Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MT Gosteg! Oherwydd pwys a threth Eis- teddfod Llundain, bu raid gadael toraeth o ysgrifau a newyddion heibio'r wythnos hon, yn eu mysg: Troad y Rhod, G. Vaughan. Dawn y Cae, gan Tan-y-fondo. Y Chwe Chywydd Y mryson, gan Gwrtheyrn. Eisteddfod Johannesburg, gan Frythonwr o Affrica.
Q WREICHIQN' SIQN 8W1L',
Q WREICHIQN' SIQN 8W1L' DYMA rawiad o wreichion a fflachiodd o'm clopa druan wrth gipio i Lundain ac yn ol wythnos yr Eisteddfod. 'Does mo'r hamdden i'w llyfnu na'u tocio. Cym'rwch hwy fel y maent, neu ynte bwriwch hwynt i'r aphwys ddiwaelod honno a elwir Basged Gol. y BBYTHON. Ces fynd yng nghwmni 'diddan gwr tua'm hoed fy hun,—gwr sy'n flaenor, yn Ustus Heddwch, ac y wyr fwy na neb ond Llew Wynne am fewnolion ae allanolion Eisteddfodau. Un o blant Lerpwl ydyw, er na wyddech byth "mo hynny oddiwrth ei Gymraeg. 'Roedd merched vtlysion ond clebrog y Gitana yn yr un tren, ac fe glywn eu siarad cyflym a'u chwerthin hael o bellter tri cher- byd. Y ddistawaf ohonynt oedd y Ben Gitanes, Megan Mon ond caffai hithau ys- peidiau ysbrydol iawn weithiau, a dyna lie y byddai yn gafael megis yn ei batwn (batwn Hawn o drydan, ac a roddai shock marwol pe cydiai rhywun arall ynddo), gan roddi gwers ac awgrym derfynol ar y daith i'r g'nethod astud at y fory." r£f-1- 'i Yn gymysg a'r7"Gitaniaid, 'roedd tusw o adroddwyr ac ereill o dalentau Lerpwl, yn troi yn gymysg o bryder a gobaith tua r Pentra Mawr." 0 ddadl i ddadl, ac o stori i stori, fe gyrhaeddwyd Euston ddeg ar gloch y nos, ac aeth un i'w bant a'r Hall i'w bentra. i <- Cato fi! rhyw gyfandir o dai ydyw Llun- dain ac fe ddywedwyd i mi, pe dringech dwr neu binacl uchel tua 'i chanol, y gwelech bum milltir ar hugain o dai i bob un o'r pod- war pwynt—i'r gorllewin a'r gogledd, i'r dwyrain a'r de. Diolch yn fawr am gael cip arni, diolch fil mwy am gael dianc ohoni hi a'i sugnedd. -&■ -$• Anfantais fawr cynnal Eisteddfod yma ydoedd fod y bobl, yn lie aros yn yr Albert Hall, yn troi wrth y cannoedd i wybeta am ddifyrrion a golygfeydd y ddinas, ac yn helcyd i wag-rythu a gwaeddi Brensiach ar bob rhyw swyn a syndod. Ond erbyn y trydydd dydd, buasai'n hoffach gennyf weled cadlas, a gwrando'r forwyn yn hymio'r Gwcw Fach tan odro Gwenno'r fuwch na gweld holl swynion Llundain yn ou crynswth. Bron- fraith a brigyn i mi. -4- Honglad ewbl anhwylus i eisteddfoda ynddo ydyw'r Albert Hall, ac yn badell o adeilad mor uchel ei do nes oedd y werin druan a eisteddent yn yr orielau yn ymddangos megis cynnifer o ninepins yn yr entrychoedd. A diau mai'r unig beth a glywodd ugeiniau o honynt oedd ambell un o floeddiadau cloch- aidd Cadfan a Chynonfardd. Un o'r cystadleuon godidocaf a glywd erioed oddiar lwyfan ydoedd adrodd Ti wyddost beth ddywed fy nghalon" gan