Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Exchange Market I V SOME Fecial Etches JUST ^dded T° STOCK NOW r\ 1 NOT THE STEREOTYPED GtlEAP-GRADE WATCH NOW SO MUCH ADVER- TISED, BUT GOOD HIGH- GRADE WATCHES, TAKEN IN EXCHANGE, BY GOOD POPULAR MAKERS, ARE THE KIND WE INVITE TO INSPECT. AND A SELEC- TION OF JEWELLERY DIS- POSED OF BY CLIENTS (FOR PRIVATE REASONS), INCLUDING DIAMOND RINGS, BROOCHES,BRACE- LETS, SOLID GOLD CHAINS, &c, &-c., Ö MUCH 0^1"^ wh"t' was paid. Special 13 which is now ready, contains some Ml] be senf?nS ia QENUIN]E JEWELLER Y,iand Article in o any adtlrea8 Free of Charge. Any Payment a °r taken in exchange m part dePoait secure°°^S 8*x)red *ree until required. Small 1eJeph?Xcllanges Invited. one 3777 Royal. NO IDENTITY REQUIRED 4 li'ew jj. °ae ^0 Hippodrome and Olympia. Grepn8 Trom Church Street, via Old Swan o r Jjane or West Derby Oars. 30 LS L 1 V E li p O O L. ^lloyvance up to 100 miles I So 1125- now £ 10/17/6 18ct. Keyless Hunter. ^^6M^eyiessTpvrnV,ll"size English High grade, liand- 15 n ,sPrins nk plain hunter, 15 rubies, Bre- Perfc^H St^ .On?Ul0ter balance, by AI. EMANUEL. Wait? timekpo^ Loilclon, No. 7825 new recently, 5unt81,1 JTn*?er' a genuine bargain. Also 18-ct. SlSs\ £ 9/S/6 W £ 9/I7Ai' Russeli 18"ct- W„ /6. «o„,ttargreaves open-face, centre secondsi 11 Hunter, £ 15/18/6. Above all, war- "ion as new. I\s t5 now ^Qent-g R-eal Solid Gold jHunter. ^cen' B-eal Solid Gold English Keyless OW?0S. JHTo22,ometer' Balance LEVER HUNTER, Plain Street f^LL & SON, Makers to the Queen, &uhi Cases „'v,*iIverP00L new about 6 months ago, liairi68' Nrm dia1' Brequefc Spring, Jewelled in Gold?! and 3a8netic, and latest improvements, fioti, ."euson n guarantee for 25 years. Also Solid trial PerfPf+^nter, £ 4/19/ usual price £ 15. ^PProvai er- Guaranteed 25 years. Month's *>>*<*>—^Qred ^re6' Lady's 18-ct. Keyless Lever. &Y STfi BY TH0S- RUSSELL. Sliifcl0 THICK 18-OARAT HEAVY GOLD %lr3 EEvwtrade J-Plate KEYLESS CHRONO- SliS 8thp n by Thos. Russell and Son, Noted bau* &EAT ?.en' Church St., Liverpool; 17 JEW- °4 i £ 5' KEFP AURMAH RUBIES Chronometer "SftiPSlTlOw PERFE0T TIME IN ANY CLIMATE W, QUETI not vary half a minute a month; tINTip^1IllAL PENDULUM SPRING, patent ^■ClVEJ? iA,KABLE MAIN SPRING, HAND- LE A^AT HEAVY, Government-stamped tot jP ^LAT riP CASES, white dial, gold hands, (ptw years • Russell's and our guarantee UI^T>DT?^TH'S TRIAL new 5 months ago w°v&l ^RECEDENTED OFFER. Payments. Price, £ 3/19/- S}»n ^"ssell's English Lever. r tt:ABLE ENGLISH CAPPED Ohron AQf\ OK me niade by Russell and Son, Maker 'Uwtonofi VUlirch Street, Liverpool, NEW 5 MONTH siLvFftRT fap' HAiL J ho. attd timed to 1 minute a month Wtr^il'uilv „ Grantee 25 years; MONTH'S TRIAL Sitif, ALT, t ?-Structed English Lever, LIKE NEW 4C% 0r LATEST IMPROVEMENTS. Payments at nr. Deposit secures. BARGAIN o ceo Russell, Keyless, 35/-DA VIES'S r Price, £ 1/88/6 JitIi^feont'sRGOLDU Walt ham Hunter }^i«0dernVAl*Y 5 SECONDS A MONTH, High S4Sea "-Without a scratch. Geuuine KEYLESS throni^VER HUNTER, Solid Rolled Gold y> sS t jewelled. Chronometer Balance, 3 and LATEST IMPROVEMENTS; Nto.8: ono rate timist; W ARRANTED 20 ae month's trial; sent on APPROVAL. tlg¡¡¡ lr OUr Price, Lill[16 ;¡j r' 4/6. RUSSELL'S HUNTER, 35/ — — *2/> QUINEA GOLD Curb Chain 1? FASHIONABLE full-length, t oonrtf?