Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
55 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Da genym weled fod Mr Lever, yr ym- geisydd Rhyddfrydig am gynrychiolaeth Birkenhead, yn hollol iach yn y ffyjd parthed Dadgysylltiad yr Bglwys yn Nghymru. Dywed ein bod wedi gorfod aros yn rlly hir o lawer am y cyfiawnder hwn. Hyderwn y bydd i'r Cymry yn Mhen- bedw wneyd pobpeth fydd yn eu gallu i sirhan etholiad gwr y Sunlight Soap." Ychydig o newyddion ddaeth o faes y ihyfel yn y Dwyrain yr wythaos hon. Y mae pob llei gredu mai y Japaniaid sydd wedi cael y goreu ar y brwydro hyd yn hyn. Ymddengys eu Wd, er yn llai eu rhif, yn llawer mwy celfyddydgar na'r Chineaid. Tybia rhai y bydd i Rwsia ym- yryd yn f uan ar ran China. >It Bwriada yr ysgrifenydd doniol Andron- icus gyhoeddi ar fyrder gyfrol fechan o'i ysgrifeniadau dyddorol. Gwyr ein dar- llenwyr yn dda am arabedd a swyn yr awdwr hwn, a diau y bydd yn dda gan filoedd o honynt gael eroesawu y gyfrol hon,-pob gair o koni weli eu hysgrifenu gan yr awdwr tra yn gorwedd ar wely cystudd. Cynhelir cyfarfod blynyddol Cymdeithas Ryddfrydol M-eiiiou heddyw (ddydd Iau). Y pwnc pwysicaf ddaw dan sylw yw Deddf y Cynghorau Plwyf, a diau y gwneir trefn- iadau llewn i hyrwyddo etholiad y cyng- horau yn y gwahanol blwyfi. Gan fod Mr T. E. Ellis ar hyn o bryd ar y Cyfandir, gohirir y cyfarfod cyhoeddus hyd y mis aesaf. Mewn colofn arall, gwelir adroddiad araeth ddyddorol a draddodwyd gan Syr J. Llewelyn, un o aelodau Tori- aidd y Ddirprwyaeth Dir. Y mae yn berffaith amlwg fod aelodau y Ddir- prwyaeth yn argyhoeddedig mai nid heb achos y galwyd am ymchwiliad i sefyllfaj yr amaethwyr yn Nghymru. Dywed Syr John fod y Dirprwywyryn unfarn y dylid rhoddi iawn i clerantiaid am welliantau a wneir ganddynt, ac y dylai yr amaethwyr hyny sydd wedi prynu eu ffiermydd yn eiddo xhydd ddaliadol.
GWENYN YN YMOSOD.1
GWENYN YN YMOSOD. .^el yt oedd' yr ArgWyddes Fitzgerald a i BafttTjhedi ynghydag eraill, yn cerdded yn S Abergwftfen, ychydig ddyddiau yn ol, ''tunynt gan haid o wenyn a neidia^atit eir eu gwallt a'u dillad gan eu ^ti "bofetrtjs. Bu raid cael meddy^ at J y1" k°n a orfodwyd i aros yn ei atnryw o ddiwrnodau. v>V" t ,i
T I : vPCHYD Y WLAD.
T I vPCHYD Y WLAD. ),- Yr wythnosfhon yn Lerpwl, cynhelir cyn- hadleddau blynyddol Cymdeithas Iechyd, yr hon a sefydlwyd yn Llundain oddeutu chwe' blynedd yn ol. Hynodir yr ymgynulliad eleni gan arddangosiad o ddyfais newydd, eleni gan arddangosiad o ddyfais newydd, Sg y rhoddir iddi y gamlloliaeth t uwchaf, tuagat ladd a dinystrio y nwyon gwecwynig a ymddyrchafant o garthfTosydd ein trefydd n dinasoedd. Trwy gysylltu pibell neill- duol a phibell y nwy a phibell y garthffos yn tnhob heol, gwneir i'r nwy cyffredin gyfl&wni gwaith triphlyg: goleuo yr heol, a thynu ymaitli a dinystno-y nwy gwenwynig yn y ffos. Y mae yr arbrawfiadau sydd eis- oes wedi eu gwneyd ar y ddyfais yn dangos ei bod yn un dra effeithiol i gyrhaedd yr amcan hwn.
