Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ILBION LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I LBION LERPWL. Cynrychiolwyr y Pan. Y mao'r Parch. T. G. Owen, M.A., Oak- field Road, a Mr. Wm. Evans, C.D-, Y.H., i gynrychioli eglwysi Seisnig Cymru yng Nghynhadledd fawl" y Pan-Presbyteriaid yn New York Meh. 15-25; a Mr. Owen i draddodi anerchiad yno ar Le gwyr lleyg yn yr eglwys." Yn y Drych gwelwn hanes y Parch. T. Chas. Williams, M.A., yn ymdaith yn amlder ei rym pregethwrol draw ac yma drwy'r Taleithiau, yntau i fod yn y Pan- Presbyterian, ac i'w annerch ar destyn diwin- yddol. Ennill y Tlws Aur. Mr. W. H. Barrow Williams, o eglwys Stanley Road, yw'r uchoi drwy Gymru gyfan yn x^rholiad Cyfundebol y Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd 188 o farciau allan o'r deucant dichonadwy. Maes yr arholiad ydoedd Matt. xvi.—xxviii a'r arholwr, y Parch. W. Owen, Webster, Road. Dyma'r waitb gyntaf i eurdlws Ysgrythyrol y Cyf- undeb gyrraedd Lorpw], a'n gorchest bellach a fydd gofalu am ei gadw yma. Cael ei godi'n Ben=Consul, Y mae Mr. K. T. Wynne wedi ymneilltuo o swydd Consul-General Taleithiau'r America yn Llundain, a'r Anrhyd. J. L. Griffiths, Consul Americanaidd Lerpwl, wedi ei ddyrch- afu'n ddilynydd iddo yn y swydd uchel a mawr ei gwobrwy: Y mae'r Pen-Consul yn Gymro o du ei dad a'i fam ac ebra fo wrth Gymdeithas Genedlaetliol Gvmreig Lerpwl ryw ddeufis yn ol Y peth cyntaf ae anwylaf wy'n gofio yw clywed fy mam yn fy suo i gysgu drwy ganu hen hwiangerdd Gymraeg." Gyn iry L 1 indai n, gwnewch yn fawr ohono chwia'i cewch yn siaradwr-gwedi-ciniogyda'r mwyaf ffraetli a llithrig a safodd o flaen torf. Profedigaeth Pedrog Y mae'r Parch. J*. O. Williams (Pedrog) a'i briod wedi eu goddiweddyd gan brofed'gaeth lem. Nos Saboth ddiweddaf, wedi oystudd cymharol fyr, bu farw eu mab hynaf, Mr. Edward Owen Williams, yr hwn oedd yn 31ain oed, yn briod, ac a edy weddw a dau o biant galarus. Cleddir lieddyw (dydd Tau) ym mynwent West Derby, am 3 o'r gloch. Bu Mr. Williams yn y West Coast of Africa rai blynyddau yn ol tros y Mri. Elder, ,Dempster & Co., ac amharodd hynny ei iechyd weddill ei oes. Yr oedd yn ddyn iouanc o dalontau amlwg, ac yn fardd Seisnig coeth a swynol ei awen. Y mae cydym- deimlad holl gydnabyddion y teulu a'r Prifardd yn y brofedigaeth. Da gennym glywed fod Mrs. Wil'iams, yn ei gwaeledd, yn ymgynnal cystal dan y loes. Cipio'r Darian Mr. n. T. Edwards, gyda dctholiad o blant ieaengaf Cor Plant y Pentre, a enillodd yr her-darian yng nghystadleuaeth y corau plant-ysgol yng Ngwyl Gerddorol Southport. Dr. Coleridge-Taylor yn beirniadn ac yn rhoi moliant uchel i blant R.T.E. o- Talentau Lerpwl- Nid ydym yn sicr eu bod yn gyflawn, ond wele rai o dalentau Lerpwl a drechodd dalent- au Cymru yn Eisteddfodau'r Llungwyn draw ae yma :—j •• M i Miss Cassie Hughes, yn soprano fuddugol Bwlchgwyn. Miss C. Evans, Liscard (sef mercli yr hy- barch Ddr. Owen Evans) yn fuddugol yn Llanrwst ar frodwaith celfydd, as yn Amlwch. (Eisteddfod Gadeiriol Mori) ar gyfieithu chwe emyn Cymraeg i'r Saesneg. Miss S. Blodwen Jones yn trechu haid o leisiau cyntralto yn Llanrwst. Mr. W. J. Matthews, Waterloo, a'i dri chyfaill yn curo pob