^ed every link,massive graduated Curb, o?avy V^tto S??11' a^o Double Curb, 40/ another ."Rio „'Hgle'n?, > also Gent's Government-stamped ^SsiiMI,en era? new, £ 4/10/ now 65/ Also ff0^v8>nslfi luated Dog-link, £ 5, now 55/ Also %( £ £ FfT rVPeu Ourb, 55/ ALL CHAINS RE- Altrl. 10/" in THE £ BELOW USUAL SraH., 'ngle Fetter, 59/- Also heavy mas- 5'so o 2 Curb, £ 7, now 63 Also si. "inpa >T Also Double Open Curb, £ 2/18/ 5 T? a v«r,,avy fine DOUBLE CURB, £ 5/15/ SW^/18/y passive double OPEN GUARD, £ 9; ^UhLll'vfV GOVERNMENT HALL-MARKED; SSioa Qtta9? MOST RELIABLE AND UN- n?eklv 11 evpi. ^lTY. Bets prices allowed for old A(i'r?> fiioiiH?in8e' Chains stored free. Payments ly. Write for Chain List Free. SAT- QTT A T CASH BACK. BIG SELECTION. ^V^UALITY ONLY. — DAVIES'S, LOW °OL. 'Phone 3777 Royal. 4dy' ly, S sgolS Long Guard Chain >lieaii!HlosrABLE DIAMOND CUT on the market), full-length SOLID a^re at a?, nd warranted another bright spark- lh 8a i ^elehp; Talso beautiful 4-guinea Solid Gold tinlinl; OthftL Jjirik Guard, full length, stamped, 6 AimaM2/ 47/-> 5°/ and 55/ includ- SL'j also Trace," Secret," and Diamond Q./5/ £ 5, noJnassive Solid Gold Diamoni-.mt round So^in, V .ako rh '2/17/ and another Ditto £ 7, now S;5Qfr^t8ecL,frm;ng full-length Solid Gold Dress U> 8^/19/- aia„^ th gem-set balls, highly chased ri^ Su!)erb Solid Gold heavy Diamond JfilflnWi10, now £ 5/12/6. One of tha Wi+V See W,^TI0NS AT ONE-HALF USUAL w ^vW3- Payments taken. GUARAN- na tnoney back if not as represented ^AVIES'S o Low Hill, Liverpool 1'1 ■ 3 7 7 7 Royal lSe liet Free. APPBOVAB. I.
AR GIP.1
AR GIP.1 OyjDOLOKLLAU.—Y mae'r Parch. Win. Kvans, ^IJ.A.—-bugail y gorlan Anibynol Seisnig er ys dyflwydd, wedi ymddiswyddo o'i ofalaeth, gan arfaetliu mynd i'r Manchester College, Rliydychen, i durio yn ddyfnach i Ddiwinyddiaeth. 0 LAATDUI)A'O. Pregetliai Rheithor St. Tudno, sef yr Eglwys henafol ar goryn y Gt. Orrae, i bymtheg cant o bobl ddiarth yn yr awyr agored bore ddydd S-Ltl diweddaf y dyrfa yn gwrando tan eistedd a gorwedd ar y gwelltglas glan sych, a'r rhai oedrannus a llasg ar eu folding-chairs. 0 DDINBYCH.Ddydd Sadwrn, bu yma drongholiad ar gorff E. H. Timson, sef y gwr a hddwyd y diwrnod cynt drwy ddymchwel- iad y motor tra efe a'i deulu yn gyrru o Bres- tatyn i Bentrefoelas. Anafwyd y wraig a'r llywiwr (chaffeur), ac 'roedd y ddau yn rhy wael i allu dod i'r cwest. -.4;>- DODREFN BODELWYDDAN. Yr wybhnos ddiweddaf, yr oedd ocsiwn dri diwrnod ar ddodrefn a chreiriau dirifedi a gwsrtlifawr Plas Bodelwyddan, sef harddblas y diweddar Syr Grenville Williams yn Nyffryn ( INyd. Caed prisiau ncliel, ac yr oedd inawrion y tir yno o bob ewr i'r Gogfedd. 0 AHltJR.ltoedd Swyddfa Rhyfel Llun- dain wedi arfaethu cael gwersyll milwrol sefydlog o cliwecli i saith mil o filwyr yn Aber yma ond oherwydd prinder dwfr, ac fod y tir yn yr ardal yn eiddo cymaint o wahanol berchenogion, y mae'r bwriad wedi ei roi heibio. DA (J DESTYN BfABAD MAWR yr wythnos hon ydyw dyweddiad Mr. Winston Churchill i briodi mercli y. diweddar Syr Henry Hozier, K.C.B., geneth ucheldras a hyddy&g mewn twr o ieithoedd a mynediad Mr. Lloyd George trosodd i Germani, ac yno'll ceisio oeri gwaed y bobl sy'n ysu am ryfel rhwng y wlad honno a Phrydain. Lloyd George yw heddychwr mawr Ewrob ar liyn o bryd. o LANGOLLEN.