Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXII.—YNG NGWLAD YR AUR. YR oedd hi yn nos yn y dref brydferth a alwyd wedi hynny yn Frenhines y Gorllewin. Uwchben yn y wybren las ddigymylau, tywynnai y lleuad, edrychai mor ddoeth ac mor dawel ar ei gorsedd. Nis gwyddom ni, preswylwyr ynya fechan y Cedyrn, ddim am ogoniant y lleuad yng ngwlad California. Dawnsiai ei llewyrch ar wyneb tonnau'r mor tawelog nes peri iddynt ddangos mor hardd yr olygfa pan welir Y lloer yn ariannu'r lli." Mewn cornel o'r harbwl "-a grewyd yno gan natur o'r dechreuad, ac sydd oblegid hynny yn gymaint harddach-safai dyn ieuanc yn mwynhau yr awel dyner oedd wedi oeri er awr machlud haul, ar ei thaith o'r mynyddoedd i'r mor. Yma ni feddai y lloer neb i gystadlu a hi ond yn y ddinas bu dwylaw halog dynion yn adeiladu eu whisky saloons ymhob heol o'r bron, ac yn eu goleuo gystal ag y gallent yr adeg honno fel yn awr. Gwyddai y llanc ieuanc yn bur dda erbyn hyn am beryglon gwlad yr aur, ynghyda'i themtasiynau; nis hoffai ef y naill na'r Hall. Yr oedd gorfod gweithio yn eu mysg yn groes drom, ac nid rhyfedd felly iddo encilio i'r tawelwch ar ddiwedd y dydd. Ond ni fu ei hunan yn hir. Wele law ar ei ysgwydd, a llais yn siarad yn ei glust. Derfel, paham na ddeuwch i gael golwg ar y bobol ? Mae yma lu wedi dyfod drosodd o'r Hen Wlad. Feallai fod yn eu mysg rai wyddant rywbeth am gyfeillion i chwi fel iminnau. Dowch am dro hefo mi." Ysgydwodd Derfel Gwyn ei ben, ac ebe wrth ei gyfaill Mae Wood yn siwr o wybod y cwbl yng nghynt na neb arall, heblaw hynny gwell i mi gadw o'r golwg. Mae rhai o'r boys wedi gwybod am yr aur gefais i echdoe a gwyddoch, Will, faint yw gwerth bywyd dyn yn y fangre yma. Mae'r hinsawdd yn ardderchog. Ymha le ar y ddaear y ceir y fath leuad ogoneddus ? Yn wir, dyma bias daearol brenines Natur, dybygwn i; ond gwell gennyf fyddai bod yn hen ynys y gwlaw a'r cymylau o gryn lawer, a theimlo fod fy nghroen yn symol diogel bob dydd." Wel, Derfel, digon tebyg yw'm teimladau innau, o ran hynny ond rhaid cydnabod nad ydyw'n rhyfeddod fawr fod yma'r fath le anwaraidd pan ystyriwn gymaint o bob math o wahanol bobl o bob gwlad dan haul sy'n cyrchu yma, a llawer iawn ohonynt yn ddrwgweithredwyr cyn cychwyn oddicar- tref. Dyna pam y tyfodd cyfeillgarwch cydrhyngom ni ein dau, yn te, Derfel?—am ein bod yn bur debyg i'n gilydd mewn dygiad i fyny ac amgylchiadau. Lie mae f'ewyrth Wood heno ?" Dyna fel y gelwid Tasso Wood y sipsiwn gan y ddeuddyn ieuainc, ond nis gwyddent hwy mai sipsiwn oedd tybiai'r ddau ei fod yn hen gapten llong, a'r clefyd aur wedi gafael ynddo. Ond sipsiwn neu beidio, ni chafodd dynion ieuainc erioed well cyfaill na Tasso Wood, neu fel y 'galwai ef ei hun Thomas Wood y Prydeinwr. Onibae am ei ofal ef am Derfel Gwyn, anodd gwybod beth fuasai dyfodol y bachgen yn y wlad bell. heb un math o brofiad ynghylch bywyd ond hynny a gawsai fel aer