydd y bardd, a thlysni tyner yn nodweddu ei holl waith. Tra y cenir fel hyn ynddi, nis gall y mwyaf rhagfarnllyd lai na mwynhau y gynghan- edd Gymreig, os y bydd hefyd yn ei deall. Mor brudd-dyner yw y darlun canlynol o gariad-lanc dan oleu'r Lloer, yn ym- weled a bedd ei fun :— Nes hedd y nos, oedi wna Ar fedd gwyryf hawddgara' Ireiddiol wlith ei phriddell Swyna byth ei chusan bell; Daw un drwy'r mangoed yno A dagrau heillt hyd y gro, A chaiff o dan lewyrch hon Oleu i dorri'i galon. Naturiol iawn, hefyd,y darlun o dduwiol- ion gwledig yn cyrchu i'r addoldai Llwybrau anial y bryniau,—hwy wyn- Ganwaith gan ei gwenau [wyd Hardd y llathrodd y llethrau—di heol Ar nosau hudol yr hen seiadau. Dan wen y Lleuad pan ddringai'n tadau Hyd eu hen dylodion adeiladau, Adwaenai'r mynydd dan yr amenau, A gwres godidog yr ysgydwadau Ehedodd dymuniadau—afrifed Drwy ysig bared yr ysguboriau. Fel y sylwa y beirniaid, mae yn yr awdl liaws o hen darawiadau a llinellau. Y mae hynny yn naturiol i unrhyw fardd ieuanc. Naturiol yw y gynghanedd, ac iddynt oil fod yn wreiddiol. Er hynny, credwn mai da fyddai pe cynhygid gwobr am y casgliad goreu o hen linellau ydynt mor gynefin-erbyn hyn, fel y dylid eu troi heibio. Beth bynnag am hynny, mae awdwr yr awdl hon yn cymeryd ei le ar unwaith yn rheng flaenaf beirdd cyng- haneddol Cymru. Ac ni ddylid cwyno yn erbyn drudaniaeth llyfr tra y gellir cael y fath gyfrol a hon am swllt. --0--
Bara Brith.
Bara Brith. Fe ddywedir TRA y mae cymaint o ladd a llofruddio yn yr Iwerddon, mai yno y mae lleiaf o'r bobl yn gwneud am danynt eu hunain o unman yn y byd. FOD mwy o wario yn flynyddol yn Llunden am dybaco nag am fara. Wfft.' FOD ugain miliwn a mwy o ddannedd gosod yn cael eu gwneud bob blwyddyn yn yr America, a'r rheiny o liwiau gwahanol i wahanol wledydd. Rhai gwynion fyn pobl Canada rhai melyn i drigolion Deheudir America ond rhai duon yn unig a fyn y Chineaid. ■5b Corff Dewi Wyn. SONID yn ein rhifyn diweddaf am Dewi Wyn ac er mwyn tywys y genhedlaeth bresennol i ddarllen ei waith, ac i efelychu eiGymraeg grymus, dodwn yma damaid o lythyr a ysgrifennodd at y diweddar Barch. Richard Humphreys y Dyffryn, pan oedd y bardd ym mhangfeydd ei afiechyd "MAE fy nghorff yn ystafell, neu chwareu- fwrdd i'r ddau gawr ofnadwy, sef bywyd a marwolaeth, y ddau wrthwynebwr a'r ddau elyn mwyaf anorfod ac anhyblyg i ymryson a'u gilydd; ac ofnadwy yw i gnawd fod yn dorch iddynt i ymdynnu. Rhyfedd ac ofn- adwy, uwchlaw amgyffredion y gwnaed dyn ei nerth a'i wydnwch sydd uwchlaw gwybod- aeth campwri y Duwdod ydyw ymhob ystyr- iaeth yn tra rhagori ar ei holl weithredoedd, fel y mae ei hyfrydwch pennaf gyda meibion dynion, yn gysylltiedig a'r mwyaf a berthyn i'r Duwdod wedi creu ohono bob peth a wnaed yn dda iawn, yn deilwng ohono ei hun, i goroni ei holl weithredoedd gogon- eddus, nid oedd dim yn ddigonol ond gwneud dyn ar ei lun a'i ddelw ei hun ac o