Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
-....-GLYWSOCH CHWI j
GLYWSOCH CHWI j Am y wraig hono o Ff-g aeth \i gyda'r m!lb h i' i ysglefrio ar lyn D- y diwrnod o'r blaen ? Eu bod wedi methu yn lan a dod o byd i'r Ilyn ? Eu bod, wedi crwydro ar draws ac ar hyd y mynydd, wedi dod i lawr yu Ng—y—1 ? Na wyddent yn y byd mawr yn mhale yr oeddent ? Iddynt gerdded i lawr ffordd M-t-g hyd nes daethant i D—g—u 1 Fod y gwr wedi dod adref yn eu hab- senoldcb ? Ei fod wedi dychryn yn fawr pan wel- odd le y ddau yn wag ? Iddo logi tua dwsin o fechgyn i fyned i chwilio am danynt 1 Mai y wobr a addawodd oedd tafell o'r dorth frith i bob un 1 Fod y wraig draehefn wedi cyrhaedd gartref pan oedd ei gwr a'i fyddin wedi myned ar eu hynt ymchwiliadol ? Ei bod hithau a'i mab wedi myned ar eu holau 1 Fod yno olygfa ddoniol anarferol wedi cymeryd lIe pan ddaethant i gyfarfydd. iad a'u gilydd ? Fod y wraig yn gofidio oherwydd ei cholled ar y dorth frith, er nad oedd y bechgyn yn ymfalchio rhyw lawer ar eu henill hwy 1 j Fod y "scwl" newydd wedi cyrhaedd — ? Fod ei ddyfodiad wedi peri cynhwrf mawr yn myag rhianod yr ardal ? Fo4 dwy ohonynt wedi casglu digon o wroldeb i alw yn ei lety nos Sadwra? Mai yr esgus a rnddasant oedd gofyn am fenthyg copi o ryw gan ? Fod un ohonynt am fyned a phar o slippers iddo y tro nesai ? Ei bod yn dywyllwch Aiphtaidd yn Mangor y noswaith o'r blaen ? Mai yr achos o hyny oedd i'r nwy fyned allan ar unwaith ? Mai doniol oedd gweled y canwyllau a'r lampau olew yn ffenestri y prif fas- nachckai 1 Fod anhwylusdod neillduol wedi cael ei deimlo yn ngorsaf y rheilffordd ? Fod amryw wrthdarawiadau wedi cy- meryd lie ? Mai ar High street, ac nid ar y rheil- ffordd, y digwyddodd byny ? Fod het silc un hen frawd parchus wedi ei difetha am byth 1 Fod un o wyr y gyfraith yn ceisio ei berswadio i erlyn y Gorphoraeth am het newydd ? Mai un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd y dyddiau a'r noaweithiau rhewllyd hyn yn Nghaernarfon ydyw y Pare ? Fod Meistr Rhew wedi hel yr elyrch gyddfhir a'r chwiaid chwim, druain, o'u hymddifyrle arferol, ganjwahoddgwyryfon a llanciau y dref i gymeryd eu lie ? Fod y llanciau a'r gwyryfon yn methu cymeryd digon o hamdden i na bwyta na ehysgn na gweithio na dim gan eu hawydd i fyned i ysglefrio—nage, beg- io'ch pardwn, skatio"—ar y Ilyn ? Fod yr olygfa ar y llyn ar noson loer- gan lleuad yn debyg i pe yr ymwelsid a'r lie gan haid o dylwythion teg ? Mai gwell, feallai, fyddai peidio hys- bysa am y profedigaethau rhyfedd a ddaeth i gyfarfod rhai ohonynt ? Fod un eneth wedi gwneyd tro gwael gyda dyn ieuanc yswil o Heol y F d 1 Ddarfod iddo ef un noswaith. adael ei "skates" yn ei gofal, a dyfod o hyd iddynt y noswaith ddilynol am draed ei chariad hi ? Y bu gorfod i frodor o Ddyffryn clod- fawr Clwyd ddanfon ei "ffigyr" i New Bridge ar ol ymldifyru ar y llyn rhewedig ? Ei fod yn mwmian canu yn galon- doredig wrth ddychwelyd adref "tua'r haner," The girl I left behind me 1" Mai L'yn y Llaethdy ydyw prif atdyn- iad ugeiniau, os nad canoedd, o bobl Amlwch y dyddiau hyn 1 Fod yno gystadleuaeth codymu braidd bob nos ? Fod y coachman ieuanc hwnw yn cael sylw neillduol am ei gatedigrwydd tuagat y ladies ar y rhew 1 Fod argraphydd o G-nf-n wedi colli y tren i Ddolgellau flwyddyn yn 01 7 Iddo fod yn fwy llwyddianus y tro hwn ? Iddo godi yn foreuach, ac felly fod yn yr orsaf ymhell cyn i'r tren gychwyn ? Fod cyfaili iddo wedi myned gydag ef y tro hwn 1 Fod tro pur ddigiif wedi ei gyfarfod yntau hefyd 1 Mai nid colli y tren a wnaeth ? Fod cwsg melus wedi cael gafael ynddo wrth ddychwelyd, ac wedi ei gadw yn y tren yn hwy nag oedd yn feddwl ? Mai yn ngherbyd y rheilffoidd y bu yn cvsgu hyd y boreu ? Y dylai y ddau frawd hyn wneyd dar- pariadau yn mlaen llaw pan yn myned gydag excursions, neu ofalu am rywun cymhwys i gymeryd eu gofal ? Fod Mr Richard Thomas, Caernarfon, wedi ei ddyrchafu o fod yn gynghorydd i fod yn un o henaduriaid y dref ? Mai yr ymgeiswyr am y sedd wag yna Ward Bach ydynt Mr Norman Davies y Mr H. Lloyd Carter ? Y dylai y Rhyddfrydwyr illu anfon Mr Davies i mewn gyda mwyafrif i 1113 eddus1 Fod tri o chwarelwyr yn T-Is-ri), nad ydynt yn awr byth yn newid eu dillad gweithio ar ol noswylio 1 Mai y rheswm. am hyny ydyw fod merch ieuanc o'r un ardal wedi myned i G-th 7 Fod yn anmhosibl i'r tri allu llwyddo i enill y ferch ieuanc yn eiddo iddynt
[No title]
BETH AM HWN P—" Beth am hwn ?" gof- yna'r Bardd neu'r Pregethwr pan wedi cyf- ansoddi rhyw wai-bL dybiai ddylai gael ei osod o fewn cyrhaedd pob darllenydd yu Nghymru. Mae yr ateb yn syml, gyrwch ef i'w argraphu yn llyfr testlus ac i'w adver- teisio yn helaeth yn y Genedl. Ymgymera Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyf), Swydda'r Genedl, Caernarfon, a phob rhyw fath o argraphu a rhwymo llyfrau.
