Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

L LITH LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

L LITH LLUNDAIN. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG]. Y Brifddinas, Nos Faivrth. Trem ac Argoel. D Ym-k ni o fewn wythnos i'r Wyl GcnedJaothol a swn trefnu ar ei chyfer sydd i'w giywed yn holl gylchoedd Cymreig y ddinas-s wn ys- grifbinnau'r ysgrifenyddion, swn ymgyng- lioriadati pwyllgorau, a swn ymarferiadau y cor mawr. Os na thry Eisteddfod Llundain yn llwyddiant nid ar neb o swyddogion nac aejodau'r pwyllgor y bydd y bai. Y mae yma dipyn o anfoddlonrwydd oherwydd fod pobl Colwyn Bay yn defnyddio pob ffordd i dynnu sylw'r wlad at Eisteddfod 1910, cyn i Eistedd- fod 1909 fyned lieibio. Ni wnaeth Llundain nemawr stwr hyd ar ol Llangollen, a meddylid fod moesgarwch eisteddfodol yn galw am beidio. Ond cwynir mwy am fod pwyllgor Colwyn Bay wedi rhoi cyhoeddusrwydd i lythyr brawdol a anfonwyd ato, ac yn ceisio argraffu ar feddwl y wlad y mynnai pwyllgor Llundain osod y Hall dan anfantais. Dim o'r fath beth. Y cwbl a wnaed oedd galw sylw at yr hyn sydd wedi bod yn arferiad o flwydd- yn i flwyddyn. Nid anaturiol y dybiaeth mai mewn anwybod o'r arferiad honno y gweithredai Colwyn Bay. Anfantais y pwyll gor hwnnw yw fod cymaint o Saeson a chyn lleied o Eisteddfodwyr profiadol yn aelodau ohono. Er 1887. Unwaith o'r blaen y cynhaliwyd yr Eistedd- fod Genedlaethol yn Llundain, a hynny ddwy flynedd ar liugain yn ol. Bu yma fwy nag un eisteddfod o bwys yn ystod y rhan flaenorol o'r ganrif, o dan nawdd yr hen Gymrodorion a'r Gwyneddigion. Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llundain yn 1855 yr enillodd ,,yn a Emrys y gadair am ei awdl odidog ar Wlad- garweh." Ond yn 1887 yn unig y talodd vr Eisteddfod Genedlaethol ymweliad a Glann- an'r Tafwys. Cynhaliwyd honno yn vr un man a'r un eleni, yn Neuadd Frenhinol Albert, a rhoes Tywysog Cymru a'r Dywysoges eu presenoldeb ynddi. Ond er y nawdd ar- bennig hwn o leoedd uchel, ni thalodd yr Wyl honno ei threuliau, a bu raid i'r gwar- antwvr dlotli eu hunain o rai cannoedd o bunnau. Dyddordeb prudd yw bwrw golwg dros Raglen J 887 er gweled faint sy'n aros o'r rhai oedd yn flaenllaw ynglyn a'r uchel-wyl y flwyddyn honno. Ithyfedd gynnifr ohonynt svdd Yn y fvnwent a'r pentwr "— Syr John Puleston, Llywydd y Pwyllgor Cyffredinol; Syr David Evans, Syr Lewis Morris, a Mr. Morgan Lloyd, Is-lywyddion Mr. Stephen Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol a Mr. Lewis H. Roberts, Try- sorydd. Yr unig rai o swyddogion y pwyllgor liwnnw sydd mown cysylltiad a phwyllgor yr Wyl eleni yw Mr. Vincent Evans, Cadeir- ydd Mr. W. E. Davies, Ysgrifennydd—y ddau yn gyd-ysgrifenyddion yn 1887; Mrs. Mary Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd- orol a Mr Richard Roberts, B.A., Is-gadeir- ydd y Pwyllgor Ariannol. Yr oedd Clwyd- fardd, llwfa Mon,Elis Wyn o Wyrfai, Tafolog. vVateyn