Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BLAGURON AWEN. Cynhwysa amryw ddarnau cymwya fel Adroddiadau. Amlen gref, I Gan Gwaenfab. Swyddfa'r Biavi HON.
CANU LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CANU LLUNDAIN. [Gan Mr. HAilRY EVANS, F.ll.C.O. J YN garedig iawn, cydsyniodd Mr. Harry Evans a'n cais i fwrw brasolwg tros Ganu Eisteddfod Llundain a rhag tywyllu cyngor drwy gyfieithu, ni a'i gadawn yn Saesneg fel y'i caed:- THE London National Eisteddfod has made something like a record. The music selected was of a high order generally, making great demand on the executive and inter- pretative skill of the performers and in the case of the Chief Choral and the Male Voice Choir this was especially so, and none but well-equipped conductors could hope to give anything like adequate performances of the Bach, Cornelius, and Elgar pieces. The per- formances on the whole reached a high level, and the London Committee have been fully justified in setting such a high standard, and it now only remains for future committees to follow suit. The number of entries was exceptionally good, and there were very few absentees. The singing generally in the Chief Choral Com- petition was not of the highest standard, but the winners certainly reached a high standard, and in the case of the first-prizo winners, superior musicianship told its tale. It was rather surprising that the famous South Wales choirs—previous national winners- were so unfortunate in the matter of inton- ation, and it was disappointing to find that the Bach and Cornelius pieces were not well grasped and understood and one can only put it down to the weakness of the com- petitive system, which has kept to a certain groove and has given the choirs and conductor no opportunity for development in the moiQ subtle and comprehensive forms of the Art. Excuses were made—as far as intonation goes --on account of the vastness of the Albert Hall, but these were discounted by the purity of the singing of the winning choir. But these accidents in intonation are common even amongst the best choirs, and are difficult to explain. The music in the Second Choral was, of course, easier, but here wo had some remarkable singing, especially by the first- prize winners-magnificent tone, well-con- trolled, and high musicianship being the distinguishing features. The Ladies Choir Competition was the best in the writer's memory. There was no un- accompanied piece, but the Sound Sleep" —which is a very beautiful trio—proved a good test in interpretation, whilst the others was a good test in technique. The first and second-prize winners stood out easily on all points from the rest and the first-prize winners were something like perfection. The Male Voice Choir competition was not exceptionally good, though the first and second-prize winners were very good choirs. The first-prize winners, though not possessing such good vocal resources as two other choirs, were clearly ahead in all three pieces in the execution and interpretation of the music. The Solo singing was very good, especially in the Soprano competition, which was a record as far as the judges were concerned. The winner in the Baritone Solo nearly touched high water mark. The instrumental competitions were not so good, and this must be owing to the fact that they were all con- fined to Welsh competitors. The idea was, of course, to exclude the numerous students of the great London School of Music. ■ But as has already been stated, the London Committee are to be congratulated, both on their courage in setting down as teste such good and difficult music, and also in the excellent results of their experiment, which has given a distinct fillip to music in Wales. As a closing word, let me say that a great and welcome feature of the London Pro- gramme was the prominence given to the Welsh Folk-songs, both as fegards the large number of the competitions and the hand- some prizes offered. The competitors were thus compelled to learn our old airs, and the audiences given an opportunity of expressing theh-clolight SBB°YV%S"Sbly -0-
