Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
mae Cymro yn gadeirydd yr…
mae Cymro yn gadeirydd yr Undeb Jg Yr Eisteddfod. Hysbysir fi gan ysgrifenyddion yr Eisteddfod Genedlaethol fod nifer fawr iawn o gvstadleu- wyr ymhob adran. Dichon nad anyddorol fyddai'r rhestr a ganlyn o'r nifer ar y gwahanol destynau yn yr Adran Lenyddol. Y gadair 21, y Goron 0, Cywydd 5, Bugeilgerdd 3, Myfyrdraith 9, Telynegion 8, Pen.hi.Uior> ar fesur Triban Morganwg 2, Baled 6, Englyn 89, Hir a Thoddeidiau 8, Drama 5, Ymddiddanion Dychmygol 2. Traethodau :Cyinry yn Rhyfel y Rhosynnau 8, Y Myddletoniaid 5, Bywyd Cymdeithasol y Mabiniogon 8, Lien Gwerin Maesyfed 2, Llawlyfr 2, Carolwyr a Charolau 1, Y Jacobeaid Cymreig 1, Enwau Lleoedd yn sir Fflint 6. Nofel 5, Mynegiad i Lenyddiaeth Gylohgronol Cymru 2, Bhestr o Ddarluniau a gweithiau celfyddydol Cymreig yn Llundain 3. -0-
Gyda'r Clawdd,
Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd Offa- fGAN MORGAN LLWYD], C Y MO D WYNNSTAY.—-Llawen iawn ydyw clywed fod y bygwth streic ym mhwll Wvnnstay wedi darfod, ac fod gobaith na chwyd yr hen helynt hon rhwng Undebwyr ac Anundebwyr ddim eto yn yr ardal. YSOOL PEN YCAE.Llwytldiant mawr ydyw hanes ysgol ddyddiol Penycae. 'Does fawr er pan y'i hagorwyd ond y mae eisoes yn rhy fechan, a bydd raid ei helaethu. Mae yr adeilad yn iin hardd a thwt ac ynghrog ar ei fnriau oddifewn ceir lluniau llawn-hyd o'r Parch. W. R. Joy) es a Mr. W. G. Dodd, Y.H. A'r dydd o'r blaen, cawsant globyn o lun hardd y Mauretania yn rhodd gan ei llywydd, y Capt. Pritchard. CAPEL Y GROES, PENYCAE.—.Ddydd Mercher diweddaf, cafodd Methodistiaid Capel y Groes eu gwyl de flynyddol, gyda chyngerdd yn yr hwyr i berfformio cantawd Yrngorn yr Adar, y cor tan arweiniad S. Ed- wards Sam. Evans a Jonathan Jones wrth yr offerynau a'r gwahanol adar yn cael eu cynrvchioli gan gantorion lleol. 'Roedd y canu a'r actio yn ckla odiaetli o'r dechreu i'r diwedd a derbyniwch bluen clod Morgan Llwyd am eicli gwaith a'ch llafur, gyfeillion. AM Y GYFRAITH.-Y mae Isaac D. Hooson, ysgrifennydd Cymrodorion Gwr- ecsam, a mab y diweddar Edward Hooson hvglod a hybarch o'r Rhos, a'i fryd ar gym- hwyso'i hun yn gyfreithiwr. Gadawodd y Rhos am Lundain yr wythnos ddiweddaf i'r aracan hwnnw. Mi a glywais englyn i gyf- reithiwr ond y mae o yn rhy gelwyddog ac onllibus i'w gymhwyso at lane gonest fel y ti. Dringa'n fargvfreithiwr,-—ac yn Farnwr y Fainc os mynni. P'NAWN SUL BETHLEHEM.—Yn llwyddiant mawr, mi a glywaf, y profodd y cyfarfod o ganu ac adrodd ac anerchiadati a gafwyd ynghapel Anibynol Bethlehem, y Rhos, wythnos i'r Saboth diweddaf. Nid rln-w efelychiad o sucan merfedd ac arwyneb- ol y Xawn Sul Difyr y Saeson ydoedd ond cyfarfod swynol a sylweddol, heb ddim gostwng y safon i gyfarfod yr isel eu bias a'r gwamal eu calon. GADAEL YR ORGAN.Wedi bod yn organydd Capel Mawr y Rhos aniftynyddaii, dyma Dan Evans yn ymddiswyddo, a merch, sef Laura Pritchard, yn camu i'w le. Codwr y gân yma ycl:yrw'r diguro G. W. Hughes, G.