pedwarawd a ddaeth i'w herbyn yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy. Oliver Don—sef Mr. O. G. Pritchard- yn gvdfuddugol a phregethwr o'r Do yn Eis- teddfod Amlwch ar y nofel efe hefyd oedd nofelydd buddugol yr Eisteddfod honno'r llynedd, gyda'i Seren Unig. Ym Mhrestatyn, enillodd Tom Lloyd, Birk- enhead ,ofe a'i barti, ar y pedwarawd dwbl a Thom arall, Tom Morris, Birkenhead, ar gyfieithu, a Dilys Jones, Lerpwl, ar ganu'r berdoneg. Yn Llanrwst ddydd Llun, enillodd Miss Ethel Turtle a Miss Frances Ellis ac yn Amlwch ddydd Mawrth, enillodd J. Will- iams (Laird Street)—y tri o Birkenhead. Undeb y Bedyddwyr. Mewn cyfarfod perthynol i'r uehod a gyn- haliwyd yn Bousfield Street nos Fawrth dcli- weddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. Myles Griffiths, galwyd sylw at Fesur Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Pasiwyd i anfon ilvthyr cryf at y Prif Weinidog, i erfyn arno wneud ei orou, a rhwyddhau y ffordd i basio'r Mesur trwy Dy'r Cyffredin yn y Senedd-dymor presennol. Fod copi o'r llythyr i'w anfon i Mr. Lloyd George, ac at Arweinydd y Blaid Gymreig yn y Senedd, ac ereill. Cafwyd adroddiad y Gymanfa Ganu gan yr ysgrif- onnydd, Mr. J. Arthur Owens. Derbyniwyd ef yn llawen a diolchgar, a diolchwyd yn gyn- nes i'r pwyllgor, ac yn enwedig i'r swyddogion a'r arweinydd, Mr. J. T. Jones, am eu hym- drechion eleni eto yrnhlaid y Gymanfa, yr hon oedd vn llwyddiant hollol ymhob yatyr. Gwnaed y trofniadau arferol ar gyfer y finvydd- yn ddvfodol. Galwodd Pedr Hir sylw at lyfr v Parch. D. Powell, Allwedd i I. a II. Timotheus," ac esboniad y diweddar Dctr. Roberts, Pontypridd, ar yr un maes; ac hefyd Holwyddoreg Mr. J. Lewis, Amman- ford, i'v safonau o dan 16 ood, a chymerad- wywyd hwy i sylw yr Ysgolion Sul fel cyn- orthwyon gwerthfawr ym Maes Llaiur yr Ysgol am y flwyddyn ddyfodol. Ymdrin- iwyd a materion ereill perthynol i'r aclios yn y cylch. Ein ChwioryddlDirwestol. SSNos Fercher ddiweddaf, cynhaliai cangen y chwiorydd dirwestol gyfarfod yn Ystafell Genhadol Priory Street, Mrs. Evan Owen yn y gadair, ac yn agor y cyfarfod gydag anerchiad rhagorol. Canodd Miss Williams (Orrell) ddwywaith, ac yn effeithiol iawn ac ad- roddodd Miss Ada Roberts (Bootle) ddarnau dirwestol gydag arddeliad. Cyfeiliai Miss Jones, Northumberland Terrace, a dibenwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mrs. Williams (Orrell). 'Roedd y canu fel canu diangof y Diwygiad, a diolchwyd yn gynnes i'r chwior- ydd am eu hy,-nweliad.-C. § > Y diweddar Mr. Ellis W. Roberts Ddydd Llun diweddaf, bu farw Cymro a fu'n amlwg iawn yn y ddinas am flynyddau gyda phob symudiad gwleidyddol a chrefyddol Cymreig, sef Mr. Ellis W. Roberts, Islwyn, Victoria Park,' Wavertree. Fe'i ganed yn Lorpwl 47 mlynedd yn ol ond oherwydd marw ei dad, fe'i dygwyd i fyny gan ei daid ym Mhenmaclmo. r Cafodd ei addysg yn y Liverpool Institute a llanwodd lawor o swyddi amlwg gyda WTesleaid Gymreig Myn- ydd Seion a'r cylch. Bu am flynyddau yn Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol, yn drysorydd yr eglwys, trysorydd Cylchdaith y Genhadaeth Dramor, ac ar hyn o bryd yr oedd yn un o ymddiriedolwyr y capel. Bu'n ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sabothol Ler- YS" pwl (sef ysgolion yr holl enwadau) a fyddai yn Lerpwl ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac ynglyn a'r hwn y cynhelid cyngerdd y mil plant yn flvnyddol. 