Advertising
WAFav ER'S SAFE CURE At holl A 3V YIDERAU'R ELW LO £ > A K AFU wARN.ERIS "SAFE" CURE AT WENDID CYFFREDINOT' A BBIGPIT DISEASE. MILOED^ 0 DESTIMONIAV3 yn datgan -1-& e; liawedclau wedi eu filio a gellir eu ha-chwliio. NIae ei hawiiau yu auwadadw Gwer'hir gaa bob flferyl'ydd a gwerth phys'gwriaetb. Danfon;r bamphledyn Y. rhad ond ysgrifena at H. H. WARNER CtF, L td.,8g, Clarkenwelloadj Loodon E.C
DUWIESY COED
DUWIESY COED GAN CAREEN S YLYA, (BKEVHINES ROUMANIA). III. Fe synai pawb a welai Arnold ar ol ei briodas at y fath gyfnewidiacl mawr oedd wedi cymeryd lie ynddo. Yr oedd ynllawer iawn mwy pendrist na chynt. Tuagat ei wraig byddai ei ymddygiad bob amser braidd yn sarug, er ei bod hi yn ei anwylo ac yn ofalus iawn o hono beunydd. Byddai Mar- ina i'w gweled yn barhaus mewn dawns- feydd a chwmniau ereill, pa lebynag y caffai gyfleusdra i dangos ei thalentau, ac yr oedd ei harabedd a'i natur dda yn peri mal hi fyddai bywyd y gwahanol gynulliadau. Yn bur fuan, nid oedd y cylch y troai ynddo yn siarad am neb ond am Marina, y ferch at- dyniadol-neu Dduwies y Coed, fely galwent hi ar ol gweled y gerf-ddelw a wnaeth Arnold o honi. Yn y ddelw hon yr oedd Marina, y Dduw- ies, fel pe yn dod allan o'r cawg dwfr; pwys- ai un llaw ar y graig, lie yr oedd aderyn bychan yn sefyll gan edrych yn ei llygaid, tra y cyfeiriai y dduwies ato a bysedd y llaw arall. Y peth mwyaf ardderchog yn nglyn a'r ddelw oedd y fynwes ymdonog a'r genau agored, o ba rai y gellid tybied fod swn perorus yn dod allan. Elai rhai mor bell a dyweyd fod y ddelw yn y nos yn rhoddi allan adlais isel o ganeuon Marina. Pan glywodd Arnold am y siarad hwn, edrychai yn gilwgus ar y Dduwies, ond ni ddywedai air wrthi ar y mater. Ysgydwai y cymydogion eu penau, a dywedent fod Ar- nold wedi cael lei reibio er pan y bu farw Lia, a bod y wraig a briododd yn sicr o'i ar- wain i golledigaeth gyda'i llygaid dewinol. Un noswaith ychydig cyn hyn, aeth Arnold i ystafell Marina pan oedd yn ymdrwsio i fyned i ddawsfa. Mae Lia wedi marw," ebai Arnold yn sydyn. Ydyw; 'rwyf yn gwybod," oedd atebiad y wraig. "Chwi wyddoch felly; paham na fuasech yn dyweyd wrthyf ?" Feallai, am fy mod yn para yn eiddigodd- us hyd yn nod o'r marw," ebai, gan anwesu ei phriod. Ond gwthodd ef hi i ffwrdd, gan ddyweyd,— Gadewch lonydd i mi; yr ydych yn rhy chwerthinllyd o blentynaidd." le, ie; mae hyny yn wir," ebai Marina, gan ostwng ei phen, fel plentyn wedi cael ei geryidu, gan ymddangos fel pe yn edifeiriol iawn. "Ni bydd i mi fyn'd allan heno," ebai y wraig, gan ddechreu tynu y blodau o'i gwallt. Os ydych yn dymuno fy moddhau i," ebai'r gwr, gadewch fi ar fy mhen fy hun, —mae eich presenoldeb yno mor angenrheid- iol." Taflodd ei breichiau am wddf ei gwr, gan ddyweyd,— Bydded felly ynte nid wyf yn ewyll- ysio disgleirio ond yn unig er eich mwyn chwi." Er pa bryd, tybed 'i 0 Arnold, paham yr ydych yn gofyn y fath gwestiwn?" Ni bu i chwi erioed, er pan wyf fi yn cofio, guddio eich goleuni dan lestr." Mae'r holl atdyniad sydd ynof wedi cael ei greu genych chwi. Cyn hyny yr oeddwn yn hollol anadnabyddus." "Nid ydych yn dweyd y gwir," ebai yntau, gan fyned allan o'r ystafell. Dilynodd Marina ef a'i llygaid, ac yna syrthiodd i ddwys-fyfyrdod. "Mae pethau yn myned i'm herbyn," meddai. Yna torodd allan i ganu fel yr elai i lawr y grisiau, ac allan drwy y drws. Ni arhosodd yn hir yn y ddawnsfa, ond yr oedd yn llawn mor atdyniadol ag