y merched ddydd Gwener. Caed tair i'r llwyfan, a'r tair o'r De. Dwy ohonynt yng nghymdogaeth y tair neu bedair ar hugain oed, ac yn adrodd yn odidog y drydedd yn groten wyth oed, dlos ei phryd a syml ei diwyg, ond a Iwyr enillodd lygad a chlust y dorf seithmil a'i gwrandawai gyda syndod a boddhad. Er i'w hoedrau-a'i hanaddfed- rwydd ei lluddias rhag cael y wobr, cafodd 10 f- gan un o fawrion caredig y llwyfan, a phrofodd fod ynddi ddeunydd adroddeg y clywir am ei henw led led Cymru yn y man. Y hi oedd prodigy'r Eisteddfod. Un o brif ore. hostion y diwedd ir Llow Llwyfo fyddai adrodd Ti wyddost Ce;riog, ac fe'i clywais yn dweyd ei fod yn bresennol ar y llwyfan ym Manceinion gyda Choiriog pan ffarweliai'r olaf a'i fam ac ar ol i'r tren b-xffian i'w ffordd, iddynt ill dau ddvchwelyd i lety Ceiriog yn y dref ac i'r bardd droi ati yn y fan, yn nyfnder ei hiraeth am ei fam, ac ymhen y teirawr orffen canu un o'r darnau mwyaf teimladwy a3 anfarwol sv yn Yl' iaith—" Ti wyddost both dd/wed fy nghalon." -&■ Yn ol Dog Gorchymyn yr Urdd Newydd- iadurol, 'does mo'r hawl gan ohobydd i wylo na gorfoleddu a phan y bwrlymodd y dagrau o'm llvgaid wrth wrando'r grot wyth oed yn adrodd"Ti wyddost both ddywed f f nghalor," ebe'r llibyn gohebydd Seisnig oedd yn fy ochr Be sdy di di'r babi, yn ymfeddalu a gadael i'r Sowthen fach yna beri it i grio ? Taw, y machine sgwennu dienaid," ebra finnau, y mae yna fwy o sug a mwyniant yn un o'i llinellau hi nag y sy mewn sachaid o'th bricia llaw for sychion a Seisnig di." -0- -.0- Golygfa dyner oedd honno a gaed gyda'r gystadleuaeth ar y delyn fechan ddydd Gwen- er. Dau ymgeisydd-Freda Holland ddeng- mlwydd ood o Birkenhead, a Thaliesin Merfyn Morgan o'r De. Pan glywodd Freda nad y hi oedd yn fuddngol, torrodd i wylo pan glybu'r cadeirydd (Argl. Mostyn) hyn, galwodd hi ato, ac a'i cysurodd a sofren yng nghil ei dwrn ac wele foneddiges (Miss Mailt Will- iams, 'rwy'n meddwl, ysgrifennydd Cym- deithas y Ddraig Goch) ac a wthiodd ha ner sofren i gil ei dwrn arall. Ac ebe Cynon- fardd barod, a arweiniai ar y pryd :— Y mae Freda, er ieuenged yw, yn gwybod megis pob merch beth yw gwerthla nerth dagrau a dyma hi wedi cael deg swllt ar hugain am grio." "❖■ Campus y gwnaeth Talentau Lerpwl yn Llundain. Dygasoch i ni lawer o glod a g'ogoniant. Ein prif orchost oedd buddug- oliaeth Cor Merched y Gitana ddydd Iau, ar gorau De a Gogledd .Cymru, a Lloegr. 'Roedd y feirniadaethjyn eithriadol o ganmoliaethus, a phan gyhoeddwyd y Gitaniaidjyn oreu, ac yr aeth MeganiMôn fechan, fedrus, i'r llwyfan i 'nol o wobr, codadd y lliaws Eisteddfodwyr oedd Yuo o Lannau'r Mersey waedd na chlywd ei huwch erioed rhwng muriau'r Albert Hall. Dyma hi Megan:— -<>- -&■ Clywaf fod y Gitanas yn cael tynnu eu llun yr wythnos hon ac am gael argraffu'r bloc a'r feirniadaeth ar bapur da yn Gof-a- Chadw tlws a chelfydd am Orchest Llundain. 