etifeddiaeth y Plas- Ilwyd ac nid oedd hwnnw o werth yn y byd i fachgen yn gorfod gweithio ei ffordd mewn mwnglawdd fel llafurwr. Pan gyf- arfu William Meredydd a hwy, bachge oedd wedi ei fagu yn ddigon tebyg i Derfel Gwyn,—nid rhyfedd iddynt fyned yn gyfeillion, ac i'w hymdeimlad o'u rhwym- edigaeth iddo beri iddynt fod yn barchus iawn o Thomas Wood, a rhoddi iddo yr enw f'ewyrth, y ddau fel eu gilydd yn ddi- wahaniaeth. Mae f'ewythr yn siwr o fod yn troi a throsi ymysg y dynion. Gwyddoch na fydd byth yn yfed, dim ond cymeryd arno, eto mae'n byw yn yr hen saloons melltigedig yna gyda'r nos, ac mae'n siwr fod hynny'n talu iddo, neu nid aethai yn agos atynt." Dyn hynod iawn ydyw, Derfel, ond y mae wedi bod fel Rhagluniaeth i ni. Dowch, mi awn ni i chwilio am dano. Wn i ddim pam, ond mae arna'i eisieu gweld y tylwyth newydd sydd wedi croesi yma atom ni. 'Does berygl yn y byd, Derfel, mynd i ganol y boys, mae pob un ohonynt yn siwr o fod yn gwybod fod yr aur ymhell o fod hefo chwi. Mi fetiwn i mewn munud eu bod yn gwybod yr holl hanes gystal a ninnau. Mae'n syn sut y bydd pob hanes yn y saloons yna." Cymerodd Derfel Gwyn ei berswadio o'r diwedd, ac ymaith a'r ddau o'r gornel neill- tuedig oedd yn wynebu y cefnfor tawelog i ganol berw'r ddinas. Wedi cerdded tipyn yn ol ac ymlaen, troisant i adeilad lie y canfydd- ent lu o ddynion o bob cenedl, yn yfed pob math o wirodydd cymysgedig rhai ohonynt yn chwarae cardiau, ereill yn siarad â'u gilydd yn brysur yn eu gwahanol ieithoedd. Mewn cornel yng nghysgod y drws eisteddai I pedwar o ddynion,—pob un ohonynt yn y blouses cochion a wisgid gan y mwngloddwyr. Safai tri ereill nepell oddiwrthynt yn eu gwylio yn ddyfal. Yn ddiau, Yanci oedd un o'r tri, ac nis gallai neb cyfarwydd gamgym- eryd un arall ohonynt-un o breswylwyr Canada-y Ffrancwr, yr Americaniad, a'r Indiad fel pe wedi eu cyfuno yn ei wyneb a'r llall yn Ysbaenwr o'i goryn i'w sawdl. Syllodd Derfel a'i gyfaill arnynt am ennyd, yna megis mewn ufudd-dod i rywbeth nas gwyddent yn iawn o ba le y deuai y cymhell- iad, aethant allan yn ddistaw. Pe wedi aros munud yn rhagor, gallasent fod wedi deall am bwy yr ymholai y tri dyn oeddynt yn sefyllian ac yn gwylio y cloddwyr. Ond ymaith a hWy ar hyd ystryd arall, nes dyfod hyd at dy digon tebyg yr olwg arno i'r un un oeddynt newydd ei adael, ac yn hwn, er eu syndod, gwelent amryw Indiaid wedi ymwisgo yn dra rhyfedd yn ol dull y trappers, a Thomas Wood y Prydeinwr yn ymddi- ddan a hwy, ac yn ymddangos fel pe yn eu hanrhegu a chyflawnder o ryw fath o ddiod- y dwfr tanllyd bar y fath niwed i hen frodorion paganaidd. Gwelent fod rhyw ym- drafodaeth fasnachol yn myned ymlaen cydrhwng Thomas Wood a'r Indiaid, ac wedi hynny clywent ef yn eu cyfarwyddo tua'r iy yr oedd Derfel a Wil newydd gefnu arno. Wedi i'r Indiaid gychwyn allan, er syndod i'r ddau gyfaill clywent eu hewythr yn dechreu siarad Cymraeg gyda