Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR.

0 Dre Daniel Owen

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising

DYDDIADUR.

PLIPIDAU'R SABOT" NESAf

SOBRWYDD AR Y RHEILFFYRDD

Ffetan y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. Gwyliwch y Faeden. SYR,—Caniatewch i mi roi'm cydwladwyr o ddau tu afon Lerpwl ar eu gwyliadwriaeth rhag gwiddanes o Gymraes sv'n helcyd o dy I dy i fegian a thwyllo'r ehud a'r calon-feddal. Er engraifft yn nhy cwpl o Gymry oedraunus yn Kirkdale, dywedai mai Mrs. Roberts yd- oedd, a i bod yn Gymraes ei bod yn awyddus i gael mynd i ysbyty Shaw Street tan ddwylo y meddygon ond gan nad oedd yno wely iddi hyd ddydd Sadwrn, y carai gael llety hyd y diwrnod hwnnw. Ac fe gafodd ei dymun- iad, y llety a phob lluniaeth ac ymgeledd. Aeth ymaith ddydd Sadwrn, at y meddygon yn Shaw Street," ebre hi ond ni ddychwel- odd. Ddydd Sadwrn, 'roedd yn Birkenhead ymwelodd a thy boneddwr dibriod, ac erbyn lieddyw, nid fel Mrs. Roberts yr ymrithiai'r faeden dafodlyfn, ond fel Miss Owen, typist yng ngwasanaeth y Cunard dymunai gael llety, ac enwodd un gweinidog hysbys yng Ngogledd Cymru fol sail ei chymeradwyaeth. Cafodd lety; ond diflannodd oddiyma eto-- ac heb adael popeth y lletywr ar ei hoi Er mwvn i chwi gael peth cymorth i'w hadnahod, y mae hi tua'r pymtheg ar hugain oed cyffredin ei thaldra yn eiddil o gorff a gwelw ei gwedd ond yn ymbincio yn y dillad gwychaf a diweddaraf, a chryn nifer o dyrchau aur-neu melyn o leiaf !-am ei gwddf. Y mae'n llithrig ryfeddol ei thafod yn Saesneg a Chymraeg, ac yn llawn gydradd a Violet Charlesworth-y faeden o Fod Erw-yn ei dawn'i swyno a sugno. Gwyliwch rhagddi. Yr eiddoch, Ko Fonthill Road, Lerpwl. W. A. LLOYD Cofiant y Parch O. R. Owen, Lerpwl SYR,—Caniatewch i mi ychydig o'ch gofod i alw sylw aty Cofiant uchod, sydd yn awr yn y wasg, ac i fod allan ddiwedd mis Me- hefin. Teimlaf yn ddioleligar i'r agos i fil o Danysgrifwyr sydd eisoes wedi anfon eu henwau, am eu cefnogaeth, a theimlaf yn ddiolchgar iawn i'r cyfeillion a fwriadant gael copi am anfon eu henwau ar unwaith, gan y ceuir y rhestr Meh. 15. Bydd y Gyfrol yn un o'r rhai prydferthaf, ac yn cynwys, yn ychwanegol at y Cofiant, wyth o ddarluniau rhagorol, a theyrnged gan y beirdd Pedrog, Hawen, J. Thomas, ac Elfed Lewis, etc. Yr eiddoch yn gywir, ELWYN OWEN. 7 Eversley Street, Liverpool.

O'R MOELWYN I'R 606ARTH

Family Notices