'Roeddwn yn dychwelyd gyda hwy ddydd Sadwrn a'r gair hwnnw a ddaeth i'm meddwl :—" Hwy a elent mewn pryder,ac a ddychwelent mewn gorfoledd." Genethod nwyfus ydynt, ac aeth y daith bumawr o Lundain i Lerpwl heibio fel chwedl. <<- -&■ 'Rpedd Llew Wynne yn taflu llygad trosom, a chefais lawer o fwynhad yn gwrando arno'n traethu ar ddiffygion a rhagoriaethau Eis- teddfod Llundain; ac yn adrodd rhai o'i atgofion am bobl a phethau yr Eisteddfodau gynt. Pe gellid ei berswadio i nyddu ei wybodaeth faith a mawr, buasai Myfyrion a Ghofion y Llew Gwyn yn gyfrolen ddiddan tu hwnt. 'Roedd etifedd Bryiigwonallt-sef mebyn dwyflwydd a hanner Syr J. Herbert Roberts- yn un o gynteddau'r Neuadd, efe a'i nyrs yn siarad Cymraeg llydan, croew y naill a'r Ilall. A Chymraeg dilediaith hollol a glywid gan Megan Lloyd George wrth ei thad a'i mam bob gair. Ac y mae'r drafferth a'r gofa] a gymer teuluoedd ucholdras ac amlwg i gadw'r hen iaith ar wefusau'r plant yn batrwm i'r caglod colerog ond penchwiban a'i diystyrant. -c- -<>- Un o'r areithiau Cymraeg puraf a llawnaf o'r hen ogoniant gynt a glybum or talm ydoedd anerchiad Syr Ivor Herbert—o hil wladgar Gwenynen Gwent—yn y ddadl rhwng Caerfyrddin a'r Fenni brynhawn ddydd Iau am Wyl 1911. Parai don o hiraeth am yr hen ddyddiau clodus gynt pany siaradaipendefig- ion a thywysogion Cymru benbaladr Gymraeg glan, brenhinol, fel a ddyferai tros fin Syr Ivor heddyw. -$- -9- Buddugoliaeth boblogaidd arall ydoedd parti Madrigal Sam Evans yn trechu partion Pontypridd a Leicester. Efe a'i barti a drechodd yn Llangollen y llynedd ar y ganig a'i bedwarawd—y Mersey Quartette-a orfu yng Ngha:;rnarfon yn 1906. Y mae Sam yn hysbys ar y Glannau fel unawdwr peryglus ar y llwyfan fel codwr y gan yn Douglas Road ac fel arweinydd sy'n dringo i fri. tAc wele Sam:— Campus hefyd y gwnaeth y pedwar Lewis o Bootle yn eu pedwarawd. Trechasant yn rhwydd. Hyhwy'n feibion y diweddar gan- tor Padarn Lewis yn fynych-fuddugol yma ac yng Nghymru a gresyn yw clywed fod un o'r pedwar—Idwal—yn troi'r wythnos hon tua Philadelphia bell, ac felly y bydd y pedwarawd cerddgar yn mynd ar chwal. Y nesaf i'w llong/farch ydyw Miss Edith Darbyshire, Birkenhead—y hi'n trechu cryn ugain neu ragor ar y berdoneg ddydd Gwener ac yn cadw mor suful a wylaidd er pob buddugoliaeth. Ei hathro ydoedd Mr. Os- borne Edmundson, German Institute of Music, Bedford Street North, Lerpwl; ac y mae Edmundson yn falch iawn o'i Edith. Rhwng popeth, dychwelai Freda Holland adre chwephunt yn drymach ei llogell nag yn mynd ac 'roedd yr arglwyddi a'r arglwydd- esau a mawrion y byd yn dotio ati hi a'i chwaer yn eu pais a becwn Cymreig. 