Saethau Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Saethau Llundain. LGAN SHEMERUS], L.LE go ryfedd i gynnal Eisteddfod ynddo yw'r Neuadd Albert, ac i gynnal unrhyw gyfarfod arall fo'n dibynnu arprwdfrydedd a hwyl. Y mae'n rhy fawr a'r bob yn ormod ar wasgar, Mi feddyliais pan ddois i mown gyntaf," ebe Llew Tegid, "mai wedi rhoi to ar Sir Foil yr oeddech chi." Ac y mae pob hwyl yn rhwym o oeri cyn dringo grisiau chwoch o onelau. Ond wythnos hwyliog oedd yr v/ythnos ddi- weddaf, er gwaetha'r cwbl. -<><?- ?SNid yw'r boirdd yn cynefino dim hurdd- wisgoedd. Cafwyd eymaint o drafferth i'w cael i mewn iddynt yn Llundain ag a gafwyd y tro cyntaf yng Nghaernsft'toii bymthoi.g mlynedci yn ol. Dywedai'r llu ohonynt ou bod yn methu yn lan a "JHaddeu'r camwedd i Herkomor." Rhy ddrwg oedd gwaith rhyw gellweir- fardd yn dweyd ei fod yn deall yn awr paham y mae Cofiadur yr Orsedd yn sboncio cymaint, mai'r pinnau a garia gydag ef i binio peisiau'r Gorseddogion sy'n ei bigo yn rhywle o hyd. Pwy roes gennad i wyr y cameras feddiannu cylch yr Orsedd ys gwn i ? Yr oeddynt yn bla yn Llundain, ac ar ffordd pawb. Yn sicr, dylai'r Archdderwydd ddadweinio'r cledd hyd nes y bo'r giwed haerllug hyn y tu allan i'r meini. Wrth glywed Marsiant yn dweyd yn yr Orsedd foreu dydd Ma wrth mai heddwch a deyrnasai yn y cylch, a'i fod ef a Machreth yno fel dau efaill mewn cryd, gofvnnodd rhywun ai Esau a Jacob oeddynt, ac os fplly prun ohonynt oedd y "gwr blewog," a phrun oedd y disodlwr. v' Y cwbl wn i," meddai Machreth, yw mai gin i y mae'r enedigaeth fraint, ac y mae'r fendith i fynd i'w chanlyn hi." -<- O'r holl englynion a draddodwyd yn yr .y Eisteddfod, eiddo yr Archdderwydd i Ferch y Sgrech a gynhyrchodd fwyaf o hwyl. Dyma fo Benyw mewn ffrae a'i bonet-yw y fun A wna feirdd yn darget Un belen o'i gwn bwlet x Aiff i'r jael a'r Suffraget." Ond awgrymodd rhywun y buasai'n welliant i newid y ddwy lafariad yn y gair jael.' -$- <<- Teiti un o'r darnau yn yr ail gystadleuaeth gorawl ddydd Mercher ydoedd 0 snatch me swift." Cymerodd y gystadleuaeth honno le yn union ar ol i'r Suffragettes derfysgu, ac wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Mr. Harry Evans y rhaid fod rhagwelediad y Pwyllgor yn gryf pan ddewisodd y darn hwnnw yn wyneb yr hyn a gymerasai Ie ychydig yn gynarach. Daliodd Mr. J. Pritchard Jones, Y.H., ar bob cyfle ynglyn a'r Eisteddfod i ddangos ei haelioni. A g wvr ef sut i gadw'r beirdd mewn tymer dda. Rhoddodd ginio iddynt adeg cyhoeddi yr Eisteddfod flwyddyn yn ol, cimo drachefn yn Llangollen ym mis Medi, a chinio gwell fyth nos Iau ddiweddaf. Gwahoddodd wyr y Wasg hefyd i'r diweddaf, a threuliwyd noson o'r fath fwyaf difyr. Doniol dros ben oedd areithiau Marsiant a'r Athro John Morris Jones, y naill yn cynnyg a'r llall yn ateb llwncdestyn Y Beirdd." Ni fu Balfour a Lloyd George erioed yn trin eu gilydd yn fwy medrus ar lawr Ty'r Cyrfiredin. -9- <>■ Gwnaeth Marsiant y svlw fod yr hyn sy'n hollol wir yn hollol anyddorol." Mi wn yn awr," ebe Gwilym Huws, Caerdydd, beth sy'n cyfrif am lwyddiant y Nationalist. Cic cas. -$--<?- Nid oedd neb wedi ei llyncu i fyny yn llwyrach gan ddefod cadeirio'r bardd na Megan, merch ieuengaf Canghellwr y Trysorlys. Cododd Machreth hi yn ei freich- iau fel y gallai roddi ei llaw ar y cledd, ac arweiniodd hi i ysgwyd llaw a'r cadeirfardd o flaen neb arall. Ac nid ei longyfarch ag ysgydwad llaw yn unig a wnaeth Megan, rhoddes gusan iddo hefyd. Dywed Gwynn ei fod yn falchach o'r llongyfarchiad hwnnw nag o'r lleill a gafodd hefo'u gilydd. Gwelwyd golJigfa go ddoniol yn ystod y gystadleuaeth gorawl brynhawn dydd Gwen- er-un o drefnwyr y llwyfan yn mwynhau cyntun braf yng nghadair y prif-fardd tra y canai amryw o'r corau. Wrth edrych arno ynghwsg, dywedodd rhywun fod golwg bur farddonol ar y brawd, ond newidiodd hwnnw ei farn pan welodd ef wedi deffro.