[No title]
amcan hwn. Buasai bachgen bychan, a syrthiodd i'r dwfr y dydd o'r blaeu', wedi bodai oni buasai id/ oedd yn sefyll yr> vmyl neidio i fev/n a'i *redu. Wedi cyrhaedd'i dir sych, efe a i piy wedodd wrth ei waredwr — Y mae yn dda genyf aich bod wedi fy nghael allan. Buasai fy mam yn fy chwipio yn ofnadwy pe buaswn wedi boddi
Advertising
DELICIOUS MAZAV/ATU-EK TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE 1'FIAS. DELICIOUS MAZAV/ATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS At i/6j i/4, VJ- -nd i! f-' It., of j
LLITfI ME It I JOS.
LLITfI ME It I JOS. Meti," ebra Robin wrtha. i tra'r oedd- em ni'n eistadd yn y gegin nos Sadwrn dweutha, ;Ío'n darllan rhywbath a mina'n plicio tatws at ginio dydd Sul. Gyda llaw mi fydda i'n gneyd hyny bob arnvar nos Sadwrn. Fydda i ddim yn leicio'r arferiad sy'n ymledu'r dyldia yma o wneyd pob peth fel hyn ar fore Sul. Mi rydw i'n cofio amsar pan ua fasa neb oedd yn perthyn i'r capal yn meddwl am wneyd ffasiwn beth. Fasa dim yn cael ei wneyd ar y Sabbath yr amsar hwnw ond rhwbath na ellid ei wneyd o nos Sadwrn. Ac mi fydda i'n ceisio giynu wrth yr hen arferiad o hyd. Ond son roeddwn i am Robin a mina nos Sadwrn dweutha. Meri," ebra Robin yn sydyn ar ganol dim, Meri, mae'n rhaid iti ddod allan." "Dos di allan d'hun os oes arnat ti eisio," ebra fina; « mae gin i lawn gormod i wneyd yn y ty, rwan." -Paid a chyboli, Aferi," ebra fo. Mi rydw i'n deyd fod yn rhaid imi dy gael di allan a dyma fo'n taro i benlin a'i law nes oedd y ty yn clecian. Be haru ti'r gwirion 1" gofynai, gan ddal taten ar hanner ei phlicio, a sbio yn myw i- lygad o. "Be haru ti, dwad? ,rRwyt ti'n meddwl mai ti sy feistar yma, ddyliwn i. Pan fydda i'n siarad fel yna, ac yn sbio yn i lygad 0, fel roeddwn i'r pryd hwnw, mi fydd Robin, chwara teg iddo fo, bob amser yn swatio. Wnei di wrando be 8Y gin i i ddeyd wrthat ti, Meri," ebra fo, gan dynu i speetol oddiar ei drwyn, a'u sych-a hwynt yn ofalus a'i hancas boced. "Deyd roeddwn i, wel di, fod yn r), aid ini dy gael di allan." Ie, siwr, dyna ddeudist ti, Robin; ac I mi ddeudis ina, ac mi deuda fo eto, na tydw i ddim yn mynd o^ fan yma ar dy gais di, na neb arall, nes bo i wedi gorffen plicio'r tatws a thori'r gybatsian yma." "Nid rwan oeddwn i'n feddwl, Meri," ebra fo. u Wel, piti na fasa ti'n deyd dy feddwl yn glir, ynte," ebra fina, yn lie nghadw i'n segur fel yma pan fo gin i bobpeth a mwy heb ei wneyd," a dyma fi'n ol at y plicio tatws fel mashin. Na, gwrando ditha, ilieri," ebra fo wedyn, gan osod ei spectol nol ar ei drwyn. Gwrando ditha rwan, Meri. Rhyn oedd- wn i'n feddwl ei ddeyd oedd hyn.—Mae'n rhaid iti ddod allan yn fembar o'r Parish Cownsul." Yn fembar o be ?" gofynis. "O'r Parish Cownsul" ebra fo. "Mi wyddost am y ddeddf newydd yma bas- iwyd gan y Librals leni yn rhoid rhyw fath o Down Cownsul ymhob plwy trwy'r wlad. Mi fydd yma, wel di, Down Cownsul yn y Felinheli, 'run fath yn union a Thown Cownsul Cvnarfon,ond mai Parish Cownsul fydd o'n caelei alw." Fel Town Cownsul Cynarfon, ddeudist i ? Mi obeithia i na tydi'r Felinheli ddim wedi syrthio mor isel a hyny chwaith, er mor ddrwg ydi hi. Town Cownsul yn wir Welis di rwbath 'rioed yn Town lowisu Cynarfon fasan gneud iti deimlo'n alch gael yr un peth i'r Felinheli ?" ymer ditha hl'n ara deg