Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- YMGOM.

0 BIG Y G'LOMEN.

[No title]

Wesleaid Gogledd Gymru

Cydnabod Berwyn.

CYMRY CANADA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRY CANADA. COB MEIBION VANCOUVER.—Y mae ym mliapurau Canada gryn golofn o hanes cyngherdd a roddid yn ddiweddar yn Van- couver gan Gor Meibion Cymreig sy wedi ei ffurfio yno, tan arweiniad Mr. E. T. Jones. 'Boedd" y Pender Hall yn llawn a chan- moliaeth eithriadol o uchel a roddir i'r ar- weinydd a'i gor. Mab ydyw E.T.J. i Wm. Jones, Cae Warren, Caerg^bi, a bechgyn o Gaernarfon a Ffestiniog YW'J' rhan fwyaf o leisiau'r cor. Agorwyd y cyngerdd gyda Hen Wiad fy Nhadau," a dilynwyd gyda With horse and hound (Caldicott), Com- rades to Arms (Adams), Martyrs of the, Arena (De Rille), a dibenwyd gyda'r "Delyn Aur." Cynorthwyid gan yr unawdiaid a ganlyn Gomer Richards, Gordon Bruce, Alberta Lamery, Arthur S. Davies, J. L. Evans caed adroddiadau. gan H. Badgley a Lewis Roberts oedd wrtli yr offeryn. Rhwydd-hynt i E.T.J. a'i gor; am danynt hwy y mae son drwy Vancouver a Canada fel cantorion. -0-

Advertising