Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Perfect Pastry .1 KEENORAl Self-Raising f FLOUR. I Pastry, Scones, Buns, etc., are I ALWAYS light in the homes where I Keenora Self Raising Flour is I regularly used. There is no other Self-Raising I Flour on the market which is JUST 1 the same as KEENORA." Try 1 it and see what a boon it is. It 1 offers I offers I Better Results without Added I Expense. M To be had from all Grocers and s Italian Warehousemen. I Sole Wholesale Agents— MORRIS <5 JONES, Liverpool
Advertising
IIL,. EATY TAILORING # T CELEBRATED MATERIALS ON OFFER FOR TAILORS "US SEASON ARE EXCEPTIONALLY BOTH IN VALUE 8 STYLE LONDON ROAD *ND WELL WORTH INSPECTION. T AIL CAREFULLY FITTED *$CHURCH ST. LIVERPOOL .c -I a BUY NOW ø a EXCEPTIONAL VALUE. JONES'S ftee Hive" Drapery Stores, R S9, 61, 63 runswick Road, Liverpool. G EDWARDS 6 tf. tSTATE AGENTS, l(il'dale Rd.. Liverpool. ^Iftphone: 2193 Royal. å.at o:a JDRIS i>le Waters Syphons and Bottles* ^^TZER WATER. ON X- LEMONADE. GINGER ALE. Etc., etc. D*l?h o., Ltd., Cumberland St., LIVERPOOL Are Your Eyes Right ? Or have you noticed some little sign that makes you suspect defects? If in doubt don't delay; don't wait until neglect has aggravated the defects. Let us test your eyes by the best methods known. Then, if you need them, we can supply Glasses that will give immediate comfort and preserve good vision. ARCHER & SONS Eyesight Specialists, 73, LORD STREET Estb. 1848. LIVERPOOL SAVE Sg CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS & SON, 221 BrecK Rd y L'pool. PIANOS AND ORGANS from 8s. per month by all the leading Telephones- J.¡ 61% AnlieJ,d I\; Breck Rd
Advertising
Saron ie's Carbon Portraits ARE PERMANENT therefore the BEST. POPULAR PRICES. Atelier, 3 LORD STREET, LIVERPOOL. Busii]es8 Hours—-9 a.m. to 6 p.m. Saturdays, 9 a.m. to 5 p.m.
OPIK
OPIK [GAN HESGIN]. YMNEILLTUWYR CYMRU A'R FYDDIN. Rhagor o atebion. YR wythnos ddiweddaf rhoddais grynhodeb o'r rhan gyntaf o'r batch atebion gafodd y Western Mail. Yn canlyn dyma ragor :— Y Parch. EVAN JONES, Caernarfon.— Nid oes ganddo ef awydd dweyd dim am lythyr Cyrnol Howard—mae'n amlwg mai ar gyfer Lloegr, ac nid Cymru, y bwriadwyd ef, medd Evan. Parch. JOHN MORGAN JONES, Caer- dydd.—Nid oes dim sail i gyhuddiad y Cyrnol, Ni chlywodd ef air erioed yn erbyn y Fyddin. Yr ydym, wrth gwrs, yn casliau rhyfel, ac yn gweddio am heddwch." Edrychwn ar Fyddin Sefydlog (Standing Army) fel drygioni angenrheidiol ond yr ydym yn deall yn ddigon eglur nad yw y Mil Blynyddoedd wedi dod eto." Prifathro EDWARDS (Bedyddiwr), Caer- dydd.