—Ddydd Gwener diwedd- af bu yma arddanghosiad amaethyddol lwyddiannus iawn, a'r anifeiliaid—yn geffyl- au, gwartheg, defaid, ac yn y blaen-yn engreifftiau rhagorol o gynnyrch gore Dyffryn- oedd Edeyrnion, Clwyd, a Maelor. Eistedd- fod frefu, ebe un am clani, yn rhagflaenu'r Eisteddfod ganu fydd yma ymhen y pythef- nos.Oddiar y Bont. lJRAEN YN YSTLYS ei gyd-bersoniaid l'oriaidd yn Esgobaeth Bangor yw'r Parch. Edwin Jones, ficer Radicalaidd a diflew-ei- dafod Caergybi. Mewn cynhadledd Eglwysig ym Mangor ddydd Mercher diweddaf, bu'n gryn ymryson crasineb rhyngddo a pherson iaid Feliriheli a Llangadwaladr ac un o'i sylwadau ydoedd Mai perygl peniiaf Eglwys Loegr hoddyw oedd Esgob Llanelwy." -sylw a gynddeiriogodd lawer o'i wrandawyr, ac a gafodd glap a chymeradwyaeth y gweddill. 0 FANGOR.EI)el Syr T. Marchant Williams (Marsiant), Caerdydd, ddydd lau, wrth siarad ynglyn a'r Ysgol Haf Gymraeg sy'r dyddiau hyn yn y ddinas :— Gresyn clywed cynifer o eiriau Seisnig yn y pregethau'r dyddiau liyii ac os Cymraeg, mwyn dyn, gadewch i ni gael Cymraeg glan." Ddiwedd y mis uesaf y mae Edgar Probert, Pentre,Deheudir Cymru—unigfab y Prifathro Probert, Coleg Anibynol Bangor-i'w briodi a Katie, ferch y Cyrnol Savage, Brynafon, Bangor yma.—GaeUepa. ZO ABERYSTWYTH. oedd cyfan- SWIll y derbyniadau yn yr Arddanghosfa Amaethyddol a fu yn Abcrystwyth yr wyth- nos cyn y ddiweddaf ac aeth pymtheng mil o bobl drwy'r llidiart talu yn ystod deu- ddydd y 1. shot -Y mae yma "slum" arall, ac uwch, y dyddiau hyn, sef Ysgol Haf flynyddol a gynhelir tangnawdd Cyiiuleithas Geuliadol Llundain. Fe'i cynlielir yng Ngholeg y Metliodistiaid y mae yma tua thri caiit yn bresennol i'r rhai y darlithir ar sut oreu i drefnu a chyflawni gwaith cenhadol, &c., gan y Parchn. Currie Martin, F. LinWood, W. F. Adeney, ac yn y blaen. 0 LANSILIN.—-Deffrowyd Llansilin ddistaw, lan, ddydd lau diweddaf gan briodas y Parch. W. Price, gweinidog Wesleaid Llan- elwy, a Miss M:. E. Jones, oddiyma. Y Parch R. M6n Hughes, cylchdaith Llanrhaiadr, yn clymu'r cwlwm, a'r Parch. J. Wesley Hughes, Croesoswallt, yn ei dynhau. Cafodd y briodferch lestri te arian yn anrheg gan yr eglwys am ganu'r offeryn yn y capel er's blynyddau a'r noson cynt, bu ficer y Llan a'r Parch. O. D. Williams yn ei hanrhegu a cliloc o farinor hardd oblegid ei mynnych gymwynasau i achosion da'r ardal.-Daw'r BRYTSON yn rheolaidd i Lansilin, megis y gweddai iddo ddod, lie yr erys fyth betli o arogl Huw Morus a'i felus gerddi. -9- GOELGERTH GARUOG.—Y mae pav/b ffordd yma'n gre&ynnu'r tan a dorrodd allan yn nhy ffarm Tv Llan nos Fercher ddiweddaf, a barhaodd hyd bump bore drannoeth, a ddifaodd y pentai a'r Ilofftydd lie cysgai'r gweision a'r morynion, ac a 1 wyr losgodd eu dillad a'u pethau. 'Does yng Nghorwen nemor ddarpariaeth at ddiffodd tan ruor fawr ond yr hyn a fyddai yn y ffasiwn haulier canrif yn ol a bu raid galw d iff odd- wyr Llangollen—bellter deuddeng milltir— i gael y tan danodd. Lletyid llawer o ddyfodiaid ha' yn y rhan newydd a losgwyd o'r ty a bydd colled Mr. Godfrey Parry, y tenant, yn ddiau yn ddirfawr. Ni fu cymaint .coelcerth yn Edeyrnion er ys talm. 0 BARO BROGYNTYN.