Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

PENNOD XXI-NEST-MERCH GRUFFYDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gan GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXI-NEST-MERCH GRUFFYDD AP CYNAN. Exw arall bron mor boblogaicld ag Angharad ymysg tywysogesau Cymru oedd Nest, ac enw prydferth iawn ydyw gresyn na fuasai i'w glywed yn amiach lieddyw fel enw ar lancesi Cymru Sydd. Hannai y Nest yr ysgrifennaf am dani yn awr o linach ragorol. Yr oedd yn wyres i Llywelyn ap Seisyllt a'i wraig Angharad, y bu eu teyrnasiad mor fendithiol i'w gwlad, ac yn ferch i Gruffydd ap Llywelyn, un o'r bren- hinoedd galluocaf fu erioed yn ar\vain y Cymry. Collodd Nest ei mam pan yn eneth ieuanc, a diau i hynny fod a wnelai gryn Iav/er a helyntion ei bywyd, canys er mor alluog fel arweinydd cenedl oedd ei thad, ni feddai y rhinweddau moosol ei hun i'w wneud yn gymwyg" i fagu geneth ieuanc. Ganwyd Nest yng Nghastell Rhuddlan yn y flwyddyn 1032, lie. y cedwid y Llys Brenhinol yn rhwysgfawr ddigon yn ol dull y byd yr adeg honno. Byddai ffoaduriaid or Alban a'r Ynys Werdd yn troi am nodded i Lys Gruffydd, ac ni wrtliodid neb, eitlir byddai'r drws yn agored led y pen iddynt o bob man os yn ffoi rhag y paganiaid Saeson." Cydoeswyr a, Gruffydd ap Llywelyn oedd y gormeswr Macbeth o'r Alban. Lladdwyd Banco o Lochaber, un o'r ponaethiaid, gan Macbeth mawn eiddigedd am yr ofnai ei ddylanwad ar y wlad. Dihangodd mab Banco i Lys Gruffydd, ac yno yn ddiolch am ei groeso darostyngodd y dywysoges Nest, a ganwyd mab iddynt. Y mab hwnnw oedd y Walter a wnasd yn Arglwydd Stiward dros yr Alban. Oddiwrtho ef yr hannodd llinach frenhinol y Stewarts, felly rhedai gwaed Cymreig yng ngw ythicnnau brenhinoedd Sgotland, Cythruddwyd Gruffydd ap Llywelyn gy- maint oblegid i'w ferch efelychu ei foesoldeb ef fel y lladdodd ei chariad, ac y gorfu i Nest druan oddef ei phoeni a'i diraddio yn fawr ganddo, ac ni ddywed y croniclau wrthym y bu i Gruffydd faddeu i'w ferch am ddangos ei bechodau anfoesol ef yn ei pherson ei hun. Yn y flwyddyn 106(5, gorfu i'r Dywysoges Nest a'i thri brawd ddianc am eu bywyd o Gastell Rhuddlan wedi i'w tad gael ei lofruddio gan ei berthynasau ei hunan trwy gymhelliad Harold brenin Lloegr. Collodd Nest ei brodyr hefyd mewn rhyfeloedd, a gadawyd hi yn unig o deulu y brenin a'r arweinydd enwog Gruffydd ap Llywelyn. Gan ei bod yn aeres i olud a theyrnas ei thad, ac yn ferch neilltuol o landeg, heidiai y dyn- ion oeddynt yr amser hwnnw fel yn awr yn gwcled siawns i roddi'r het at yr hoel," yn lluoedd i viiiofyn Nest yn wraig. Oni feddai hi hawl gyfreithiol i deyrnas a choron Gwalia ? Dewisodd Nest Trahaern ap Caradoc, a chymerodd yntau feddiant o Gastell Rhuddlan, a dechreuodd deyrnasu. Felly cafodd Nest fyned yn ol i'w hen gartref. Ond ni pharhaodd heddweh yn y wlad yn hir. Gorchfygwyd Trahaern ap Caradoc yn mrwydr fyth-gofiadwy Carno gan Gruffydd ap Cynan a'i luoedd, a lladdwyd ef. Ni ddywed na thraddodiad na chronicl ddim o hanes Nest wrthym wedi iddi orfod ffoi yr ail dro o Gastell Rhuddlan ar ol colli ei gwr. Bu i Trahaern a hithau ddau o blant—mab a merch. Priododd eu merch, Nest yr olaf, Bernard de Newmarch, ac enwogodd eu mab Llywarch ei hun fel un o dri anfad-ddvn Cymru, er ei fod hefyd yn wrol mewn rhyfeh ac wedi gorfodi y Saeson i adael bron yr oil o'u tiroedd yng Nghymru. Merch i Llywarch ap Caradoc oedd gwraig Owen Gwynedd.

PENNOn XXII.—NEST—GWRAIG BERNARD…

Eisteddfod Genedlaethol Llangollen

Colofn y Beirdd

LLAW YSGHIF EIFIONYDD.

DRANNOETH Y PERM.

LLEISIAU ANIAN.

GWIB I LEYN.

HENAINT.

Nodion o Fanceinion.

PULPUDAU IMANCHESTER.

Advertising