—Nid jfw'r llythyr bawaidd yn teilyngu sylw, medd ef. Ni chlywodd air, &c., &c. Mae'r Ymneilltuwyr mor deyrngar a gwladgar ag unrhyw adran o'r boblogaeth, ac wedi gwneud cymaint tuag at amddiffyn eu gwlad, ac er sicrhau ei hawliau a'i rhyddid, ag undyn. Parch. O. L. ROBERTS, Lerpwi. Dywed Mr. Roberts nad yw ensyniadau Cyrnol Howard yn ddim llai nag athrod ar deyrn- garwch y mwyafrif inawr o Gymry. Dylai Cyrnol Howard wybod i dri Anibynwr Cym- reig yug Ngogledd Cymru wneud mwy nag unrhyw dri wyr ereill yn y eylch er hyrwyddo y Symudiad Gwirfoddol ( Volunteer Movement) sef y diweddar Ddr. Jones Morris, Porth- madog Cyrnol Owen Thomas o Fou a. Chyrnol Sauvage, Bangor. Mae'n wir fod Ymneillttiwyr Cymreig yn pwyso ar y pwysig- rwydd o feithrin ysbryd heddwcli ymhiith cenedloed d y byd, a phob amser yn codi en llais yn erbyn jingoism pleidiau neilltuol. Y mae'n wir hefyd eu bod bob amser wedi cael rligon. o sail i ddrwgdybio y rhai fu ynglyn a'r fyddin yn y gorffennol o lochesu ysbryd gwrth-Ymneilltuol ond nid yw gwaith gwr o safle Cyrnol Howard yn dweyd nad yw Ym- neilltuaeth Cymru wedi gwneud dim tuag at amddiffyn eu gwlad yn y gorffennol ond ffwlbri hollol, ac yn cael ei gymell gan ragfarn sect. Parch. PENAR GRIFFITHS, Pentre. Abertaive. Ei. brofiad ef yn Ne a Gogledd Cymru yw nad oes rhithyn o sail i gyhuddiad Cyrnol Howard. Ni ddywedodd ef a,ir yn erbyn y Fyddin Diriogaethol. Yr wyf fi, gobeithio, yn barod i ddioddef cryn lawer yn bersonol a chenedlaethol er mwyn dysgu'r byd mai nid y cleddyf ydyw ffordd Crist i benderfynu pethau." Os y bydd i'r Fyddin Diriogaethol feithrin ysbryd rhyfel- gar, fel y mae'n wir ofnus gennyf y gwna, a barnu oddiwrth rai pethau welais, yna fe fydd i mi ac ereill godi ein Ilef yn ddigamsyniol. Ofnaf, gan fod y byd fel y mae, nas gallwn hebgor yr hyn a alwn yn amddiffyniad cenedl- aethol drwy rym arfau. 0, na byddai gennym ddigon o'r ffydd gadarn-gref honno i roi cynnyg. Dyna fyddai'n Gristnogol, greda i. Y Parch. FULLER MILLS, Caerf yr(l(iiii. Dim sail i'r cyhuddiad ond yn nychymyg gwyllt y Cyrnol. Dywed ei fod ef yn ami yn pregethu ar destynau fel Patriotism," Love of Country," Loyalty to our Em- pire "and." meddai, since Empire Day has been established, I have always availed myself of it to inculcate the sentiments associated with nationality." lYr wyf wedi gadael yr uchod heb e1 gvfieithu am nad wyf yn sicr a ydyw Mr. Mills yn golygu yr un peth wrtli Patriotism" ag a olyga y Cymro wrth "Wladgarwch." Fel rheol, 'does fawr o berth ynas rhyngddynt.. "Patriotism," meddai Dr. Johnson, is the last refuge of a scoundrel and judging by the samples I've seen, I'm inclined to believe him. Ter- fyna Mr. Mills ei lythyr gyda'r paragraff tywyll-- (ae i iiii--) -anarngyff redadwy canlynol.-I THE sane man can but wish that the necessity for war should cease on the other hand, no sane man. above all a minister of the Gospel, can, in the present state of civilisation and aspirations of nations springing to the front, but feel that Britain's safety is in a strong Army and Navy, subject to the 'rightcousness that exalteth a nation.' I am in favour of Mr. Haldane's experiment, and would be glad to render any service in my power to make it