—Un o'r parciau helaethaf a glasaf ei welltyn ydyw Pare Bro- gyntyn, sy flaen ac amgylch plas Arglwydd Harlech yng Nghroesoswallt. Ddydd lau diweddaf, 'roedd y lie tlws yn llawn o wahoddedigion yr Arglwydd a'i Arglwyddes i'w garddwyl (garden-party), ac ymysg yr atdyniadau yr oedd ymryson own defaid. Ci D. Davies, Llanrhaiadr, yn gyntaf am gorlannu'r defaid eiddo T. Roberts, Llan- tysilio,'n ail a Fred. Evans, Rhuthyn, yn drydydd. 'Roedd elw'r arddwyl at Noddfa'r Cleifiou yn Baschureh. O R ABERMA W.—Y mae i bawb a phob mudiad ei Ysgol Ha' a'i Summer School y dyddiau hyn a dyna sydd gan v Ffabiaid neu'r Sosialiaid yn y Bermo yma'r dyddiau hyn. Dechreusant ar draeth ein tref nos Sadwrn, daliasant ati yma ac acw drwy'r Saboth o flaen Tanyrallt a nos Sul, caed anerchiad gan un o'r merched Ffabiaidd, Miss Constance Smedley, ar Rai o agwedd- au Sosialaeth cldiweddar." G YNGHERDDA U EISTEDDFOD LLANGOLLEN.-Teimlir dyddordeb neill- tuol yn y rhai hyn eleni, gan fod tri gwaith newydd, a'r rhai hynny yn Gymraeg, sef Y Cynhaeaf (Miss Williams, Eurgain), Llyn y Morwynion (D. Jenkins), a Dafydd ap Gwilym (Harry Evans). Nos Fercher y perfformir y ddau olaf, ac y mae y ddau ar destynau carwriaethol. Enid a Mervin yn y cyntaf, a Morfudd a Dafydd ab Gwilym yn yr olaf. Dyddorol fydd cymharu pa un ai y gwr sengl, neu y gwr priod, fydd wedi cyfansoddi oreu ar gyfrinion serch pa un ai philosoffi y cwestiwn, neu y peth ei hun," a drinir ganddynt. Mae'r dyddordeb yn cynhyddu yn y gweithiau hyn, a hei lwc iddynt gael cynulleidfa fawr, canu da, a phwrs llawn i'r pwyllgor am ei gefnogaeth i gerddoriaeth Gymreig. ARWEST GLAN GEIR1 ON Y DD. — Ddydd Gwener, ar lan Llyn Cowlyd, cynlial- iwyd Arwest Glan Geirionydd, sef Eistedd- fod y diweddar Gwilym Cowlyd a'r presennol Elis o'r Nant. Caed tywydd braf. Elis o'r Nant oedd Arclidderwydd a haul yr wyl, gydag Ifan Dafydd, Isgoed, ac ereill yn gynifer o ser wrth ei odreu. Urddwyd y rhai'n H. Thomas (Trefriw), Huw Tudur D. J. Roberts (Ffestiniog), Dewi Mai o Feirion J. D. Jones, Ivan Dafydd John Owen (Liundain, sef y Dirprwywr Newydd tan Ddeddf y Daliadau Bychain), loan y Gadlys W. B. Lowe (Llanfairfechan), Daearegfab J. D. Jones (Llanrwst), Llwynfryn T. R. Roberts (Caernarfon), Asaph D. Lloyd Jones (Dolwyddelen), Dewi Talysarn y Parch. H. R. Williams (Colwyn Bay), Eppynt y Parch. Henry Jones (Trefriw), Nefynfab Harold Rath- bone (Llandudno), Merlin Lleifiad W. O. McGaul (Trefriw), Gwilym Alban. Yn y cyfarfod cyhoeddus ar ol yr urddo, caed anerchiadau gan Mr. J. Owen y Dir- prwywr, Penllyn, Bethel (Caerdydd), a'r Parch. Wynn Davies (Bangor), a gwobrwy- wyd Perthog (Penmachno), Nansi Prysor (Trefriw), a Mrs. )R o berts (Llanrwst). SYOHED TRALL WM. 