&L CYWIIW GWALL.-—'Roedd gwall yn fy nodyn yn y Bryttion diweddaf am Sasiwn Plant yr Adwy. Arweinydd y rihyrsals ydoedd Win. Jones, y Beehive, Coedpoeth arweinydd y Sasiwn ydoedd G. W. Hughes a'r Parch. R. Prys Owen yn holi'r had. DARLITHYDD LLANELL I.. —Ynghapol Mawr y Rhos, nos Fawrth ddiweddaf, dar- lithid ar Edward Mathews, Ewenni," gan y Parch. Phillip Jones, Llanelli. Yr elw at amcan teilwng—cynorthwyo Win. Edwards, Pentredwr. Y Parch. R. Jones yn y gadair. Y mae wyneb y darlithydd yn debyg i wyneb Evan Jones, Caernarfon a'i lvgaid agos mor ddireidus a'r llygad craff, eofn a chwareus hwnnw. HAD YR ANIBYNWYR.—Y mae Ani- bynwyr Coedpoeth yn partoi am Sasiwn Ganu i'r Plant a chantorion Halle Salem, Seion a Saron yn rihyrsio tan fatwn Hugh Hughes Abram George y Talwrn yn cyfeilio ac ar ol y canu da a gaed brynhawn Sul di- weddaf, y mae argoel am gymanfa dda. MYND I'R RHWYMYN.-Yngha.pel Seion, Talwrn, Coedpoeth, ddydd Mawrth di- weddaf, priodid H. J. Evans, gynt o Faeh- ynlleth, ond yn awr o Montreal, a Miss Thomas, merch hynaf Bod Seion, Talwrn. Y capel yn Hawn o edrychwyr, ac ambell un yn gwrando'r gwasanaeth yn astud er mwyn bod yn hyddysg pan ddelo'u tro hwythau. Cylymwr y cwlwm sanctaidd ydoedd y Parch. J. H. Richards, ac wrth yr organ ceid Abram George yn seinio'r Wedding March. Aroswcfi funud, pa englyn-briodas a gaf, i ollwrvg fy nheimlad atoch ill dau ? Sut y gwnai hwn ? — Dau rosyn wedi d'rvsu—yn gwlwm 11 w gilydd wrth garu, Sy'r waith hon—dwy galon gu, Eneidiau glan, wedi glynu." COR NEW YDD COEDPOETH.-Mi a livmiais d. M. S- d. yn llawen pan glywais fod y cyfaill ieuanc cerddgar J. P. Hughes, L.T.S.C., wedi ymgymeryd ag arwain y cor riowydd s.y wedi ei ffurfio yng Nghoedpoeth. Rhwng J. P. yn arwain ac Abram George yn cvfeilio, 'does ddichon na wnant wrhvdri. Clywaf fod eu bryd ar gystadlu yn Eisteddfod Bwlchgwyn. Mwyn tacf, beth a dclaeth o Gjr Plant Joseph Williams? Nid wedi pwdu, gobeithio. DIRWEST COEDPOETH.—Mae cangen G-ymdeithas Ddirwestol Merehed Gogledd Cymru wtdi ei chodi yng Nghoedpoeth. Mrs. Jones, Bodawen, yTi llywydd; Miss Thomas yn ysgrifennydd a Mrs. T. Jones-Humphreys yn drysorydd. Pedair chwaer ar hugain wedi ymuno; a mawr a fo eu dylanwad i sychu hvnny o aelwydydd gwlybion sy yng Nghoed- poeth. 13 ED YDDWYR Y BRYMBO.-Clywaf iddynt hwy gael cyfarfod pregethu rhagorol yn eu Tabernacl ddechreu'r wythnos. Y cenhadon oedd T. T. Jones o Flaen Clydach ac E. Cefni Jones o Ffestiniog. I
temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn…
temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn Y Twrci Fydd. MOR gymharol dawel y digwyddodd y eyf- newidiad diweddar yn nheyrnas Twrci fel y mae'n hawdd colli golwg ar ei bwys a'i werth. Po fwyaf feddylir am y peth, mwy- af yn y byd y synnir at ei fawredd, ac n raid wrth ddychymyg ofer i greu gweled- igaeth ogoneddus fel canlyniad esgyniad y Twrc Ieuanc i awdurdod. Mangre tywyll- weh a bryntni, nythle malltod a chreulon- derau, a fu Caercystenyn am ganrifau ac o herwydd rhyw gysylltiadau rhy dyner rhwng y wlad honno a buddiannau gwledydd ereill, ni feiddiai yr un Gallu wrtho ei hun yrnyryd ti'r Sultan, ac ni fynnai y Galluoedd ymuno i hynny. Ac felly y gadewid i'r Hen Dwrc gyflawni ei erchyllterau llofrudd- iog ar Gristnogion o oes i oes. Ond y mae'n eglur erbyn hyn fod iachawdwriaeth Tyrci o honi ei hun. Gwelwyd yn ffurfiad y Cyfansoddiad Newydd ar y cyntaf fod yn y wlad ddosbarth yn cynrychioli ysbryd rhyddid a chyflawnder dynol; a chafwyd prawf yn niorseddiad yr Hen Dwrc mai y gallu cryfaf yn y wlad honno erbyn hyn yw y Twrc Ieuanc. Gresyn na buasai yr un peth yn wir gyda golwg ar nerth cymharol y Duma a'r Ymherawdwr yn Germani. Y mae yn rhywbeth o bwys ddarfod i'r cysegr- edigrwydd tybiedig a berthynai i'r Hen Sultan gael ei ddihatru, ac iddo gael ei symud or Llys Cyfrin, a'i osod dan lygad gwyliadwriaeth ei geidwaid. Mae dyn fel un yn breuddwydio yn hyfryd wrth feddwl fod Tyrci bellach yn caniatau rhyddid i Gristnogion, ac yn eu goddef i fwynhau breintiau eyffredin y bobl. Diau nas gellir disgwyl i hyn oil beri bod y cydraddoldeb rhwng Mahometan a Christion yn agos yn berffaith. Nid yw felly yn Lloegr rhwng Cristnogion, eto. Bydd llawer o'r hen ragfarn crefyddol yn aros, ac fe fydd byw yr ysbryd yn hir wedi symud y gyfraith oedd yn fraich iddi. Yr hyn sydd yn addawol am Tyrci yw y goddefgarwch o ryddid cymdeithasol a gwladol rhwng y gwahanol grefyddwyr. Dyma'r safle y mae Cristnogaeth yn ei ofyn: nid uwchafiaeth gwladol na gorthrech cledd, ond rhyddid i ddwyn tystiolaeth i'w gwirionedd drwy reswm, ac i'w gwerth drwy fywyd. Go- beithio na welir gwrthgiliad yn y Twrc Ieuane, ac nad oes yn ei wlad alluoedd eel a ruthrant allan i droi y diwygiad hwn yn ei ol. Ar hyn o bryd, ymddengys fel pe byddai y wybren oedd dywyllaf yn Ewrop wedi gwawrio yn ddiwygiad disclair ac eang.
Crochan Berw Paris;
Crochan Berw Paris; NID yw amynedd yn un o nodweddion y Ffrancwr, ac ycliydig amser a gymer ei grochan i fe'wi drosodd. Mae helynt ar hyn o bryd ynglyn a'r gweithwyr yn y llythyrdai. Mae ysbryd drwg yn-blino y rhan honno o Baris ers tro bellach, ac fe gofir ddarfod i'r merched godi cri yn erbyn eu huchafiaid, yn y swyddfeydd hynny, yn lied ddiweddar o'r blaen. Ar hyn o bryd bygythir streic gan weision y llythyrdai, a darogenir"y bydd i'r morwyr uno a hwynt. Mae'r sefyllfa