thwr o ddynion oeddynt yn ddiddadl yn newydd-ddyfodiaid i'r wlad euraidd. Holai hwynt i fyny ac i lawr, ac edrychai Derfel yn ddyfal tuag atynt, ond.'nis gwelai un wyneb yn eu mysg y tybiai ef iddo erioed ei weled o'r blaen. Ond dyna ei gyfaill yn gafael yn dyn yn ei fraich, ac yn dweyd yn ddistaw 0, Derfel, dyna ddau ddyn o'm hen gartref i. Yr wyf yn eu hadnabod yn dda. Rhaid i mi gael gair hefo'r dynion," a ffwrdd ag ef tuag atynt, cyn i Derfel allu yngan gair. Neidiodd un o'r dynion ar ei draed, a gwaedd- odd,- Mister William, Mister William, fel 'dwy byw. 0, syr, pwy fasa'n disgwyl y'ch gweld chi fan yma, a phawb yn chwilio am danoch chi ymhob man." Ust, Morgan, peidiwch a dechreu dweyd syr wrtha i nac arall yn y wlad yma. Gwlad y werin ydyw hon, a phawb yn gyd- radd yma. Gweithiwr wyf finnau yma, Morgan. Ond mae'n rhaid i chi fynd adre, Mister Will, gynta medroch chi, 'does dim eisio i chi neud yr un stroc o waith byth, ma' 'wyllys y'ch taid wedi 'i chael, i 'wyllys ola' fo, ac yno ma'ch lie chi, nid fan hyn." Safai Wil Meredydd fel dyn wedi ei syfr- danu, ac heb yngan gair trodd Thomas Wood ei olwg tua'r drws, a gwelodd Derfel. Y foment nesaf yr oedd yn ei ymyl, ac yn ei dynnu allan gydag ef heb ddweyd yr un gair. Ond wedi cyrraedd o dan yr awyr agored, sibrydodd ryw eiriau yn ei glust, ac ymaith a'r ddau nerth eu traed, heb droi ar dde nac ar aswy, nes cerdded tua milltir dda o gyff- iniau y whisky saloons. Aethant i mewn i dy preifat yn y fan honno, ac i fyny'r grisiau i ystafell fechan gysurus. Arhoswch chwi yma at i gyrchu Will," ebe Thomas Wood. (I barhau). --0--
Damwain.
Damwain. Bu damwain yng Nglofa'r Hafod nos Fercher ddiweddaf, pan y lladdwyd llanc o'r enw Robert John Edwards o'r Pant. Diolch mai anaml yr ydym yn cofnodi damweiniau angeuol, pan y mae cymaint ohonom mewn cymaint perygl bob awr.
Blodau.
Blodau. Cwrdd blodau ac amrywiaethau ereill ydoedd yn Hill Street (S) nos Fercher ddi- weddaf. Mr. R. R. Jones, Y.H., a lywyddai, a chymerodd amryw gystadleuon le mewn canu, adrodd, &c. Gwasanaethwyd fel cyf- eilwyr gan amryw foneddigesau, a bu Mrs. Samuel Evans, A.C., yn cloriannu y datgan- wyr. Elai yr elw i gronfa'r sale of work sydd i'w chynnal cyn bo hir.
Cyngerdd.
Cyngerdd. Yr un noson yr oedd cyngerdd yn y Neuadd Gyhoeddus, er budd eglwys Noddfa (B.), Johnstown. Cafwyd cynhulliad rhag- orol, a chanu gwir gymeradwy ac o nodwedd glasurol. Y datgeiniaid oeddynt Miss Edith Davies, Gwrecsam Mr. David Ellis, Cefn- mawr Mr. Powell Edwards, Rhos Cor Plant Jerusalem hefyd a wasanaethent er boddlonrwydd a gwnaeth Mri. C. Roberts, Mus. Bac., a Joseph Dodd eu gwaith fel cyfeilwyr yn rhagorol. Yr oedd Mr. W. Edwards hefyd yn adrodd yn ei ddull meistr- olgar. Talwyd y diolchiadau arferol, yn arbennig i'r llywydd, Mr. R. Price, Rhiwabon. Dylai elw sylweddol fyned i'r drysorfa, a chasglu oddiwrth y cynhulliad.
Carnival Gwrecsam.