'Koedd yn y Trallwm ddydd Sadwrn fabolgampau (sports) tan nawdd y Cymdeitliasau Darbodol. Y dydd Mawrtli cynt 'roedd twrne J. W. Evans o'r Amwythig wedi apelio am drwydded i ■wertlui'r diodydd meddwol ar y niaes cystal a darpar y bwyd, ond fe wrtliodwyd. Cymaint fu'r cytlirwfl yn y dre oblegid y gwrtliodiad fel y galwyd yr ynadon ynghyd ddydd Gwener ac wedi clywed fod ysgrif- ennydd y campau ymhlaid cael y diodydd,ac fod un o'r ynadon yn colli ei gwsmeriaid oherwydd y peth, penderfynodd y fainc ddirymu eu dyfarniacl eyntaf, a clianiatau'r drwydded. O'R BALA. Does debyg i briodas ain ddeffro tref a phentref a chododd y Bala'n fore ddydd Mercher diweddaf, er mwyn cael lie ynghapel Tegid i syllu ar briodas y Parch. Edwin G. Miles, B.A., gweinidog eglwys Seisnig Spellow Lane, Lerpwl, a Miss Nance Jones, hithau'n B.A., ac yn ferch y diweddar Mr. W. E. Jones, N. & S.W. Bank, y Bala. Gwcinyddid gan y Parchn. Rd. Jones, B.A., Llandinam, aR. R. Jones, Aberffraw. Morwyn y briodferch oedd ei ehwaer, Miss Maggie Jones a gwas y priodfab oedd ei frawd, Mr. Chas. Miles, Llundain. Rhoed y ddyweddi i'w phriod gan ei brawd, Mr. W. G. Jones, N. & S. Wales Bank, Colwyn Bay a chwedi'r neithior a'r dymuno Duw'n rhwydd i'r ddau, ymadawodd y cwpl dedwydd am Lydaw i dreulio'u mis mel.—Ddydd Llun, yng Nghaer, trinid methdaliad Miss Elizabeth Mary Wynne, a ddaliai dafarn y Bull's Head. Hi diffyg ydoedd £ 24:! II a'r rlieswm tros fethu cyrraedd ei gofynion oedd, busnes bach, treuliau trymion, a dim cyfalaf wrth gefn. -0--
Cymanfa Ganu Fawr Llangollen
Cymanfa Ganu Fawr Llangollen CYNHELIR yr uchod Llun, Medi 7, o dan nawdd Cyfarfod Misol Sir Fflint, ymhabell eang yr Eisteddfod Genedlaethol. Llywydd- ion y dydd ydynt Mr. G. W. Hughes, G. a L., Mr. J. Herbert Lewis, A.S. (Is-arglwydd y Trysorlys), a Syr J. Herbert Roberts, Barwnig, A.S. Yr arweinydd yw Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. (Cantab), ac arweinydd y gerddorfa (o 80 i 40) yw Mr. Duce, Rhos. Y mae arweinyddion y rehearsals-Mri. W/T. Pencerdd Williams, G. & L., G. W. Hughes, G. & L., Sam Evans, A.C., a T. Coleshill Jones—o dan gyfarwyddyd Mr. Jenkins wedi ymdaflu. gydag ynni ac ymroddiad i baratoi v gwahanol gylclioedvi ar gyfer yr wyl, fel y mae'r brwd "I' vdedd yn codio ddydd i ddydd. Disgwylir o lcistf 5.000 o gantorion disgybl- edig o'r nifer yna daw oddeutu 1,000 o gantorion gwych y Rhos. Gwelir fod rliag- olygon am gymanfa odidog a bytligofiadwy. Dywed Mr. Jenkins y bydd yn werth dod gryn ffordd i glywed y canu, ac y bydd. yn ddat- guddiad i lawer glyw ed y fath leisiau ag sydd yn Sir Fflint, rhannau o Ddinbycli a Meirion. Fel y dywedodd un Bydd canu gwych y 'Steddfod Ion I Yn swyno llawer ar fy mron Ond beth fydd clywed lleisiau clir Cantorion mwyn Hen Gorff y sir ? Yno y bydd canu Na ehlywodd neb ei fath." Bydd tronau rliad—am single fare—yn rhedeg o'r Bala, o Ddinbvch, drwy y Wyddgrug, ac o Rhyl drwy Gaer. Argreffir nifer o docynau i'r esgynlawr, yr hon a ddeil lawn 800. Cadair am y dydd i danysgrifwyr o 5/- ac uchod; eisteddle ar yr esgyn-feinciau, 2/0 am y dydd: neu 1 y cyfarfod. Da fyddai i'r rhai a fwriadant ddod, ac eisien He dymunol ar y stage o flaen y dorf, anfon am docynau ymlaen Haw. Y cyntaf i'r felin a gaiff falu." Gellir eu cael (ond rliaid i dal ddod uyda plnb cais)—ond anfon i'r cyfei- i ul isod. Myhediad i inewn i leoedd ereill y babell yn rhad. (Parch.) J. E. DAVIES. 5 Grove, Holywell.
rMEWN | GLAN ( BRIODAS I &…
rMEWN | GLAN ( BRIODAS I & fl Fry, o'i hardd nwyfre ei hun,—anveiniwyd Rhyw Wener berffeithlun Tua'i haul-at ei heilun- A thoddi wnaeth y ddau'n un."
Yn Anfield.
