Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

66TROAD Y RHOP."

YSTAFELL Y BEIRDD

GLJTWAF LEISIAU YN Ylt AWEL.

BLEST EASTER. MORN.

ENGLYNION PRIODAS

NID DIGON DYSG.

YSTAFELL Y BEIRDD.

, I MENNA.

FICER LLAN-Y-BLODWEL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

FICER LLAN-Y-BLODWEL. Traethiad croew tros Ddatgysylltiad GWR diamwys, croyw ei farn a'i eiriau, ydyw Ficer Llanyblodwel, y llannerch dlos gerllaw Croesoswallt lie y bu'r Prifardd Tudno yn curadu un adeg. v Wrth siarad yug nghinio Cymdeithas Gyfeillgar Meibion Tanat, nos Wener ddiweddaf, dywedodd y Fieer 1—Mai gwell fyddai i'r Llywodraeth adael Honydd i waddoliadau yr Fglwys, a cliynnyg Mesur o Ddatgysylltiad yn unig, canys 'roedd gan yr Eglwys lawer cryfach haw] a tlieitl i'w gwaddoliadau nag oedd gan landlordiaid y doyrnas i'w tir. 2 -Os am Fesur Dadwaddoliad o gw bl, boed yn Fesur I) ad w add ol i'r landlord- iaid Ty'r Cyffredin, ac felly cyflawned y Senedd yr adnod, Y llleddyg, iaclia dy hun." 3—'Doedd gan fwyafrif y genedl ddim eisiau Dadwaddoliad ond caffai Dat- gysylltiad heb Ddadwaddoliad gefnog- aeth cenedl gyfan, a chredai y ceid pedwar esgob Cymreig a fotient trosto. 4—Byddai Datgysylltiad o fwy bendith i esgobion Cymru nag i neb canys fel y mae pethau ar hyn o bryd, ni cheir codi bys i ddiwygio'r Eglwys heb Act y Senedd. Ond gwedi oi datgysylltu, byddai'r Eglwys yn ddeddf iddi ei hun, a chaffai benodi'u hesgobion ei hun, yn lIe bod at drugaredd chwiw a mympwy yr un Prif Wcinidng. 5—Ar hyn o bryd, 'doedd yr Eglwys ddim yn genedlaethol mewn dim ond mewn enw ac 'roedd yn ymddirywio i fod yn ddim amgen na sect gul, grebachlyd. 6-Hoedd y cynllun presennol o benodi i fywiolaetliau yn cenhedlu haid o gyn- ffonwyr ymgreiniol a llyffantaidd. 'Doedd corff clerigwyr Cymru lioddyw nemor gwell na chaothweision, a dyheai oil heneidiau am ddydd gollyngdod a rhyddhad. 'Roedd Hen Eglwys y Cynu'y yn ysu am y dydd pan y gallai ysgwyd ymaith yr iau,a dod eto yn fywyd ac anadl y Genedl Gymreig.

Advertising