Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

mae Cymro yn gadeirydd yr…

Gyda'r Clawdd,

temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

temmmmmrnamm « 9 • wmmammmtmrn Y Twrci Fydd. MOR gymharol dawel y digwyddodd y eyf- newidiad diweddar yn nheyrnas Twrci fel y mae'n hawdd colli golwg ar ei bwys a'i werth. Po fwyaf feddylir am y peth, mwy- af yn y byd y synnir at ei fawredd, ac n raid wrth ddychymyg ofer i greu gweled- igaeth ogoneddus fel canlyniad esgyniad y Twrc Ieuanc i awdurdod. Mangre tywyll- weh a bryntni, nythle malltod a chreulon- derau, a fu Caercystenyn am ganrifau ac o herwydd rhyw gysylltiadau rhy dyner rhwng y wlad honno a buddiannau gwledydd ereill, ni feiddiai yr un Gallu wrtho ei hun yrnyryd ti'r Sultan, ac ni fynnai y Galluoedd ymuno i hynny. Ac felly y gadewid i'r Hen Dwrc gyflawni ei erchyllterau llofrudd- iog ar Gristnogion o oes i oes. Ond y mae'n eglur erbyn hyn fod iachawdwriaeth Tyrci o honi ei hun. Gwelwyd yn ffurfiad y Cyfansoddiad Newydd ar y cyntaf fod yn y wlad ddosbarth yn cynrychioli ysbryd rhyddid a chyflawnder dynol; a chafwyd prawf yn niorseddiad yr Hen Dwrc mai y gallu cryfaf yn y wlad honno erbyn hyn yw y Twrc Ieuanc. Gresyn na buasai yr un peth yn wir gyda golwg ar nerth cymharol y Duma a'r Ymherawdwr yn Germani. Y mae yn rhywbeth o bwys ddarfod i'r cysegr- edigrwydd tybiedig a berthynai i'r Hen Sultan gael ei ddihatru, ac iddo gael ei symud or Llys Cyfrin, a'i osod dan lygad gwyliadwriaeth ei geidwaid. Mae dyn fel un yn breuddwydio yn hyfryd wrth feddwl fod Tyrci bellach yn caniatau rhyddid i Gristnogion, ac yn eu goddef i fwynhau breintiau eyffredin y bobl. Diau nas gellir disgwyl i hyn oil beri bod y cydraddoldeb rhwng Mahometan a Christion yn agos yn berffaith. Nid yw felly yn Lloegr rhwng Cristnogion, eto. Bydd llawer o'r hen ragfarn crefyddol yn aros, ac fe fydd byw yr ysbryd yn hir wedi symud y gyfraith oedd yn fraich iddi. Yr hyn sydd yn addawol am Tyrci yw y goddefgarwch o ryddid cymdeithasol a gwladol rhwng y gwahanol grefyddwyr. Dyma'r safle y mae Cristnogaeth yn ei ofyn: nid uwchafiaeth gwladol na gorthrech cledd, ond rhyddid i ddwyn tystiolaeth i'w gwirionedd drwy reswm, ac i'w gwerth drwy fywyd. Go- beithio na welir gwrthgiliad yn y Twrc Ieuane, ac nad oes yn ei wlad alluoedd eel a ruthrant allan i droi y diwygiad hwn yn ei ol. Ar hyn o bryd, ymddengys fel pe byddai y wybren oedd dywyllaf yn Ewrop wedi gwawrio yn ddiwygiad disclair ac eang.

Crochan Berw Paris;

Pwytho'r Wasc Felen.

0 BEN Y GROES.

Advertising

Y Parch. J. D. Jones.

["cHWITH 4T60'|

Cydgynhulliad y Llwythau.