AR GIP.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AR GIP. WPIANYDD Y DYFODOL.—Cychwynnai Ivan Lloyd-Powell ei yrfa fel pianydd yn y Bechstein Hall, Llundain, nos Wener ddi- weddaf. Cymro un ar hugain oed yw Ivan, a olyga brofi'n dipyn o syndod pianyddol, medd y papurau. CYWEIRWR EGLWY8.—Y mae Eg- lwyswyr yr Wyddgrug am adgyweirio hen eglwys y plwyf, ar draul o £ 6,000. Codwyd yr adeilad patriarchaidd gan yr larlles Richmond, mam Harri'r Seithfed. GWASG ABERYSTWYTH.—Yn 1809, gan mlynedd yn ol, y codwyd gwasg argraffu gyntaf yn Aberystwyth; a'r wythnos ddi- weddaf detblid y digwyddiad dyddorol yno gydag arddangliosiad o'r llyfrau a argraffwyd yno yn ystod y can' mlynedd. Y llyfr cyntaf a brintiwyd yno oedd Cloriannau 21.it?- y di- ddan Barch. Azariah Sadrach. COF-GOLOFN I LEWIS EDW ARDS.- Ac yng nghyfarfod blynyddol Athrofa'r Methodistiaid yn Aberystwyth, nos Wener ddiweddaf, sylwodd y Prifathro Owen Prys mai teilwng o beth a fyddai codi cof-golofn i'r Parch. Lewis Edwards y Bala mewn man canolog yn Aberystwyth. Tri dyn mawr Methodistia, ebe'r Prifathro, yw Charles y Bala, Thos. Jones Dinbycli, a Lewis Edwards -y tii hyn, a'r mwyaf or rhai hyn—Lewis Edwards. GAEL GLYWED DR. STALKER. Meh. 31 a Gorff. 1 y cynhelir cyfarfod blynyddol Athrofa'r Bala a'r gwr amlwg sydd i annerch y myfyrwyr ydyw Dr. Stalker, Prifysgol Aberdeen. ANRHEG YSWAIN Y VAYNOL.-Y mae Mr. Assheton Smith wedi rhoi y casgliad aneirif agos o greiriau hynafol oedd ym Mhlas y Vaynol yn rhad-rodd i Golog Prifysgol Bangor. HELFA CAERNARFON.—Rhwng pawb, daeth E260 o wobrwyon Eisteddfod Llundain i dre Caernarfon a nos Sadwrn, dathlwyd y llwyddiant drwy ymffurfio'n orymdaitlx ar hyd yr heolydd, a gwyr y cyrn yn canu o'u blaen T. Gwynn Jones (Bardd y Gadair), John Williams (arweinydd y Cor Mawr), T. O. Jones (awdwr y ddrama fuddugol), E. M. Humphreys (y nofelydd buddugol) a D. J. Williams (enillydd ar y celfau) yn dilyn a'r Maer, Ficer, a'r trigolon ar eu hoi hwythau. GAPLAN GWALLGOFD Y DINB YCH.- Yr wythnos ddiweddaf, penodwyd y Parch. James Charles (A.), yn Gaplan Ymneilltuol Gwallgofdy Dinbych-" bedd y rliai byw," fel y'i galwodd rhywun. Aeth y Gaplan- iaeth yn wag drwy farwolaeth y diweddar Barch. Jos. Evans (M.C.). 'Roodd dau ym- geisydd am y swydd y llall ydoedd y Parch. M. E. Jones (W.), y Wyddgrug. Y CYNHAEA GWAIR.—Y maeV 'cyn- haeaf gwair wedi dechreu yn ardal Gwrecsam. Ysgafn yw'r cnwcl oherwydd y sychter hi. Y CYNHAEA MEFUS.—Ac y mae'r f asgedaid gyntaf o fefus newydd gael ei hanfon o Holt—bro'r mefus ger Gwrecsam—i Fanceinion. Yr wythnos nesaf y byddis yn dechreu hel y ffrwythyn blasus o ddifrif. Y CYMRO MWYAF" Pwy ydyw y Cymro mwyaf gofynnai'r Parch. T. LI. Jones wrth annerch plant Ysgol Sul y Dre- newydd nos Saboth ddiv/eddaf. Lloyd George ebe sotiad o'r bechgyn yn unllais ar amrantiad. lawn y dwed'soch, obe yntau, gan fyned ymlaen i atgoffa'r egin mai i'r Ysgol Sul yr oedd Lloyd George yn pri- odoli ei lwyddiant. C ROES A W U BA RDD Y GORON.