Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MILES & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and o Fancy Drapers. 0 THE LARGEST AND MOST COMPLETE STOCK OF LADIES' AND CHILDREN'S LONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. a Latest Novelties in all Departments. THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. Telephone No. 738S.
Advertising
KEENORA Self- Raising FLOUR. -_o-n- SELF- RAISING I FLOUR. I TRY IT! TRY IT! TRY IT! You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers. Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
ROBERTS E EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. J Are Your Eyes Rigbt ? Or have you noticed some little sign that makes you suspect defects ? If in doubt don't delay; don't wait until neglect has aggravated the defects. Let us test your eyes by the best methods known. Then, if you need them, we can supply Glasses that will give immediate comfort and Preserve good vision. ARCHER & SONS Byesight Specialists, 73, LORD STREET c _Bstb. 1848. LIVERPOOL I Telephene—157Y Birkenhead. Er amlder ei gwsmeriaid,—yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. JOHN HUG H E S i Tailor & Draper, f' 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD ASK FOR IDRIS KW Waters In Syphons and Bottles. — 6Ô1>A WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IDRIS &Co., Ltd., 1^ Northumberland St., LIVERPOOL. I | # TAILORING THE MATERIALS ON OFFER FOR THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE AND WELL WORTH INSPECTION. 41 ALL CAREFULLY FITTED PATTERNS On Application M EATY0 THE CELEBRATED 0 0 0-0. TAILORS LONDON ROAD g CHURCH ST. LIVERPOOL = I JONES S OILCLOTHS LINOLEUMS LAID FREE THIS MONTH. ee 59,61,63 Brunswick Road. ■ I ASK FOR 1 KYDD & KYDD S) NEW SEASON JAMS .A tt' I Pure and Delicious I L ,)t 0 0 1 Artificial Teeth GOOD PERFECT- FITTING TBETH ere NEEDED BYBRTONS I To Keep the bloom of youth To Keep good looks. To keep health. Our Teeth are the results of personal experience and 1\ practical Imowledge; tbo former has given us the preoise knowledge of our Clients' requirenielt-ll the latter to meet those needs in a perfect ami satisfactory way. They are both in fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost. FREE. Mr. RELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets' and such-like thjugs. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials as ne, of having the highest skill and fiaestmateriala as a reasonable ouasy. I H. W. HELY, 13 NORTON ST., ndon Rd. Corner a 0 Liverpool. I ¡ Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR— (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
YSCRIFENNU PREGETHAU.
YSCRIFENNU PREGETHAU. MAE hon yn gelfyddyd ag ychydig yn medru ami. Saif allan fel cangen neilltuol o lenyddiaeth nid yr un rhagor- iaethau yn union sydd yn perthyn iddi ag sydd i ganghennau ereill. Yn ol tystiolaeth gyffredinol, y perffeithiaf ei arddull lenyddol ydoedd y Parch. Henry Rees. Ystoriodd ystafelloedd ei got a chynulleidfa o hen eiriau Cymraeg da, yfodd yn helaeth o ffynhonau puraf llenyddiaeth ei wlad. Ysgodd bob eithaf- rwydd a mursendod melfedaidd, fel nad oedd na phlaender na gwychter yn tynnu sylw y darllennydd. Os oes," meddai Dr. Edwards, rhywun eisieu gwybod beth yw gwir arddull Gymreig, darllenned bregethau Henry Rees." Pwy bynnag nad oes ganddo ddigon o asbri i ddarllen pregeth o'i eiddo drwyddi, wel, bradycha ddiffyg chwaeth a theifl ddirmyg ar geinion ein hiaith. Ond ychydig sydd hafal iddo yn y gelfyddyd hon. Gyda golwg ar yscrifennu pregethau, gallwn rannu pregethwyr i dri dos- barth. Dechreuwn gyda'r rhai sydd yn
Yscrifennu yn Gyflawn.
