Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR.

0 Dre Daniel Owen

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising

DYDDIADUR.

PLIPIDAU'R SABOT" NESAf

SOBRWYDD AR Y RHEILFFYRDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SOBRWYDD AR Y RHEILFFYRDD At Weinidogion a Blaenoriaid Eglwysi Cymreig y Ddinaa ANWYL FKODYR.—Cvdnebydd pawb fod Sobrwydd Swyddogion a gweision Cwmniau y Rheilffyrdd o'r pwys mwyaf i'r cyhoedd, ac mai ein dyledswydd a'n braint ydyw rhoddi pob cefnogaeth bosibl i'r ymdrechion i'w sicrhau. Nid ydym yn gwybod pa ym- -drechion a wneir mewn llawer o Gwmniau ond gwyddom fod gan linnell y London and North Western Railvmy Company Undeb Dirwestol er's dwy flynedd ar hugain. Y mae yn perthyn i'r Undeb hwnnw ddau ymrwym- iad, v naill yn llwyrymwrthodol, a'r llall heb fod. A plirofiad y rhai sydd yn llafurio gyd a'r Undeb ydyw fod hyn yn fantais. Cafwyd llawer yn barod i gymeryd y diweddaf, y rhai na welent eu ffordd yn glir i gymeryd y cyntaf; ond mewn nifer o aingylchiadau, canlyniad cymeryd y naill a fu cymeryd y llall hefyd. Yn ddiweddar, llwyddwyd i liosogi yn ddirfawr aelodau yr Undeb. Yn 1905, nid oeddynt ond 4,777 yn 1906, yr oeddynt yn 11,193; a blwyddvn yn ddiweddarach yr oeddynt uwchlaw pedair mil ar ddeg a hanner. Erbyn hyn y maent yn agos i UGAIN MIL. Hynny ydyw, y mae yn agos i un o bob pedwar o'r rhai sydd yn gwasanaethu y Cwmni yn perthyn i'r Undeb. Ac ar y Sadwrn a'r Sul, yr 22 a'r 23 o'r mis hwn, bydd Pwyllgor Gweithiol yr Undeb yn cynnal yn Liverpool ei Gynhadledd Flynyddol. Nos Sadwrn, cynhelir Demonstration mawr a phwysig, pryd y traddodir anerchiadau gan Esgob Liverpool a Syr Edward R. Russell. A dymuna yr arweinwyr gydymdeimlad yr holl eglwysi a'u hymdrechion. Disgwylir nifer o Gymry i'r ddinas, gan y rhoddir iddynt bob cyfleusteraii i hynny gan y Cwrnni. A ydyw yn ormod i ni, gan hynny, ofyn i bob pregethwt yn ein Capelau Cymreig wneuthur cyfeiriad arbennig at y Symmudiad hwn yn y gwasanaeth fore a hwyr y Saboth wythnos i'r nosaf ? Y mae y cynnydd yn nifer aelodau yr Undeb yn Liverpool wedi bod yn fawr iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf.—Yr ieiddoch yn gywir, DAVID POWELL, Everton Village OWEN M. OWEN, Windsor Street. RICHARD LLOYD JONES, Oakfield Road. DAVID JONES, Mynydd Seion. DAVID ADAMS, Grove Street. O. L. ROBERTS, Tabernacl. GRIFFITH ELLIS, Bootle. JOHN OWEN, Anfield Road.

Ffetan y Gol.

O'R MOELWYN I'R 606ARTH

Family Notices