rwan, Meri. Mi w i dy fod di i lawr am i pena nhw tua Thow Cownsul Cynarfon; a mi wn bod nhw'n haeddu llawer o'r hyn ddeudi di am danu nhw. Ondtyda nhw ddim yn ddrwg diobaith chwaith." Na, tyda nhw ddim i gyd, mae'n rhaid deyd," ebra fina. Mae yna waed new- ydd reit dda wedi cael ei roid i fewn y flwyddyn yma. Dyna Mr Pierce, a Mr J. T. Roberts, a Mr R. O. Roberts—mi ddy- la'r tri yma gyda'r chydig rei da oedd i fewn o'r blaen, wneud gwaith yno rwan." "Dyna fo, Meri'n union. A dyna pam 'rw' ina'n deyd am Parish Cownsul i'r Felin- heli. Mae'r cownsul yn beth da, ond cael pobl o'r siort ora arno fo." "Ia," ebra fina, 'rol considero chydig. Ia. Mae hynyna'n wir, toes dim dwy- waith. Mi allasa Town Cownsul Cynarfon fod yn fendith i'r lie pe tai'r dynion iawn arno fo, yn lie llawer o'r rhei sydd." Ia, ia, dyna hi, weli di. A dyna pam rwy'n deyd fod yn rhaid ini dy gael di, Meri, i ddod allan ar Barish Cownsul y Felinheli. I "Taw'r gwirion," ebra fina; "Pwy ddylith am roid dynes mewn lie felly, i dwad ? Mae yna ami i hen wreigan, mae'n j wir, ar Down Cownsul Cynarfon; ond i bod nhw'n gwisgo'n walianol i hen wragedd yn I gyff redin." "la, ond weli di. Meri, mae hawl gan I ferchiad o dan y ddeddf newydd yma, i fynd yn euloda o'r Cynghora newydd yma. Dyoia r llyfr yma sy gin i sy wedi ei sgwenu gan Olygydd y "Genedl," mae hwnw yn deyd fod hawl gan ferchiad i fynd ar y Parish Cownsul yn mhob plwy gwledig yn Ngliyuiru. Ac mi wni, ac mi wyddost I titha, ac mi wyr pawb Sy'11 dy adwacn di, Meri, dy fod ti'n fwy galluog na hanar y bobl sy ar y Town ar Cownti Cownsul yma, rwan. Mi welwch fod Robin yn deyd ei feddwl yn reit groew, a chwitra teg iddo, mi greda. i fod o'n deyd rhyn mae on ei I gredu, er na tydw i f hnn yn gweld dim 0 9 cymhwysder ynw i at y petha yma. Ond mae Robin yn ddigon call rai .idega; a tydw i ddim yn cofio igiywad o n siarad mor synhwyrol ars talwm.ag oedd o ar yr ael- wydyma nos Sadwrn dweutha. Ond mae'r papur wedi dod i ben, ac mae'r I inc yn sychu yn y botal. Rhaid imi adael I felly tan yr wsnos nesa i ddeyd rhyn I gymodd le yn mhellach rhvng Robin a mina am i ini ddod allan fel yu>geisydd am y Cyngor Plwy.
Advertising
Y Sebon mwyaf boddhaol ,T ,T a gynyrchodd y byd erioed S S SiE=ttr»et of ISTID 0S3 EI DEBYG WE(P* EI U mlynedd, j "Paham yr oeddych chwi mor hwyr yn dyfod i'r ysgol heddyw, s yr?" gofynai yr | 'athraw yn sarug. WeL syr, yr ydych yn gweled, yr oeddwn wedi clywed fod bachgen bychan ya y drws ncsaf yn ruynod i gael ei chwipio gan ei dad, ac felly mi arosais' i'w glywed ef yn crio." Dylem bob amser wneyd y goreu a allwn o dan yr amgylchiadau yr ydym wedi ein gosod ynddynt, ac nid breuddwydio yn ofer am bethau mawrion a wnaem pe buasent yn wahauol. Ni wna y rhai a gylfawnent lawer mewn lie arall .ofyfiawui ond vchydig mewn unrhyw le. Iii' MEXICAN CUH,1i;. I KNOWN as Rey Joseph Holuit^'sMextcan Prescription, is the only guaranteed remedy I'T all those who suffer from the errors u" youta, neryous weakness, exhaus- ted vitr'i^y, kidney, bladder, gravel, pro- state and kindred complaints, and has stood j the teyc for twenty years. Send a self- addressed stamped envelope to Jos. Holme's Remedy Co., Bioomsbary Mansions, Blooms bury Square, London, and get full partic- i lars of this great remedy tree of charge.