— 'Roedd Mr. W. J. Gruffydd, Bardd Coroii Llundain, ar gip ac egwyl nos Fawrth ym Methel,ei hen gartref yn sir Gaernarfon. Yn ei gyfwrdd yng ngorsaf Felinheli yr oedd cerbyd dau-geffyl; ond a helpo'r ceffylau,fe'u tynwyd gan y Betheliaid allan o'r tresi,.ac a lusgasant y cerbyd a'r bardd i fyny'r allt bob cam nes cyrraedd y pentref, filltir a hanner o ffordd. Yno drachefn, caed Seindorf Llanrug," yn chwythu cyrn nerth eu gyddfau i'r hogyn a ddygodd gymaint anrhydedd a chlod i fro ei febyd. Atebodd y Bardd swil a swynol mewn ychydig eriau dethol a diymffrosfc.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
'Phone—3017 Central. 0 W. GRIFFITHS s Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT S49 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone-27x Bootle. LUNT Boots are VALUE FOR. MONEY -A TRY A PAIR Ladies' 6 Gents in Great Variety. 51 & 53 Paradise St. The only address Telephone 751 Y Anfield. JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER. f9 Preston Grove, Ef&i'RrooL Style, Quality, Economy. Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including .all charges on application NO DER-Nad ces iinrhirw gysylltiad rhyng. ddo as arall o'r un enw. Teleplione-261 Bootle, P. LtOYD JONES. Fiisierol Furnisher, Special attention given to removals to and 1, from Wales YORK BUILDINGS, 362 & 364 Stanley Rd., L'poo< (Near Bankhall). WEDDING EQUIPAGES A_ Telephone-575 Anfield. J. T. JONES, Funeral Undertaker, 55 & 57 BrecK Road, L'poo Funerals completely Furnishe and Conducted throughout. 4 Highesi' References FROM MINISTERS, Doctors AND Trustees Communications by post or otherwise immediately attended to. General Printing of every kind, Commercial and Artistic, to Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358a Stanley Road, Liverpool {Tele- phone 591 Bwt'M '<w- Mr. HARRY EVANS Conductor, Adjudicator. Teacher of Singing* ™ 26 Princes Avenue. LiverPool Dr. GLYN ROBERTA ATHRAW CERDDOROL. Dyfeisydd y Roberts' Patent Watch nome." Arweinydd Gymdeithas Gerddorol Gwersi mewn gwaianol gaagenau o Porotoir ar gyfer Arholiadaa. Qwersi trwy'r Post, Tonic Sol-fa neu Ben bod^ 59 Crawford Avenue, Sefton ParK LIVERPOOL. Mr. ARTHUR ROBERT6 (BARITONE). At Homes, Concerts, Banquets, » ■■ I Self or full Concert parties of High-Class ,A.rtieteP Address—36 Balmoral Road, T. CARRlNGTON fPencerid Gwyff1 BEIRNIAD A CHYFEILYDDi 18)8 Can wladgarolj newydd, "Oymru" i unr^S Drwy'r Post 7c. (Cenir gan Brif Grantorion Anthem Gofla Oanrhawdfardd, Gwyn ei fyd fZJji Pris Ie. Model o gyfansoddiad ar gyfer CyfflanI