yn ymiiuriio i wrthwynebiad rhwng y bobl a'r Llywodraeth, ac anodd gwybod beth fydd y div. edd. Beth bynqag, nid ymddengys fod rhyddid y bobl i lwyfan a gwasg ym Mharis yn well, a dweyd y lleiaf, nag eiddo yr un dosbarth yn Lloegr. Mae y Llywodraeth yn hawlio bod y neb a fyddo yng ngwasanaeth y llythyrdy yn rhwym o ymgadw rhag trafod achosion gwladol ar na llwyfan na thrwy'r wasg a'r un modd ymhob cangen arall o wasanaeth y Wladwriaeth. Torrodd rhai y rheol hon, a chawsant eu cosbi. Ymddengys tymer y ddwyblaid yn bur afrywiog, ac yn anadd- awol am gymod mor bell ag y gellir gweled oddiwrth y thai sydd eisys wedi cymeryd rhan yn yr anghydwelediad. 0 herwydd gwylltineb naturiol tymer a sydynrwydd ymddygiad y Ffrancod, anodd iawn dweyd beth a ddigwydd iddynt mewn diwrnod. Mae'n eglur fod yno fawr angen am rywun tebycach i Mr. Lloyd George na neb sydd hyd yn hyn wedi ymyryd yn y mater. Wedi'r cyfan, nid yw newid brenhiniaeth am weriniaeth wedi newid llawer ar y bobl; ac er i Napoleon farw, mae yn Ffrainc o hyd ryw ddau ysbryd yn tueddu i ymgorffori mewn dwyblaid pe byddai modd-ysbryd aristocrataidd, yn gystal ag ysbryd gwerin- 01 a Sosialaidd. Mae llawer o'r ysbryd gorme-ol yn y Ffrancwr, er cymaint ei broffes o ryddid. Y mae wedi gwadu Duw, a bwrw allan yr oJfeiriaid o'r safle a feddent gynt, ond y mae yn cadw ei ysbryd ar- glwyddiaethol. Mae hanes ymyriadau Ffrainc ym Madagascar,, a lleoedd ereill, yn profi y gall gwlad sy rydd i grefydd ac eglwys fod yn rhy ormesol i ganiatau y mesur mwyaf cymedrol o ryddid i eraill a farnant yn wahanol iddi hi ar faterion o gred a chydwybod. Pell yw Paris a Ffrainc o fod yn un a chytun, ac y mae golwg hagr ar y wynebau a hylldremiant ar eu gilydd o'r ddau du yn y cweryl hwn.
Pwytho'r Wasc Felen.
Pwytho'r Wasc Felen. YN ei anerchiad o Gadair yr Undeb, yr oedd y Parch. J. D. Jones yn cymeryd cipdrem gvffredinol ar sefyllfa'r wlad gyda golwg ar addysg, sobrwydd, lioddweli, etc. Prawf o ddvfnder ac iachusrwydd ei gred Ymneilltuol oedd iddo ddweyd, tra yr oeddynt yn siom- edig na fuasai y cwestiwn addysg wedi ei benderfvnu, nad ooddynt yn galaru ddarfod i'r cyfaddawd fethu. Disgynnai yn drwm ar yr ysbryd Jingoaidd fu wrthi'n ddiweddar yn coisio brawychn'r bobl o gyfeiriad Germani, ac nis gallai gaol iaith ddigon cref i'w ddarnodi. Gwaeth, meddai of, na'r llofruddiwr a grogid am ladd un oedd y rhai a geisientjennyn ysbryd rhyfel i'r amcan o ladd llaweroedd, a gyrru cenhedloedd i yddfau eu gilydd. Yng nghanol yr holl ynfydion dibris ac ymbleidgar sydd yn y wlad, a rhai nas gwaeth ganddynt pa i'oddion a ddefnyddiant i gyrraedd amcanion plaid a dosbarth a sect, y mae'n dda fod ambell broffwyd gonest a chroew yn codi ei lef dros gyfiawnder a heddweh. Y mae y Parch. J. D. Jones yn un o'r proffwydi. --0-
