Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ICANU'N IACH I LERPWL._

Cyfrol Newydd Dr. Roberts

Advertising

EBION LERPWL.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EBION LERPWL. Adolygu Seiliau'r Ffydd." Yn ein nesaf, ymddengys adolygiad D.P. ar Seiliau'r Ffydd," sef cyfres ysgrifau ar bynciau diwinyddol gan ddeg o weinidogion Anibyiiwyr Cymru. Cyfieithu Heresi a Thyfiant." Y mae t-raothodyn "y Parch. T. Rhondda Williams, Brighton, The Relation of Heresy to Progress, wedi ei droi i Gymraeg ystwyth gan ein cymydog Mr. Griffith Griffiths, Garston. a'i gyhoeddi'n bamffledyn ceiniog gan Chas. Sever, Manceinion. Cyfarfod y Datgysylltiad. Diau y bydd addoldy Everton Village tan ei sang 110s yfory (110s Wener) yn gwrando'r ddau Seneddwr galluog a hyawdl—Mri. Ellis Jonos-Griffith o Fon 0 Win. Jones o Arfon— yn traethu ymhlaid Mesur y Datgysylltiad. A pharatoad da gogyfer a'r cyfarfod a fydd darllen yr Ymgom ddyddorol a gafodd ein gohebydd achlysurol a Mr. Ellis J. Griffith am Ragolygon Datgysylltiad, a welir ar td. 5 C Godreu Yn unol a phenderfyniad y Cyfarfod Misol, y mae eglwysi Methodistaidd Lerpwl wrthi'r dyddiau hyn yn canfasio pob ty ar hyd. gwael- odion y ddinas-sef o Waterloo yn y gogledd hyd i'r Dingle yn y de—am Gymry, or mwyn sicrhau both ydyw eu gwir nifer, a pha faint sydd heb fod yn mynychu moddion gras. Y mae 40 o aelodau Stanley Road yn canfasio Bootle ac aelodau Anfield Road yr un mor ddygn gyda'u rhanbarth hwythau. Priod Pedrog Y mae cydymdeimlad ei liaws edmygwyr a, r Prifardd Pedrog yn afiechyd ei anwyl briod. Dros bythefnos yn ol, cafodd Mrs. Williams ergyd ysgafn o'r parlys ond y mae bellach yn graddol wella, ac ar y ffordd i gael codi ac ymlwybro fel cynt. Dwy A.R.C.M. Newydd. YmYBg y rhai aeth yn llwyddiannus drwy arholiad diweddar y Royal College of Music, Llundain, gwelir enw dwy o ddisgyblion Mr. Harry Evans, arweinydd Undeb Corawl Lerpwl, sef Miss Annie Williams-Beattie (Kirkdale) a Miss Kate Williams (Anfield)- y ddwy yn ennill gradd A.R.C.M. am ber- ffeitlirwydd eu canu. Canu'n lach Yn seiat Stanley Road, nos Saboth diwedd- af, cenid yn iach a Mrs. Owen Williams a'r teulu, 71 Wadham Road, ar eu hymadawiad i fyw yng Nghemaes, M6n. Datganodd y swyddogion eu teimladau goreu tuag at y teulu, a'u gwerthfawrogiad o'u gwasanaeth yn ystod yr un mlynedd ar liugain y buont ynglyn a'r eglwys. Trc(«li v Parch. John Evans. Mr. W. O. Roberts, 21 Falkner Sq 0 10 (i Mr. Jolm Mostvn, 67 Mulgrave st 0 5 0 Mr. J. T. Jones," 19 Amber ley St. 0 5 0 Mrs. Williams, 18 Fern Grove 0 5 0 Mi-. John Morris, J.P.,C.C., 0 5 0 Mr. D. Parry, 38 Granby Street. 0 5 0 Mr. E. Jones, 14 Kelvin Grove 0 2 6 Mr. R. Jones, 37 Cairns St 0 2 6 Mrs. Owen, 62 Coltart Road 0 2 6 Mr. J. R. Jones, 23 Alwyn Street 0 2 6 Mr. D. Nicholas, 4 Thackeray St 0 2 6 Mrs. Evans, 10 Fern Grove. 