Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Atn L yfr.

FET A-oi GOL.

Nodion o Fanceinion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Fanceinion. [GAN OYFRIN] Ein Cymdeithas CenedlaeJhol. YMGYFABFU Swyddogion ac aelodau y GymdeithasJGenedlaethol nos Wener i droi eu cefn ar y tymor diweddaf, a throi eu hwyneb at|y nesaf. Etholwyd swyddogion, a darllenwyd y cyfrifon, a phenderfynwyd ail afael yn hen reolau y Gymdeithas gydag ychydig gyfnewidiadau. A most successful Session" a ddywedir yn y gyfriflen am y tymor a basiodd, a diau yr ategir y geiriau gan bawb a fu yn y cyfarfodydd. Ofer ymhelaethu i geisio dweyd gwell gwir. Etholwyd y tfro hwn y Parch. D. D. Will- iams i barhau yn llywydd y Gymdeithas, a Mr. John Jones, Bootli S;tre\ yn is-lywydd. Hefyd ail etholwyd Mr. Richard Williams, Weaste, yn drysorydd, ynghyda'r ddau ys- grifennydd ymroddgar, y Mri. Francis Will- iams a G. Caradoc Thomas. Trwy ymdrech yr ysgrifenyddion yn bennaf y dvrchafodd y Gymdeithas i safle mor dyfiannol ac anrhyd- eddus. Erys Dr. Emrys Jones eto yn noddwr, a pha le y ceir ei well mewn profiad a galliijV Nis gellir cynnal Cymdeithas fel hon heb draul fawr ond cynhydda rhif y tanysgrif- wyr, ac y mae y swm o f, 15 15 /8 yn weddill o arian mewn llaw. Llawiad Cymysg. Mynd am dro i'r wlad a wnaeth amryw brynhawn Sadwrn, a chawsant fendith haul a chawod am fyned. Aeth plant Band of Hope yn Anibynwyr Booth Street i Heaton Mersey, ac ymunodd cyfeilhon gyda hwy, dan arolygiaeth eu I gweinidog, y Parch. Morgan Llewelyn. I Shbrston Hall hwnt i Northenden yr aeth Merched Dirwestol Moss Side. Mynd i chwareu'r bel i Chelford a wnaeth Clwb Criced Moss Side, gyda lln o ewyllys- wyr da yn feibion a merched. Colli y fatl efo'r bel a fu, ond dichon i'r colli hwnnw fod yn ennill mewn ffordd arall. -9- Ffordd hapus iawn i gynhyrchu ymlyniad wrth eu gilydd ac wrth yr Y sgof SuI oedd gan athraw a dosbar,th o Ysgol Chorlton Road wrth dreulio prynhawn Sadwrn yn Buxton. -$- Caiff amryw Gymry eu hanrhydeddu trwy gael pregethu ym moddion canolddydd y Central Hall. Ymhlith y rhai diweddaf bu y gwyr adnabyddus canlynol:—y Parchn. E. Griffith-Jones, B.A., H. Maldwyn Hughes, D.D., J. D. Jones, M.A.,B.D., ac F. War- burton Lewis, B.A., ddydd Mawrth diweddaf. Traddododd Maldwyn Hughes un o bre- gethau rhagoraf y tymor. Hoffddyn yma am flynyddoedd fu ei ddiweddar dad, Glan- ystwyth. Un o argoelion fod bywyd eglwys Haywood Street yn parhau i dyfu a ffrwytllO ydyw fod y dvnion ifanc. yn bwriadu cael Young Men's Effort ym mis Hydref, ac y mae swn paratoi yn barod. Mae aelodau yr Anibynwyr Booth Street hefyd yn rhoi cam fawr i'r dyfodol, ac yn ol eu hanes yn y gorffennol nid cam gwag a fydd. Ddydd Calan nesaf, cynhaliant Eisteddfod Gadeiriol yn Chorlton Town Hall. Rhoddir cadair am gyfansoddi chwe thelyneg, a'r ymgeiswyr i fod yn rhai na chawsant gadair o'r blaen, a bydd Eifion Wyn yn farnwr. Paratowchy ffordd," meddai Esaias gynt, a dyna fu y'dyddiau diweddaf gyda nerth corff ac enaid ond nid yr un brenin oedd gan y proffwyd mewn golwg a'r un a anrhydeddwyd yma. Er fod ein pen coronog yn lladd tri neu bedwar deryn ar un ergyd gyda'i daith yr wythnos hon, bydd y eroosaw i Fanceinion i weled y fyddin dir ac agor yr Iiifirmary yn anodd i Birmingham a Llundain ei guro. Gwaith wrth fodd ein brenin a'ii brenhines bresennol ydyw cefnogi sefydliadau dyiigarol, ac yn arbennig ysbytai. Mae'l seremoiii agor- iadol frenhinol'ddydd Mawrth diweddaf yma yn sicr o fod yn ddyrehatiad i'r sefydliad daionus, ac yn foddion i gael cefnogaeth ychwanegol i leihau poen, atal afiechyd, ac ysgafnhau pwysau llaw drom angau.. Ni cheisiaf ddeclireu croniclo rig-mi-rol y orymdaith fawr, mae cymaint o urddas brenliinol yn yr holl weithrediadau, nes yr wyf wrth grynhoi fy meddw I yn gorfod tewi fel hyn "Miloedd o brydferth lumanau yn chwifio, Miloedd o swyddwyr yn gwylio y daith, Miloedd o bethan i ddangos y croeso, Miloedd o bunnau o draul am y gwaith, Miloedd o bobloedd edmygol yn syllu. Miloedd o blant wedi casglu ynghyd, Miloedd o leisiau soniarus yn canu— Ond dim ond un brenin trwy'r wlad i gyd." YMWLQI GAEL SIW2\—-Sylwed Cymry Manceinion ar hysbvsiad Mri. J. Jones a i Feibion, Rochdale Road, at tudal. 5. Ceir yn y ddilladfa ddigonedd o ddewis, a gwaith a brethyu o'r fath smartiaf a diweddaraf.

Advertising

1 PULPUDAU MANCHESTER.

-u-Byd a Bettws.

Advertising