Yscrifennu yn Gyflawn. Nid yw rhif y dosbarth hwn yn lliosog, a da hynny. Ofnwn fod llawer un wedi nychu ei gorff, afradu amser, a byrhau ei ddyddiau drwy ddilyn y drefn hon. Meddylier am un yn yscrifennu dwy bregeth bob wythnos, air am air, am ddeng mlynedd ar hugain, na bydd son byth am danynt wedi eu traddodiad. Bydd dydd eu genedigaeth yn ddydd eu tranc, a chleddir hwy nos Sul heb obaithi adgyfodiad gwell, heb boen ym mynwes na lleithter yn llygaid neb. Ond er i'r cennad ragweled y trychineb alaethus, rhaid eistedd i lawr yr wythnos ganlynol i linynu pregeth cwbl newydd, oblegid nis gall nervu i gyfarfod cynull- eidfa heb ganddo gerbron bapuryn a'i diogela i dudded hanner awr o amser, digwydd a ddigwyddo. Nid dynion pwl eu golygon. teneu eu meddwl, rhyglyd a rhydlyd eu dawn sydd garcharorion y dull hwn na, gallem engreifftio enwau o ddosbeirth gweddol, gwell, a goreu a ddilynant y drefn hon. Nid pwnc o allu, ond mater o chwaeth ac arferiad, ydyw. Am rai ysgrifenwyr cyflawn nid ydynt ddarostyngedig i'w cyfansodd- iadau; aberant ymlaen mor rhwydd a naturiol a phe na ddodasent bin ar bapur. Gwyddom am ereill a ysgrifennant y bregeth wedi ei thraddodi deirgwaith neu bedair. Wedi gweled sut y shapia, ac os bydd argoel am ddyfodol iddi, diogelir y cyfryw rhag myned ar ddifan- coll. Wedi'r cwbl, nid yr ysgrifennu sydd yn gwneud y bregeth, nud y meddwl a'r dweyd. Cadd arm i lefarwr brofiad ehwerw cyn hyn; gweki y bregeth yn edrych yn dda av y ddosc prm, gan mor dda, yr adnebydd ei greadigaeth ei hun; ond wedi esgyn i'r pulpud, mat drym- ed a plilwni, ac mor syehed a'r esgyrn a welodd Efeciel, (k bydd gan un destyn wodi gafaelyd nddo, at. yafcau wodi eydio a'i holl enaid yn y tV-^yn, a'r gorwclioi) yn ym- ledu ac jmiloewi, eistedded i lawr ac Yhgrifenned y bregeth vn llawn, c-nide na wastrafier papur, heb on am (iillSer i nyddu allan y petheue- h hynny nad ydynt werth swill y cauL Cynghorir pregethwyr ieuainc i gyfansoddi yn glos a helaeth am ddau reswm. Un ydyw: er meistrioli iaith, a sicrhau sypyn. wrth gefn pan ballo meddwl gan henaint weithTpdn. Ond i'n tyb m, ffol ydyw dechreu, rhag ofn nas gellir peidio. Digon ydyw gwneud yn achlys-orol, ac yi-lia-tal. Gwyr y gwir bregetlavr pan y daw cyfleustra i'w ral. Mae gan weini- dog rywbeth amgenach i'w wneud na gwneud gwaith school boy drwy ei oes. Oud y mau ereill nad ydynt ond yn
Yscrifennu yn Rhannol.