Carnival Gwrecsam. Nos Wener ddiweddaf y bu'r arddanghosfa ddisylwedd hon, pa un a gynhelir yn flyn- yddol er chwyddo trysorfa ariannol yr Infirmary yn y dref. Dyma un o'r engreifft- iau pan y mae ffwlbri rhyfedd iawn yn derbyn nodded crefyddwyr dan yr esgus fod y diben yn cyfiawnhau'r moddion. Ymdyrrai'r llu- oedd o'r Rhos a'r Ponciau i hylldremu ar yr olygfa wag a disylwedd. Rhyfedd mor ddisynnwyr ydyw dynion synhwyrol fynnant wneud arddanghosfa fel hon at achos mor deilwng. Yn un peth, gwerir mwy o arian mewn gwobrwyon, gwisgo'r olwynfeirch a'r casglyddion, mewn gwlybyron a moethau, mewn cerbydau, train a trams, a phob rhyw bethau na'r elw a geir oddiwrth yr arddang- hosiad. Paham na anfonai'r dynion hyn sydd mor selog i gynorthwyo'r gwaith da eu harian yn uniongyrchol i'r trysorydd, a buasai ganddo nid dau, ond llawer nes i bum cant o bunnau yn ei drysorfa i helpio anaf- usion a gweiniaid y byd.
Cwrdd Ordeinio.
Cwrdd Ordeinio. Heddyw, yng nghapel Salem (A.), cynhal- iwyd cwrdd ordeinio y Parch. E. W. Jones, o ardal Llanrhaiadr, wedi derbyn ei addysg ym Mangor. Pregethwyd yn y bore ar Natur Eglwys gan y Prifathro Probert, D.D., yn oleu ac yn rymus. Ordeiniwyd Mr. Jones y prydnawn yn ol y dull arferol. Llywyddai y Parch. R. Roberts, Bethlehem. Gofynwyd yr holiadau gan y Parch. R. Peris Williams, Gwrecsam offrymwyd yr Urdd Weddi gan y Parch. O. J. Owen. Safodd yr eglwys ar ei thraed i ddatgan ei chydsyniad a'i chymeradwyaeth. Cododd Mr. Jones ei ddeheulaw i ddangos ei fod yntau yn ym- rwymo i'r cyfamod bugeiliol. Cafwyd an- erchiadau byrion yn croesawu Mr. Jones i'r ardal gan y Parchn. E. Isfryn Williams dros Gymdeithas y Gweinidogion R. Williams, Hill Street, dros Gyngor yr Eglwysi Rhydd- ion E. Williams, Penuel, ac E. Mitchell, Sion, ac ereill. Yr oedd yno nifer dda o fyfyrwyr Bangor wedi dod i ddymuno'n dda i'w cydefrydydd, a gweinidogion y cylch rhy liosog i'w henwi, neu fe lenwid colofn o'r BRYTHON. Rhoddwyd y Siars i'r gweinidog gan y Parch. Deiniol Jones, Llanrhaiadr Darllenwyd amryw lythyrau oddiwrth weini- dogion yn datgan eu hanallu i fod yn bresennol ond yn dymuno yn dda i Mr. Jones yn ei waith. Pregethwyd yr hwyr ym Methle- hem gan y Parch. Deiniol Jones a Dr. Probert. Cafwyd cyfarfod bendithiol, a hir y parhao'r undeb rhwng y bugail a'r eglwys. OFFA. --0--
Advertising
DYFYNIADAU LLEN CYMRU.-Gan y Parch. D. D. Williams, Manchester. Budd- ugol yn.Eisteddfod Caernarfon, 1906. Ar- graffwyd yn Swyddfa'r BRYTHON tros Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1
Colofn y Beirdd
Colofn y Beirdd [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio :—PEDROG, SO Stanley Street, Fairfield]. Llwynfardd.-Yr ydych yn camgymeryd' Nid ein meddwl wrth ofyn i chwi ganu ar destynau gwahanol i'r lawn oedd fod y cyfryw destyn yn anghymwys i'r BRYTHON, ond yn hytrach fy mod yn teimlo er's blyn- yddoedd bellach fod yn fwy rhesymol i rai yn dechreu prydyddu wneud hynny gyda thestynau llai pwysig. Ymddengys fod rhai pobl yn meddwl y gall unrhyw un ganu yn deilwng ar athrawiaethau mawrion crefydd, a thestynau priodol i emynau. Cymgymer- iad dybryd yw hynny a da fyddai i lawer o rigymwyr emynau ei gofio. Y pynciau mwyaf ddylent gael y caniadau goreu. Haws maddeu anheilyngdod ar destyn fel Robin Goch neu Ddryw bach nag ar yr athrawiaethau mawrion y cyfeiriwch chwi atynt. Treiwch eto, yn ol yr awgrym uchod, a chewch bob croeso a help ellir roddi i chwi yn y golofn hon. Kantik Ar Baradoz.