Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ICANU'N IACH I LERPWL._

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CANU'N IACH I LERPWL. Mr. Thomas Parry. J Mrs. Parry. WEDI eu geni a'u magu ill dau ar Lannau'r Mersey, a threulio yma oes (idifvleli o was- anaeth crefyddol, y mae Mr. a Mrs. Thomas Parry, Wadham Road, Bootle, yn symud i fwynhau prynhawn yr einiocs yn ardal Bryn- du, Moii. A chyda theimladau chwith a hiraethus yr ymgynhullodd aelodau eglwys M.C. Stanley Road 110s Iau ddiweddaf i ganu'n iach i'v dda\i, ac i gyflwyno iddynt an- rhegion oedd yn arwydd o barch calon y dyrfa liosog tuag atynt ar achlysur eu hym- adawiad. Gweinidog yr eglwys, y Parchedig Griffith Ellis, M.A., a gyflwynodd i Mr. a Mrs. Parry, tros yr aelodau, anerchiad hardd ei ffram a chelfydd a thlws ei gweithiad, ynghyda phar o ivater colours Llyfr Emynau hefyd a pahn stand i Mrs. Parry ar ran aelodau'r eglwys, a darlun olioni ei hun a'i disgyblion, ar ran ei dosbarth yn yr Ysgol Sul. Tystiai Mr. Ellis na adawodd neb argraf.F ddyfnach er daioni ar eglwys Stanley Road na Mr. a Mrs. Parry, ac aeth tros wasanaeth Mr. Parry i'r Cyfarfod Misol ac i'r Cyfundeb fel ysgrifen- nydd pwyllgor Ileol y Genhadaeth Gartrefol. Hefyd, cyflwynodd Mr. John Williams, Worcester Road, umbrella i Mr. Parry ar ran plant y Gobeithlu, oeddynt mor hoff ohono, ac a deimlent mor chwith am dano. Caed gair o ffarwel dwys gan yr holl flaenoriaid, a chan amryw o'r aelodau ac with gydtiabod a diolch trosto'i hun a'i briod, sylwai Mr. Parry ei fod yn methu adnabod ei hun yn y darlun gor-berffath a dynwyd ohono gan y cyfeillion a siaradodd, ond y coleddai deimladau hoff- usaf ei galon t'uag atynt hwy a'r eglwys y treuliodd gyhyd o flynyddau dedwydd ynddi. 'Roedd wedi paratoi ei hun at fynd i'r wlad ers 26 mlynedd. Fel hyn y darllermai'r allorchiad ANEROHIAD I Mr. THOMAS PARRY, Bootle. Anwyl Frawd, „ Llawenydd i'ch cydswyddogion a. ch cydaelodau oil yn eglwys y Methodistiaid yn Stanley Road, Bootle, oedd deall fod eich amgylchiadau yn caniatau i chwi yaineillduo oddi wrth waith caled a gofalon trymion i fwynhau seibiant a gorphwysdra dros weddill eich oes; ond gofld calon iddynt oedd canfod y byddai i liynny ddwyn eich cysylltiad maith a'r Eglwys i derfyniad. Ac nts gallant adael i'r cyfleustra fyned hcibio heb roddi datganiad i'w teimladau,a. dymuno yn dda i chwi a'ch anwyl briod ar eich ymadawiad. Yr oedd eich rhieni yn aelodau o'r eglwys lion ac ynddi hi y dygwyd chwi i fyny o'ch mebyd. Ac yr ydych bellach er's peth amser yr aclod hynaf o honi. Cydnabyddwn gyda diolchgarwch dwfn eich gwas- anaeth mewn llawer iawn o gysylltiadau. Gvda'r Ysgol Sabbothol bu eicli gwaith fel Athraw o'r gwerth mwyaf. Yr oeddych yn Arolygwr ynddi ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ol; a Uanwasoch y swydd hono gyd& deheurwydd neillduol nifer 0 dymhorau ar ol liyny. Gyda Chaniadaeth y Oysegr, gyda'r Achos Dirwestol yn ei wahanol agweddau, a'r Genhadaeth Drefol; yn wir, ymhob eylch, llafuriasoch yn ffyddlon ac effeithiol. Buoch yn Flaenor yn yr Eglwys am lawn ddwy flynedd ar hugain; ac am nifer o'r blynyddoedd hyny yn Ysgrifenydd iddi. Am faint a gwerth eich llafur nid oes neb ond y rhai a fu yn y cyaylltiadau agosaf a chwi yn meddu unrhyw ddirnadaeth. Yn arbenig dymunwn grybwyll