Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Draws Mon ac Arfon.

CYMRY'R DISPEROD.

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

--.--0--'---Seren Llanfyllin.

LLENYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLENYDDOL. YR YMWELYDD MISOL.—Yn rhifyn Mai, crynhoir hanes deuddeng mlynedd a deu- gain Atlu'ofa'r Bala i lith ddyddorol gan J. T. Alun Jones, a cheir gyda hi lun da o'r ddau bennaeth presennol—y Prifathro Ellis Edwards, D.D. a'r Is-brifathro Hugh Will-- iams, D.D. Nyddwr stori da ydyw X, a'i bennod y tro hwn yw Cau Porth Ufieru." 4- Wele rai o amryw bethau dyddorol sy yn Y CERDDOR am y mis hwn :—Gan Emlyn Evans "Gwilyrn Gwent fel anthemydd a "Naturoldeb a symlrwydd." Gan Mr. D. Jenkins Trem ar feirniadaeth a rhediad cerddoriaeth," "Ieuan Gwyllt fel bardd," a Hugo Wolf." Ceir anthem (solffa) Ti wyddost, Arglwydd (Henry Purcett), a chydgan, Nertli fy Nuw," (o Joseph, Handel.) CYMRY'R PLANT,Does ond da i'w ddweyd am rifyn Fbrill, megis pob rhifyn or cyhoeddiad diguro hwn. Wele'i ysgrifau a'u teitlauMwynion Mai. Iber. Plant yr Ucheldiroedd. Yn Llys y Pegdopiaid. Congl Mynwent Enwog. Ymweliad Jenny Lavinia. Lie huna'r Ficer. Plant Niwbwrch. Aim Griffiths a Bywyd Cymru, &c.

Advertising