bob lluniedydd Duw yw y goreu, a'r unig un perffaith; gwnaeth ddyn fel is-dduw yn gymwys i lywodraethu ar weithredoedd ereill ei ddwylaw; a'i gorff dwyfol-gywrain yn dy, ac yn arfau addas i'w enaid weith- redu nid hynny yn unig, ond yn rhan o'i ddynsawd, fel nad yw, ac na bydd, yr enaid byth yn ddiddiffyg heb y eorfi dwy ran briodol ydynt o'r dynsawd, yn cyfranogi o gyfiawnder, sancteiddrwydd, gwybodaeth, a dedwyddwch ei Greawdwr yn gymwys nid yn unig i arglwyddiaethu ar ei israddolion, ond i adnabod, addoli, a chymdeithasu a Duw, a'i fwynhau yn dragwyddol. "Wedi syrthio o'r ddelw ogoneddus hon oddiwrtho drwy bechod, y fath oedd ei fedd- yliau dwyfol yn ei chylch, a'i gariad ati, fel yr ymunodd person y Mab tragwyddol a'r natur ddynol, ac er ei hadferu i ffafr a chym- deithas y Drindod yn ol, yr aeth yn bech- aberth, ac yn iawn difai i Dduw drosti a hyn yw prif hyfrydwch, a phrif ogoniant y Duwdod prif destyn addoliad, a'r pennaf o syndodau yr holl nefoedd ac a bery i ymddatguddio, ac i'w ryfeddu yn fwy-fwy i dragwyddoldeb pob adolwg yn rhyfeddach ryfeddach, yn rhoi teimlad melusach felusach, fwy-fwy yn tanio yr addoliad, y cariad, y dedwyddwch, a'r gogoniant yn ddiderfyn. Un prawf o wychterau dyn yw, fod rhan fechan ohono wedi ei gwneud o'r pridd i gan- fod mor bell a'r bydoedd wybrenol, a chanddo amgyffredion i'w mesur, a dirnad llawer am eu dylanwadau. Gwerth ac urddas y creadur o ddyn, yr hwn sydd yn gymaint ar ddelw Duw, sydd yn ei wneud yn rhwym i'w ogon- eddu byth os na wna drwy ufudd-dod, y mae yn werth ei ddamnio dan anfoddlon- wydd ei Greawdwr.
Advertising
Eisteddfod Llangollen— Rhestr gyflawn y testynau yn awr yn barod. ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post 1ie, gan Evans, Sons tiJ Foulkes, Swyddfa'r Brython."
"R 0 BI6 Y GTOMEN. I - me…
"R 0 BI6 Y GTOMEN. I me 0 0 ei BEIBL Y CAMBRIAN.-Dywedir fod Beibl Saesneg, a geir yn waiting room gorsaf y Cambrian ym Machynlleth, ac a gedwir yno yn ol gorchymyn y Cwmni at alwad y teith- wyr, a'i gloriau wedi eu treulio'n llwyr- wrth gael eu lluchio o'r ffordd. Y RHESWM PAM.-Y mae rhai o feirdd a lliaws o offeiriaid Cymru yn priodi Saeson- esau a'r rheswm fod y beirdd yn gwneud hynny, ebre nhw, ydyw rhag i'w gwragedd ddeall y fath gleriach o farddoniaeth a wnant a'r offeiriaid, rhag cael curtain lecture am eu hedlychod pregethau. «5b GWYLIED LERPWL.-Y mae Fish- guard, porthladd cyflym ei dwf Cwmni'r Great Western yn Neheudir Cymru, gan milltir yn nes i New York nag ydyw Lerpwl; ac y mae caredigion yr olaf yn crynnu rhag i'r hafan Gymreig yn y man ddwyn y fasnach gludo Americanaidd oddiarni. •8b CRACH-FONEDDA.