arfer. Edrychai pawb arni fel y brydferthaf a'r fwyaf swynol yn y lie. Gresyn," meddai rhai ohonynt, "na allasai y gerf-ddelw farmor a wnaeth ei gwr feddu y filachiad byw yna sydd yn llygaid ei wraig, er eu bod i raddau yn dwyn tebygrwydd i lygaid cath." Llygaid teigr, yn hytrach," meddai un arall. Ysbryd drwg ydyw, a rhaid i ni fod yn ofalus rhagddi," ebai un arall. Ond paham y mae ei gwr yn ymddwyn mor oeraidd tuag ati? Yr oedd ar y dechreu mewn cariad mawr a hi." Efallai ei fod wedi darganfod yr ysbryd drwg sydd ynddi, a'i fod yn ei ofni." Un ryfedd iawn yw ei dduwies. Buasai arnaf fi ei hofn." Yr oedd rhai misoedd wedi myned heibio er pan briododd Arnold, ond nid oedd hapusrwydd byth yn teyrnasu ar ei aelwyd. Amlwg ydoedd fod yna rhyw ofid cudd yn ei boeni, er nad oedd yn addef hyny wrth neb. Beth oedd tybed ? Ai cnofeydd cyd- wybod, ai ynte y gwirionedd sydd wedi cael ei amlygu iddo ? Efallai mai cais diweddaf Lia am iddo dd'od i'w gweled, ar yr hwn yr oedd wedi troi yn glust fyddar, oedd yn ei frathu. Yr oedd ei olwg wedi cyfnewid gymaint fel yr oedd ar y bobl ofn edrych ynmyw ei lygaid, ac erbyn hyn, gresynent dros ei wraig. Edmygent ei llais fwy-fwy beunydd, ac yr oedd ei phrydfertbwch yn parhau i ddenu eu bryd. Ond yr oedd ei llais a'i phrydferth- weh wedi colli eu swyn i Arnold. Pa bryd bynag y dechreuai ganu yn awr, elai ei gwr allan, gan ddyweyd nad oedd ef yn hoffi cymaint o fiwsig. Ond yr ydych chwithau hefyd yn hoffi cerddoriaeth ?" ebai cyfaill wrtho. Ymdaenodd gwg dros eiliau Arnold a dywedodd, "Y mae fy llais wedi crygu er's llawer o amser, ac nis gallaf wahaniaethu rhwng nodau cywir ac anghywir, gan fy mod wedi colli fy nghlust gerddorol." Ar hyn codai Marina ei golwg. Ni bydd i mi roddi ar ddeall i chwi pan y byddaf yn canu yn anghywir," ebai, gan chwerthin yn uchel. (I'w barhau).
DYFODIAD Y GAUAF.
DYFODIAD Y GAUAF. Adeg beryglus, ac un sydd yn peri llawer n bryder i luoedd yn ein gwlad, yw y tymhor hwy o'r flwyddyn. liae eclrych yn mlaen at ei ddy- fodiad yn achosi pryder ac ofn nid bychan i laweroedd o'r rhai hyny ydynt yn dioddef oddi- wrth wahanol anh-vyylderau. Gydag ychydio- ofal, a thrwy gymeryd y feddyginiaeth briodol mewn pryd, gellir osgoi llawer o boenau corph- orol yn gystal a phryder meddwl. Mae adeg cwympiad y dail yn dwyn rhyw gymaint o ddioddef i bob un sydd yn naturiol o gyfansoddiad gwanaidd. Efallai mai y rhai sydd yn dioddef oddiwrth DAiffyg Treuliad a flinir fwyaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynghor y meddyg i'r claf yr adeg yma yw cymeryd meddyginiaeth tuag at gryfhau. Prin y rhaid dweyd wrth neb yn Nghymru pa un yw y feddyginiaeth oreu at y dolur hwn, na pha le i'w chael. Mae tystiolaethau y miloedd a dderby;-iasant les oddiwrth Quinine Bitters Gwilym Evans yn brofion diymwad a digonol o werth a rhagoroldeb y feddyginiaeth fyd-enwog hon. Mae lluaws o dystiolaethau hefyd i effeith- lolrwydd y Quinine Bitters mewn gwrthsefyll ymosodiadau pob math o anhwylderau gauafol. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad, y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Companv Limited, Llanelli, South Wales.
Advertising
Gwnaeth James Dallas, chwareuwr di- grifol adnabyddus, ei hun yn fethdalwr. Mae ei ddyledion yn lOOp. COCOA CADBU RY.-Dyma'r Cocoa sydd yn ddianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac ynte osglwyddo nerth a grymusder arosol.-Health
CALON GOLLED [G.