-Diolch. Credaf fod un Llydawr galluog wedi addo anfon darnau i'r BRYTHON cyn hir, a diau y bydd congl ar gyfer y cyfryw yn ddyddorol i lawer o'r Brythoniaid. Y Llygaid.- Y r unig frycheuyn yn y llygaid hyn yw y gair anwylgu," yr hwn sydd wedi ei orweithio mor ystrydebol. Englyn da. Beirniadaetl,t.-Anfonodd un bardd y gorchymyn canlynol gyda'i linellau Beirniadaeth mewn byr nodion-arno ef Dyro 'nawr yn union A brather ef i'r BRYTHON Mawr ei lwydd yng Nghymru Ion." Mae o'n gwneud iawn go lew yn y diwedd, onide buasai mewn perygl o gael ei fwrw yn ddiseremoni i grafangau y ceisbwl du sydd yn gorwedd wrth ochr y fasged yma ar gyfer cosbi troseddwyr. Y Dawnsiwr.—Os dyma'ch ymgais cyntaf, y mae yn rhagorol, ond mae y llinell olaf yn wallus Fe'i mwyn wesgir mae'n wisgi." Treiwch drachefn, a diau y deuwch cyn hir yn feistr ar y gynghanedd. Murmur y Gragen.-C&n a meddwl ynddi ond gallasech, feallai, wneud y symudiad o'r gragen i'r sant yn y diwedd yn ychydig mwy naturiol. Gwell na chyfarch y Gragen efo gwrando dithau," fuasai i'r bardd ei hun wrando. Danfonwch eto. Cymeradwy iawn. Y Cynhaeaf.—Drwg gennyf nad oes yr un linell gywir yn y tri englyn-dim ond nifer y sillau a'r odlau.
Y LLYGAID.
Y LLYGAID. ANWYLGU lygaid chwilgar,—crwn hollol, Cronellau gwawl llachar, Yn y pen, sy'n cynnwys par o deg emau di-gymar. Penmaenmawr. PEDR CENIN JONES.
MURMUR Y GRAGEN.
MURMUR Y GRAGEN. CYNGHAN odlau per y dyfnder, Glywaf yn dy furmur di Iaith dy galon mor ddibryder Gyffry dant fy nghalon i. Cerddi'th wlad yn gyson geni, Ddysgaist yng ngherddorfa'r mor Heb dy gan i chwyddo'r moli Anorffennol fyddai'r cor. Nid oes gryndod ar dy wefus Tra yn adrodd cerdd dy hynt Yn dy gan mae arlwy felus Cathlau adgof amser gynt. 'Rwyt ti'n wastad fel dy Luniwr, Ni dderbyni wyneb un 'Run yw'th gan i'r Ymherawdwr Ag i'r crwydryn gwael ei lun. Os dy gludo gaf i'r mynydd, Pery yno swyn dy gan Murmur, murmur, 0 mor ufudd Cedwi wisg dy gerdd yn lan. Dirion gragen, gwrando dithau Furmur cragen uwch ei bias Hen wr penllwyd ar ei liniau Yn ei hwyl, ger Gorsedd Gras. Weli di'r cynhulliad bye1.an Acw'n profi'r nefol faeth ? Dyna iti et J gyngan Murmur cragen ar y traeth. Nantlle. LLEW DEULYN.
KANTIK AR BARADOZ.
KANTIK AR BARADOZ. (Yn y Llydaweg). ESTRANJOUR er bed-ma D'in an euv eo ar ger, Var ar bed ne gavan bis. Mert chagrin ha mizer. Glac'har he trubuliou, Am c'hench a bep koste, An env eo ma gwir vro bis. Din ar ger eo an env. Kaer' n'evo' n'avelarh C'hoeza a bep koste Eru arhu ma beach bi8. Din' ar ger eo an env. C'hoaz eun neubeut deion Hag en bro ma Zalver, Me n'em laousnao bi8. Rag din n'env eo ar ger. 'Velse ne glemin 'ket, James war ma mizer, Din groet 'vel ma kerfet, bi8. Din an env eo ar ger. Eurus eno vezin, 'En tu deou da Zoue, Hag er vro ze vevin, bi8. Rag din'r ger eo an env. Eno glorifiet En kichen ma Zalver, Eurus e vin rentet, bis. Rag din n'env eo ar ger. Gant ma c'herent eno, Ha gant pobl ar Zalver, Eurus me ne'm gavo, bis. Rag din n'env eo ar ger. Kloc'h Ar Vretoned. Seacombe. R.M.P.
