Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

ICANU'N IACH I LERPWL._

Cyfrol Newydd Dr. Roberts

Advertising

EBION LERPWL.I

Anrhegu.

Had y Methodistiaid.

BIRKENHEAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BIRKENHEAD. Eglwys Claughton Road CYNHALIWYD cyngerdd o radd uehel yn y lie uchod nos Iau ddiweddaf, o dan nawdd Undeb Corawl y Cambrian," Birkenhead, arwein- ydd yr hwn ydyw Mr. Tom Morris, Canodd y Cor amryw ddarnau clasurol, nes ennill ed- mygedd y gynulleidfa. Trwy garedigrwydd Mr. Elston, eafwyd gwasanaeth cant ores enwog adnabyddus ym mhrif gyngherddau Lloegr, sef Miss Florence Brown, Warrington, yr hon a ddatganodd amryw unawdau yn y fath fodd nas clywir ei chyffelyb ond ar brif lwyfannau ein gwlad gan y prif gantorion. Yr oedd yr encores yn fyddarol, ac yn brawf o ragoriaeth y gantores ac o chwaeth uchel y gvnulleidfa. Hefyd, canwyd The Children's Home" gan Miss Lily Edwards, Canning Street, yn hynod deimladwy a,c effeithiol. Gwledd arall ar y rhaglen ydoedd adroddiadau peiiigamp gan Madame Gwladys Williams. James Williams, Walton Breck Road, ydoedd Tenorydd y cyngerdd.Efe yn ddisgybl i'r Proffeswr John Henry, R.A.M., ac yr oedd ei ddatganiadau yn uwchraddol. Barn rhai ddylai wybod am James ydyw ei fod yn debyg ó fyned yn brif denorydd y wlad. Datgan- iadau gwir dda a roes Tom Lloyd,efe'n prysur ddringo i enwogrwydd fel Basswr o radd uchel Llanwyd y gadair gan Mr. W. R. Holland, a chyfeiliwyd i'r holl eantorion gan Madame Ethel Veals a Miss Mabel Davies. Elai H elw i drysorfa'r cor.—Gohebydd. --0-