Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

"TROAD Y RHOP." ..

YSTAFELL Y BEIRDD

---FY MRAWD.

" MAE DYN YN FLAIDD I DDYN."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAE DYN YN FLAIDD I DDYN." (Diareb Ladinaidd). Nid oes ond amser ddengys pa beth yw dyn yn llawn Fel aur i'r pair fe'i bwrir er profl'i werth yn iawn; A ddarfu iti synied y gweniaeth fedd y byd- Fod peth o'r oen,ond mwy o'r blaldd.ynghalon dyn o hyd Mae llawer un dan gochl brawdgarwch eto'n bod, Gall wenu yn dy wyncb, a'th g'roni gyda chlod El ddagr llym a gladdai i'th galou di dy hun, A gwir yw'r hen ddiareb-lod dyn yn flaidd i ddyn. Adwaena13 rai gychwynent eu gyrfa dan y rhod, Tylawd ac egwan oeddynt heb allu-pur ddiuod Ond unwaith y sangasant eu traed ar ysgot Ilwydd, Anghoflwyd tro caredig, a ffwrdd a hwynt yn rhwydd, Hwy aethant yn hustungwyr, a phrofais inau'r loss, A nythle seirph gwenwynig fu'u calon drwy eu lioes Ac er im roi hyfforddiant ac addysg i bob un, Ces waddod yn fy nghwpan, a dyn yn flaidd i ddyn. Po fwyaf yw brawdgarweh, mwy yw'r peryglon ddaw, Fel Jael ar ddysgl eui-aidd, la'r hoelen yn ei llaw Mae gweniaeth yn beryglus, fel sarph yn gyfrwys yw, A'i phryd fel cadwyn emog i ddenu dynion byw. Ond colyn gedwir ganddi, daneddog yw ei safn, A lleibia waed dy galon i fyny bob yn ddafn Os chwilir am wir gyfaill, mae'n anhawdd canfod un, A'n proflad ddwed yn hyglyw fod dyn yn flaidd i ddyn. Po fwyaf awn i chwilio am gyfaill yn y byd, Mil pellach cawn fod hwnnw o'n golwg ni o hyd; Mae fel aderyn swynol a'i gathl yn y coed, Ond wrth im' nesu ato a ymaith yn ddioed Os daw rhyw brofedigaeth i'n rhan tra ar y llawr, Unwaith y daw i'w glustiau, A ffwrdd ar funud awr A cheisio'i ddal sy'n ffoledd, ymhell mae'r cyfaill cun, A'n trallod ddwed yn eglur fod dyn yn flaidd i ddyn. Ali welais lawer meistr, ar hyd fy ngyrfa faith Yn codi ambell fachgen a'i gychwyn ar ei daith Fe'i gwnaeth ag e'n gydweithiwr, ond dyna fel bu'r ffawd, Yr hogyn ai'n gyfoethog, a'i feistr da yn dlawd Ond nid trwy rym gonestrwydd y casglodd aur y byd, Ond trwy ladrata arian ei feistr ar bob pryd A throdd yr holl oludoedd yn gyfan iddo'u hun, A llais Uofruddiog waedda fod dyn yn flaidd i ddyn. Er edrych i'r holl gylchoedd a fedd y ddaear gron, 0 hanes byd yn foreu hyd at yr adeg hon, Mae nwydau yn y galon fel nadroedd yn y tir, Na ddeuant byth i'r wyneb ond yn yr heulwen glir Ymblethant a dirwasgant, a'r enaid wnant yn friw- A'r hunan ddaw i'r golwg yn ddengar iawn ei liw Rhaid tagu Ilais cydwybod, a herio Duw ei hun, Ac felly maent yn llwyddo-Mae dyn yn flaidd i ddyn. 0 dan fy mhwys ymholais, ai tybed nad oedd brawd Ar wyneb creadigaeth a ddeil y dyn tylawd ? Wrth ddal fy ngafael weithiau mown ambell gyfaiU cu, Mi ges nad ydoedd hwnnw o'i fenvii ond diafol du; Edrychais tua'r nefoedd, a'm calon oedd yn drist, A llais ddaeth uddiuchod, Mae Un, sef Iesu Orist Efe a lyn yn ffyddlon, mae'n well na brawd ei hun, A'm henaid orfoleddodd fod Crist yn ddyn i ddyn. DERFELOG.

" YR ARGLWYDD A GYFODODD !…

-7 Y FFURFAFEN.

AR OL DERBYN SYPYN 0 LYFRAU…

HEN GYFEILLION.

Colofn Prifyspol Lerpwl.

Advertising

E3G YN I SEION.