-Y mae rhai o fan bapurau glannau moroedd Cymru yn hobian byw fisoedd yr haf trwy gyhoeddi enwau'r dieithriaid a fo'n aros yn y lletai. Danfonir glas-ohebydd i'w casglu. Gwrthod eu henw- au y bydd y gwir foneddion ond eu rhoddi'n rhwydd, ac yn prynnu'r papuryn, y bydd y crach-foneddion, gan alw eu hunain ar wych enwau teitlog ac anrhydeddus, a chogio eu bod yn hwn neu arall o uchel dras. Angel pen ffordd a chythrel pen pentan y galwai'r hen Gymry y fath wag-falchter a gwir yw, er y gwelir ami un yn rhygyngu megis paun ucheldras ar heolydd Llandudno y dyddiau hyn, nid yw amgen na chorfran neu jac do bonllwm ddigon wedi yr ehedo gartref i Firmingham. •5b D'ROGAN DRWG.Dyw rhai bythfyn hapusach na phan yn d'rogan drwg ac yng Nghwrdd Chwarter Bedyddwyr Mynwy y dydd o'r blaen, dywedai y Parch. J. Williams, Brynmawr, mai marw'n ddi-os 'roedd y Gymraeg ym Mynwy, ac mai 'run fyddai ei thynged ym Morgannwg yn y man. Dylid cofio, sut bynnag, mai un o hyrwyddwyr yr Inglis Cos ydyw Mr. Williams, ac nad oedd yr un deigryn yn ei lygaid wrth weld iaith ei fam yn trengu. Fe glywir yr un d'rogan bob blwyddyn yng nghynadleddau'r enwadau yr hyn a bar i'r G'lomen gofio Dyfed a'r crafiad twt a rydd [i'r sawl sy'n hoffi d'rogan tranc y Gymraeg :—■ A marw mae yn gyflym iawn,— Er's miloedd o flunuddoedd." k DA WN Y DE.-Pertrwydd ac arabedd ydyw nodwedd amlycaf beirdd a phregethwyr y De, o'u cyferbynu a'u brodyr arafach a thrymach o'r Gogledd. Dyma engraifft o "ddawn y De ym mhenillion Gweledydd (Abercraf), y bardd sydd mor dra buddugol ymhobman yn ddiweddar. Ei destyn oedd Castell yn yr Awyr Mi welais destyn unwaith Ar raglen Pontypwl Anedlais ganig brydferth, Yn ol fy nawn, i'r 1 Ffwl' Disgwyliwn i'r dyfarniad 0 blaid fy ngherdd roi bloedd Ond wedi barn y beirniaid, Myfi fy hunan oedd." •5b BETHEL A B UN YAN. -Cafodd y Parch- T. Davies (Bethel), sef gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yng Nghaerdydd, a Bardd y Gadair yn Eisteddfod Abertawe, ei longyfarch mewn cyfarfod arbennig o aelodau ei eglwys yr wythnos ddiweddaf. Dywedai mai John Bunyan," testyn ei awdl, oedd hoff lyfr ei fywyd o'i febyd fod awch cael cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei oglais er's blynyddau; ac er fod yr Awen yn rhyw ddistaw-losgi yn ei enaid er yn fachgen, mai pan y priododd ei wraig a'i gywely bresennol yr aeth ei awen yn fflam, Wrth longyfarch Bethel, dywedai y Parch. T. W. Medhurst iddo glywed mai nid iaith Adda ac Efa ydoedd y Gymraeg, ond iaith y diafol a'u twyllodd. Wel, ahai," ebe rhyw Gymro a glybu'r sen, os felly, rhaid mai hi oedd iaith y Nefoedd, a'i fod wedi dod a hi gydag o pan hyrddiwyd ef o'r Gogoniant." GODI CAPEL.Mawr y braw a gafodd y Methodistiaid yn Sasiwn Bangor yr wyth- nos ddiweddaf wrth glywed Mr. Peter Roberts, Llanelwy-blaenor mwyaf ond un yr Hen Gorff yng Nghymru gwr-bwy-gilydd—yn codi'r lien ar faint dyledion capelau y Cyf- undeb. Diau y rhydd ei bapur beth atalfa ar y wane am gapel newydd ond nid yn hir, canys y mae dydd yr ysgubor a'r honglad plaen wedi myned heibio am byth. Ac heblaw fod mwy o ddefodaeth ac o ritualism yn yr Ymneilltuwyr nag y maent hwy eu hunain yn barod i gyfaddef, y mae'r