Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- YMGOM.

0 BIG Y G'LOMEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 BIG Y G'LOMEN. BHOS-ON-SEA.—Y mae Mr. Win. Horton —ac yntau'n Eglwyswr—wedi rhoi tir yn rhad-rodd i godi capel Anibynol Seisnig yn Rhos-on-Sea, Colwyn Bay. j UN O'R SIARGOD CASOLU. -Am fynd o dy i dy i gasglu i'w logell ei liun, gan gymer- yd arno mai at gronfa gorymdaith Gwyl y Dydd Cyntaf o Fai (May Day) 'roedd yr arian, anfonwyd Arthur H. Roberts (brodor o Lundain) i ddau fis o garchar gan ynadon Llandudno ddydd Llun diweddaf. 0 ABERERGH. —Y Parch. D. Jones, ficer Abererch, gerllaw Pwllheli, a ddywed i gyfarfod lliosog o blwyfolion y lie hwnnw gael ei gynnal nos Wener ddiweddaf iddyn-t basio penderfyniad brwd. ac unol yn erbyn Dat- gysylltiad ac fod hanner y dwylo a godwyd dros y penderfyniad yn ddwylo Ymneilltuol. 09- 0 OONWY.—Y mae teimlad trwy sir Gaernarfon y dylid cydnabod gwasanaeth ey- hoeddus maith a mawr Dr. R. A. Pritchard, Conwy. Efe yw cadeirydd Cyngor Sirol Arfon, ac efe a gynrychiolodd Conwy arno o gychwyn cynta'r Cyngor. Bu'n faer ein trof droion ac mae'r dref o bob plaid ac enwad yn falch ohono. Sonir am roi anerch- iad hai-dd ei ffrarn a'i ffurf iddo, yiigliyda motor-car liwylus i'r doctor yn ei vmweliadau meddygol. LLAIS Y RHIW A'R BOW YDD.-Mewii eyfarfod o Gymdeithas Ryddfrydol Rhiw a Bowydd (Ffestiniog), pasiwyd i ofyn i Mr. Edgar Jones, M.A. (Barry, Caerdydd), a Mr. Haydn Jones (Towyn) i ddod yno i w hannorch, or mwyn cael cyfle i gymell un o'r ddau ar Gymdeithas Ryddfrydol y Sir fel ymgeisydd Seneddol a dilynydd Mr. Osmond Williams. "09- DILYNYDD Y PROFF. J. 0, THOMAS, —Y mae eglwys Seisnig M.C. Porthaethwy wedi anfon galwad i'r Parch. Gwilym H. Evans (Colwyn Bay), efrydydd yng Ngholeg Aberystwyth, i ddod yno i'w bugeilio, yn ddilynydd i'r Proff. J. O. Thomas, M.A., a benodwyd flwyddyn yn ol yn un o athrawon Atlirofa'r Bala. I? + --Ddydd 1 CHWILIO'R T^FARNAU.-—Ddydd Llun diweddaf, penodwyd nifer o ynadon Gwrecsani i alw heibio tafarnau r dref, a dwyn adroddiad i Fainc lawn o'r ynadon maes o law. Diau mai syniad yr ustusiaid fydd hyn, gwedi gorffen ohonynt eu hymchwiliad Drws agored i'r segurwyr,—nythle Y noethlwm ddiotwyr, Lie i waghau llogell gwyr, Drud fwyniant i'r difenwyr." 09- SHWD 'GETHWR YW CAMPBELL ? — Rhai parod eu barn a phlaen eu siarad yw pyllwyr y De ac fel hyn yr ymgomiai dau o lowyr Morgannwg y dydd o'r blaen ar ol ymweliad y Parch. R. J. Campbell Shwd ma' Campbell ena'n pregetlm ? Wel, fel hyn yn gymws,"ebe'r Hall' Ma fe'n agor y Beibl, ac yna ma fe'n dar- llen adnod yn destyn. Wedin ma fe'n gafael yn yr adnod ac yn i thynnu hi n bishis. Ma fe'n profi'n glir i ti fod pob gair sy yn yr adnod 'na yn gelwydd, na dos na air o wir gida hi. Ac wedi profi n glir i ti fod yr adnod i gill yn gelwydd, ma fe'n pregetliu arni hi." OORMOD SAWR A SOCH.—Bygvthiai Mr. O. Isgoed Jones, Y.H., roi cyfraith ar Gvngor Dosbarth Llanrwst os na symudent y ffair foch rhag cael ei chynnal yn wythnosol o flaen ei broswyl, Plas-yn-dre'. Wedi hir- gyndynnu a llythyru o bobtu, pasiodd y Cyngor nos Wener ddiweddaf, gyda niwy- afrif o un, i chwilio am fangre newydd, ac fellv caiff yr Isgoed wared o'u sawr a'u soch. Gan gof, i'r Isgoed y nyddodd Trebor Mai yr englynion-priodi clyaion hynny, o ba rai wele un Ysgafn fo calon Isgoed,—a'i rian, Ar hyd oes ysgafndroed Mwyn hoen -fou rhan mewn henoed, A gwynt hir pan yn. gant oed." "Ond clivrhaeddwil i byth fy nghant oed nnghanol awelon mor fochaidd a hyn, ebe'r Isgoed. -.0- TREMPYN H YA WDL-Braddug hysbys ym Mangor ydyw Sam Lewis, y cardotyn dall Yr wythnos ddiweddaf, fe'i dirwywyd yno i 5/- am fegera. Tystiai'r Rhmgyll Griffith iddo gael Lewis ar balmant un o heolydd y dref, a'i freicliiau wedi eu bestyn allan i'w ita,ii hyd, a cliyda llais clochaidcl a glywid o bellteroedd, yn gweiddi 1 Fod y Gwarcheidwaid yn hael a dibris o arian'v trethdalwyr, yn gwario E40,000 yn y flwyddyn, a llawer o hynny'n mynd am fenyg kid. 2-Fod tlodion y tloty yn cael eu darnlwgu, ac iddo ef gael darn o gnawd llygodon yn gymysg a'i bryd bwyd yno. 09- MOR ANODD MAGU HOGYN.—O ddau fabi, dywed yr hen bill-gwlad a ganlyn fod magu hogyn yn llawer mwy anodd na magu genetli "J\Üw'n rhaid cael, at fagu bach gen, Dy a than, a mamaeth lawen Ond nid oes eisiau, at fagu geneth, Ond tý heb dan, a slwt o famaeth.' A 'does dim a ddengys mor ansyffargetaidd syniad yr hen Gymry am ferch na'r hen air hwrmw Y luae ewin o fab yn werth iriynydd o. ferch." 0 Sylwed ein chwiorydd ar iiysbysiad Jones, Beehive, ar tudal. 1, lie y gwelwcli yr am- rvwiaeth sy ym Maelfa Brunswick Road or dillad harddaf a mwyaf ffasiynol. Gwelir hefyd gelfi ty o bob math, yn arbennig carpedi oilcloths, Linoleum, etc., etc. A'r Sulgwyn mor agos, da yw cofio fod y Beehive a'i henw vn uchel am ansawdd uchel ei nwyddau a'i phrisiau cymedrol a chwycliwi sy a ch blys ar fynd ar ysgawt siopa, piciwch yno i weld y stoc enfawr. —■

[No title]

Wesleaid Gogledd Gymru

Cydnabod Berwyn.

CYMRY CANADA.

Advertising