CALON GOLLED [G. [GAN G. MANVILLE FENN.] L VI. "Fydd yr eira'n rhy drwchus iddo ef ddyfod ?" gofynai Janet iddi ei hun, tra yr eisteddai wrth y bwrdd boreufwyd y boreu canlynol. Yr oedd y llythyrau a'r papyr newydd wedi dyfod, a'r gwr a aethai ar ferlyn i'r dref ac yn ol yn adrodd fel yr oedd y lluwchfeydd eira yn ysgubo i lawr o'r gwastadeddau ac yn prysur lenwi'r ffyrdd culion. Yr oedd y fath drwch ohono wedi disgyn yn ystod y nos fel nad oedd y llafurwyr hynaf yn cofio y fath be h, tra yr oedd y gwynt yn cynyddu, a'r hyn a ym- ddangosai fel llwch gwyn yn cael ei luwchio i bob rhigol a bwlch mewn ffenestr a drws, trothwy a rhiniog, ac yn ymffurfio yn donau a phlygion nad ellid o'r braidd eu gweled drwy'r awyr dywell. Mae'n dda genyf fod y dcfaid hyny wedi eu gyru i mewn," meddai'r yswain, gan roddi boneyff arall ar y tan. Ferched, dim siawns myn'd i'r eglwys yforu os deil hi fel hyn. Byddwn wedi ein cloi i fynu mown eira, ac nis gallwn gael neb yma i giniaw. Os ydw' i yn gwybod rhywbeth am dywydd, yr ydym yn myn'd i gael ystorm fawr." "Ni cheidw Lidgate draw," meddyliai Beatriee. Daw ef ar gefn ei gaseg. All o ddim cadw draw yrwan." Fe ddaw Eric, fe ddaw," meddai Janet wrthi ei hun, a'i llygaid yn sirioli, a'r gwrid yn dyfnhau yn ei gruddiau. "Mae e'n sicr o ddyfod adre' i dreulio'i Nadolig, ac nid oes dim a'i ceidw'n ol." "Tyred fy n-eneth i-myn'd i gysgu?" meddai'r yswain. Ddim wedi agor y papyr eto? Beth yw'r newydd P" Dododd Janet ei chwpan i lawr, ac agorodd y papyr yn brysnr, gan droi at y golofn lle'r oedd y newyddion lleol, ac a ddechreuodd ddarllen y darnau a ddyddorai ei thad. Dechreuodd yslorm erwin chwythu o'r dwyrain yn gynar boreu ddoe, gyda phob argoelion am dywydd oer, a Ni ddar- llenodd yn mhellach, yr oedd ei llygaid wcdTcrwydro oddiar y^paragraph i'r golofn nesaf, lle,^o dan y penawdj "^Leddenby "|y disgynodd ei golwg ar eiriau a Jwnaeth iddi neidio o'i heisteddle, yn wyllt, gan syll- dremio ar y papyr, yr hwn a syrthiodd o'i llaw, fel y troai o gwmpas, a golwg welw arm; ac yna syrthjUxid yn drwm ar ei gwynt, fel yn farw. "Janet! f'anwyl eneth!" meddai'r Yswain, gan neidio o'i gadair, a'i chyfodi i fyny, a'i gosod i orwedd ar yr esmwyth- fainc. Peidiwch a brawychu f'ewythr," meddai Beatrice, "ychydig o benysgafnder ydyw. 'Roeddwn i'n meddwl nad oedd hi ddim yn edrych yn dda y boreu yma." Paid a siarad ffolineb," meddai'r Yswain yn ddigofus. Estyn y brandi. Yr oedd gystal ag y gallai fod. Rhywbeth a welodd hi yn mhapyr y felldith yma. Y nefoedd fawr 'Dydyw Eric Lee ddim wedi marw ? Cipiodd y papyr, ehedodd ei olwg drostc i fynu ac i lawr, a disgynodd ei lygaid ar y paragraph a welsai Janet. "Y mae genym yr hyfrydweh o hysbysu am briodas yr Is-gadben Eric Lee, mab i'r yswain adnabyddus o Leddenby, â. Miss Maude Adeliua Ley bourne, merch meistr y llongborth, Devon- P°^* Y mae yr Is-gadben dewr newydd ddych- welyd wedi hir wib-fordaith yn "Yn mhell y bo fo," meddai'r yswain mewn llais ffyrnig, gan grebychu'r papur, buasai yn dda genyf pe buasai wedi ei foddi." Ar y funyd hono gollyngodd Janet och- enaid ddofn, agorodd ei llygaid, edrychodd yn wyllt o'i hamgylch, a disgynodd ei llygaid ar ei thad; cauodd hwynt drachefn, a gorweddodd yn berflaitk dawel tra y yr yswain gyda'i gefn ati, a gwthiodd y papyr i'r tan nes y llosgodd yn ulw. •' Na, na, paid a chodi, Janet anwyl," meddai Beatrice, yr hon a edrychai yn welw, "tmae ychydig benysgafnder arnat." Ni wnaeth Janet unrhyw sylw ohoni, ond cyfododd, aeth at ei thad, a dododd ei breichiau am ei wddf, a chuddiodd ei gwyneb yn ei fynwes am ychydig funydau, tra y I cofleidiai ef hi yn dyner. Yna cyfododd i fyny ei gwyneb gwelw yn dawel, a chusan- odd ef, a cherddodd yn araf allan o'r ystafell. Yna aeth i fyny'r giisiau i'w hys- tafell ei hun. A gaf fi fyned ati, f'ewythr ? gofynai Beatrice yn wanaidd. "Na," meddai yntau, gyda llais ffrom, dwfn. Gad hi yn llonydd.J 'Does ond meddyg a wna les iddi, a'i enw ef ydyw Amser. Beatrice, fy ngeneth i, y mae genyf fi dymher wyllt pan gaf fy nghythruddo; gan hyny, pan fyddi yn dweyd dy bader heno, dyro air i mewn droswyf fi, nad elwyf byth i gyfarfod Eric Lee. Oherwydd os byth y deuaf ar ei draws, mi a'i lladdaf." "ewythr "Gwnaf. Y mae wedi tori calon fy ngeneth anwyl i." Daeth yr eira i lawr yn drymach, drym- ach, gan luwchio'n gymylau trwchus dros yr ystradau, ac yr oedd distawrwydd ar- swydus wedi gordoi y lie fel yr oedd Bea- trice yn eistedd yn wyllt a brawychus, gan syllu ar ddigter dychrynllyd y gwr cadarn y 11 oedd a'i wynebpryd yn arlun o angerddol- deb, a'i Iygaid duon yn fflamio