'Roedd Mr. Roberts yn wr tra galluog ac eang ei ddarllen yn hael ei galon at bob achos da, yn hynod o hawdd- gar, ac yn aelod o Gyfrinfa St. Dewi y Seiri Rhyddion. Gedy weddw a phedwar o blant i ofalu am dad na fu ei dirionach. Y Sabotb nesaf bydd y Parch. T. Uechíd Jones, B.A., y lienor eglwysig addfed o Ysbyty Ifan, Bettws- y-coed, yn pregethu yn egwys Deiniol Sant fore a hwyr. GARSTON.-No-, Fawrth (Mai 25), cynlialiwyd cyf arfod arbennig yn Ysgoldy Capel M.C. Cliapel Road, tan lywyddiaeth y Parch. J. D. Evans, i gyflwyno gwobrwyon a thystysgrifau i'r ymgeiswyr llwyddiannus yn yr Ar- holiadau Lleol a'r Tindeb Ysgolion sydd newydd basio Oaed anerchiad calonogol a gwresog gan y llywydd. a' chaed gair hefyd gan amryw o'r athrawon, a chanwyd amryw donau. Enillwyd y gwobrwyon fel v canlyn :— Yr Arholiad Ysgrythyrol.—Dos. II., i rai 16 oed hyd 21-1, Iorwen Humphreys, 2 Katie Eills, 3 Jennie Lewis 4 Morfydd Humphreys. Dos III., i rai o 13 hyd 16, 1 Jennie Jones, 2 Alma Williams, 3 Polly Jones, 4 Ella Lewis. Dos. IV., 0 10 hyd 13, 1 Blodwen Williams, 2 Annie Jane Lewis, 3 Georgina Oilman, 4 W. E. Hum- phreys, 5 Myfanwy H. Roberts, 6 Gwilym Hughes, 7 Ellen P. Roberts (cyfartal), 7 Enid Williams (cyfartal), 8 Mair Ellis, 9 Clement Evans, 10 Idwal Humphreys, 11 (evfartal) David Humphreys ac Emlyn Humphreys, 12 Edith Williams, 13 Winnie Williams, 14 Mary C. Jones, Dos. V., i rai dan 10, 1 R. A. Morton, 2 May Williams, 3 Mvfanwy Evans, 4 Ethel Morton, 5 Willie Humphreys, 6 Ceri Humphreys. Dysga Allan, i rai dan 21, 1, Jennie Lewis, 2 Iorwen Humphreys. Enillodd Jennie Lewis hefvd an wobr yr Undeb. 0 10 i 13 -1 Gwilym Hughes, 2 Blodwen Williams, 3 W. E. Hum- phreys, 4 M. H. Roberts o dan 10,1 R. A. Morton, 2 May Williams, 3 Clement Evans. Yr Iaith Gymraeg.— 13 hyd 16,1 (cyfartal) Katie Ellis, Jennie Jones, 2 Alma Williams; 10 hyd 13,1 (evfartal) Gwilym Hughes, Ellen P. Roberts, 2 D. Basil Evans, 3 (cyfartal) Annie J. Lewis a M. H. Roberts, 4 Enid Williams, 5 (cyfartal) Mair Ellis ac W. E. Humphreys, 6 Georgina Gilman, 7 (cyfartal) Idwal Humphreys a David Humphreys, 8 Emlyn Hum- phreys. Dos. o dan 10,1 R. A. Morton, 2 Ethel Morton, 3 Clement Evans, 4 Myfanwy Evans, 5 Willie Humphreys, 6 Ceridwen Humphreys, 7 Hughie Roberts. Enillodd R. Alun Morton hefyd wobr gyntaf yr Undeb. Tonic Solffa .1dnior- I Mair Ellis, 2 Ceridwen Humphreys, 3 Katie Humphreys, 4 R. A. Morton. Elementary-l Idwal Humphreys, 2 Katie Eilis, 3 Gwilym Hughes, 4 W. E. Humphreys, 5 Emlyn Humphreys. Inter- mediate—1 Iorwen Humphreys, 2 Alma Williams. Enill- odd Iorwen Humphreys hefyd ail wobr yr Undeb. Rhoddwyd vr holl wobrwyon mewn llyfrau pwrpasol. Daeth yma 75 o dystysgrifau hefyd ynglyn ag arholiad yr Undeb Ysgloion ac hefyd dair gwobr, fel y crybwyllwyd eisoes. Nid da lie gellir gwell," medd yr hen ddiareb er fod y ddwy Ysgol wedi gwneud yn dda eleni, hyderwn y bydci iddynt wneud yn well eto'r flwyddyn nesaf. .(\

Tysteb y Parch. John Evans,

Draws Mon ac Arlon,

Advertising