Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

WEDI GWRANDO LLEW TEGID YN…

66T ROAD Y RHOD."

YSTAFELL Y BEIRDD

Y LLWYBRAU CEIMION.

CROESAW, WANWYN.

MEWN BEDD MAE'N BUDDUG.

--0----OlBEN CYRN Y BRAIN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0- OlBEN CYRN Y BRAIN tJIPRYS Y PASG.-Cyngerdd prawf a fu gan Wesleaid Penybryn, Mwnglawdd, dydd Llun y Pasc. T. Williams, Y.H., Tanybryn, yn y gadair Jos. Edwards, Y.H., y Fron, yn barnu'r canu a Phencerdd Gwynfryn wrth yr offeryn. Fel hyn yr enillwyd Unawd her, Tom Morris, Brymbo, a Jos. Williams, Coedpoeth, yn gydradd. Her-unawd i ferched, M. Carrington, Gwynfryn. Unawd soprano, Gwladys Hooson a --— Taylor, Southsea, yn gydradd. Tenor, J. Davies, y Rhos. Baritone, Ap lolo Ddu, Coedpoeth. Unawd i blant, Sarah E. Thomas, Coedpoeth. YN NERCWY8, yr un dydd, enillwyd fel y canlyn Parti Cymysg, E3, Parti Bwlch- gwyn, tan fatwn Will Roberts, Hen Giat. Baritone, David Jones, Llanfynydd. Araith ar Dy'r Arglwyddi, nes ei chwalu, R. J. Jones, Glanllyn. Araith ddifyfyv, darllen darn heb nodau, a chyfieithu, R. J. Jones. Myfyr Machno, o ger y Wvddgrug, yn arwain Humphreys, Plas Beinion, yn tafoli'r cantor- ion a'r Parchn. E. Jones, Sychtyn, a Garnon Owen, Llanarmon, y testynau lien. Y Ile'n orlawn, a'r ffau boethaf y bum ynddi fawr erioed. YNG NGHOEDPOETH, nos Sul y Pasc, clywid pedwar ugain o leisiau c6r yn canu Croeshoeliad Stainer, Gorfjenwyd (gwaith y diweddar Thos. Jones, Canrhawdfardd), Teilwng yw'r Oen Handel. Y cor tan arweiniad R. E. Jones, mab Canrhawdfardd, ac ynddo bigion lleisiau'r ardal. Yn canu'r prif ddarnau ceid Miss M. Carrington, Ap lolo Ddu, Jos. Williams, Robt. Owen, Win. Rees, Philip Warne, A. Evans-Woodward, a T. Jones. GWYR GWADDWesleaid New Brighton (sef ein New Brighton glofaol ni wrth droed Cyrn y Brain yma) i'w cwrdd pregethu y Sul a dydd Llun diweddaf, oedd J. LI. Jones, Llan Rhaiadr E. 1. Humphreys, B.A., Llansilin; a W. R. Roberts,Gwrecsam. Cyflym liosogi y mae gwyr y graddau gyda'r Wesleaid yr oes hon. A GWYR GWADD TALWRN (A.). Coedpoeth, yr un dyddiau, oedd D. LI, Morgan, Pontardulais, a S. Thomas, New- market. AR GIP YNGOLE'R LLUSE.HN.-Nos Iau ddiweddaf caed darlith ar Ganrif o waith Cymdeithas y Beiblau," gan y Parch. W. R. Roberts, Gwrecsam, yn Salem (A.), Coedpoeth a W. H. Jones, yn dangos y lluniau yn ddeheuig ar y gynfas lian gyda'r llusern. Y Parch. R. Evans y Nant yn y gadair, ac I. Roberts ac R. Bellis yn diolch troa y cyfarfod am y wledd. GY WEI RIO REHOBOTH.—Y mae Re- hoboth, addoldy Wesleaid Coedpoeth, yn cael ei adgyweirio a'i ail bincio drwyddo a chwedi y gorffenner, diau y bydd yn un o demlau harddaf Gwlad Faolor. Yn ystod y pincio, addolir yn Neuadd y Plwy, DYDDIADUR PUR LAWN sy gan Pencerdd Gwynfryn, ein beirniad canu ieuanc o Goedpoeth. Dyma rai cyhoeddiadau beirniadu sy yn ei ddyddiadur Eisteddfodau yn Nant Mawr, Llynclys, Caerwys, Llanfair D.C., y Cymau, &c. Un rheswm ei fod yn cael ail gyhoeddiad ydyw ei ddull mwyn, diym- lirost o ddangos ei wybodaeth. YR ERYR.