Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

lLYTHYR eWLElDYDDOL[

Gyda'r Clawdd,

colofn Prlfysgol Lerpwl.

O'R MOELWYNrR GOGARTH

0 Dre Daniel Owen.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Dre Daniel Owen. [GAN NAI WIL BRYAN]. ,.o YSBYTY I FETHESDA -Clywais fod Eglwys M.C. Bethesda wedi anfon galwad i'r Parch T 0. Jones, Ysbyty, i ddod yno i'w bugeilio, a'i fod yntau yn ei derbyn. Os yr aiff cyn ddyfned i'w serch ag yr aethei flaen- orydd, y Parch. John Owen, Anfield, bydd yn eithaf cysurus arno. Deued a. Chymraeg yr Ysbyty 1 fan gydag o, a thraws-blanned both ohono yn y Wyddgrug aflafar yma, sy fel cyntedd y cenhedloedd ers blynyddau 0 LA NA RAI ON.—Boro dydd LIun yr wytlmos hon, bu farw'r Parch. W. G. Rich- ards (A.), Lianarmon, oeddfrodor o Dalybont, Ceredigion, ac a iu yn yr ysgol foreu'i oes gyda'r glewion a ganlyn :—y Parchn. Spin- ther James, Llandudno, a'i frawd Gwerfyl D. Adams, Lerpwl C'eulanydd J. J. Will- iams, Cadeirfardd, Llangollen Llew Machno R. C. Adams, Penllwyn, ac eroill o'r cnwd doniau a gododd yn yr atdal honno. 'Roedd Mr. Richards yn fugail tair eglwyrs—Lian- armon, Graianrbyd, a Blaenau Treuddyn ers pum mlyuedd ar hugain, yn gerddor da, ac yn fawr oi barch gan bawb. DRWG-NEWYDD 0 BELL. Yr wythnos ddiweddaf, cafodd W. LI. Parry, B.A., Pont- y-garreg, wifr-neges o Rhodesia, Deheudir Affrica, fod ei frawd Edward Lloyd wedi marw o dwymyn y malaria. Efe'n beirian- nydd wrth ei grefft, ac yn arolygu ffordd haearn nowydd a wneir yn y fangre bell. GERBRON BUCKNILL.—-Gwaith go ys- gafn a gafodd y Barnwr Bucknill yrn Mrawd- lys sir Fflint. Un ferch a dau ddyn wedi bod yn rhy ysgafn eu bysedd, a'r tri yn cael eu lianfon i garchar Rhuthyn, yno i edi- farhau am dri ac am chwo mis. YM M YN YDD D17.—-Y Sul diweddaf, eyn- haliwyd Cyfarfod Ysgolion M.C. ym Meth- ,c lehem, Mynydd Du, Lianarmon. Daeth cyn- rychiolwyr o 15 ysgol W. R. Jones, Bwcle, yn llywyddu; y Parch. W. R. Jones, Pisgali, yn holi a MJ-. John Owon, Pen tre, ynhwylio'r trefniadau. TAN FATWN WILFRID. Yng Ng I ioed- llai, ddydd LInn yr wythnos hon, cynhaliwyd cymanfa gerddorol cylchdaitli Wesleaidd y Wyddgrug, tan arweiniad Wilfrid Jones, A.R.A.M., Gwrecsam. Canwyd y tonau Llanbedr, St. Fulbert, Narberth, Galw arnaf fl, Tanymarian, Eurglawdd, Wells, Had- ley, Emyn y Pasc, Cefn Mawr—yr oil o lyfr tonau'r enwad; ac o donau'r plant, Rhosyn Saron, a Dring i fyny (G. James, ynghyda'r rhangan A oes canu yn y nef- oeldd (G. Nid ar cliware bach y ceir Wilfrid i ganmol—chwanocach yw efe i'r llym nag i'r gwag-ganmol ond tystiodd iddo gael ei foddio'n rhagorol yn y canu heddyw. Rhoed tystysgrifau i Iwyddedigion y Maes Llafur ac yn Arholiad y Tonic Solfia. Caed hin hyfryd a. thyrfaoedd mawr ion. Motliodd j Mr. Job Roberts, Ashton-in-Makerfield, a ehyiTaedd i lywyddu'r prynhawn, ond anfon- odd rodd ragorol i'w gynrychioli. Efe'n frodor o Goedlln;, a,'r lie yn Goed-mwy iddo ef o hyd ym mro'r estrpn. Llvwydd yr hwyr ydoedd Mr. Goo. Rowlands, Gwrecsam, yntau'n siarad a chyfrannu'n dda. A beth yn fwv a allai llywydd wneud ? Roedd y Parchn. D. Roberts a Berwyn Roberts yn gwvlio'r trefniadau, ac yn dda y gwnaethant en gwaith. 'Rwy'n ddyledus am y manylion nchod i ohebydd oedd yno. Anfoned of ac ereill rai bethau dyddorol i'r golofn hon, ac fe'u gweuaf innau hwy i mewn i'm hosan yn fy ffordd fy hun. -J-

Llyfrgell y Genedl

Advertising