fel yr edrychai ami. Aeth dwy awr heibio. Bu yr yswain i fynu'r grisiau ddwywaith, a daeth yn ol i atteb golygon ymofyngar ei nith gyda'r air: Yn nghwsg.' Yna cerddodd i fynu ac i lawr yr ystafell giniaw eang fel rhyw fwystfil gwyllt newydd ei gadwyno, ac yr oedd y gyffelybiaeth yn fwy felly fel y rhuai allan ei deimlad mewn agwedd ddialeddol. "Ha, fy ngeneth," meddai yn sydyn, fel yr agorai y drws, ac y deuai Janet i mewn, mor wyn a gwahanol ei gwedd, nes peri i'w galon doddi o'i fewn fel y deuai yn mlaen ato i'w gusanu. Yr wyf yn well yn awr, fy anwyl dad," meddai yn dawel; ac heb ddyweyd gair yn ychwaneg, canodd y gloch am i'r llestri boreufwyd gael eu symud ymaith, ac yna ymorolodd am ei gwaith ac eisteddodd wrth y tan. Safai yr Yswain a'r gwythienau yngwlwm ar ei ael, fel y syllai arni am enyd fer, ac y sylwai mor welw yr edrychai yn adlewyrch- iad yr eira gwyn. Yna aeth o'r tu oli'w chadair, a chan ogwyddo ei hun drosti, a ddododd ei gwyneb oer a gwelw ar yr eiddo ei hunac a sibrydodd:- Duw a'th fendithio di, fy nynes fechan ddewr i! Dyna ni yn iawn. Mae genym ni, yr Hamptoniaid, dipyn o falchder ynom wedi'r ewbl." "Oes, fy nhad bach," meddai hi yn dawel, camgymeriad mawr oedd y cwbl." Pwy sydd yna .J Beth ydyw y mater ?" gwaeddai yr yswain, pan agorai y drws, ac C, y daeth rhuthr o wjnt, a'r eira'n chwirlio i mewn dan ddi'ws y dining-room fel man- lwch gwyn. Yna cauwyd drws y oyntedd, ac fel y taflai yr yswain ddrws y dining- room yn agored, daeth i mewn greadur mawr tal wedi ei amdoi gan eira, o'r braidd y gellid ei adnabod fel yr oead ei wallt a'i farf wedi eu haddurno a phibonwy gwyn. Lidgate gwaeddai yr yswain. le, syr a gwaith mawr oedd dyfod yma, prin yr oedd y gaseg yn gallu ei wynebu, a chollais y ffordd ddwywaith. Ond nis gallwn bcidio dyfod." Beth ydyw? 'rwyf fi'n brysur," medd- ai r yswain yn sarug Oes rhywun yn wael ?'' C, Oes, syr, yr ydwvf fi. Yr wyf ar fai yn dyfod fedlai, ond nid 02S lllo'r help am dani. Fe'm gorfodwyd. Gwelais yr hys- bysiad ixelldigedig hwnw yn y papyr, a tD ———— 0, Janet peidiwch ag edrych arnaf fel .yna," pan welai hi yn cyfodi, ac yn tvoi ymaith, gan ymgynal wrsh astell y simneu. Gwyddoch mor hir y bum yn eich caru, a rhoddwn lawer am eich gwcled yn ddedwydd A ydych yn meddwl nad wyf yn teimlo drosoch mewn amgylchiad fel hwn? Cauodd Beatrice ei llygaid. Hon oedd y foment hir-ddisgwyliedig. "Peidiwch a siarad a hi yn awr," meddai'r yswain, gyda llais cryglyd. Allaf fi ddim help, wir—Janet." Er syndod i bawb daeth yn mlaen yn araf ac estynodd ei llaw i Lidgate. Janet," meddai, fel yr ymaflai ynddi gyda'i ddwylaw ei hun. Yr wyf wedi ymddwyn yn bur galed tuag attoch," meddai, yn dawel. Cam- gymeriad oedd y cwbl." Ac meddai yn gyffrous, Chwi a addawch i mi yr hyn a ofynais ddoe ?" Edi ychodd arno yn dawel a sefydlog am enyd, yna ar ei thad, yna yn ol arno ef. Gwnaf," meddai yn gadam, ac yr oedd Lidgate ar fedr ei chofleidio, ond hi a giliodd iffwrdd. "Na, na, nid yn awr," meddai, ar- hoswch ac, ar ol ychydig seibiant, Arhoswch." A bu seibiant, yn ystod pa un yr ymaflai Blount Lidgate yn ei llaw oer am ychydig funydau cyn iddi ei thynu yn ol, a throi at Beatrice. Tyred gyda mi i'm hystafell, Beatrice," meddai, yn ddystaw. Fy nhad, ni ddeuaf lawr heddyw eto." (Fw barhau.)
IGOLYGFA GYFFROUS MEWN |EGLWVS-
GOLYGFA GYFFROUS MEWN EGLWVS- Ymosod ar Offeiriad. Tra y cerid gwasanaeth yr offeren yn mlaen mewn eglwys Babyddol yn Phila- delphia, daeth dyn o'r enw Quinlan yn mlaen, a cherddodd ar hyd y llwybr tua'r allor, er braw i'r addolwyr. Yn ei law yr oedd pastwn mawr, a chyn y gellid ei rwystro yr oedd wedi neidio dros ganllaw yr allor, ac anelodd ddyrnaid ffyrnig i'r offeir- iad oedd yn gweinyddu. Nid oedd y gwr parchedig wedi sylwi ar Quinlan yn d'ud yn mlaen, ond gwasanaethodd gwaedd y gyn- ulleidfa fel rhybudd iddo, a chiliodd o'r neilldu mewn pryd i osgoi y ddyrnod. Ym- osododd Quinlan arno eilwaith, gan ei daro i lawr. Syrthiodd yr offeiriad yn drwm ar y ceryg, a llewygodd amryw o ferched oedd yn bresenol. Rhuthrodd amryw ddynion yn mlaen i waredu y gwr parchedig o'i berygl, ond cawsant drafferth fawr i'w gael yn rhydd e grafangau ei ymosodydd. Ymladdai Quinlan gyda ffymigrwydd mawr, ac o'r braidd y gallasai dwsin o ddynion ei sicrhau. Llwyddwyd o'r diwedd i'w gymeryd i'r ddalfa, ac oni bai am eiriolaeth yr offeiriad drosto, buasent wedi ei lynsio yn ddiymdroi. Yn ffodus, ni anafwyd neb ond yr offeiriad, er fod dillad amryw o'r dynion wedi eu rhwygo. Yn ddiweddarach, cafwyd allan mai gwallgofddyn peryglus oedd Quinlan.
" !Y DAITH I FYNYDD Y TWR.