effective. Colonel Howard will do no good to himself or his cause by a foolish attack on Nonconformists." Y fi bai'r italics. What on earth is he driving at ? Parch. H HARRIS HUGHES, Caernarfon. —Dim gwir yn y stori. Awgryma ef fod Cyrnol Howard mewn dyryswch meddyliol, a'i fod yn camgymeryd yr ysbryd milwrol am deyrngarwch i'r deyrnas a'r ddyledswydd i sicrhau ei hamddiffyniad. Yn erbyn y blaenaf, sef yr ysbryd milwrol, nis gallwn ni lai, fel gweinidogion, na chodi ein Ilef, medd Mr. Hughes ond yn erbyn yr olaf ni chlyw- ais yr un gweinidog Ymneilltuol yn pregethu. Nid ydym yn ol i neb yn ein cariad at ein gwlad, a'n teyrngarwch iddi, ac yn ein hawydd am i bob moddion gael eu cymeryd i sicrhau ei hamddiffyniad rhag ymosodiad. O'i ran ei hun, edrych Mr. Hughes ar ryfel fel "drygioni angenrheidiol" (nee. essaryT evil). Fel yn angenrheidiol," edrychwn arno fel dyledswydd ar bob dyn i. gymeryd ei ran o'r gwaith o amddiffyn ei wlad a, gwarchod ei hawliau ond fel yn "ddrygioni," ceisiwn bob amser berswadio pobl i dderbyn egwydd- orion heddweh a brawdgarwch ymhlith pobloedd a chenhedloedd, fel y dyneso'r dydd pan y byddo i bechod ercliyll ac ynfyd- rwydd rhyfel ddarfod o'r tir. Parch. CHARLES DA VIES, Caerdydd.— Dim sail i'r cyhuddiad a ddygir yn erbyn ein gweinidogion. Wrtli gwrs. yr ydym ni, fel pob Cristnogion ereill, ynjjcashau rliyfel ac yn gweddio am heddwch. Ond yr ydym yn cydnabod yr angenrheidrwydd i gymeryd mesurau priodol i sicrhau amddiffyniad ein gwlad, a. hynny am yr un rheswm ag yr ydym yn cloi drysau'n tai'r nos. Parch. FRANCIS JONES, Abergele.— Fe ddywedwch fod cyhuddiad Cyrnol Howard yn cael ei wneud ynTfynnych gan ereill. Rhaid i mi gyfaddef na chlywais i mohono erioed o'r blaen ac nis gallaf ddirnad o b'le y cwyd o. Fel trigiannydd, fel tinnau, yn Nyffryn Chvyd, fe ddylai fod yn gwybod gwell petliau. Cyn ysgrifennu i'r Times i gyhuddo'r gweinidogion Ymiieilltuol o gario ymlaen groesgad ddibaid yn erbyn y fyddin, gallesid disgwyl iddo holi ei gym- dogion Ymneilltuol beth yw y gwir. Yr wyf fi wedi bod yn ngweinidogaeth y Mcthodist- iaid Calfinaidd am 53ain mlynedd, ac er fy mod yn edrych ymlaen at yr amser pan na ddysgont ryfel mwyach," ac yn gweddio am dano, ni ddywedais air erioed yn erbyn i ddynion ieuainc yniuno a'r fyddin ac ni chlywais air i'r cyfeiriad hwnnw gan yr un o'm brodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd aelodau o'm heglwys i yn perthyn i'r Gwir- foddolwyr yn Abergele hyd nes y dadfyddin- wyd y corff. Fe allech farnu yr olwg gymer y Methodistiaid Calfinaidd, ar y cwestiwn oddiwrth y ffaith fod dau o'n gweinidogion mwyaf adnabyddus yn barod yn gaplaniaid yn y Fyddin Diriogaethol, a bod amryw o'n diaconiaid yn egniol o'u plaid. Mae gwaith Cyrnol Howard yn eithrio y Wesleaid, ymliellach, yn dangos cyn lleied wyr ef o'r gwir ffeithiau. Parch. W. THOMAS (Whit.land).Does dim gwir yn y cyhuddiad. Mae Mr. Thomas yn tafodi y Cyrnol yn heger i'w ryfeddu, ac yn gofyn iddo dynnu ei eiriau'n ol. Parch. ROBERT THOMAS, Glandwr.