Cymro wrth ei fodd yn codi capel newydd, ei eisieu neu beidio. Fe ddywedodd rhywun am dano, i ba wlad bynnag yr el, mai'r cyntaf peth a wna Cymro a fydd codi capel; ond y Sais, codi theatre-yr hyn a ddengys mewn dau air wahaniaeth anian y ddau. Ac fe ddywedodd un arall Pan ddaw'r archangel, ac y chwyth ei gorn, mingorn mawr, i ddweyd fod gwawr bore'r dydd diweddaf yn torri, dyna lie y bydd pwyllgor o Gymry ar un o lechweddau'r Hen Wlad, yn cael eu galw i'r farn ar ganol planio capel newydd. YR OCHR ARALL.—Gwyddis mai nid angen yr ardal sydd bob amser yn galw am gapel newydd," ond mympwy swyddogion, oblegid gwir a ddywed y bardd Pan eir i wneud blaenoriaid 0 fewn cynteddau'r saint, Mae pawb yn troi'n ddoctoriaid Mewn awydd am y fraint Ond creulon siomedigaeth Fydd tynged llawer un, A'r unig waredigaeth Fydi-ap31 idio'i hua." O'R GRAIG I'R DDOL.-Clywodd Y G'lomen fod un o weinidogion YmneilltuoJ Cymry wedi troi ar yr Hen Fam a chofiodd am sylw un o brif bwythwyr Cymru yn el ddydd, ar achlysur troad pulpudwr arall: Dyna fo wedi neidio o Graig Lom Dissent i Ddol Fras y Degwm. •fc GODDAITH TREFFYNNON. Aeth nifer o siopau High Street, Treffynnon, yn wenfflam bore dydd Sul diweddaf, nes difa o nwyddau ac adeiladau werth tair mil 0 bunnau. Buasai'r oddaith yn llawer mwy onibae am dan-frigad y Wyddgrug, yr hon a gyrhaeddodd bump o'r gloch y bore ac a gydiodd ei phibellau wrth ddwfr ffynnon sanctaidd Gwenffrewi, ac a gafodd y tân tannodd erbyn chwech o'r gloch. MIRI DINBYCH.—Ar ol gwario £ 40<j ar y paratoadau i gael Pageant Hanesyddol yn Ninbyeh, y mae'r pwyllgor wedi pender- fynu rhoi fyny'r bwriad. Bwriedid i'r elw oddiwrtho fyned at yr Infirmary ac ar gynhygiad Esgob Llanelwy, pasiwyd yn hytrach i gael Nodachfa a chael Pagea bach a thipyn o firi rhatach yn sgil honno- Credir y ceir felly swm sylweddol at drysorfa r Infirmary ac yn ddios, doeth a synhwyr01 ydoedd awgrym yr Esgob Edwards. GAL WAD DR. FRAZER.-Dywedir fod Dr. Frazer, un o feddygon blaenaf Gogledd Cymru, a swyddog iechyd y Combined San- tary Authority yn sir Gaernarfon, wedi Poll derfynu rhoddi ei swydd i fyny, a myned alla1 yn genhadwr tan nawdd y Methodistiaid I fryniau Khasia. Gogwyddai at hynny er s talm ond yng Nghynhadledd Grefyddo* Keswick y teimlodd fod Duw yn ei alw rnew" modd pendant i gymeryd y cam. A chan fod yn aberthu £ 700 o gyflog blynyddol, a 1 holl gysylltiadau uchel ac anwyl me cymdeithas, fe gred y wlad gydag ef "ial oddiwrth Dduw yn wir y daeth yr alwad. •5b PREGETHWYR "SWEET.FRYTJIOIi neu ddau yn ol coffhai'r G'lomen am leihad nifer y blaenoriaid gwlybion, a'r duwiolion fl fynnant eu glasiad efo'u bwyd heddy^' da ganddi gyfeirio at gynnydd yn rhifedi r pregethwyr di-getyn. Yng nghyfarfod Coleg Bala-Bangor ddydd Gwener diweddaf, der- bynnid naw o ymgeiswyr ieuainc llwyddiannl_ yn efrydwyr i'r Coleg, a dywedid fod y na yn llwyr-ymwrthodwyr rhag baco a chetyo- Rhaid