Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithasfa'r Gogledd.

DYDD MERCHER.

DYDD IAU.

DYDD GWENER

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD GWENER Y Genhadaeth Gartrefol. Cyflwynwyd adroddiad pwyllgor y Gen- hadaeth Gartrefol gan y Parch. D. Hughes, M.A., Caernarfon. Oherwydd gwaeledd, 'roedd y Parch. O. R. Owen yn gorfod rhoddi fyny ofal eglwys Pontrobert ac 'roedd yn mryd y Parch. Wm. Jones roddi fyny ofal yr achos yn Ynys Enlli fis Medi nesaf. Cym- hellid peidiQ cychwyn achos newydd ar hyn o bryd yn Connah's Quay. Y Parch. Isaac Jones, Nantglyn, a sylwai nad oedd yr hyodledd a'r hwn y cyflwynwyd yr adroddiad yn dylanwadu dim arno ef. Bu ef ar un adeg mewn cysylltiad agos a'r achosion cenhadol a gweiniaid, ac yn ei farn ef ni lwyddent byth. A dweyd, y gwir 'doeddynt ronyn pellach ymlaen heddyw nag oeddynt hanner can m'ynodd yn ol. 11 7 (" Cwestiwn," a llawer o ysgwyd pen anghvm- eradwyol). Gadewch i ni gael mwy o ystad- egau, a llai o hyawdledd. Cododd Mr. James Venmore, Y.H. (Lerpwl) i ateb fod ar hyn o bryd 105 o leoedd cenhadol, ac iddynt 50 o weinidogion, 12,500 o fynych- ivyr, 8000 o aelodau'r Ysgol Sul, a 5,800 o aelodau eglwysig, a hyderai y byddai y ffi- gyrau hyn yn foddhaol i Mr. Jones. 'Roedd eisieu f,3000 bob blwyddyn at waith y Gen- hadaeth lion, oedd yn ogoniant y Cyfundeb. A chynnwys yr Achosion Seisnig, 'roedd 400 o orsafau i'w cynnal, ac onichaent yr arian, byddai raid cau llawer o'r addoldai. Cymera_dwyw\rd yr adroddiad. Yn safn y Babaetb. Hysbysodd Mr. Peter Roberts, Llan Elwy, fod v Pwyllgor i Wrthweithio'r Babaeth bellacli wedi gorffen ei waith, a dymunai alw eu sylw mwyaf difrifol at ledaeniad a gafael y Babaeth ym mharthau o sir Fflint. 'Doedd unmar yng Nghymru, meddai, ag angen cymaint sylw a'r ardel o amgylch Treffynnon, lie 'roedd i'r Pabyddion eu colegau a'u lleian- dai. Cyfodai'r perygl o dri achos gwendid yr eglwysi Protostanaidd, cryfder y Pabydd- ion, ac vmledaeniad yr iaith Saesneg a chymhellai'r pwyllgor fod Cyfarfod Misol Sir Fflint, Henaduriaeth swyddi Lancaster a Chaer, a, phwyllgor y Genhadaeth Gartrefol, a chynrychiolwyr dewisedig gan y Gym- deithasfa, yn cyd-ystyried yr holl sefyllfa. Sylwodd y Parch. E. J. Jones, M.A., yntati, fod v- safle yn un wir ddifrifol fod y Pabydd- ion yn proselvtio amryw byd eu bod yn llech-ddvlanwadu drwy lawer cast a chynllun, yn cael lie a gorchwyi i blant Protestanaidd vuihell o gartre'r plant, a'r diwedd yw fod y rheiny yn troi'n Babyddion yn y maruiau hynny.—Cymeradwywyd cynihelliad y pwyllgor. Yr Odfeuon. Dylifodd miloedd o wlad a thref i'r odfeuon, lie y pregethid gan y Parehn. John Davies, Bontddu J. Williams, Brynsiencyn W. E. Prvtherch, Abertawe Edward Edwards, Carrog H. H. Hughes, B.A.,B.D., Lerpwl W. Owen,|Lerpwl, a J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli.

Chwe' Chywydd Ymryson

CYMRY'R DISPEROD.

Advertising