'Roedd clywed y pedwar plentyn o Lannau'r Mersey- Owen a Sian Williams (gorwyrion Eos Mon) a Freda a Cheridwen Holland-yn canu'r delyn a'r penhillion wrth ennill ddydd Mawrth, yn un o bethau dyddora'r Wyl. I; Mewn un gystadleuaeth, 'doedd gan un o'r cystadleuwyr chware'r 'cello yr un cyf- eilydd methid a chael siw na miw o'r un tua'r neuadd yn unlle pryd y neidiodd Mr. Harry Evans ac a gyfeiliodd iddi, gan waeddi ar Dr. McNaught cyn dechreu Peidiwch a rhoi dim yn ei herbyn hi oblegid fy chware i." Yr eneth honno a enillodd, fel y digwydd- ai 'ac ebe McNaught wrth ddyfarnu "Hi a enillodd er gwaethaf y cyfeilio a gafodd." Ac fel yna y pwythai'r beirniaid cerddorol y naill y llall yn chwareus a chyfeillgar. -<t- 'Roedd ein Telynores Gwalia yn amlwg a phrysur bob dydd o'r wyl a sawl tro a roddes hi ar allwedd ei thelyn, wrth dynhau r llinynau, wn i ddim. Cafodd wythnos galed, rhwng Gorseddau'r bore a'r cyfarfodydd yn ystod y dydd ac 'roedd yn llawn haeddu'r glap a'r gobrwy. t Ni welais yn foes wrthunach haid na'r pethau peisiog a elwir yn Suffragettes. Pan oedd Lloyd George yn siarad ddydd Iau, cythrodd un tuag ato ar y llwyfan; ond neidiodd un o ohebyddion y Western Mail ac a roes dro ym mon ei braich, a chyda chymorth dau neu dri, fe fwriodd yr hoeden sidanog bendramwnwgl i lawr grisiau'r Neuadd. 'Roedd ffrog sidan un sgrechen yn garpiau gyrbibion fel y cerddai allan o'r neuadd ac y cythrai am gab i guddio'i noethni ac i fynd a hi adre i oeri a nowid ei ffrog. Tanodd gwen lydan tros yr Albert Hall, 9 pan sylwodd Villiers Stanford, ar ddiwedd cystadleuaeth y Corau Meibion:- Ein bod ni'r pum beirniaid cerddorol yn berffaith unol ein barn, or mai puni Celt ydym." McNaught yn Sgotyn, Stanford yn Wyddel, a'r tri gweddill yn Gymry. Plicio gwallt yr hanner-Cymry Seisnigaidd eu tafod oedd bryd ac amcan araeth Pedr Hir oddiar y Maen Llog fore dydd Gwoner ond 'roedd ei ddameg yleni yn rhy gyfrin a chyw- rain i'r cyffredin ei deall a'i dilyn. Pan y'i ceir yn brintiedig, gwelir mor fain oedd ei nodwydd ac mor ddwfn y pwythai. -4- Bendith ar ben Dr. J. Lloyd Williams, Bangor, am ei lafur i achub a chadw'r hen alawon a'n geiriau gwerin. 'Roedd hufen pobl Llundain tat y clustiau mewn boddhad yn gwrando Ben Davies yn canu'r Gwcw Fach yn y Queen's Hall nos Wener, a David Hughes efo'i Lili Lon," Dilys Jones yn suo-ganu, Gèrtrude Hughes a'r cor. Cy- mwynas fawr yw cymwynas Lloyd Will- iams. ->■ Tra bwyf gyda'r cyngerdd, dyna'r sidan a'r syh W oedd yng nghyntedd y Queen's Hall nos Wener fel yr elai'r boneddigesaii a'u boneddion i'r seti i wrando'n canauon gwerin. 