Wyn, Dr..Joseph Parry, Dewi Mon, Tom Ellis, Dafydd Morgannwg, Gwvneddon, Silvan Evans, Isaac Foulkos, Cadwaladr Davies ac Eos Morlflis, yn amlwg iawnyn Eisteddfod 1887—i gyd wedi huno erbyn heddyw. Wynebau newyddion a welir ar hvyfan Neuadd Albert yr wythnos nesaf. Yr Orsedd. \'ug Ngerddi Kensington, gyferbyn a'r Neuadd Albert, y cynhelir yr Orsedd foreuan Mawrtli, lau a Gwener, Y llecyn yn un uodedig o ddymunol. ac y inae niier fawr o'r [irif "orseddogion (chwedl y Cofiadur) wedi anfon y byddant yuo i gynortlnvyo yr ArcJi- ddorwydd. Yn yr un titaii y cynhelid yr Orsedd yn 1887, eithr ychvdig to'r rliwysg presennol a'i nodweddai. Nid oedd na Derwydd, Bardd nac Ofydd mown urddwisg, eitlir pob un yn ei ddillad arferol. Bydd gorymdaith fawreddog yn gadael Neuadd Albert am naw o'r gloch y tri boreu, ac yn dychwelyd yno erbyn un-ar-ddeg. Trefnir gorymdaith drwvr Neuadd liefyd ynglyn a'r Coroni a'r Cadeirio. Rhagolygon. Anatnl y bu i unrhyw Eisteddfod ragolygou mwy disglair nag sydd i Eisteddfod Llun- dain. Y rnae swn tyrfaoedd yn dylifo o Forgannwg, gwlad Myrddin a Plienfro yn y De ac o Arfon a Meirion yn y Gogledd. Sierlieir fi gan yr Ysgrifenyddion fod yr holl gorau sydd wedi anion eu henwau i mewix yn dyfod heb fiael, ac nad oes guir o wir yn Ý sibrvvd fod rhai ohonynt wedi ail feddwl^a phenderfynu aros gartref. Dywedir fod un neu ddau o bersonau yng Ngbymru na welodd y Pwyllgor yn dda eu gwahodd i gymeryd unrhyw swydd yn lied brysur yn liedaenu awgrymiadau o'r fath. Y mae tri, os nad pedwar, o'r corau yn y brif gystadleuaeth, wedi concro o'r blaen ar y llwyfan genedl- aethol, fel y bydd yr ornest cleni yn ornost rhwng cewri. Yr un modd am yr ail gystadl- euaeth, a chystadleuaeth y Corau Mtibion a'r Corau Merched. Deallaf y bydd y rliag- len wedi ei hamseru, feI y gwyr pawb ymlaen Haw pa bryd y cymer pob cvstadleuaeth Ie. Yr unig sibrwd a bar bryder yw'r sibrwd fod y Suff ragettes am ddod yno i derfysgu pan fydcl y Prif Weinidog, Canghellydd y Trysoriys, a'r Cyfreithiwr Cyffredinol yn cyfarch o'r gadair. Ni fedd y giwed afreolus honno mo'r ddcalJ- twriaeth i amgyffred fod gwahaniaetli l'hwug cynhulliad politicaidd a chynliuiliad ceiiedl- aethol o garedigion awen a cherdd, a bod yr ymddygiad a ellir gyliawnhau yn y naiU yn vmradwyddus yn y llall. Os deuant i beri terfysg yrg ngwyl y'Cyniry, hwy gant drin- iaeth y cofiant am dani tra byddant byw. Beth iyddai i lowyr Morgannwg a Chwarel- wyr Meirion ddod a sypypau o ddanadl poethien gyda hwy i Lundain, a'u defnyddio os bydd angen yn y modd offoithiol hwnnw y gwyddalit hwy cystal D,l)1 dano. Y 'Cymrodorion. Arfera Arglwydd Tredegar roddi gwiedd i aelodau Cymdeithas y Cymrodorion bob haf, ac er mwjn croesawu'r beirdd ac eistedd- fodwyr nad ydynt mewn cyfle i dderbyn y gwahoddiad yn ami, trefnwyd i'w cliael eleni ynglyn a'r Eisteddfod, ac fe'i cynhelir nos Lun. Deallaf fod nifer enfawr o docynau gwahodd wedi eu hanfon allan, a