Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Draws Mon ac Arfon.

CYMRY'R DISPEROD.

O'R MOELWYN I'R GOGARTH.

--.--0--'---Seren Llanfyllin.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- Seren Llanfyllin. Y MAE Mr. Clement E. Davies, mab ieuengaf Mr. Moses Davies, Llanfyllin, wedi rhoi maen clo gweddus a theilwng ar yrfa addysg delis- glaer tu hwnt drwy ennill y dosbarth cyntaf yn arholiad terfynol y Gyfraith am y Bar. Heblaw hynny, y mae efe wedi- ennill yr anrhvdedd a chwenychir gymaint, sef y Dystysgrif Anrhydedd a roddir gan Gyngor Addvsg Gyfreithiol, ynghyda'r wobr o £ 50 rhodd Cymdeithas Anrhydeddus Lincoln's Inn. Y mae Mr. Davies yn B.A. a III.D. Caergrawnt, a gyrfa o Iwyddiaiit di-dor a fu ei dair blynedd a,riiosiad yn y Brifysgol honno. Ymhob un o'r tair blvnedd, onillodd anrhyd- edd y dosbarth cyntaf yn Arholiad y Tripos efe oedd senior scholar Trinity Hall ac wrth adael ei goleg, dyfarnwyd iddo'r Law Student- ship. Buan y dilvnwyd hyn gan ei benodiad yn Ddarlithydd ar y Gyfraith ym Mhrif ysgol Aberystwyth—swydd a roes i fyny yn ddi- weddar er mwyn ymgydio a'i efrydiau gogyfer ag arholiadau'r Bar. Ac yn y rhai hyn eto, parhaodd ei lwyddiant yn ddifwlch. Y mae Mr. Davies yn aelod o Lincoln's Inn, ac ymddengys ei enw ar restr y galwedigion i'r Bar y tymor hwn. Y mae Llanfyllin yn falch odiaeth o'i seren, ac yn sicr y dw g hi lawer o glod a goleuni i Gyrnru a Maldwyn maes o law.

LLENYDDOL.

Advertising