Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

66TROAD Y RHOP."

YSTAFELL Y BEIRDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSTAFELL Y BEIRDD Y cynhyrohion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio:-PEDROG, 30 Stanley Straet, Fairfiel d. Priodasau, Mavcolaethau, etc.Mae amryw ddarnau ar dostynau fel hyn mown flaw. Nid oes gennym awydd i gyfyngu ar destynau o'r fatli, nac ar unrhyw destynau o gwbl o ran hynny. Ond yr ydym wedi sylwi dro ar ol tro y disgwylir teilyngdod go uchel, neu o leiaf na fyddo v darnau ar destynau fel hyn yn feithion. Mae cymaint wedi ei gy- fansoddi ar briodasau, genedigaethau, a marwolaethau, fel nad yw yn hawdd canu yn newydd arnynt. Y mae digon o brofion, both bynnag, fod yn liawdd iawn canu yn gvffredin ar y Ilinell hon. Y gwaethaf yw, fod llawer o'n cyfeillion yn gwneud dim amgen na mydryddu bywgraffiadau symi a chyffredin i rai ymadawedig, ac yn rhy faith o ddim rheswm. Byddai yn hawdd llenwi yr Ys- tafell o wythnos i wythnos a dim ond cyfan- soddiadau o'r natur yma. Carem allu cyf- arfod a dymuniadau ein holl ohebwyr a darllenwyr yn y golofn hor, yn eu lion a'u lleddf, ond erfyniwn unwaith eto am i'r beirdd tirion gofio byrdra a newydd-deb. Yr ydym mor awyddus i gyfarfod eu dymuniad fel yr ydym weithiau yn cadw vr eiddynt wrth law yn hir i ddisgwyl cyfle iddynt, yn hytrach na'u troi o'r neilltu yn liollol. Gadewch inni geisio helpu ein gilydd yn hyn o beth. Y Dychymyg.-Diolch. Y Cyfaill Gore u.-Cymeradwy. Bedd Rhieni Hwfa Mon.-Gall fod o ddyddordeb i'n darllenwyr i gael y bedd- argraff canlynol, i dad a mam y diweddar Archdderwydd Hwfa Mon :— ROBERT WILLIAMS, PEN Y GRAW, Trefdraeth, yr hwn a fu farw Ebrill 19eg, 1843, yn 49 oed. Hefyd GRACE WILLIAMS, ei wraig, yr hon a fu farw Tach. 4ydd, 1861, yn 75 oed. Ai yma mae mam Hwfa Mon, a'i dad, Heb eu dwys ofalon, Yn cysgu,ddau gu,hyd nes dyg Ion—mad Hwy adre i'w gwlad o'r gwaelodion. le, dyma'r lie du y mae'r Hon—bar, Dyma'r bedd a'r evffion Ond o'u cist a'r ddau Gristion--sydd obry Acw i fyny gyda'r cyfiawnion. Ar VYCHAN. SYLW !—Wed i'r ddadl fawr fu rhwng y beirdd ynghylch ysmygu, a'r effeithiau myglyd ar yr Ystafell, bu raid ei glanhau, ei phaentio a'i phapuro, ac ynghanol y bendro honno^T wyf yn ceisio ysgriblo y llinollau hyn. Bydd yr adgyweiriad drosodd yn fuan, ac am wn i na fyddai yn hollol deg i mi drethu yr holl ysgarmeswyr at y gost- llawn mor deg ag ydoedd i Mr. Lloyd George beri dimeu yr wns o godiad ym mhris y baco.

GLJTWAF LEISIAU YN Ylt AWEL.

BLEST EASTER. MORN.

ENGLYNION PRIODAS

NID DIGON DYSG.

YSTAFELL Y BEIRDD.

, I MENNA.

FICER LLAN-Y-BLODWEL.

Advertising