'Roedd seneddwyr a bancers a marchnadyddion a blaenion y colegau a'r pulpud mor gyffredin a mwyar duon yno. -Ql- Cyfarfirm ami i fardd a chystadlwr yn wen o glust bwygilydd a rhagor fyth yn troi tua'r orsaf a chartref a chwerwder siom yn duo'u hwynebau. Ac 'roedd gofyn gras go fawr i ddal ambell feirniadaeth; oedd, yn wir. -$. -$- Nid pawb a wyr cystal Sais-gashawr yw Gwynn Jones, Bardd y Gadair. Hynny yw, y mae'n eithaf ganddo'r Sais ei hun, ond nid yr efelychiad ysgymun hwnnw-Sais-addolwr. Pan yn cydweithio a'r Gwynn flyn- yddau'n ol, cynhygiais y frawddeg hon, a gawswn mewn rhyw hen lyfr, yn bresant iddo, A'i fwyd oedd Saeson." Ac 'roedd wrth ei fodd. -$- > Tri o Gymry'r Wladfa a welais yn Llundain —a'r mwyaf o'r tri, Eluned. 'Roedd hi yng Ngorsedd fore dydd Gwener ac wrth ei bodd yn gwrando offeiriad Pabaidd o'r Iwerddon— y Tad Kane—yn siarad Cymraeg yn gy- hoeddus oddiar y Maen Llog, ond yn flin ei hysbryd clywed ereill, urddedigion yr Orsedd ei hun, yn clebran yr iaith fain y munud y caont gefn yr Archdderwydd. Gresyn na roisid gwahoddiad i'r lenoros danbaid,alluog, i esgyn i'r Maen Llog, i roddi patrwm i'r dorf o Gymraeg lefn, risialaidd Patagonia. Buan y buasai hi yn cynhesu'r Orsedd, rhagor y gwnai rhai a anerchiadau ready-made a Seisnig y mawrion aeth ar y Maen. -&■ Clywais fod Madame Mary Davies, y ben gantrog gynt, yn rhoi pluen i W. O. Jones am ei ganu penhillion, a'r hybarch gerddor John Curwen yr un modd. T'rewais ar Alaw Mad)g, Lerpwl, yn yr wyl a bu'n dyner tros ben ohonof. Aeth a mi i'm llety, a danghosodd i mi ogoniant Llundain o ben y bus a'r car. 'Roedd o mor gyfarwydd a'r honglad fawr a phe buasai yn y Bontnewydd ac iddo of 'rydwyf i ddiolch am ysgrifennu hanes cystadleuon cerddorol Eisteddfod Llun- dain. Diolch yn fawr, yr Alaw caredig -<> £ >- Dwys-dyner ydoedd syllu ar rai o'n hen ddiddanwyr yn yt Eisteddfod, ond sy bellach wedi cilio oddiar y llwyfan. Yn yr oriel uwch fy mhen, dacw'r brenin delynor John Thomas (Pencerdd Gwalia), a phwysau dwy a phedwar ugain mlynedd yn methu ei gadw rhag dod i weld a gwrando. Y mae'r hen ias yn ei ddwylo fyth, ac fe grynnai ei fysedd gyda'r delyn bob tro y deuai offeryn ei galon i'r llwyfan. Gwledd fras a roes Pritchard-Jones i'r beirdd a'r gorseddogion a gwyr y wasg nos Iau. Ar Dyfed a'r Proff. J. Morris Jones y galwyd i ateb dros yr Orsedd a'r Eisteddfod ae ebe un o wits Llundain Yr Arch- dderwydd a'r Arch-athraw." 'Roedd Eos Dar a'i billiau mor bert a gafaelgar ag erioed. Ac fe welir twysged go helaeth o'i Billiau Gorsedd mewn colofn arall. Swi-t.
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton OYNHELIR Y NAWFED EISTEDDFOD GERDDORO' FLYNYDDOL, Dydd Sadwrn, Medi 18, 1909. Beirniaid Cerddorot- Dr. W. G. McNaught; Dan Price, Ysw. a Harri Evans, YsW, CORAU CYMYSG (a) Let their celestial concerts Samson (Handel) (b) b is Sylvia (German). Gwobr,. laf, £35 a Her-Darian gwerth 35 gini, a thl Aur i'r arweinydd 2il, £ 10, a Thlws Arian i'r arweinydd 3ydd, £ 5 a TU1 Arian i'r arweinydd. r CORAU MEIBION (a) The Reveille (Elgar). Gwobr, laf, Y,25 a Thlws Au arweinydd 2il, Y,10 a Thlws Arian i'r arweinydd; 3ydd, Y,5 a Thlws Arian Arweinydd. „i," CORAU PLANT (a) The Shepherd (Waiford Davies) (b) I know a (Horn). Gwobr, 5s. a Thlws Aur i'r Arweinydd, a Thlws Arian i bob o'r cor buddugol 2il, R3 3s. a Thlws Arian i'r Arweinydd. ACTION SONG i blant o dan 12 oed. Gwobr laf, 23 3s. a Thlws Arian i bob ael o'r cor buddugol 2il, 21 lis. 6c. n. PEDWAR AW DAU (S.A.T.B. a T.T.B.B.). Gwobr, £ 4 4s. DEU A WD (T.B.) UNAWDAU, Gwobrau £ 2 2s. a Thlws Arian. UN A WD I FECHGYN. £1 Is. a Thlws Arian. ADRODDIADAU i Feibion a Merched. Gwobrau, -21 ls. a Thlysau Arian. Rhaglen gyflawn i'w chael ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd, LLEW WYNNE, 319 Walton Breck Rd„ LiverP^L EISTEDDFOD gadeiriol RHOSLLANERCHRUGOG DYDD LLUN, GORFF. 5, 1909 Rhagolwg am Eisteddfod neilltuol o lwyddianua Dros 500 o Gystadleuwyr. Nifer y Cystadleuthau Corawl yn arbenuig. Prif Gystadleuaeth, Corau Meibion, Corau Plan 4 o gorau. 6 o gorau. 11 o gorau Ail Gystadleuaeth Action Songs 3 o gorau. 5 o Bartion Beirniaid iCerddorol-DAVID EVANS, Ysw., Mus. Bao., a W. O. JONES, Ysw., Cilfynydd Y Cyfarfodydd i ddechreu am 10, 2 a 6 o'r gloch. Bydd trenau rhad yn rhedeg o bob oyfeiriad. Gwel Hysbyslermi y Rhoilffyrdd. Rhaglen y dydd yn barod Mehefin 26, yn cynnwys amser y Rhagbrawfion, &c. i'w cael gan yr Ysg. Joseph Davies, 25 Brook Street Rhos, Ruabon. J. T: Edwards, Brynhyfryd, Ponkey, Ruabon. Pris drwy y post, 2ic. BEAUMARIS Grammar & county School Chairman ofGovernors, Bir.R. W. BULKELEY. Bart, f The School offers sound and practical education, in healthy surroundings, under experienced staff of Honours Graduates. Modern buildings and equip- ment-perfect sanitation. The climate specially suitable for delicate boys. Boarders received at the School House, and are under the immediate care and supervision of the Headmaster and Mrs. Madoc Jones. Successes gained by Beaumaris pupils in recent years include First Places in Mathematios, Classics & History, and Entrance Scholarships at Oxford (3), London Hospital and Welsh Univ. Colleges, also Civil Service, Banks, and professions 1 prelim. Exams. Terms moderate. Prospectus from E. MADOC JONES, M.A., Headmaster. L IVERPOOL & -iN ORTfl "lTA (ØJ 1. DAILY SAILINGS (Sundays inclo^ from Princes Stage (Weather, &c., Ver0llJi a m. LA MARGUERITE (Fridays >St.Tud <;it; in AR LLANDUDNO(4hoursaKhore)ifi# 1U-40 MARIS,BANGOR,&MENAlBjJ1 due back 7-30 p.m. M* Extras 2-15 p.m. Saturdays and MondaysJ.J places to Menai Bridge. Isle of Anglesey i 9-15 a.m. Sunday, 27th, calling at Lla»V 9-15 a.nu Holyhead Trips every Wednesuft;' mencing July 7th, calling at Llandudno, %or Fares, &c„ apply Liverpool and North?J Steamship Co,, Ltd;, T, G. Brew, Sec.?