Yn Anfield. UNWYU mewn glan briodas ynghapel Anfield Road, Awst 19, Thos. Edward Evans, joiner and contractor, 65 Donaldson Street, mab Mr. a Mrs. Edwin Evans (diweddar o 10 Miriam Road, Anfield), a Miss Maggie Williams, nith Mr. Hugh Williams, 126 Anfield Road, a merch Mr. Thos. Williams, Tredegar. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Owen, gweinidog etholedig Anfield Road, a chynorthwyid gan y Parch. Richard Williams, St. David's, brawd y briodferch. Daliwyd breichiau y priodfab i fyny gan Mr. S. E. Roberts, Rockfield Road a gwas- anaethwyd ar y briodferch gan Miss Katie Williams, St. David's, a Miss Katie Evans, chwaer y priodfab. Cafwyd gwledd yn 126 Anfield Road ar ol y seremoni, ac aeth y par ieuanc i Penrith am eu mis mel. Dymunwn bob 1hvyddiant a bywyd hir iddynt. Wele restr y rhoddion Mr. H. T. Williams (ewythr y bciodferch)- Cheque. Mrs. Mills (modryb)—Household Linen, Jam dish and Vases. Mr. a Mrs. Williams, Tredegar (tad a mam y briodferch)—Cheque. Mr. a Mrs. Evans (tacl a mam y priodfab)- Cheque, Eiderdown Quilt. Parch. R. Williams (brawd y briodferch)— Cheque. Miss K. Williams (chwaer y briodfercll)- Silver Cake Basket. Mr. G. Williams (brawd)—Cheque. Misses E. a M. Williams (chwiorydd)—China Teapot, Stand, and Water jug. Miss Annie a Master Emlyn Williams- Bread Tray. Miss K. Evans (ehwaer y priodfab)—Velvet Pile Tablecloth. Miss M. Evans (chwaor)-Ci-tt-gifiss Rose Bowl Mr. a Mrs. T. Williams, Spellow Lane—Toilet Set. Mr. Hugh T. Williams, Spellow Lane—Pair of Oil-paintings. Mr. a Mrs. John Thomas—Afternoon Tea Tray and Table Cover. Mr. a Mrs. Roberts, Amlwch-Photo Frame and Silver Jam Spoon. Miss Thomas, -I,lai ifaetliltt- Silver Breakfast Cruet. Misses Owen, Llanfaethi" Damask Table- cover. Mr. T. J. Thomas a'r teulu—Case of Fish Servers and Eaters. Mr. S. E. Roberts—Cheque. Mr. a Mrs. Owen Morris—Serviettes. Miss Lily Humphreys—Embroidered Pillow Cases. Mrs. Robert Roberts—Sideboard Cloth. Mr. a Mrs. Philip Jones—Sifted Sugar Scoop. Mr. a Mrs. W. Cernyw Jones—Wedgewood Biscuit Barrel. Mr. W. Evans a'r teulu, Silverrnerc-Cut- glass Salad Bowl. Dosbarth yr Ysgol Sul (i'r priodfab)J—Draw- ing-room Clock. Miss Parry—Pair of Vases. Miss Jennie Evans—Honey Jar. Miss S. Baillie-Copper Fire Screen. Miss Gertie Jones—Flower Pot. Mr. J. Williams a'r teulu, 71 St. Domingo Vale—Barometer and Hall Brushes. Mr. Jack a Miss Jenny Hughes—Oak Tray. Parch, a Mrs. T. Rees Jones—Silver Butter Dish and Knife in Case. Mr. H. Ferguson, Connah's Quay—Silver Cake Stand. Mr. a Mrs. Rd. Owen—Chinese Afternoon Tea Service. Miss S. Hughes-Pair of Silver Flower Vases. Miss Nellie Hees-Hose Bowl. Mr. Molyneux—Crumb Tray and Brush. Ei Weithwyr (i'r priodfab)—Silver Cruet. Misses Edith and Lydia Jones, Brantwood- Jelly Dish. Mr. Ernest Hughes—Music Folio. Mr. a Mrs. T. Aspin-Cheese Dish. Miss Katie Williams—Jam Dish. Mr. J. Vaughan Hughes—Bound Volume. Mr. a Mrs. W. Pritchard—Silver and Cut- glass Jam Dish. Mrs. a Misses Jones,Tancred Road—Carvers, Trinket Set. Master Jones, eto-Fruit Dish. Mr. Ernest Bellis—Table Knives.
Yn Ffestiniog.