LLADD UGAIN 0 BLhNT.
LLADD UGAIN 0 BLhNT. Syrthiodd to un o ysgoldai Naples tra yn myned yn mlaen gyda'r gwersi. Llwyddodd y rhan fwyaf o'r plant i ddianc, ond fe ladd- wyd o leiaf ugain o'r rhai bach.
Y CZAR YN WAEL.
Y CZAR YN WAEL. Hysbysir fod y Czar yn c-i ieehyd. Yn ystod ei arosiad yn Byalowesk cafodd ergyd o'r parlys, a'i gadawodd yu wan iawn. Dywedir fod ei gyfiwr yn bur beryglus.
ICY>> -FRENHINES HAWAI.
I CY>> -FRENHINES HAWAI. Y mae cyn-Frenhines Hawai yn dyfod a chynghaws am iawn o 200,000 o ddoleri yn erbyn y Talaethau Unedig am yr hyn wnaeth cadben y Hong" Boston ar y pryd y tro- wyd y Frenhines o'i gorsedd.
DAMWAIN YN NEGANWY.
DAMWAIN YN NEGANWY. Boreu Llun, cyfarfyddodd Joseph Moody, easglydd tocynau yn ngorsaf Deganwy, a damwain boenus iawn. Neidiodd oddiar ger- bydres oedd yn symud, a thorodd un o'i goesau. Dygwyd ef i'r Sarah Nicol Memor- ial Cottage Hospital, Llandudno.
CWYMPO DEG TROEDFEDD A THRIUGAIN.
CWYMPO DEG TROEDFEDD A THRIUGAIN. Nos Sul, syrthiodd teithiwr Seisnig o'r enw Gormley dros glogwyn yn y Grant's Causeway. Yr oedd y cwymp yn 70 troed- fedd. Wrth gwrs, nid oedd gobaith o hono o'r dechreu.
MARW YN YR EGLWYS.
MARW YN YR EGLWYS. Cyaaerodd digwyddiad galarus le foreu Sul yn Eglwys y Santes Margaret, Caerdydd. Cymerwyd Mr T. H. Evans, gwrandawr cyson yn yr eglwys, yn wael yn sydyn wedi iddo ddyfod i gyntedd yr eglwys, a bu farw cyn cael cynortbwy meddygol. Yr oedd Mr Evans yn un o brif swyddogion Cwmni yr Ocean.
LLOSGI LLONG.
LLOSGI LLONG. Yn Brooklyn, dydd Llun, dinystriwyd y llong Glenesslin," o Lerpwl trwy dan. Yr oeddis yn ei llwytho ag olew am Hong Konk, pan trwy ryw ddamwain y torodd tan allan ar ei bwrdd. Oherwydd natur ei llwyth, aeth pob cais i achub y llong yn ofer, a llosgwyd hi yn hollol. Amcangyfrifir y golled yn 75,000 o ddoleri. Y Cadben Barlow-Pritchard, Caernarfon, oedd ei Uywydd.
MR CHAMBERLAIN MEWN ENBYD-RWYDD.
MR CHAMBERLAIN MEWN ENBYD- RWYDD. Aeth Mr Chamberlain i'r chw ireiWy yn Birmingham un noson, a bu agos iddo gael ei ladd yno. Defnyddiai un o'r chwareu- wyr gyllell hir, a neidiodd yr erfyn blaen- llym o'i law, gan chwrlio i'r gynulleidfa. y Eisteddai Mr Chamberlain yn y rhes flaenaf, ac ehedai'r gyllell yn union tuag ato, ond yn ffodus fe ymgladdodd mewn canllaw oedd o'i flaen.
YSTORM DDYCHRYNLRYD YN JAPAN.
YSTORM DDYCHRYNLRYD YN JAPAN. Daeth yr hysbysrwydd o Japan fod Y8 torm ddinystriol iawn wedi chwythu dros yr ynys, gan wneyd difrod anghyfEredin yn nghymydogaethau Okita a Twate. Dywedir fod cynifer a phymtheg cant o dai wedi eu chwythu i lawr, ac fod difrod mawr wedi ei wneyd i longau ac eiddo arall. Collodd tri chant o bob! eu by wydau.
"SHON Y RHWYGWR" YN Y TYROL.