0 BEN Y GROES.
0 BEN Y GROES. Campau Gweu a Gwnio. Prynliawn dydd lail diweddaf cynhahwyd Arddanghosfa ddyddorol yn Ysgol y Cyngor o waith y boneddigesau a fynychodd ddos- barthiadau y Dccoraiive Needlework, a yn- haliwyd yma yn ystod misoedd y gaeaf, dan ofal y foneddiges fedrus a mwyn, Miss Frances A. Jones o'r Felinheli. Bu ef dosbarthiadau yn hynod boblogaidd drwy'r tymor, a chwitli gan lawer oedd gweld pen y tymor a dreul- iwyd nior ddedwydd a chytun. Synnem at odidowgrwydd gwaith eu dwylaw yr oedd y lluniau a'r designs yn dangos llawer iawn o fedr a chwaeth goeth, a'r cwbl yn brofion diymwad o lwydd a llwyredd yr addysg a gyfrennid. Gw^lsom enwau'r boneddigesau a ganlyn ynglyn a'r campau gweu a gwnio a ddanghosid :—Mrs. Pritchard, Llanllyfni Mrs. Lloyd Williams, Clynnog Mrs. J. Elias Jones, Trewern Miss Kate Roberts, Miss Williams, Brynmyfyr; Miss Jones,Bryn'rodyn; Miss Davies, The Tower ynghydag athraw- esau yr Ysgolion Canolradd ac Elfennol. Ymwelwyd a'r Ddanghosfa gan nifer o fon- eddigesau y pentref a'r cylch, ac yn eu plith 'roedd Mrs. a Miss Roberts, Gwyddfor Mrs. Jones, Plas-tan-dinas Mrs. Morris, Trefonen, a Miss Williams, Bodawen. Heblaw gwaith y disgyblion diwyd, dang- hoswyd hefyd gamp-engreifitiau o waith de- heuig Miss Frances A Jones ei hun-—gorehudd- ient yr holl barwydydd, ac yr oeddynt yn werth eu gweld. Cafodd yr edrychyddion eu boddio'n anarferol—yr unig resyn ydoedd na buasai'r genet hod glan a lion wedi partoi 11 paiied faeli o de" i ni'r sychedigion tua phump o'r gloch. Hwyrach y ceir rhyw sipian melus felly y tro nesaf. GWNIADUR.
Advertising
'Phone—3017 Central. AI S W. GRIFFIfli # Tailor,L f 29|SOUTH JOHN STREET, Ll^0 ALSO ATI 349 STANLEY ROAD, BooT I J 'Phone-27x BDOtIp- LUN Boots arB FOIL C()H VAL 0 øJ rletf. Ladies' €s Gents in Great 'Va 51 & 53 Paradise '1 The only address _N_ w- .ro-' S Established 1835* MEDLEY'S PECTACLES 1GHT PEC1AL1STS EAR CHING^EXAM 1 N ATiOjjvf J UBJECTIVE AND OBJEC' Artificial Eyes made to the Sockets, with a1 II BELMONT FtOA00 BEAUMARlS^y) Grammars County SJ; Chaiiman (.^Governors, Sir R. W. ..edftCP The School offers sound and practi^^ in healthy surroundings, under and J Honours Graduates. Modern buildjng; j ment-perfect sanitation. The clim" ile suitable for delicate boys. lioarders the School House, and are under the r øJld V care and supervision of the Beadm8s ( Madoc Jones. s0 Successes gained bj Beaumaris PUP. ■ cS.Cl^fd years include First Places in MatbeDi8 gj. Qpv & History, and Entrance Scholarship (3), London Hospital and Welsh Un also Civil Service, Banks, and professi Exams. Terms moderate. Prospectus B. MADOC JONES, M.A« f,cooo Experience. Efficiency t LONDON Wd 14ANY ve 06¡tO The Largest and most c0JllpletJlg ¡tJIII1 .».to Removals and Storage. Removals to jjo" Continent and Colonies, a speciality^1 -ntS&ifffF terms and quick despatch.