Canu-"—Cynogfab yn y Gwyliedydd.' Cyfeirier—Coedpoeth, WREXflM| Mr. PETER EDWARDS, Mus. B* (Pedr Alaw), 9 Golygydd Colofn y Gan yn Ke I Beirniad Cerddorol, 8(,1 Arweinydd Cymanfaoedd CanU, Park Villas, Abergele. Wm. Crewe. Athraw a Beirniad Cerddorol* s ■* Arweinydd Cymanfaoedd^ GWEBSI DllWY'R POST. Hen Nodiant neu Sol-fa Darperir ar gyfer Arholladau, 22 Mocsgwyn Rd., WrexW" Mr. D. n. PARRY, A.U-C.W.f Beirniad Cerddorol, Cyfeiriad Ysgol Gerddorol, Llanrwst. toOb; g I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesat a g cyn i'r Anwyd fyned yn waofcfl- g Cofiwoh COUGH u u MIXTURf HUGH DAVIES, Machynlie1 13c. a ^«. 9c. y botel. DAVICS'S COUGH MIXTURE At Beswch, I/AVIi-S'S COUGH MIXTURE Anwya. DAVSES'S COUGH MIXTURE ASD,AnC#il1 DAViES'S COUGH MIXTURE ,Br DAVIES'S COUGH MIXTURE 1'as. C?ygn • nza, DAVIES'S COUGH MIXTURE D. R. JONES (Alaw Madog), PIANOFORTE & ORGAN DEALER. MUSIC PUBLISHER, Oc 103 Hampstead Rd., Liverpool Beirniad Cerddorol ac ArweinyddlCymanfaoedd Canu (Telerau Rhesymol) NEW CATALOGUES of Pianos, Organs, Harmoniums, &c., GRATIS- TERMS-On the Hire-Purchase System or Cash. Tuning and Repairing n ^pe Estimates given for Pipe Organs, Free. Catalogue of Welsh Songs, 6c, (Over 600). Also containing all the latest Musical Books, such as Gems Selection, .Wii0 of Wales," by D. Emlyn Evans, &c. with English and Welsh Words and both Prices (best cover), 3 /6 Cloth, 2 /6. Postage 4d. > CANTATA—" Y Cynhauaf (The Harvest), by Miss A. J. Williams Performed with grand success at Llangollen National Eisteddfod, 1908, praised by the best musicians. Very suitable for chorus of 50 and Prices—O.N., 216 and 2/ Sol-ffa, I English and Welsh Words. USUAL DISCOUNT FOR QUANTITIES. f Perfect Balance of'the'Perfect Bicycle. t is due to their scientifically correct design, and to the •ivall.id excellence of the iitateriais and workmanship used sively in Lhe Rudge-Whitvvorth Works, the largest in the Kingdom. The new 68-page Art Catalogue describes in detail the new features the 1909 Models of Rudge-Whitworths, including the f||l itent Combined Celluloid Handlebar Covering and Grips ||| Patent Rustless Finish All-steei Flush-joint Frames j||§ Patent Brakes Featherweight Roadsters Ipg Variable Speed Gears | The 10 Years Guarantee jf§| ♦rices from £ 3 15s. cash to £ 14 12s., or from 7/- per month- The Catalogue is sent Post Free from RUDGE-WHITWOKTH, Ltd. jlya. 101 Bold Street, ^407 LIVERPOOL. I Rudge-Whilworih Britain's BesBicycle
LLITH LLUNDAIN.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