Yn Ffestiniog. Dydd Mawrtli, Awst 18, ynghapel y Taber- nael, Blaenau Ffestiniog, gan y Parch. R. R. Morris, unwyd mewn glan briodas Miss Gwen Roberts, 61 High Street, Bl. Ffestiniog, a Mr. Wm. Williams, 20 Wylva Road, Anfield, Lerpwl (gynt o Snowden View. Llangaffo, Mon). Gwasanaethwyd fel morynion gan Miss Williams (chwaer y priodfab), yn cael ei chynorthwyo gan Miss Nancy Lloyd Jones (The Library), Winifred Lloyd Jones (Fron- oleu). a Lily Evans (5 GwenfroIl Road, Kensington, Lerpwl). Y gwas ydoedd Mr. D. O. Jones (cefnder y briodferch), yn cael ei gynorthwyo gan Mr. E. L. Evans (Llundain). Daetli cynhulliad mawr ynghyd, ac fel y sylwodd' y Parch. R. R. Morris, pawb yn ymddangos ar eu goreu yn datgan eu dymun- iadau da i'r par ieuanc. Ar o] y gwasanaeth aethpwyd i dy y briodferch. lle'r oedd dar- pariaeth gogyfer a llu o wahoddedigion. Cyn ymadael am eu mis mel ifMdn, aeth y par ieuanc a thusw o flodeu i'w osod ar fedd- rod tad y briodferch, Mr. David Roberts, er cof am un ag oedd yn anwyl iawn ganddi. Y briodferch wedi ymwisgo in Cream Silk trimmed with real Lace. empire style, with Hat of White Lace, and she carried a shower bouquet of Chrysanthemums." Daeth llu o wahoddedigion, y rhai'n yn eu mysg :—Mr. a Mrs. Morris, Mr. Richard Jones (cofrestrydd), Mr. Ivor Hael Jones, Mr. a Mrs. Jesse Roberts, Mr. a Mrs.ones (Manchester House), Mr. a Mrs. Lloyd Jones library), Mr. a Mrs. Tom Evans (Lerpwl), Miss M. E. Roberts, Miss Maggie Edwards, Miss Kate Pritchard, Miss Hughes, Mi's Gwladys Morris, Miss Morfydd Morris, Miss Annie E. Pierce. Chwareuwyd y Wedding March gan Mr. Evan L. Roberts. Pen y Garth. Lliosog iawn oedd yr anrliegion.
= Yn Bootle.
= Yn Bootle. Heddyw (ddydd Mercher), ynghapel M.C. Stanley Road, priodwyd Mr. John Davies, gynt o Downing Road, Bootle, a Miss Grace Jones, merch y diweddar Mr. Samuel Jones, 52 St. John's Road. Y Parch. Griffith Ellis. M.A., yn gweinyddu a Miss Lucy Kyffil Williams wrth yr organ. Daeth tyrfa ynghyd i ddatgan eu dymuniadau da i'r ddau dded- wydd. Bu Miss Jones yn dra ffyddlon gyda phob achos da yn Bootle, ac yn arbennig gyda Dirwest. Dedwydd fo byd y ddau, medd Stanley Road yn unllais.
--0-0 Canada
--0- 0 Canada VVELE lythyr, dyddorol i Lerpwliaid a Themlwyr Da, a anfonwyd i Mr. R. M. Pritchard, Seacombe, a ddarllenwyd yng NghyfrinfaEryriy nos o'r blaen; ac fel y byddai ar g'oedd byd pasiwydi'w anfon i'r BRYTHON:— Bodlondeb, P.O. Box 137, Lloydminster, Saskatchewan, Canada, 22/7/08. ANWYL FRAWD,—Yr wyf yn prysuro i gydnabod derbyniad eich caredig lythyr, ac i ddiolch i ehwi ac aelodau Cyfrinfa "Eryri am eich dymuniadau i mi a'm teulu. Y mae yn llawenydd i'm calon glywed am lwyddiant y Deml-y Demi y derbyniais i am flynyddau gymaint o bleser a mwynhad yn ei gwas- anaeth, ac y treuliais ran o fy oes i'w gwas- anaetliu er yn eiddil, eto gallaf ddweyd fod y cyfan yn codi oddiar gariad a gwir ddy- muniad am ddyrchafu dynoliaeth ac ennill eneidiau i garu ac i fawrygu fy Ngwartdwr. Credaf yn ddiysgog fod y Gyfrinfa yn llaw- forwyn i'r efengyl. Amcan uchaf yr Efengyl yw ennill eneidiau a chredaf fod i'r Gyfrinfa yr un amcan—nid yn unig ennill meibion a merched i ddyfod yn llwyrymwrthodwyr oddiwrth wirodydd meddwol—nid. yw hyn ond cam yn y cyfeiriad o'u hennill at Grist, a phob Teml sydd yn gwneud hyn yn uchaf- nod ei gwaith y mae yn sicr o lwyddo. Mac gwobrwyon uchaf y nefoedd yn cael eu cijiio gan y rhai sydd yn ennill eneidiau, ac y mae y safleoedd uchaf yn cael eu meddiannu gan y rhai sydd yn troi eneidiau. A'r doethion fc a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen. a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y ser byth yn dragywydd." Ie, chwydda ein gorfoledd yn y nef ci hun wrth weled yno rywrai y- buom drwy ras Duw yn foddion i'w hennill. Anwyl Frodyr a Chwiorydd, bydded