—tlVEJ i OFFIOBS—BRONTE ST„ RUSSELL ST', } And at London, Manchester, Leeds, Leamington, Gloucester an r8 j, Tel. 2087 Boyal Telegrams ROBovero I D. R. JONES (Alow Madog" I PIANOFORTE & ORGAN DEALER, i MUSIC PUBLISHER, 6c J 103 Hampstead Rd., L*ixerp0° Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd Gaflu (Telerau Rhesymol) NEW CATALOGUES of Pianos, Organs, Harmoniums, &c„ cj# { TERMS—On the Hire-Purchase System or Cash. Tuning and RepairiDf? a Estimates given for Pipe Organs, Free. Catalogue of Welsh Songs. (Over 600). „ Soo Also containing all the latest Musical Books, such as Gems SelectiohnotØt1 of Wales," by D. Emlyn Evans, &c.; with English and Welsh Words and D Prices (best cover), 3/6 Cloth, 2/6. Postage 4d. CANTATA—" Y Cynhauaf" (The Harvest), by Miss A. J. t Performed with grand success at Llangollen National Eisteddfod, a'ud llP praised by the best musicians. Very suitable for chorus of 50 Prices—O.N., 2/6 and 2 I- -t Sol-fta, I English and Welsh Words. USUAL DISCOUNT FOR QUANTITIES- ^■lllillllll!! The Perfect Balance of the Perfect Bicycle. It is due to their scientifically correct design, and to the un; i vailed excellence of the materials'and workmanship m wy exclusively in he Kudge-Whitvvorth Works, the largest in the King The new 68-page Art Catalogue describes in detail the new fe>1 T-ffl of the HiOn Models or Rudge-Whitworths, iaeiuding the Patent Combined Celluloid Handlebar Covering and Grips p Patent Rustless Finish All-steei Flush-joint Frames Iff 8^ jaS Patent Brakes I eatherweight Roadsters ^58 Variable Speed Gears The 10 Years Guarantee H Prices from £ 3 15s. cash to £ 14 12s., or from 71- per ta°nth' yBk The Catalogue is sent Post Free from RUDGE-WHITWORTH, Ltd. Aj|- Wmn\\ 101 Bold Street, II )) LIVERPOOL. HIOIIIHUIIIIIIHIIII II mmmmmlll Rim m III" II ¡Iii I Ilfllll 1IIIIIIIImWUIIIIllllIW 11111 Ifll II 1111 ¡¡ü1\W;)¡!ldUUl\lllh\ f Rudge- itworilh ) t Britain's Best IIHIIUIIlUllftmmUURIIlIlIUIIIIIIIIIIII"nllmnllllnllllllllllilJj""lIIlIlI!tlIlIlUll!mIlHiH¡!iHRm::¡I!lI!mmU!:jl!1!!i! II !!I!i!lí!!i¡¡¡UI !l!1I1!l1I!1I1!llIIl!hllllll
Y Parch. J. D. Jones.
Y Parch. J. D. Jones. FE gofia ein darllenwyr, ond odid, fod y Parch. J. D. Jones, M.A., B.D., yn fab y diweddar Mr. J. D. Jones, Rhuthyn, ac mai efe yw Cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru am y flwyddyn ddyfodol. Dyn anghyffredin ydyw, a dywedai gwr o awdurdod yn ddiweddar ei fod yn un o'r hanner dwsin pregethwyr mwyaf a fedd y deyrnas heddyw. Y mae yn awdwr amryw gyfrolau diwinyddol, yn un o'r areithwyr mwyaf poblogaidd ar lwyfannau cyhoeddus, yn un o'r prif ddadleuwyr dros ryddid gwladol a chrefyddol, yn oddaith o zel genhadol, ac yn sicr yn un o'r dynion mwyaf duwiolfrydig ac ysbrydol a fedd ei enwad i gyd. Diau y gellid yn hawdd nodi gwyr galluocach nag ef mewn rhyw bethau. Nid ym yn meddwl y safai yn gyfartal i amryw o'i frodyr fel athronydd duwinyddol, nac fel areithydd hyawdl. Anfynych y gwelir dyn o'i boblogrwydd ef mor ddiser- emoni yn ei holl gyflawniadau, ac er hynny yn urddasol ymhob peth. Medd gymhwys- terau cyfoethog fel areithydd, ond ni fyn ymgais at fath yn y byd o berfformiad areithyddol fel rhai. Nid oes ddyn mwy llariaidd ei dymer, ac nid yw hyd yn oed wrth bregethu yn colli ei hunan-lywodraeth. Mae ysbryd y proffwyd yn ddarostyng- edig i'r proffwyd ynddo ef. Clywsom ef droion bellach, ond ni welsom yr un arwydd arno ei fod yn amcanu at wneud marc," nac yn llafurio dan y teimlad fod yn rhaid iddo dynnu allan" ar achlysuron neilltuol. Eto, teimlir fod o dan yr ymddanghosiad tawel nerthoedd