lleisiau a chelfyddyd a chwaeth y c-antorion 1 hyd yr eithaf. Rhaid aros nes gwelod y cvnhyrchion llenyddol cyn rhoi barn arnynt, ond yn ol tystiolaeth y boirniaid, y mae awdl y gadair a phryddest y goron o deilyngdod uchel anghyffredin. A phrin, o ran liynny, y gallid tybio am T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd yn gollwng dim ond campwaith o'u dwylo. Ataliwyd ffmryw wobrwyon yn adrannau rhyddiaetli a chelf, a dengys hynny fod y safon eisteddfodol yn codi. Merched y Sgrech. Crybwyllais yr wythnos ddiweddaf fod Merched y Sgrech yn debyg o droi i fyny, gan fod Mr. Asquith a Mr. Lloyd George yn bres- onnol, ac felly y bu. Ond methiant truenus a fu eu hymgais i derfysgu, rnor gynted ag y clywid Hais sgrechlyd un ohonynt mewn rhyw gwrr,byddai y bobl o gwmpas yn ei chymeryd mewn llaw, ac yn ei hebrwng yn ddiseremoni i ofal y gwylwyr oedd yn agos, a hebryngai y rhai hynny hi drachefn yn bur hwylus dros y rhagddor. Er yn teimlo yn ddigllawn fod politics yn cael eu dwyn i Wyl heddwch, cadwodd y dorf ei tliymer yn rhagorol, a thrwy hynny, diangodd y dyllhuanod heb y driniaeth a haeddent. Ni welais engraiflt well erioed o hunan-feddiant nag a ddang- hosodd y Prif Weinidog. Pan rwystrid ef gan ysgrech, arosai nes i bethau dawelu, ac yna gorffennai ei frawddeg felpe najddigwydd- asai dim i dori ami. Ni soniodd air am y cynhyrfwyr o gwbl. Ac erbyn dydd Iau yr oedd pawb yn chwerthin am ben yr ymgais. ynfyd i aflonyddu yn hytrach nag yn cyffroi. Dywedir i'r sgrech-blaid gael ei siomi yn ddir- fawr oherwydd mai Cymraeg yn unig a siaradodd Mr. Lloyd George. Ychydig o honynt a aflonyddodd arno ef, arosai'r llu ohonynt gan ddisgwyl iddo droi i'r Saesneg, a phan eisteddodd i lawr heb lefaru gair a ddeallent, yr oedd eu cyfle wedi mynd. Ond daeth un peth i'r golwg yn berffaith glir yr wythnos ddiweddaf, nad oes dim difrifoldeb tu ol i gyffro'r sgrech. Ymddiheurodd llawer ,w o'r merchetos a gariwyd allan i'r gwylwyr am aflonyddu a chyfaddefasant mai ufuddhau i orchmynnion'yr oeddynt hwy,a'u bod yn cael eu talu am wneud. Gofynnodd amryw ohonynt a gaent fynd yn ol i'r NTeiiadd, mai am aflonyddu unwaith y telid hwy, ac y rhoent eu gair nad aflonyddent drachefn. Cymerwyd hwy ar eu gair, a theg yw dweyd i bob un ohonynt ei gadw. Caiff y rhai a drefnasant i aflonyddu ar yr hen Eisteddfod achos i edifarhau mewn mwy nag un ystyr. Nid yn unig collant gydymdeimlad llawer o Gymry oedd yn bleidiol iferched gael y bleidlais, ond gwnaethant eu hunain yn ddirmygus drwy ddatguddio geudeb yr holl gyffro. Nodwedd Gymreig. Bu llawer o gwyno o bryd i bryd fod yr Eisteddfod yn mynd yn Seisnigaidd, ac ofnai llawer mai dyna fyddai ei hanes yn Llundain. Ond nid adwaenai'r rhai a ofnent mo'r Pwyllgor. Mentraf ddweyd fod Cymry Llun- dain yn fwy Cymreig na'r Cymry a geir mewn unrhyw dref ymhlith y bryniau. Y mae llai o Ddic-Shon-Dafyddiaeth ynddynt. Ac ni chafodd Cymraeg gymaint o barch ac an- rhydedd mewn Eisteddfod ers llawer blwydd- yn. Yn yr holl gystadleuaethau unawdol, yr