emiiil eneidiau yn uchafnod eich bywyd—ennill eneidiau yn bwnc ymgysegriad eich bywyd— bydd ennill eneidiau yn nerth Duw ac yn an- rhydedd a gorfoledd byth i chwi. Da iawn oedd gennyf glywed fod ein hanwyl a'n ffyddlon ehwaer Mrs. Roberts yn gvvella. Pan y daw ainser iddi noswylio bydd ei gwobr yn fawr. Llawen oedd iawn gennj f weled eiiMau rhai o ffyddloniaid Cyfrinfa Eryri." a deall eu bod yn parhau yn ffyddlon i'r Demi- Diameu gennyf fod yna nifer fawr o wynebau newyddion, na chefais i n;o'r fraint o'u had- nabod ond 08 y eaniata Duw, y caf y fraint o'u gweled pan y deuaf yn ol i'r Hen WTlad. Da gennyf eich hysbysu fy mod i a'm teulu oil yn mwynhau iechyd rliagorol. Y mae y rhanbarth hon o'r wlad yn hynod iach, awvr bur heb ddim lleithtcr. Gwir fod y gaeaf yn lied faith, a'r ddaear oil am bum neu chwe mis wedi ei gorchuddio ag eira yr haf drachefn yn boetli, ond heb fod yn llethol. Y misoedd liyn cawn ein blino yn enbyd gan y mosquito. Buasai y rhan hon o'r wlad ym misoedd yr haf baradwys pe heb y mosquito. Y mae dwy flynedd wedi myned heibio er pan adawsom yr Hen Wlad. Tybiais y buaswn yn-cael lieddwch wedi dyfod yma., ac. yn cael gorffwys am beth amser. Chwi wyddoch nad oedd llawer o orffwys i mi yn yr Hen Wlad. Gwelais cyn pen ychydig ddydd- iau wedi i mi gyrraedd, gan fod fy iechyd yn gwelia, nad oedd dim llawer o orffwys i mi, gan hynny ymeflais mewn gwaith-ym- gymerais a thraddodi anerchiad yn y eyIeh yma bob yn ail Saboth a gweinidog y Bed- yddwvr. Y mae y gynulleidfa yn cael ei gwneud i fyny o bob enwad, a'r oil yn ber- ffaith gytun. Yr ydym yn bwriadu adeiladu cajiel newydd o hyn i ddiwedd y fhvyddyn. Yr oedd yr achos yn y cylch hwn dan nawdd Bwrdd Cenhadol y Bedyddwyr hyd Mai diweddaf, pryd y sefydlwyd Eglwys Undebol yma-y gyntaf yn yr oil o Canada. Fe fydd y baich o gario yr achos ymlaen (gan mwyaf) am beth amser yn gorffwys ar fy ysgwyddau i. Trefnir i gael gwasanaeth gweinidogion y dref trwy newid pulpud. Yr wyf eisocs wedi bod yn cynnal gwasanaeth yn yr oil o eglwysi Anghydffuriiol y dref. Yr wyf wedi ymaelodi a'r eglwys Bresbyteraidd er's petIt amser, ac mewn enw yn swyddog yn yr eglwys honno ond pan y cofiwch fy mod yn byw rhyw ddeng milltir o'r dref, chwi welwch fod yn amhosibl i mi fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd yr eglwys. Bum yn cymeryd rhan yng ngwasanaetb blynyddol y Bedyddwyr, y Wesleaid, a'r Presbyteriaid. Chwi welwch fy mod mewn llawn gydymdeimlad a'r oil o'r enwadau. Y mae i'r eglwys undebol a sefydlwyd yn y dosbarth hwn ei chvfansoddiad a'i drws yn agored i bob un sydd yn credu yn y Drindod, yn Nuwdod Person Crist, yn ei farwolacth Iawnol ar y Groes, Ei Adgyfodiad, ai dd afiad i'r Ddeheulaw, a'i Eiriolaeth. Y mae'n dda gennyf ddweyd mai swn undeb rhwng yr enwadau—Presbyteraidd. WTesleaid, a'r Anibynwyr—a glywir heddyw drwy yr oil o Canada. Penderfyniadau o'r priodoldeb i vmuno wedi eu eyflwyno yn y gwahanol Gymdeithasfaoedd. Y BedycUl wyr yn aros yn gyndyn,—fe obeithir y bydd i'r enwad parchus yma ymuno cyn hir. Cefais y fraint o sefydlu Teml amser yn 01 yn y dref. Mae yn ddrwg gennyf orfod cyd- liabod mai marwaidd yw Temlyddiaetli yn Lloydminster. Eto, mae y gweinidogion oil pleidio Dirwest ar ffurf llwyrymwrthod- iad. Bum yn traddodi anerchiad dirwestoJ yn yr oil o'r eglwysi, ac edrycliir arnaf gan y tafarnwyr fel eu gelyn pennaf. Chwi welwch, cydrhwng popetli a pliawb, fy mcd mewn llawn gwaith, ac heb ddim amser i segura. Anwyl Frodyr a. Chwiorydd. wrth derfynu liyn o litli, erfyniaf am ran yn eich gweddiau nid oes dim wedi bod yn fwy o help i mi ar hyd y daith—mordaith.fy oes, ac ar bryd- iau tymliestloedd geirwon enbyd iawn—na'r syniad fod imi frodyr a chwiorydd anwyl sydd yn cofio am danaf gerbron yr Orsedd. Llaw- er a ddichon taer-weddi y cyfiawn." S. P. CHAMBEPY.