Yscrifennu yn Rhannol. Diau mai dyma y dosbarth lliosocaf, nid am eu bod yn rhy swrth i yscrifennu'r oil, nac yn rhy gydwybodol i lwyr ym- atal. Gesyd y rhai hyn y sylfaen i lawr yn gadarn, gofalant am gonglfeini wedi eu cwbl naddu, maent wedi mesur yr adeilad bob ffordd, dyna yr oil sydd arnynt eisieu ar bapur. Cadwant ger- bron hanfodion pregeth dda, sef cynllun, undod, a chynnydd. Adeiladant wrth draddodi mor rhwydd a naturiol a phe mai y munud hwnnw y daeth y sylwadau iddynt. Gwn am un gweinidog gyda'r Wesleaid (gresyn ei fod yn myned yn hen) rydd yr argraff hon yn was tad ar y sylwgar, yr hyn yn ddieithriad a'i gwna yn ddyddorol a deniadol hyd yn oed pan yn trin adnodau pynciol yr Epistol at yr Ephesiaid. Prin y credaf ei fod yn gaeth i'w ysgrif, gan mor bell yr ym- ddengys oddiwrth y peirianyddol a'r prenaidd. Gwych iawn fuasai cael pres- enoldeb gwr y llaw fer pan y bydd Mr. ar ei uchelfannau. Dan bwys yr eneiniad, a gwres yr ysbryd, rhyfedd mor rwydd yr asia cymalau hen feddyliau adamantaidd, ac y dylifa geiriau cymeradwy am y cyntaf i'w cysylltiad priodol. Llwydda hyn i drysori i'r oes a ddel syniad gwir am wir bregeth; ond wedi ystyried, pwy sydd fedr dragwyddoli oedfa fel hyn ar bapur ? Dull D. Charles Davies fyddai cadw cofnodion manwl o'r hyn a ddywedai. Paratoai yn drwyadl, ac ysgrifennai yn gryno ei areithiau ar fedydd, ei gyfarchiadau yn y Cymundeb, a'i anerchiadau mewn angladdau; nid rhag ofn bod heb ddim i'w ddweyd, ond er atal ail adroddiadau, ac er mwyn sicrhau newydd-deb. Cyfansoddai bre- geth ar destyn y gwyddai y traethasai arno flynyddoedd yn ol; ac wedi gorffen, cymharai y ddwy, er gweled p'run ai cynnydd ynte dirywiad oedd wedi cymer- yd lleyn ystod cyfnod y distawrwydd.
Yscrifennu Dim.
Yscrifennu Dim. Bychan ydyw y dosbarth hwn, er y ceir rhai o bregethwyr goreu Cymru ynddo. Gan y byddai gan y gwr o Garno gymaint o eglurebau yn ffenestri ei bregeth, er dwyn goleuni a bywyd i'r cyfansoddiad, tynnai ddarlun o'r anifeil- iaid oedd i wasanaethu fel engreifftiau ar hen envelope, dyna i gyd. Buwyd yn chwilota droion hen lyfrgelloedd pregeth- wyr ein gwlad am bregethau fu yn ysgwyd Cymru, ond yn gwbl ofer un ai yr oedd- ynt wedi eu difa neu erioed heb eu hyscrif- ennu. Nid drwg hyn i gyd, oblegid ni fwriadwyd i bob pregeth effeithiol yn ei thraddodiad i gael goleuni dydd mewn print. Llawn cymaint o barch a phre- gethau John Elias fuasai peidio eu cy- hoeddi, gan fod eu gogoniant ym mherson- oliaeth y pregethwr, fflachiad ei lygaid, tafliad ei law, codiad ei fys, a thrydan ei lais. Er nad yw y dosbarth hwn yn yscrifennu, digon tebyg ei fod yn meddwl mwy. Casbeth gan Dr. Edwards ydoedd arfer yr ysgrifbin achwynai arno ei hun yn dost oherwydd ei ddiymadferth ysgrif- enyddol. 0 ran llwyrder diwylliant, grasp meddwl, a dillynder arddull, dylasai fod wedi gadael cymaint deirgwaith i gyfoethogi llenyddiaeth Cyrnru. Gwnaedcam a'r gwr mawr o'r Bala, ac wrth wneud hynny gwnaed cam mwy a'r wlad. Caethiwyd ef i ddysgu el- fennau cyntaf Groeg, Lladin, a Saesneg i efrydwyr yr Athrofa, pryd y gallasai rhai eiddilach nag ef wneud y gwaith hwnnw, a'i wneud llawn cystal. Dylasai gael ei ddwylo yn rhydd i blymio cefn- foroedd gwirionedd ag y buasai llawer yn boddi ynddynt. Pe buasai yn dlotach o feddwl, feallai yr yscrifennasai fwy,oblegid am lu a yscrtf enasant lawer, clywed ddarfu iddynt pan yr oedd arall yn cael ei alw. Wedi-r cwbl, ychydig mae'r cynulleidfaoedd yn ci falio ynghylch gwaith y pregethwyr yn yscrifennu llawer, ychydig, neu dc un, os cant bregethau byw, eneiniedig, a'r Person Mawr yn cael y lie blaenaf yn- ddynt.