Y DAITH I FYNYDD Y TWR. Fel hyn yr ysgrifena. Gohebydd Neillduol" o Gaergybi atom Hin dymhoraidd gafwyd eleni a chwmni dyddorol, i fyned ar ein taith flynyddol i "Fynydd y Twr." Teimlem fod y bardd Treflyn yn hwyliog; cyfansoddodd englynion pwrpasol iawn, a gobeithio y cawn eu gweled wedi eu hargraffu. Wedi cyrhaedd i gesail y mynydd caem olygfa ysplenydd, y mor yn llonydd fel pwll hwyaid, a Ilestri mawr a bach yn gorwedd ar ei wyneb, a'r harbwr yn rhwydd lawn. Wedi pasio Ty'n yr Ardd, fu gynt yn aneddle yr hen dduwin- ydd, Thomas Williams, yr hwn sydd bellach dan y dywarchen er's rhai misoedd, cawsom ein hunain yn Fferam Gorniog. Yno yn disgwyl yn ddyfal yr oedd Cywarch y Grug," lyr arweinydd preseuol, a piiastwn onen yn ei law chwith. Wedi ei longyfarch, cychwynasom i gyfeiriad y gwaith newydd, fel ei gelwir, yr hwn sydd yn ymyl y pen- tref, ac yn sicr y mae tebygolrwyrtd y bydd iddo gynyddu. Y mae y cwmni eisoes wedi gwario, fe dybiwn, rai miloedd o bunau mewn parotoadau, a'n dymuniad yw y cant fedi 0 ffrwyth eu llafur. Wedi cyrhaedd Llyn y Bleiddiaid, yr hwn oedd wedi rhewi, ac ym- laen dros yr hen frir Rhufeinaidd, cyrhaedd- wyd y copa, o'r lIe hwn dangosodd y Cyw- arch amryw leoedd neillduol, hefyd y llecyn bu Caswallon Law Hir yn ymladd, a dywedir iddo golli ei law yn y frwydr hono, ao idoi gael ei chladdn yn hen fynwent St. Cybi o dan yr hen ysgoldy. Cafwyd hefyd datgan- iad gan y Cywarch, sef "Difyrwch Gwyr Aberffraw," ar garol Nadolig, a rhaid addef ei fod yn gantwr. Tynodd un henafgwr, nid anhysbys, ei ben-orchudd a chyfarchodd y cyfeillion, Ai nid priodol urddo y cyfryw dalentau gorwych yn ol braint a defawd ynys Cybi." Atebwyd yn gadamhaol, ac felly urddwyd dau ddatganwr ar yr enwau canlynol:—" Tenorydd Cybi a Tenorydd y Twr." Urddwyd bardd ieuanc lied obeith- iol yn Gwalch Rhagfyr," a chafwyd yno hwyl anghyffredin. Daethpwyd o'r lie hwn tua'r hen Deligraph, lie y mlfgwyd y gwron adnabyddus yr Henadur Richard Hughes. Yna gan fud yr amser wedi myned ymhell cyrchasom tualthref.
FE AETH Y FLWYDDYN HEIBIO.
FE AETH Y FLWYDDYN HEIBIO. Fe aeth y flwyddyn heibio, Daeth arall yn ei lie, A myn'd o hyd mae hono Wrth osodiadau'r ne': Myn'd heibio ydyw hanes Blynyddau oesau'r byd, A rhyfedd mor ddirodres Y maent yn myn'd i gyd. Fe aeth y flwyddyn heibio, Aeth hefyd gyda hi A hanes byd yn gryno I swyddfa fawr ein Rhi; Hi gasglodd holl ddirgelion Bwriadau meddwl dyn, Na ffurfiwyd mewn agweddion Ond fel ysbrydion cun. Fe aeth y flwyddyn heibio, Do, do," medd llawer un, A'r dagrau gloew'n treiglo, Wrth gofio'r troion blin A gafwyd yn ei hanes,1 Yn nghysylltiadau'r byd, Adgofion trwm anghynes, Gyflwyna hi o hyd. Fe aeth y flwyddyn heibio, Aeth heibio ar ei bron Laweroedd fu'n disgleirio, Fel ser y nefoedd Ion; Hen gewri yr areithfa, Enwogion dysg a dawn, Athrawon, duwiol dyrfa, Eu seddau'n weigion gawn. Fe aeth y flwyddyn heibio, -Ond byw yw hi o hyd Ei doniau alwant eto Ar bawb mewn arall fyd I roddi cyfrif union, O'i chyfraniadau rhad, I I feib a merched dynion I'w dwyn i'r nefol wlad. Hyde Park, Pa. D. P. JONES.
[No title]
Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhan fwyaf o cocoas yn aiirheuliadwy; ogyiuaint ag fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yn ddiweddar fod yr alkalies a ddefuyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- da mater bras, yn ffurfio sylwedu sebond- aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli.- [VItitehall Review.
- GWEDDI BLWYDDiN JNEWYDD.
GWEDDI BLWYDDiN JNEWYDD. [GAN W. WATSON.] Un noson wen pan guddia'i rhew y byd, Ac yr edrychai'r lleuad oer, ddi-nwyd Mewn tostur awr ar ddyn dan felldith nwyd,— Dyn wnaed mewn nwyd, gan nwyd ei ddrygu ga'dd— Drwy y tawelwch llwyd min Newydd Flwydd Y weddi hon dan grynu aeth i'r nef. Tydi, breswyli dragwyddoldeb maith, 'R Hwn welinewyn a gorlafur dyn, A ffordd mae serch at fywyd, gwraig, a hil, Yn frawd i gas, yn dad i farwol waith, Rho hedd Rho heddweh, yn ein hamser? ni. Ond os rhaid myn'd drwy'r gad i hedd, .Na arbed 'r hauwyr daflant farwol had Y blod'yn rhudd, yn gymysg a Dy yd:] 'Rhwn hauo'r gwynt gad fedir corwynti cryf: At ladron yn ofnadwy gwna dy fraich, P'le bynag bo'nt, mewn marchnad neu. mewn Uys A'th daran gwasgar lu'r anghyfiawn rai, Sy'n troi d'hyfrydwch Di yn anial dir- Yn faes y gad dy winllan Di, a thraed Gwyr arfog, fathraut fywyd hon mewn gwaed, Gwna'n bur y Loegr hon un waith oedd lan, Pan wisgai cedym Arthur urddas pur, Pan iawn dafolai Alfred gloriau barn: A phan, 'rol hyn daeth Rhyddid maes, Gan guro'i gelyn yn y llys a'r llan, Cad sicrach sedd yn nghwymp un gelyn gau: 0 'sgrifell Miltwn, cledd Cromwell ca'i nerth, Er creithiau'r fall doi'n iach drwy iawnder Duw. [Ceisiais droi y llinellau uchod i'r Gymraeg, nid am fy mod yn hoffi y dull diodl, ond am y dyddordeb deimlir yn yr awdwr ar hyn o bryd. Gwr o Lerpwl ydyw, ac enwir ef fel olynydd i Tennyson. Bu'n aninhwyllus ddiwedd y flwyddyn, ond y mae yn gwella. Keinion.]