diau y bydd y cynhulliad yn un cofiadwy. C'a Cvrnry Llundain gyfleustra i adnabod eu brodyr o Gymru, ac ysgwyd Haw a mwynhau melus- fwyd yn swn tant a phennilJ. Bydd cyfavfod o'r Cymrodorion fore dydd Mercher befyd fel arfer. Darllen papurau a tlirafod materion o bwys i Gymru fydd y gwaith yn y cyfarfod hwnnw. Cyfarfodydd Eraill. Ni raid crybwyll am y lliaws oynulliadivu dyddorol a gyfarfyddant wythnos yr Eistedd- fod o flwyddyn i flwyddyn. Un o'r rhai mwyaf dyddorol yw cyfarfod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, i'r hon y mae Syr John Rhys yn Llywydd. Hen fyfyrwyr yn Hh.vd. ychen yw aelodau'r Gymdeithas, ond croes- awant lu o westeion i'w cyfarfod. Byrbryd ganol dydd yw eu lianes arferol. eitlir eleni y maent am gael cinio liwyrol yng Ngwesty Holborn. Y mae' I' Clwb Cymreig hdyd wedi ethol holl aelodau Cymdeithas yr Orsedd yn aelodau mygedol o'r Clwb dros ystod wytlmos yr ivyl. Lie hyfryd fydd yno i gael ymgorn a seibiant. Y mae'r ystafelloedd yn y White- hull Court a fewn ergyd carreg i Charing Cross. Bydd y Gorseddogion yn penderfynu tyngcd Mesur Diwygiadol yr Archdderwjrdd nos .9 Fercher, a nos lau dadleuir hawliau cymharol Caerfyrddin, Aberystwyth, a'r Fenni i gael eu hanrydeddu ag ymweliad yr Eisteddfod yn 1911. Rhwng popeth, bydd yr wythnos yn wythnos ddyddorol tu hwnt. Y Senedd. Avaf iawn yw y Seneddwyr yn dychwelyd o'u gwyliau. v Nid oedd y teiran.yn Nli\ r Cyffredin ddydd lau a dydd' Cweljex,, ac nid oedd yn rhyw lawer iawn gwell yno ddoe pan agorwyd y ddadl ar ail ddarlleniad y Mesur Cyllidol. Gwyr yr aelodau mai ar ol mynd i bwyllgor ar y Mesur liwnnw y dochrena'r frwydr o ddifrif, ac mai y dyddiau hyn unig ddyddiau o ollyngdod posibl ar lawer o wythnosau. Cynhygiodd Austen Chamber- jam fod y Mesur i'w ddarllen yr ail waitn ymlien chwe mis. Y mae'n amlwg ei fod of yn teiuilo yn ddwys y perygl i I)o ii-I ei dad gael ei gladdu o'r goJwg gun y Gyllideb. 0111.1 defnyddiodd un ddadl fydd yn wei thfawr iawn pan fo eisiau dymchwel cefuogwyr polisi Brimijani. C\vynai yn enbyd fod y dreth ychwanegol ar wirodydd a ehwrw wedi rhoi mantais i'r distyllwyr, y bragwyr a'r tafarn- wyr ysbeilio'u cwsmeriaid. Fod y dreth o fiJiwn yn dwyn pedair miliwn i IcgeHau r personau a enwyd. Yn hollol felly. Aceto, myn y Diffyndollwyr na raid i'r bwytawr dalu dim rhagor am ei fara pe tollid yd, na'r gwisgwr dalu dim nrwv am ei ddillad pe tollid gwlan a ehotwm a ddaw yma o wledydd tramor. Rliaid i Austen adael un o'r ddwy gri heibio. Cwyr Prvdeinwyr drwy brofiad fod gwneuthurwyr a g\\ erthwyr nwyddau yn xnynuu dwy neu dair csiniog i'w llogellau eu hunain am bob ceiniog ychwanegol o doll a. godir ar unrliyw nwydd. Ac y mae hanes y mis diweddaf yn dwyn tystiolaeth a ddylai argyhoeddi'r gwanaf ei amgyffredion. Nid oedd yn wertli gan un o aelodau blaenllaw'r Weinyddiaeth wastratTu ei anadl i uteb Austen, gadawyd hynny i'r Cyfreithiwr Cynrodinol dros Ywgotland. v