Advertising
Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, KirKdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6 JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. TEL. 42y ANFIBLD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS do VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., BirKenhead. RENTS COLLECTED. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone—223. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. "Mwy na hanner yr argraffiad eisoes wedi gwerthu allan. LLOFFION GRAWNWIN. SEF Cyfrol Goffa y Parchn. WILLIAM ROBERTS, Lerpwl; WILLIAM NICHOL- SON; D. M. JENKINS; H. PARRY THOMASJ.eto; HUGH JONES,Birkenhead; a DAVID JOHN, Manchester. gan y Parch. O. L. ROBERTS. Prls, 2/ Trwy y Post, 2/3 Yr elw arferol i ddosbarthwyr. Anfoner yr archebion ar unwaith, naill i'r Awdwr, 7 Hampstead Road, Liverpool, neu i Swyddfa'r Brython, 356-8a Stanley Road, Liverpool. Dim ond ychydig ganoeddar law. An EDISON /k- !§ ml PHONOGRAPH III W/J should be in every home It is Amusing, In- stuctive, ø Enter- taining, both for young and old. (gfygjgssdpnl "Edison Records," the finest in the &BSSSBSBS^K\ worid, are now re- duoed toll- each. -> Send for Lists, Post Free h,——— to any address, DIBBS, LTD., 7 Ronelagh Place, LIVERPOOL (4 doors from Lewis's)- T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., BOOTLE. 0. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR THOMAS STREET, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail io feneral management of all kinds of Real Istate, Confidential Reports and Valuations for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1883. Telephone 1903 Central Telephone: 279 Bootle. LINACRE BRICK COMPANY 122 Marsh Lane, Bootie. Works: Canal Bank. Branch Offices 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOTLJ!) Telephone—216 Bootle. AND 23 OLDHALL STREET, LIVERPOOL. Telephone-1554 Central. Houses to Let, ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- P E R W E E E|. APPLY— WILLIAM JONES, 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOTLtJi -10 DAVID EVANS, Park Road North Estate BIRKENHEAD. Pellseinyr 391 Birkenhead. TIR A THAI ar werth neu "t j osod ya rha,abarth lacliatarnwf cyfleus y dref. Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyny i 1351 flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyl Gorsaf y Trams a Threns bob chwe munud, a gellir cyrraedd unrhyw un o't Tai hyn:mewn 15 munud neu lal o Liverpool. Ô Contract blwyddyn gyda'r trên, dim otl tua 2ic. y dydd. Ymofyner a Mr. David Evans, neu J Mr. Wm. Edwards, Estate Agent, Park V"° North, a ohongl Duke Street Mewn Llian Hardd, 414 o DudalennaØ. Hanes y Oiwygiod a'r Diwygwyr: eJ Yn cynnwys hanes Mr. Evan Roberts,.tb, rieni, ei ddygiad i fyny, ei alwad i'r &c., &c., gan y Parch. Thomas FraO Gorseinion. Hanes cychwyniad a iad y Diwygia drwy Gymru, ysgrifennu gan lenorion -y Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Evans, a chargliad o farddoniaeth y D1 iad, I ti 1 Cynhwysa y gyfrol liaws o ddarluDI-I jo rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c., &°, PRIS HANNER CORON, nett. E. W. EVANS, Swyddfa'r Goleuad," Dolge, Ymneillduaeth Eglwyl ø Loegr, ø yn cynnwys Adolygiad ar y Ddadl rhwng Canon iams, B.D., a Glanystwyth *ar Eglwys." Gan y a Parch. THOS. HUG (Lerpwl). Tlcb^ Ymdrinir ynddo kg honiadau u^0 Eglwyswyr, Pabyddiaeth yn E# Loegr, &c., &c., a cheir ynddo y Restr o Offejrlaid Cymreig sX # Aelodau o'r English Church y a Chymdeithasau Gwrth-Brot aidd ereill. Anfoner archebion i Swyddfa'r 1 Don Chambers, 8 Paradise St., Gwalia Home & Registry fo( Gwalio Home & Registry Welsh Servants, HOPE PLACE, LIVERPOOL,. 1 Dan arolygiaeth pwyllgor o Cymreig. Lletty cysurus I forveynion J lleoedd.—Ymofyner & Miss DAVI Superintendent. J.