[No title]
BETHAMHWN?-"Bethamhwn?" gofyna'r Bardd, neu y Pregethwr pan wedi cyfan- soddi rhyw waith aybia ddylai gael ei osod o fewn cyrhaedd pob darllenydd yn Nghymru. Mae y. ateb yn syml, gyrwch ef argraphu yn llyfr testlus ac i'w adverteisio yn helaeth yn y Genedl. Ymgymera Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyf), Swydda'r Genedl, Caernarfon, a phob rhyw fath o ar- graphu a rhwymo Uyfrau.
EI ERLID HYD ANGEU.
EI ERLID HYD ANGEU. Brawychwyd rhai o drigolion Berlin tua deuddeg o'r gloch nos Sul gan dwrf er- gydion yn cael eu saethu yn yr ystrydoedd. Rhuthrai y bobl allan o'u tai i edrych beth oedd y mater, a gwelent bedwar o filwyr yn erlyn dyn mewn gwisg gyffredin. Yr oedd y ffoadur wedi dianc o'r fyddin, ac wedi cael ei gymeryd i'r ddalfa, ond pan oedd yn ymyl drws y carchar gwnaeth ymgais i ad- enill ei ryddid drwy redeg ymaith. Gollyngodd un o'r marchogwyr ergyd ato, ond ni tharawcdd ef. Rhedodd y ffoadur drwy amryw o'r ystrydoedd, a'r pedwar arall ar ei ol. Saethasant ato bedwar gwaith, ond heb ei gyffwrdd. Teimlai y carcharor fod ei erlynwyr bron a'i ddal; I gwelodd ddrws ty yn agored a rhuthrodd i mewn. Rhedodd i fyny y grisiau i'r aii lawr, a thaflodd ei hun drwy y ffenestr i'r heol islaw, gan dori ei wddf yn y cwymp. Ni wyddys a anafwyd rhywun gan y mil- wyr wrth saethu, ond condemnir yn gyff- redinol eu gwaith.
[No title]
LLYFR GWERTHFAWB.—Da genym ddeall na fydd eisiau i neb o ddarllenwyr y Genedl adael i unrhyw lyfr gwerthfawr yn eu meddiant gael ei ddifetha o eisiau cloriau newyddion. Mae y Welsh National Press Co., Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, wedi sefydlu cangen o Lyfr-rwymo yn eu gweith- feydd, a gellir danfon archeb am rwymo drwy unrhyw un o'r 1500 dosbarthwyr perthynol i'r Cwmni yn Nghymru, a chael y gwaith yn ol yr un modd wedi ei orphen yn rhad a thestlus.
Advertising
'7 -=- AT BAWB Y PERTH YN IDDYNT WYBOD. JE20 0 WOBR! GWOBR 0 UGAIN PUNT!! YN GYMAINT a'n bod wedi ein hysbysu fod rhyw berson neu bersonau diegwyddor yn ddi- weddar wedi bod yn cynyg ar werth ac yn cymhell QUININE BITTEBS heb fod o'n gwneuthuriad Hl, a phan ofynid iddynt am QUININE BITTERS GWILYM EVANS wedi ceisio twyllo y prynwyr trwy wthio arnynt rhyw ddarpariaeth arall, Rhoddir y wobr uchod i'r neb a rydd i ni y cyf- ryw hysbysrwydd ag an galluoga i euogbrofi, unrhyw un mewn achos o efelychiad, neu roddi nwyddau eraill am ein QUININE BITTEBS. RHYBUDD. Dymunwn hefyd rybuddio y cyhoedd i f6clar eu gwyliadwriaeth, ac edrych fod yr enw GWILYM EVANS' QRNFTNE BITTEBS ar bob potel a label. Er diotclwe.i pellach mae Stamp y Llywodraeth ar bob potel, a'r enw Gwilym Evans, F.C.S., M.P.S., Llanelly, yu argraphe iig arno, efelychiad neu ddy nwarediad o'r hwn sydd yn FFUGIAD (Forgery), Z;) Arwyddwyd: QUININE BITTEBS MANUFACTURING- COMPANY (Limited), LLANELLY. TYSTIOLAETH BWYSIG ODDIWRTH Y PRIF FASNACHWYR CYFAN- WERTHOL. Yr ydym wedi masnachu cryn lawer er y flwyddj n 1874, mewn meddyglyn a elwir QUININE BITTERS GWILYM EVANS, ac yr ydym yn ystyried fod y titl QUININE BITTERS yn gyfiawn vn eiddo arbenig i Mr Gwilym Evans, ,,y ac fod y geiriau hyn yn anwahanadwy gysylltiedig a'i enw ef, a'r meddyglyn uchod. Goruchwylwyr Cyfanwerthol yn Llun- dain:- W. Sutton & Co., 10, Bow Church Yard. J. Newbery & Sons, 4, King Edward street, E.C. W. Edwards & Son, 157, Queen Victoria street. Evans Lescher, & Webb, 60, Bartholomew Close. Barclay & Sons, Limited, 9f>, Farriiigdou street. Barron, Squire, & Co., 1 to 7, Bush Lane. May Roberts & Co., 9, Moor Lane, B.C. Hearon Squire Francis, 5, Coleman street, E.C. Gwuchwylwyr Cyfanwerthol yn Liver- pool Evans, Sons & Co., Hanover street. David Jones & Co Red Cross street. Morris & J ones, Sir Thomas' Buildings. Robert J. Elliott & Co. 69 Church street, F. Martin & Co., 4, Quadrant. Mae Deddf y Llyfrgelloedd Rhyddion mewn grym mewn tair o dreli yn Ngogledd Cymru, sef Bangor, Caernarfon, a Gwrec- sam; ac mewn tair yn y Dehendir, sef Abertawe, Aberystwyth, a Chaerdydd. I CATARRH, HAY FEVER CATARRHAL DEAFNESS. A fo'vV HIJME TKEATMhiMT. euiferer* aro not generally .:1,.v ",r" th i > diseases are contamous, or tnat they