oedd can Gymraeg yn ogystal ag un Saesneg i'w chanu. Canwyd wyth Can yr Eistedd- fod," a phob un yn Gymraeg. Ond yn y cyngherddau y daeth y nodwedd Gymreig i'r golwg amlycaf. Gwir. mai Saesneg yw'r iaith yn "Caraetacus," ond y mae'r testyn yn Gymreig drwyadl. Perfformiwyd gwaith cyfansoddwr o Gymro, Mr. David Thomas, yn yr ail gyngerdd, ac yn y trydydd cyngerdd, ni chlybuwyd gair o Saesneg- Alawon a Chanigau Cymreig oedd y cwbl. A dyna'r cyfarfod mwyaf poblogaidd a hwyliog o ddim rheswm. Trowyd cannoedd ymaith oddiwrth y drysau, a chafodd yr holl gan- torion ail-alwad. Ac nid yn unig yr oedd y cynhulHad yn lliosog, fe'i gwneid i fyny o Saeson yn llawn gymaint ag o Gymry. Profwyd tuhwnt ciadl fod Alawon Cymreig mor boblogaidd ac mor sicr o dy llawn yn Llun- dain ag yw alawon Eidalaidd, dim ond iddynt gael eu canu gan gantorion yn feistriaid ar eu celfyddyd. Yr Orsedd. Rhaid peidio anghofio'r Orsedd yng Xgorddi Kensington. At-dynnodd honno filoedd vnghyd y tri boreu, ac yn wahanol iawn i Langollen y Hynedd,1 ni ddisgynnodd dafn o wlaw yr holl amser. Ni fu Gorsedd lwy urddasol erioed. Cadwyd y cwbl yn gyfan a ehlir, a chylch ardderchog ydoedd. Dech- rouwyd bob dydd ar yr awr benodedig,' a therfynwyd fel ag i gyrraedd i Neuadd Albert vn brydlon erbyn unarddeg o'r gloch. Ni fnddaf ofod i gyfeirio at yr amryw anerchiadau hwyliog a draddodwyd oddiar y Maen Llog, ond diau yr erys cof hir am eiddo Llwydfryn— Mr. Llewelyn Williams, A.S. Yr oedd hwnnw yn hyawdl mewn gwirionedd. Ni fiiaai'r dorf chwaith ar Eos Dhr a'i benhillion doniol, er y tybiaf y byddai'n fantais i'r Eos oi hun fod yn dipyn cvnhilach ohonynt rhag ofn i'r stoc redeg i'r pen. Yn yr Orsedd foreu dydd Iau, darllenwyd y Mesur Diwygiadol y drydedd waith, a chyhoeddodd yr Arch- dderwydd ei fod yn ddeddf o'r awr lonno allan. Nid yw'r ddeddf hon lion yn cynnwys popeth a ewyllysiai y diwyg- wyr mwyaf selog, ond y mae yn cynnwys llawer iawn mwy nag a obeithient ei sicrhau. 0 hyn allan, ni bydd pasio arholiad yn unig yn gwneud un yn gyflawn aelod o'r cylch, rhaid cyfansoddi rhyw waith teilwng yn ogystal mewn geiriau oreill, ni roddir urdd am wybod rheolau heb brawf diymwad fod yr ymgeisydd yu feddiannol ar awen. Ac y mae'r drws yn agorod yn awr i dderbyn dynion o athrylith fo wodi cyfoethogi ein llenyddiaeth yn aolodau gweithredol—nid anrliydeddus—heb eu ,,wa gwaradwyddo drwy eu gorfodi i gydeistedd arholiad ag egin beirdd. Yn ychwanegol, ilywodraethir yr Orsedd o hyn allan yn ol egwyddorion gwerinol, etliolir ei chyngor a'i swyddogion-oddigerth yr Archdderwydd ac un non ddau ereill-yn y cyfarfod blvnyddol o flwyddyn i flwyddyn. Y mae perthynas yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod Gen- edla,othol ac a Phwyllgorau Lleol wodi ei ddeffinio yn glir hefyd.