cryflon o argyhoeddiad dwfn, ffydd gref, a gweledigaeth oleu. Yn wir, feii hargyhoeddir yn fuan mai o gryfder meddwl a hyder ysbryd y tardd y tawelwch urddasol sydd ar ymddanghosiad y dyn. Wyneb o dangnefedd ar ymwybyddiaeth o nerth ydyw. Ac ni frysia yr hwn algredo." Mae holl bersonoliaeth hardd y gwr da liwn yn ei bregeth, a honno wedi ei goleuo i fyny gan ysbrydolrwydd a ffydd a chariad. Nid taran, nid daea-rgryh, nid tan, nid c-orwynt, ond lief ddistaw fain sydd yn ei genadwri dyna sydd yn gyfrinach ei ddylanwad, er cryfed yw ei alluoedd amryw. Po fwyaf wrandewir arno, mwyaf y teimlir y, cyfaredd taw' ysbrydol, enillgar, yn lladradaidd ddisgyn ar y galon. Mae ganddo ffordd effeithiol i gyhoeddi ei genadwri, ond ymgyll yn hytrach mewn ffydd yn y gwirionedd a'i brofiad ohono nag yn oi fedr i'w lefaru. Clywsom ef yn lied ddiweddar yn annerch cyfarfod cyhoeddus, lie hefyd y llefarai y Parch. Silvester Home, M.A., yr hWll sydd newydd ei ethol yn ddilynydd Mr. Jones i Gadair yr Undeb. Yr oedd Mr. Home, fel arfer, yn ffaglu'n ysol mewn hyawdledd, yn trafod ei bwnc yn feistrolgar, a'r addoldy yn diaspedain gan gymeradwyaeth. Yr oedd ei destvn i raddau yn boliticaidd. Yr oedd tostyn Mr. Jones yn fwy defosiynol. Safodd ar y llwyfan, a'i ddwylaw ar ei gefn, a dech- reuodd 'lefaru yn y modd mwyaf syml, pwyllog, ac enillgar, ac yn fuan iawn yr oedd 11 holl awyrgylch y cwrdd wedi ei newid. Ni chlywid curo dwylaw, ond braidd na chlywid calonnau'n curo yn y dwyster ysbrydol distaw oedd drwy yr holl gynulleidfa. Nid celfvddvd yn perfformio, ond natur ysbrydol yn ymdvwynnu allan yn naturiol a deimla cynulleidfaoecld y Parch. J. D. Jones. Os na cheir yr olaf, bydd i'r gwrandawr gael ei siomi, ac ni fydd wedi nabod y pregethwr y bu yn ei wrando. Dyn ardderchog yw Mr. Horne, a bydd yn addurn i'r Gadair Lywyddol
["cHWITH 4T60'|
["cHWITH 4T60'| AM Y Parch. JOSEPH EVANS, Cofiadur y Methodistiaid. Wislb'k newydd yn ein cyrraedd am ym- adawiad drwy angau un o wyr mwyaf defn- yddiol y Corff Methodistaidd, ac un y mae ei enw yn dra hysbys yn holl gylchoedd y Methodistiaid yn No a Gogledd Cymru, sef y Parch" Joseph Evans, a fu farw yn Ninbych ddydd Sul diweddaf, yn 77 oed. Yr oedd yn hannyw o hen deulu Methodistaidd. Bu ei frawd, y Parch. David Evans, B.A., Whitchurch, Caerdydd, yn weinidog llafurus ac uchel ei barch am flynyddoedd, a chwaer iddo ef ydyw gweddw y diweddar Mr. John Jones, Manchester House, Merthyr Tydfil-. yr hwn oedd un o flaenoriaid rhagoraf y Deheudir am lawer o flynyddoedd, ac un a wnaoth fwy na neb i sefydlu Eglwysi Saesneg yn y Deheudir. Cafodd y plant addysg foreuol da, aZdiau y buasent yn cyrraedd safle anrhydeddus ynglyn a. masnach, ond cyflwynodd y ddau frawd ou hunain i'r Weinidogaeth Seisnig ymysg y Methodistiaid ar ol ei gorffen. Bu y Parch. Joseph Evans, ar ol gorffen ei yrfa Athrofaol yn Nhrefecca, yn gweinidogaethu yn rhai o drefi pwysicaf y Deheudir, megis Merthyr, Tredegar, Caerfyrddin, Abertawe, cyn iddo wynebu y Gogledd oddeutu 17 o flynyddoedd yn ol, pan y daeth yn weinidog i Eglwys Seisnig Dinbych. Gellir edrych arno fel-un o sylfaonwyr yr Adran Seisnig o'r Cyfundeb. Ymsefydlodd mewn eglwysi ieuainc newyddion, ac erbyn heddyw.y mae yr eglwysi