Are due to j,he preveace of liviug parasites in iho lining membrane of the uoso and eflfta. hi».. tù;) s. lviiciosoopiv; research, h w-vee, has !.C.Ye(i this t,) bo a fact, and tno result is ,.hat a simple r, mady has been formulated vt ^ereby these distressing disea-ies aro ya,'t'l y and permanently cured t>y a few hiixipto a. olica- tious made <*t ho e i>y tho afcient once ;ti two weeks. A pamphlet explaining t ii< new treatment is seut on receipt of 2d ata ap by A. HUTION TiiX iv, 4;} and 45, East Bloor Street. Toronto, Cauada. f GOFYNWCE AM HUGHESS BLOOD PILLS EDRYCHWCH' YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae uu- rhyw Pills a gynygir yn ei lie yn Ddynwarediad a Thwyll I I i.R AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a HUGHES'S BLOOD p lLL. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Ymaey RHYBUDD hwn yn ddyledus li'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOPYNWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod* wch bob peth arall. GWAED DRWG. Q CURVY WAED DRWG. iO CURVY iROEN GLEFYDAU. T) OEN PEN. v>ROEN GLEFYDAU. 1 OEN PEN. A FU DDRWG. pvIFFYG TRAUL U DDRWG JL/IFFiTG TRAUL* NERVOUSNESS. W^NEGON. ERYOUSNESS. IjTWiTNEGON BILIOUSNESS. /TILEFYDAU ARENAV; ILIOUSNESS. V^LEFYDAU ARENAU. (ft" Y maeut yn iachau pan bydd pobpeth arall yn methu- Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's P)05, Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peicb cymeryd dim arall. Ar werth am Is 1 Jc, 2i 90, 4s 6c. Gyda'r Poat am Is 3c, 2a 11c, 4f 9e, oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHIiS, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH. THE MIDLAND COUNTIES WATCH COMPANY. tlF VYSE STREET, BIRMINGHAM. Wri to our A. PERCf, for oar beau ful 'fl^Aiogae, contain- Bg i/er l,0uv ^festimoaial* and over 1,000 fi(HL_ jlate engravings of Watcnes, Jewellery ante. Jilactro-plate, sant gratis and post free on 8tioQ to Any part of the World, (f II Gentle- men, fine Silver flabr íf.> st',l glass .53. Ladles- 3 r. e Silver fl vfc crystal srliss, highly ftnis hed V » T ement, 35a. Youth" u ftue silver flit cnstal g,iS3, 25s. Cheq u- o r Post Office 0 1- deis must be made p y a b 1 e Mr A. PE RCY, o n receipt of which any Watch w i 1 be -egiste ed poat free ar>y part f the United Kingdom, anu for.2, lid per wililb to any P!t Wùr.d. LON DON UKFICH, & SfiOW KOOM-15, QUEE%,T VIHT'^R! A -ST RHJ KT, GWAITH I'R RHAI SYDD ALLAN Q WAITH. CYNYGIR Bwyd Da } I Dillad Da Ddynion ieuainc Lletty Da heinyf a sobr. ac arian i Dynion rhwng wario bob dydd -1 18 a 25 oed. Am bob manylion Ymofyner a'r Recruiting Sergeants yn Mangor neu Gaernarfon, neu a. unrhyw Sergeant Instructor of Volunteers. Gellir cael pamphledyn ar Fanteision y Fyddin yn rhad ond gofyn am dano mewn urirhyw lythyrdy. DYVlYOI BYWfDI Y ID'\f¡ yn ty ei weith na bydoedd o olud Gellii ei g,"dw a'i ddiogelu t'wv ddefnyddio MODI ION MORTIMER at y OROUP a'r PESWCH. (MORTIMERS GROUP AND COUGH MIXTURE, yr hwn sydd wedi dal y pra wf o dros 60 ALYNE 'ID. TO MOTHERS! CROUP&WHOOPINGCOUGH LIFE I LIFE I Thonsand8 of Children cIi8I Whooping Coagh.^ CROUP& COUGH MIXTURE ix nuz: :t 180 II valuable fOt Coughs Colds, Bronchitis, Elffectionsof hachent and Luings, both in Adult4 and Children. Used wotla BUccess for over SO years. mortimer^I^EO, or genuine Testimniab. School House, Bon-.ddu, Uolgolley (rokdedd Gym u. Auwyl sy,r- iTr wyf )'11 acalluiig i gael eich If iViu-dioa g *ertiif^wr at y Qwup a'r -li I fyny yma, uddd t .• pUt fyddo Iy lillid, DuVii .Morgan, Gwycfe, L<augAdog, ya dattfon ya ach- lysuiol 1111. Os bydd-ch cyst.U a dxuton chwech potela-d mi gyda', Pun-d P0/it, yn dra Uioicngar, a dantonaf 1 ChWl yr avian ar dderbyniad yr Jnvoicr. t> X* eiddoch yn gywir fa". MORGAN. Mewn Pate.au am Is i a 2-s 9c yr un, neu am 3a I yn yciwane^, drwy y Post, oJdiwrth y Perchen- ogio^ Mortimer Limited, Carmarthen, South I-D* wer'k ^an H«'b Chemist a Gwerthwr Pateat 2atd;cines. Wholesale Ageats, Sutton and Co., London. Argraphwyd a chyhoeddwyd gan y perch- enogion, Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig Cyf., yn eu swyddfeydd, Bala- clava Road, Caernarfon.