disgwyl yn go hir, yn ddiau ond fO ddaw yr adeg, serch hynny, y gwelir yr ysSrJj a ganlyn ar garreg fedd yn un o fynwen Cymru "YMA y gorwedd yr olaf o bregethwyr Cymru a fethai nyddu llun yn y byd ° bregeth heb fygu owns o faco a'r 0,11:1 hefyd a fedrai frysio'n syth i'r festri gyfrannu'r Ordinhad gan fel yr ysai weflau o eisieu mygyn." Vk UWCHBEN CAEI?NARFON -Prin y gwelodd y G'lomen Bafiliwn Caernarfo erioed cyn hardded, y bobl a'r stondins, a.g ydoedd yn ystod y Nodachfa dri-diwrnod 11 gynhelid ynddo ddiwedd yr wythnos dd weddaf. Eglwysi'r Hen Fam yn y dref oed mewn dyled—sef ar Christ Church, £ ^7 ar Eglwys Plwyf Llanbeblig, £ 316 a £ yn fyr yn nhrysorfa'r curadiaid. Yr oe holl fawrion y dref a'r sir yno yn eu tro, buasai sidan a gemau dwy neu dair ° gwragedd a ofalent am y stondins yn rhwyd glirio'r ddyled heb gosp na thrafferth baZCta Fyddaf fi byth yn hedeg tros fynW0 Llanbeblig heb edrych a ydyw carreg *e Gwyndaf Eryri yn lan, ac fod englyn Williams, Waenfawr, yn dal y gellir ddarllen Diameu in' dyma annedd-Gwyndaf, Fu'n geindwr Cynghanedd Yn wir, mi garwn orwedd, Er ei fwyn, yng nghwr ei fedd." •5b FFERMYDD MON.-Mawr y barctito sydd ym Mon, fel ymhobman arall y • Nghymru, am fferm a daeth llu lllawr j. Langefni ddydd Iau diweddaf i ocsiwn J*. Dew a'i Fab ar ffermydd rhydd-ddaha oS tir codi tai, ac yn y blaen, yma a thraw » Fon. Prynwyd Clegir Gwynion, plwy t drygarn, gan y tenant am £ 5,905. Ei Ilia 0f ydyw 125 acer. Aeth fferm 11 ace^fo; Llanallgo i Wm. Thomas, y tenant, am a rhan o Penrhyn a Strydan Goch i BlC^,f(l Williams, Bodwrog, am £ 800. Pry» e Glanrafon, Llanallgo, gan Major jjj Williams am £ 510, a phrynnodd lotiau yn yr un ardal am £ 3,470. Talodd Williams, Fronheulog, Tynygongl, £ 1,00 25A acer yn Glanrafon. uS Y TAD IGNATIUS-Carl opin»w £ e„ ryfeddol yw'r Tad Ignatius, y gwr sy n py, mynach Llanthony, sir Frycheiniog. e{ wedir i Fair Forwyn ymddangos id1" a'i gydfyiiachod yn y lie hwnnw bum llllyr elit ar hugain yn ol, a byth oddiar hynny cp: 1lW gwyl flynyddol i gofio'r peth. Pererini 0 rai ehud yno i syllu ar ddelw'r r 1 gusanu'r Beibl,ac i wrando'r tad yn by" « ^cl yn erbyn pawb a phopeth na bont o x a'i ffydd ef. Wythnos i ddydd y' ^$0 y bu'r wyl hon eleni, ac fe gafodd yr lgP gef hwyl ar regi y bobl sydd gasaf gandd > fJ1 Esgob Hereford, am nad yw'n sownd ar yr Enedigaeth Wyrthiol yr Uchfeir^eJllj- am eu bod yn gwadu fod commas a g,'f colans y Beibl wedi eu hysbrydolx >&S0,i merched sy'n ysgrifennu nofelau. yn dda gennyf gael mynd i'w brifegl. 3 thynnu'r Esgob Hereford gerfydd ex ^1,' ebai, a dweyd wrtho, Allan a tlii, youi^ a pheri iddo ddychwelyd y miloedd Elgjwry3 y mae efe wedi eu cymeryd oddiar yr ( drwy dwy 11." Y cyfryw eiriau brasau^ a ddywedodd efe ar yr achlysur; a di» c0tei Nefoedd felusaf y Tad Ignatius bod yn ddigon agos i Annwn i g|y u y11 Esgob a'r Uchfeirniaid a'r crychferwi ynddo am yn oes oesoedd.