yr erys eich dylanwad yn iachuaol a dyrchafol ar d6 ar ol t6 o blant yr Eglwys am eu hoes. Cydnabyddwn hefyd gyda diolchgarwch diffuant wasanaeth ffyddlawn eich anwyl briod, Mrs. Parry, am fwy nag wyth mlynedd ar hugain. Yn mhob cylch y gallai gwraig grefyddol droi ynddo, llanwodd ef i'r ymylon a gwasanaeth medrus ac effeithiol. Gydä Ohymdeithas Dorcas, gofal am y tlodion, gyda'r Gen- hadaeth Drefol, a'r Ysgol Sabbothol, ni bu ball ar ei hymroddiad dyfal-barhaol. A eholled fawr iawn fydd eich ymadawiad chwi a hithau o'n mysg. Hyderwn fod i chwi etto yn ol lawer o flynyddoedd o ddedwyddwch a deinyddioldeb. Hir fyddo eich prydnawn, yn araf a digymylau y machludo haul eich bywyd, ac Y11 y diwedd trefner yn lielaetit i chwi ill dau fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd t'n Hachubwr Iesu Grist. Erfyniwn arnoch flderbyn yr Anerchiad hwn, yn nghyd fig ychydig anrhegion bychain, fel arwyddion syml a thra annigonol o werthfawrogiad eich cyfeillion o'ch gwasanaeth, eu hedmygedd o'ch cymeriad, a'u dymuniadau goreu am eich cysur yn y dyfodol. Yr anerchiad wedi ei arwyddo gan y Parch. G. Ellis, M.A., a holl Swyddogion yr Eglwys. Collodd Mr.Parry ei dad pan yn hogyn a bu ei fam byw yn yr un ty yn Bootle Waterworks o 1840 i 1887. Gwraig o gynheddfau cryfion ydoedd, ac na bu ei tliy heb weddi fore la hwyr. Dysgodd weddi i'w dau fab, Hugh a Thomas Parry. Byddent bob yn ail fore a hwyr yn cadw dyledswydd. Oddiar y fath aelwyd, nid rhyfedd i'r mab Thomas dyfu'n gymeriad cryf, a dod yn fuan i gymeryd rhan flaenllaw gyda'r eglwys. Pan yn 16eg oed, dechreuai arwain y Band of Hope tan gyfarwyddyd y diweddar Mr. David Lloyd a pharhaodd ei gysylltiad a'r Band agos yn ddifwlch, fel arweinydd neu ynte'11 gynorth- wywr, hyd ddiwedd Mawrth diweddaf. Rhoes oreu ei oes i hyfforddi plant yr eglwys yn yr Ysgol Sul, yn y Seiat, ac yn y Band of Hope; cyd-dyfodd a'r eglwys, a chydweith- iodd yn ddyfal gyda phob adran o'r gwaith. Fel ysgrifonnydd pwyllgor lleol y Gen- hadaeth Gartrefol, ni fu neb mwy poblogaidd gan y lleoedd cenhadol a'r eglwysi gweiniaid. Ymwelodd a hwynt oil, aeth i fewn i'w cyf- lyrau ac i'w hanghenion, ac ymegniodd ben a chalon i'w cynorthwyo a'u cryfhau. Mynych a mawr hefyd a fu cymwynasau Mr. Parry i liaws o'i gydgenedl,' sef yn cael gwaith a gorchwyl iddynt gvda hwn ac arall, a bydd ei ymadawiad yn golled i lawer yn yr yatyr hwnnw. Bu Mr. Parry yng ngwasanaeth Mri. David Rollo a'i Feibion, v Hong beirianwyr hvsbys, o'r fl. 1878 hyd ddiwoddd 1907, pryd v mynr odd vmneilltuo, er taered y dyrnunai'r ffirni iddo aros, a dydd Gwener diweddaf, amlvgodd yr office staff eu hedmygedd ohono drwy ei anrhegu a canteen of silver a. water- colour pa,ii?tina yr oil yn ddrudion a heirdd. Merch ydyw Mrs. Parry i'r diweddar Mr. a Mrs. John Williams, Premier Street yn eglwys Fitzclarence Street y'i magwyd ac oddiar ei dyfodiad i Stanley Road gyda'i nhriod wytii mlynedd ar hugain yn ol, ym- dfflodd i waith yr eglwys gydag ogni a chyson- deb di-dor. Llafuriodd gyda'r Ysgol Sul, gvda Dirwest,a cliyfarfodydd yr wythnos; yir- welai a'r claf a'r esgeulus a tlirwy ei hysbryd difalch, hoffus a chartrofol, gwnaeth lav/er o ddaioni tymhorol ac ysbrydol.

Cyfrol Newydd Dr. Roberts

Advertising

EBION LERPWL.I

Anrhegu.

Had y Methodistiaid.

BIRKENHEAD.