Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Dr ygair i Gy mru

YR .I .Eisteddfod Genedlaethol

NOS LUN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NOS LUN. Gwiedd-Groeso gan Arglwydd Tredegar. Yn oriolau y Royal Institute of Painters in Water Colours, nos Lun, croesawyd holl flaenion y byd Eisteddfodol a Chymrodol i wledd ddanteithus gan lywydd gwladgar y Cymrodorion, Arglwydd Tredegar, efe'n siglo llaw a phob un ar ei fynediad i'r ystafell wledd helaeth, harddwych. Ar ddiwedd yr arlwy, diolchwyd i'r rhoddwr haelgalon gan yr Archdderwydd, Marsiant, a Syr John Rhys. gan dystio nad oedd neb yng Nghymru eidd- gai-acli tros yr hen Wyl nag Ifor Hael yr Ail. ond nid ail i neb, ehwedi yr Archdderwydd, am ei ddaioili a'i ofal am yr Eisteddfod a'i phlant. Canwyd amryw o'n lioit alawon melusaf gan Can or ion Elfed, sef aelodau corlan y Prifardd Elfed yn y Tabernacl King's Cross, Mr. Stanley Davies yn arwain, a Mr. David Richards yn cyfeilio, cor arweinydd King's Cross. Fel hyn y bu'r rhaglen ganu Canu'n iach i Arfon," a Pant y Pistyll gan y Canorion. Penhillion gvda'r delyn gan Miss K. Cordelia Rhys a Miss Bessie Jones (Telynores Gwalia), Lerpwl. Detholiad dan arweiniad Madame C. Novello Davies. Merch y Melinydd gan leisreg fuddugol Gwyl Llangollen y llynedd, Miss Winifred Lewis. Ein hen alawon ar y berdoneg, gan Miss Marie Novello. Canu hEn alaw "Rhyfel- gyrcli Cap ten Morgan," gan Mr. Lewys James. Yr lieil erddygall" a "Blodau'r Grug gan y Canorion. Can Gymraeg gan Miss Katherine Jones. Cainc ar y delyn gan Telynores Gwalia ac ar y berdoneg gan Miss Winifred Bellingham. Penhillion gyda'r delyn gan Eos Dar. Rhywun a Ffarwel i Blwy Llangower gan y Canorion. Ac yna dibennu ac ymwasgar yn swn Hen Wlad fy Nliadau a Duw Gadwo'r Brenin."

DYDD MAWRTH.

DYDD MIERCHFIIL.