— Y mae.ef yn sicrhau'r I Western Mail na ddarfu iddo ddweyd gair yn erbyn y Fyddin Diriog- aethol nac arall, a dyna'i gred am ei gyd- weinidogion. Y mae wedi pregethu lawer gwaith yn erbyn rhyfel, ac wedi gweddio am wawriad y dydd pa na chwyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl," &c. Ond hyd nes y delo yr adeg honno, cred mewn gwneud y para- toadau angenrheidiol tuag at amddiffyn ein gwlad. Parch. RHAGFYR JONES, Treorci.— Mae ef bob amser wedi cefnogi darpariaeth ddigonol, &c. Ni chlywodd air gan ei gyd- weinidogion yn erbyn hynny. Cred hefyd ei fod yn cynrychioli barn y mwyafrif, os nad yr oil, of my poeple." My people Thought 1 heard somebody echo My School Parch. MORRIS MORGAN, Abertawe.— Mae ef yn dweyd yn emphatically nad wyr o ddim am y ceaseless crusade. Mae ynta.u yn elyn rhyfel, ac yn gyfaill heddwch-ac yn credu mewn gwneud darpariaeth, &c. Parch. D. J. NICHOLAS, Pontypwl.- Nid yw gweinidogion Ymneilltuol Cymru yn pregethu yn erbyn y fyddin. Maent yn gwerthfawrogi i'r eithaf fanteision y scheme filwrol newydd, ac fe roddant iddi eu cefn- ogaeth galonnog. Pe buasai y Cyrnol yn gwneud ymholiad ymysg y gwyr o dano, cawsai allan fod cyfran helaeth ohonynt o haniad Ymneilltuol. Ceid gwell dealltwriaeth rhwng yr Ymneilltuwyr a'r Fyddin pe y cynierid y corffluoedd i'r Eglwys a'r Capel bob yn ail. Nis gallai cael arwyddlun Cymru ar y faner genedlaethol hefyd lai nag apelio at Ymneilltuwyr a gwladgarwyr (patriots) Cymreig ereill. Mae Ymneilltuwyr Cyniru yn y gorffennol wedi cymeryd eu rhyddid i feirniadu a phrotestio pan ddefnyddid y fyddin i amcanion anghyfiawn. Hwyrach fod effaith eu gwaith yn beirniadu achosion y Rhyfel yn Ne Affrig yn aros yng nglilopa'r Cyrnol hyd heddyw. [Pa faint o farnu ac yanosod ar y Rhyfel yn Ne Affrig fu gweinidogion Ymneilltuol Cymru yn euog (?) ohono ? Pur 'chydig, os nad wyf fi yn camgofio yn ddychrynlIyd. J Os byth y daw dydd pan y bydd yn angen- rheidiol i ni amddiffyn our Empire, medd Mr. Nicholas, mae yn sicr mai un llais glywid o bulpudau Ymneilltuol Cymru. Parch. H. EYNON LEWIS, Bryncethin.— Tebyg i'r gweddill yw ei Atebiad yntau. Dim gwir yn y cyhuddiad o blaid heddwch rhwng cenhedloedd yn crbyn meithrin ysbryd milwrol ymysg ein bechgyn Cyrnol Howard ddim yn adwaen Ymneilltuaeth Cymru. Parch. H. M. HUGHES, Caerdydd. Gwyr ef fwy na Cyrnol Howard am ineiiii- dogion Ymneilltuol Cymru. Dim gwir yn y cyhuddiad. Eddyf fod rhai gweinidogion yn dal syniadau pur gryfion argwestiynau arfogi a rhyfcl, ac vmddengys fod Cyrnol Howard wedi dod ar draws rhai ohonynt ond ynfydrwydd neu waeth ydyw tynnu casgliadau cyffredinol oddiwrth yr eitliriadau. Y mae gennyf, medd Mr. Hughes, dan fy mugeilaeth aelodau ydynt yn Wirfoddolwyr. Hawlia gweinidogion Ymneilltuol eu bod yn gorff o ddynion mor wladgar (patriotic) a'r swyddogion sydd yn gwisgo uniform y Brenin, and I, for one. indignantly resent the offensive innuendo of Colonel Howard's letter." Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsicncyn.— Cyhuddiad Cyrnol Howard yn hollol ddisail. Yr wyf yn hyddysg yng Nghvmru drwyddi draw, ac yr wyf bob wythnos yn gwrando amrywiol bregethwyr yn y gwahanol sir- oedd, ac ni chlywais gymaint a. gair yn cael ei yngan yn erbyn y Fyddin Diriogaethol. Ac iii chlywais am unrhyw weinidog yn pre- gethu croesgad ddiijaid yn erbyn y cyfry w.; Cyn belled wg y gwn i am yr Eglwys y pertij^'naf iddi, mae Methodistiaid Calfin- aidd Cymru yn barod i gynnal a eliefnogi tymeryd y moddion angenrheidiol tuag at sicrliau amddiffymad cenedlaethol, in- cluding the maintenance of the Territorial Army at the strength and efficiency deemed necessary by our military and political advisers." [Fe welwch oddiwrth y frawddeg olaf yna fod Mr. Williams yn whole-hogger. Nid yw ef am fynd i foddro ei ben i bender- fynu a ydyw hyn a'r Hall yn angenrheidiol dim ond i'n military and political advisers ddweyd y gair "Ours not to reason why" &c.] Mr. S. N. JONES (Methodist), Newbridge, Mynwy.—Cred ef mai esgeuluso rhoddi i weinidogion Ymneilltuol eu cyfiawn ran o'r caplaniaethau yn y gwrasanaethau milwrol, ynghyda'u ffydd yng ngallu yr efengyl—(pan gaffo chwarae teg)—i hyrwyddo heddwch rhwng teyrnasoedd, mae'n debyg, ydyw y rhesymau nad ydynt yn feddiannol ar yr ysbryd jingoaidd ag y mae Cyrnol Howard yn ei ddymuno mewn dull mor bifis. Yn ystod 35ain mlynedd ni chlywais air, &c. Pe delai angen am amddiffyn ein gwlad, nid atebai neb yr alwad yng nghynt na mwy calonnog nag YmneilItuwyr Cymru. Parch. S1LYN EVANS, Aberdâr.-M-;e'n amlwg nad yw Cyrnol Howard yn deall neges p a chenhadaeth Ymneilltuaeth, na gwir ystyr Cristnogaeth a thelerau ei llwyddiant. Edrych ef ar Weinidogion Ymneilltuol fel Cyrnols, ac ar yr eglwysi fel baricses. Mae clweycl nad yw Ymneilltuaeth yn y gorffennol yng Nghymru wedi gwneud ond ychydig tuag at amddiffyniad y wlad yn gofyn deffiniad. Mae amddiffyn i Gyrnol Howard yn derm milwrol, ac am hynny y mae yn ddall i egwyddorion y gwirionedd, ac i ysbryd Crist o fewn y bobl fel mesurau o amddiffyniad cenedlaethol. Nid yw'r gweinidog Ymneill- tuol yn glerigwr mewn Eglwys Sefydledig drwy gyfraith, ond yn weinidog eglwys rydd. Cred ef mewn dynion o gymeriad a ffydd yn Nuw, ac nid mewn cyrnols a chadfridogion, a bod" amddiffyniad ei wlad yn fwy mewn dynion da, nac mewn byddinoedd da wedi eu hyfforddi ar gyfer gwaed a than. Eddyf Mr. Evans fod cryn dipyn or ysbryd milwrol i'w gael weithiau yn yr eglwysi Ymneilltuol, ac yn ail eu bod yn cael eu cythryblu weithiau gan ddadleuon o blaid ac yn erbyn rhyfel yn ei gwahanol ffurfiau ac yn drydydd fod yr Eglwysi Ymneilltuol wedi gwneud mwy ar ran y fyddin ac er mwyn national defence na llawer o'r professionals sydd yn eu cam-