$ Street, Liverpool. Tele. 5955 Central. Through Bookings Daily, from PrincipaK^/ Individual Communion Cups -=- THE IDEAL Adopted in TRAY* sec»r' Hundreds of ABfff Purity, j^iii Churches, (i^r including those g Court&'i of .:evs. )Dcreaf"e|t J. H. Jowett. fjESA Atteo^'L J. 1). Jones. l)r. Clifford Patented Address the MaKers M, soo_ di CODi'K HWYL Sef Llyfr Adroddiadau, gwedi eu cynj Olygydd y Brython. 154 o j J 192 tudal. Pris Swllt; %# Drwy'r post 1 /2 a 1 /8J-. mwyaf o Adroddiadau a i1'1 erioed yn Gymraeg.—Evans, Foulkes, Swyddfa'r Brythonp
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Lerpwl. MEHEFIN. 27-Gwasanaeth Oerddorol yn Great Mersey Street MBDl 10-12—Oymanfa'r Anibynwyr 18-Organ Recital Great Mersey Street 18-Eisteddfod New Brighton 27-Tystebu'r Parch. J Davies yn y Woodlands 27-Cyf. Cymdeithas y Beiblau yn Bootle. 28-Cyf. Oymdeithas y Beiblau yn y Central Hall. HYDREF. 17-Cyfarfod Pregethu Parkfleld 23-0yngherdd Oapel Kensingten yn y Sun Hall 80-81-oyfarfod Pregethu Everton Village TAOHWEDD 9-12-BaAr Willmer Road yn St George's Hall 20—Oyfarfod Gystadleuol Unedig yn Edge Lane 20-21—Oyfarfod Pregethu Edge Lane (B) 22-Darlith ynglNghapel Waterloo ao-Oyfarfod Oystadlenot Anfleld Read BHAQPTB. 2-3-4-8ale of Work St.Helens, capel Pembroke place" 11-Clyngerdd Plant y Pentre yn y Central Hall 27—Eisteddfod y Temlwyr Da yn y Central Hall OHWEFBOL (1910). Sale of Work yn Fitzclarence Street H MAWRTH (1910). Bazaar Oymry Fydd Bootle Cymru, Meh 25-Eisteddfod Powys Gorffennaf 5—Eisteddfod y Rhos Gortrennaf 7-Eisteddfod Ooedllai Gorff. 11—Oyfarfod Pregethu Golborne Gor. 21—Eisteddfod Gadeiriol Connah's.Quay Awat 2—Eisteddfod Newmarket Awst 2—Eisteddfod Oorwen Awst 2-Bisteddfod Oaergwrle Manceinion. Mehefin 26 a 27—Oyfarfod Pregethu Ohorlton Road Medi 24 a 25-Oynhadiedd y Oymry I mainc Hyd. 14-16—Basar y Wesleaid yn Ohorlton Town Hall
Advertising
EGLWYS GREAT MERSEY ST. Oynhelir Gwasanaeth Cerddorol NOS SABOTH NESAF. Dechreuir am 6 o'r gloch.
----------"'--PULPUDAU'R SABOTH…
PULPUDAU'R SABOTH NESAF Y METHODISTLAID OALFINAIDD. PUIKOZS ROAD-10, R Williams, 6,W R Owen, Bethesda DAVID ST—LO-8'WB Owen,6, R Williams, Glan Oonwy FiTX' LARKNOt ST.-IO ft 6. T Rees Jones DOOOLAS RD.-IO a J Owen CHATHAM ST.—10-30 a L Lewis OROSBHALL ST.—10-30 a 0. Simon G Evans ANFIXLD RD-10-80 a 6, H Jones NIVBBAH PARK-10 a 0. J Daniel Evans BooTtii-10 a 0, R R Davies, Llandeilo PAMFIILD—10-80 a R Richards, Rhyl SLACOMBL—10-16 a 6, R Humphreys GAKSTON—10-80 a 0, R Aethwy Jones goex FLBKT—10-80 a <1, J Roberts WALTON—10-80 a 6, E J Evans WU8BLoo-Io-SO a 6, Hugh Roberts PnI. BD.—10-30 a 0. D J Hughes EDG8 LANm-10-30 a 6, W Owen WiBSTia Ro-Io-SO a 6, D Jones LAIRD STREB-Io-Se Jones WooBOHtraciH Bd.