hynny wedi dod yn gymharol gryf. Er nas gellir dweyd fod Mr. Evans yn meddu doniau poblogaidd, eto yr oedd yn darpar yn ofalus gogyfor a'r Weinidogaeth. Pre- gethai i'r un bobl Saboth ar ol Saboth. Yr oedd wedi ei drwytho yn Niwinyddiaeth y Puritaniaid, ac yr oedd eu hargraff yn amlwg ar h bregethau. Eglurai yn fanwl yr atlu-aw- iaeth, gan seilio ei ddysgeidiaeth ar eiriau yr Ysgrythyr Lan. Tra nad yn dwyn llawer o athroniaeth na barddoniaeth i'w bregethau, eto cyfrifid ef yn wr o ddeall cryf, ac fel un yn meddu dirnadaeth glir o'r Athrawiaeth yn ol duwioldeb;" a meddai y nodwedd werth- fawr ac' anhebgor honno, o gymhwyso y gwirionedd at fywyd ymarferol. Yr oedd ei garictor pur a dilychwin yn rhoddi grym ac ynni yn ei eiriau. Enillodd ymllob man y bu yn llafurio ynddo barch diledryw y rhai a'i hadwaenent. Adnabyddid ef fel gwr Duw." Os nad oedd ei bregethau yn tynnu sylw y lliaws, yr oedd ei ddylanwad, er hynny, ar yr eglwysi y llafuriai" ynddynt yn peri adeiladaeth, ac y mae ei waith yn aros. Ni cheisiai yr eiddo ei hun, gweithiodd yn ddiwyd a diorffwys yn y cylchoedd y gosod- wyd ef ynddynt. Ers rhai blynyddau, yr oedd wedi rhoi i fyny ofalaeth eglwysig ond nid oedd ei ddefnyddioldeb a'i lafur yn pallu, er ei fod bellach rai blwyddi dros y deg a thrigain oed. Ychydig, os neb yn fyw, oedd yn deall trefniadau y Cyfundeb yn well. Yr oedd ar hyd ei oes wedi profl ei bun or gwas- anaeth mwyaf yn ei Henaduriaeth, ac ym mlirif lysoedd y Cyfundeb. Bu yn un o Ys- tadegwyr y Cyfundeb am chwarter canrif, ac y mae y ffurf orffenedig y cyflwynir ystad- egau y Methodistiaid Calfinaidd i'w briodoli yn bennaf i'w fedr mgyrol a'i ofal manwl. Efe, yn ddiameu, oedd yr awdurdod uchaf ar Ystadegau y Corff. Ers pym,theng mlynedd, golygai y Blwyddiadur Method- istiadd, yn yr hwn y ceir gwybodaeth am sefyllfa y Cyfundeb, a chrynhodeb manwl am y prif ddigwyddiadau o fewn y fiwyddyn. Rhoddid y gwerth mwyaf ar ei lafur yn y cysylltiad hwn gan y rhai a gymerant ddy- ddordeb yn hanes y Cyfundeb. Cafwyd y Blwyddiadur o'r gwasanaeth mwyaf ynglyn a'r Ddirprwyaeth Eglwysig, a thalwyd gwar- ogaeth i'w gywirdeb a'i fanylrwydd gan feirniad mor graff a'r Prif-Farnwr Vaughan Williams. Yn ddiweddar yr oedd Mr. Evans wedi cyhoeddi byr-hanes o holl weinidogion y Corff hyd ganol y ganrif ddiweddaf, a diau pe cawsai estvniad einoes y buasai yn dwyn yr hanes i lawr i'n dyddiau ni. Efe o bawb, ydoedd Cofiadur y Corff, a haedda ei goffad- wriaeth barch oddiar law y Cyfundeb a garai mor fawr, ac a wasanaethodd mor ffyddlon. Fel yr oedd yn gweddu, danghoswyd parch iddo gan ei frodyr ch wy ei ddewis yn Arholwr Cymdeithasfaol, a phenodwyd ef i draddodi yr Araeth ar ordeiniad gweinidogion yn y Deheudir. A rhai blynyddoedd yn ol, ar ol ei sefydliad yn Ninbych, galwyd arno i fod yn Llywydd Cynhadledd flynyddol yr Achos- ion Seisnig. Cyfarfu a rhai prof edigaetliau chwerw yn ei oes. Claddodd amryw o blant —dau o feibion addawol iawn—a gwelodd gystudd yn ei gartref. Y Nefoedd fyddo yn nodded i'w weddw a'i ferch. [Cleddid ddoe (dydd Merchcr) yn Ninbych].
Cydgynhulliad y Llwythau.
Ers pa bryd, wyr, y mao Cymru wedi mynd i olvgu dim ond yr estroniaid a gyfaneddant o'i mewn '? A gwneir hyn yn y flwyddyn y 1,