0 2 6 Mr. R. E. Jones, 48 Kingsley Rd. 0 2 0 Master M.Davies,21 Thackeray St 0 2 0 Cvfaill 0 0 Mr. R. Rowlands, 34 Thackeray St 0 1 0 Hael-noddwr Wm. Moult Street. Nos Ferchor ddiweddaf, gwahoddwyd lervii gant ac ugain o garedigion a mynychwyr Ys- tafell Genhadol Wm. Moult Street i wlerld ddantoithus ar di-aul Mr. a Mrs. H. E. Will- iams, sy mor hael at y genhadaeth lion o dro i dro. Yn y cyfarfod ar ol, caed darlith Billy Bray gan y Parch. E. Griffith a chan- ouon dwvs a digrif gan Mr. a Mrs. T. E. Evans, Miss Cissy Parrv, Miss Lily Jones, Mri. J. Rees a Gwilvin Mills ac yn y gadair 'roedd y boneddwr sy mor gvnnes bob amser at yr ystafeH a'i gwaith-Dr. James Edwards. Codi'r Hwyl yn Willmer Road Yr wvthnos ddiweddaf, ynghapel M.C. Seisnig Willmer Road, Birkenhead, caed cyf- arfod codi'r hwyl gogvfer a'u Basar yn St. George's Hall fte Tachwedd nesaf. Siaradwyd o'i thu gan Mr. Wm. Evans, Y.H., C.D., gan y Parchn. J. D. Evans, B.A., S. G. Evans, B.A., ac ereill frodyr Ileol. Clywn fod y pwyllgor wedi cyflogi seindorf gvrn enwog y Scots Guards, yn gwneud popeth a allont eu hunain; ac vn ymbil am bob hwb a help gan eu chwaer- eglwysi Seisnig a Chymreig o ddau tu'r afon. Plant Cerddgar David Street Nos Forcher ddiweddaf, cafodd cor plant David Street eu cyngerdd pen tvmor, pryd yr oedd y lle'n orlawn, a'r gynulleidfa'n hynod hael ei chymeradwyaeth i ganu'r cor a'r nnawdiaid. Yn y darn cvntaf, perfformiwyd ail cantata Plant y Nefoedd (Protheroe), y rhai'n yn canu'r unawdau :—Misses Madge Hughes, Janet Williams (Grove Street), ac Edith Jones (Bootle), Mri. W.E.Hughes (Park Ed) ac O. Hughes (Chatham Street) ac unawdau'r. plant gan Edith Gore, Blodwen Griffiths, Myfanwy, Hannah, a Maggie Will- iams. Gwnaeth y cor a'r unawdwyr (u gwaith yn rhagorol, a bu raid ail ganu droion. Am- rywiaethol oedd yr ail ran ac heblaw'r cor, canodd Janet Williams, Hannah Williams, Myfanwy Williams, Edith Gore, Tommy Kyffin, gan yr hwn hefvd a'i chwaer Nellie y caed deuawd ar y berdoneg. Hon ydoedd yr ail gantata a berfformiodd y cor eleni, tan ar- weiniad Mr. J. W, Jones, yr hwn sy'r haeddu pob cefnogaeth am ei aberth mawr a chyson gyda'r had corddgar yn David Street. Cadeirid heno gan Mr. T.Jones, codwr ygan a thalwyd y diolchiadau gan y Mri. G. W. Edwards a T. Williams. Cyfeilid gan Mr. Herbert E. Jones.I.O.R. TEML GWALIA," EDGE LANE.— Gwahoddwyd ein Teml gangaredigion Dirwest Teml Excelsior White Roek Street nos Wener ddiweddaf i dalu ymweliad a hwy. Ein cyfeillion Seisnig sy'n cadw yr achos Dirwestol ymamewn bri,a hyfrydwchgennym fel Teml oedd cael cyfle i roddi ein hys- gwyddau o dan yr arch yn eu plith. Am- rywiaethol' oedd ein rhaglen, gwasanaethwyd gan y Chwiorydd Lizzie Jones, Lil Roberts, Martha Lamb, Jennie Jones, Maga Jones (Megan Dwyryd), CassiefPhillips, a'r Brodyr M. Eddie Evans, J. E. Da vies, Griffith Da vies, W. Parry, Owen Thomas, Owen Williams, Jack Roberts, George Evans, J. A. Taylor, H. R. Hughes, a'r Parch. David Jones fel Prif Demlydd. Cawsrm dderbyniad croes- awgar, a chyfarfod hwyliog.- Cymro.

Anrhegu.

Had y Methodistiaid.

BIRKENHEAD.