—10-30 a 8. Foulkes Ellis, Oorris Nnw BRIGHTON—10-80 a 0. J E Davies, Treffynnon WIST KmBy-ll a ft, Griffith Hughes SOUTHPORT-IO-SO a 6-80, HUTTON QUARRY-2 a fl. Griffith Evans I ST. HELENS-Cyfarfod Sutton Oak ST. HELENS JUNC,—Oyfarfod Sutton Oak I SKBLHERSDALE—10-30 a A H R Jones, Ba It BANKHALL—8-15, John Morris tr-Aaei WARRINGTON—10-80 A 8, John Hughes, WI« { ELLISMEBI PORT-lo-SO a 8, David Roberts- WILLIAM MOULT ST.-O. UPPER WABWIOK ST-6-15, EARLESTOWN—10-30 a 6, WIGAN-2-30 a 0, YB AOHOSION SEISNIM OAKVIELD BB—10-45 a 8-30, D Manuel, W»VT" EVERTON BROW—10-45 a 6-30, D W Morgan CATHARINN ST.—10-30 a 6-30 J D Evans EGRJKONT-Io-30 a 8-30, B G Jonei. WILLMIB BD.—10-45 a 8-30. YB ANIBYNWYR. TABEBNAOL—10-45 a 6 30, 0 L Roberts PARK RD—10-30 a 6. Rhys J Huws, Bethesa8 GROVII ST-10-30, G J Williams, 6, D Adaln6 j OLIFTON BOAD—10-30 a 8, O Llovd Owen ^<1 GT. MEBSKT ST—10-30, Oyf. Gweddi, 6, G? „,Vn MARSH LANK—10-30 a 8, J M Williams, KENSINGTON—10-30, T P Davies 6, J 0 W» TRINITT BD—10-30 a 8. W Roberts „ UBOABD—10-45, J O Williams, 8-15, T P £ av' ,p VITTOBIA ST—lo-ao, D Adams, 6, G J BALMORAL BOAD—10-30 a 8. T L Joseph, A CY- PRESOOT-IO-SO a 6, Oyfarfod Ysgol SOUTHPORT-ll a 6-30. John Evans BABLESTOWN—10-30 a 5-30. E Pierce GOLBOBNB—10-30 a 5-30. E A Pickering Y WESLEAID ,# OAKriKlD—10.30, H Tudor, 8. Edward SPELLOW LANE—10 30, W O Evans, 8. H TRINITY BOAD—10-30, 6, MBER6JNR EDGE HILL—10.30, Ed Davies, 6, A H OhaiJ' jud0 KNOWSLBT BD—10-30, A H Chambers, «> MYNTDD SEION-IO.30, 0 Evans, 6, J R Joll BIRIUIINHIIIAD-IO-SO, D Jones, 6, 0 Evans WIDNES-10-30 a 6, A Owen GABSTON—2-30, 0 Evans, 6, David Jones EGRKHONT—10.30, J R Jones, 8, D ROOK FEBBY—2.30, D Jones, 6, R J Wtta j Y BEDYDDWYR. r EVERTON VILLAGE—10-30, 2-15 a 6, Oyi;irl WlNDSOB ST.—10-30 e 8, O M Owen BOU8FIELD STBEET—10-30 a 8. M GriffltD EDGJI LANJI-IO-30 a 8, H R Roberts BALLIOL RD-Io-30 a 6, P Williams WOODLANDs-tO-Sa a 8-15, J Davies SIAOOMBI—2-30 a 8, KNOWSLJY RD.-10-S0 a 0. L W Lewis BULWYS BYDD Y CANNING ST—10.30, Alun Jones, 6, HIGH PARK ST—10.30 D Davies, A BOOTLE—10-30 a 6, W 0 Jones BIBKINHEAD—10-30 a 6, GARMOTLI BD—10.30, W A Lewis, 6, vjeS .rP DONALDSON ST—10-30, R O Jones, 6. 1> EGREMONT—10-45, 6-40. u ARNOT STRIMET-8, YR EGLWYS BEFYDLI;DI(" DEWI SANT—10-30 a O-SO, J Davies ASAPH SANT— 10-46 a 8-30, W Owen DEINIOL SANT—11 a 8-30, D Lloyd ST. WI*I*BID. B'HIAD—11 • 8-30- JA«O» JOO0A DAWI SAN*. ROOTI.—10-45 a 8-SN O G. -———' írt
Advertising
FOR SALE. Waggonette 9 y Rubber tyres, Cushions, p perfect condition. Sell j'l > running.—48 Prescot Road, LlV YN E1SIEU—ORGANIST for Oakfi^ld Welsh Wesl0%fs0ei'et Applications in writing to Trustee^ 66 Dacy Road, Everton, i er 001. toto Printed and Published for J EVANS, SONS & FO-ULXBI f,;v Chambers, 8 Paradise Street 9 JJ)., Tel. 1112 Central, by 35 5—358a Stanley Road. » th > anty gf I,.A.R('R-