Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithosfo Porthaethwy.

CYMRY'R DISPEROD:

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R MOELWYN I'R GOGARTH. [Can GWION BACH.] Y GWE JJIA'R OA DAIR. — Dymunol gennyf gymeryd hamdden a chyfle i longyf- arch Mr. Owen Jones, Dolawel, a phrif Or- uchwyliwr Chwarelau Oakeley, neu fel yr adwaenem of oreu yn awyrgylch y Steddfod Fawr ystalwm, Pant-yr-Hedydd, ar ei ad- gadeiriad eloni eto ym Mwrdd Undeb y Pen- rhyn. Nid oes amheuaeth ym meddwl a rhai na chyd-olygent ag ef ar bob pwynt, nad yw y ddawn i gadeivio wedi ei hestyn iddo gan. law Natur. TAN G W 111 WJJ. Er nad difyr y gorcliwyl o ymhel a chymylau, nis gallaf osgoi cyfeirio at y cwmwl ddringodd i awyrgylch amgyleh- iadau Ffestiniog nos lau ddiweddaf, oiid ni fydd iddo arllwys ei gynhwysiad ar ein pennau am tua mis eto. Cyfeirio yr ydwyf at y rliybudd a gafodd trichant a rhagor o woithwyr Oakeley, y byddai yn rhaid eu hatal ymhen y mis. Hwyrach y tyrr gwawr o rywlo, ac mai yr awr dywyllaf yw'r agosaf i ddydd. GWILYM YN ("WLA. hysbyswyd vn swyddogol nos Wener, fod Gwilym Allt- wen yn gwla tua Phenbedw yna., ac nid oos gennyf ond eidduno y gwawria hyfryd fore adferiad ar ei ben hardd yn fuan, a dilys gennyf fod llu yn ei hen fro yn cytuno a mi yn hyn o beth. (JYNGERDD TAN GAM I'. Dyna yn wir a gafodd y Cor Merched nos lau ddiweddaf yn neu add y Blaenau, pryd y cadeiriai Richard Barton, Cartre, dyna i chi batrwm o enw ty, a hynny gan Sais pur. Dim ond gair fel yna wrth fyned heibio. Cynorthwyid y Cor gan Miss Lewis, o Senghonydd, yn dra effeithiol. Canai'r cor, a'r corau ran hynny, wrth ein bodd, ond digwyddodd anffawd gyda chadwen alawon yr Isallt, fel mae gwaetha'r mqdd, er na ddigwyddodd dim dinystriol iawn,'g well fuasai y gadw en yn gyfa- Nid oes gennyf ond dymuno'n dda i'r Cor a'r arweinydd, Mr. Tudor Owen, nid wyf yn cofio'r wyddor sydd ar ol ei onw, ond pa raid ategu derwen a chorsonnau brwynMiss Owen-Davies a redai'n esmwytli tros dannau'r berdoneg. AM WYNFYD Y GYMANFA. .Soniai llawer am hynny yr wythnos ddiweddaf, gan mai dydd Sadwrn y cynhaliai Anibynwyr y cylch eu Cymanfa Ganu flynyddol yn Jerusal- em, y Blaenau, o dan fatwn yr hen arweinydd clodfawr, Mr. Cadwaladr Roberts, a phe chwilid o Fon i Fynwy, ni fuasai eisieu ei well. Cafwyd canu effeithiol ac addoliadol, fel y sylwai rhywun. Miss Owen-Davies a ganai yr Organ, ac yr ocdd yn gan i gyd. Cymanfa ragorol oedd hon. BILYN YN DJJYN Y DI)OL. -Yji Nol- yddelen, yr oodd Mr. Silyn Roberts, nos Sadwrn, yn annerch ar y pynciau sydd wedi dwyn ei galon, i lonni yr Eloniaid. Ni raid synnu fod arddeliad ar y genadwri, ac fod y gwrandawyr yn cymeryd y cwbl i mewn, a gobeithio y gwna ddygyxnod a hwy yn yr amseroedd celyd yma. Gwasanaethai'r gwr parchedig ym Moriati y Sul hefyd. YR HEN-HANES.Cyiilialiai Anibyn- wyr y Bettws eu gwyl bregethu ddydd lau diweddaf, pryd y traddodwyd yr Hen Hanes gyda newydd-deb He arddeliad gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llanelli, a John Hughes, o'r Blaenau. HEIRDD ARWYR 0 GERDD0R10N. Dymuna y dyffryn o ben i ben longyfarch dau o'i gorddorion ar eu llwyddiant diwoddar oil, set Mr. Josef E. Jones, o Gonwy, yr hwn a gipiodd y wobr am gyfansoddi rhangan yn v Fenni, a Mr. D. R. Jones, gynt o'r dre, yr hwn a gipiodd ddwy or prif wobrau nos Sadwrn, mown Eisteddfod yng nghyffiniau dinas y BRYTHON. SYR HERBERT.—Y nos or blaen, talodd Syr Herbert Roberts, Marchog y Sir, ymwel- jad ag Eglwysbach, a chynhaliwyd cwrdd oJ I llewyrciius er ei fwyn. Sonir am lu o gyrdd- J au ereill a gynhelir ar hyd a lied y dyffryn gan. Apostolion Masnaeh Gaoth, ond y mae brcn- hinbren Rhyddfrydiaeth wedi gwreiddio yn rhy ddwfn yn naear y wlad hon i'r math yma o awelon siglo dim ar oi frigau, ond ni wna tipyn o storm etholiadol uurhyw niwaid iddo, ond par iddo ymgadarnhau fwy-fwy. CYRDDAU DARP AR.-Prysur iawn yw Anibynwyr pen isaf y dyffryn wedi bod yn darpar ar gyfer eu Cymanfaoedd. Mawr ganmolai Mr. J. P. Griffiths o Gonwy v. aith y cantorion yn y gwahanol eglwysi. BE WRION DIR WEST. Cyuhalivvyd cyd-gwrdd dirwestol y nos o'r blaen yng nghapel Broad Street, y Gyffordd, o dan nawdd IJndebau y Ffordd Haearn a Merclied Gwynedd, yr hwn, meddir, oedd yn gload ar y tymor. Beth yw ystyr hynny ? ond mae'n debyg fod amser i weithio ac amser i beidio gyda'r Gymdeithas hon, fel cymdeithasan ereill. GWYL FA[.—Ddydd Mawrth nesaf y dethlir yr wyl hon yn Llandudno, ac y mae darpar mawr ar ei chyfer, fel ag y gellir gwyl na bu ei bath yn y dref hon.

Advertising