"SHON Y RHWYGWR" YN Y TYROL. Y mae cynhwrf mawr wedi ei greu yn y Tyrol, Awstria, gan ddwy lofruddiaeth a gymerasant le yn y gymydogaeth hone. Oddiwrth y ffaith fod y cyrff wedi eu darnio, y mae y bobl wedi myned i gredu fod Jack the Ripper neu un o'i ddisgyblion o gwm- pas y lie. Dydd Sadwrn cafwyd hyd i gorft dynes ieuanc un ar hugain oed, gwasanaeth- yddes mewn gwesty yn Amras, ger Instrock, ar y ffordd rhwng dau bentref cyfagos wedi ei ddarnio. Cafwyd cyllell finiog yn agos i'r lie. Dydd Llun cafwyd hyd i gorff dynes arall heb fod yn mhell o'r lie y cafwyd y corff cyntaf yn noeth ac yn ddarnau, ac y mae geneth ieuanc arall ar goll. Hyd yn I hyn er holl ymdrechion yr heddgeidwaid ni chafwyd hyd i'r llofrudd.
YSBEILIO MR RATHBONE, A.S.
YSBEILIO MR RATHBONE, A.S. Yn heddlys Islington, Lerpwl, dydd Llun cyhuddwyd tri o ddynion, I. Salisbury, John Smith, a William Lowe, o ladrata iar, ped- war o wyau hwyaid, planhigyn mewn pot, cucumbers, pump o tomatoes, pump sypyn o sage, pump o fushrooms, 34 o afalau, 112 o erllyg, a swm o kidney beans, mint, a blodeu, eiddo Mr W. Rathbone, A.S., o'i ardd yn Greenbank, Toxteth Park, rhwng pedwar o'r gloch prydnawn Sadwrn a haner awr wedi naw boreu Sul. Ymddengys i'r heddgeidwaid wylio yr ardd foreu Sul a gweled y carcharorion yn dyfod ohoni. Pan aed a hwy i orsaf yr heddgeidwaid cawsant y nwy ddau a enwyd ganddynt. Yr oedd yr iar yn gynes pan gafwyd hi ar Salisbury. Nid oedd gan Salisbury, yr hwn oedd yn arddwr yn ngwasanaeth Mr Rathbone, hawl o gwbl i fyn'd a dim o'r ardd. Addefodd Salisbury ei fod yn euog, ond dywedai Smith a Lowe nad oeddynt yn euog. Cawsant y nwyddau gan Salisbury. Dedfrydwyd Salis- bury i garchar am fis, a'r ddau garcharor arall i garchar am bed war diwrnod ar ddeg bob un.
[No title]
Chafed Skin, Piles, Scalds, Cuts, Chilblain < Chapped Hands. Sore Eyes, Sunburn, Earache Neuralg- c and Eheumatic Pains, Throat Colds and Skin Ailments quickly relieved by use of Calverts Carbolic Ointment. Large pots Is 16d each, at Chemists, &c, or post free for value. F. C. oalvert and Co., Manchester. Y mae y Llywodraeth wedi prynu 7000 o aceri o dir ger Michelstown i godi lluestai, &c., i'r milwyr. Dywedir y bydd i'r cwbl gostio dros 20,( 00p. Unwaith erioed yr arwyddodd ei Mawr- hydi wys marwolaeth, a hyny pan ddedfryd- wyd dyn i'w golli yn Ynys Manaw. Mae gwarant y barnwr yn ddigon o awdurdod i'r uchel sirydd roddi dedfryd eithaf y gyfraith mewn grym. Yn Willesden y mae 3000 o wysiau allan yn erlyn personau am beidio talu'r trethi. Bu'r Cardinal V a ugh an a'r Barnwr Den- man ar yniweliad a Llandrindod yr wythnos ddiweddaf. Y mae yn Lloegr a Chymru 12,756 o ddar- Uiiwdai. Aelodau o Dy'r Arglwyddi bia'r drydedd ran o Loegr. Bwriada Llywodraeth Rwsia ddefnyddio olew yn lie glo ar y llongau rhyfel.
Advertising
DELICIOUS 1A Z A W ATT E P. TEAS. DELICIOUS MAZAWATTF.E VF.AS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS, DELICIOUS MAZAWATTEI. TEAS At x/6, i/xo, a/ 2/4, 2/10 and 41. per lb.. of Leadiaic GwM
OCSIWN AR WRAIG.,
OCSIWN AR WRAIG. Yn Guthrie, Oklahoma., am ei fod mewn angen arian, rhoee un William Cardwell ei wraig i fyny ar arwerthiant. Gwerthwyd hi i John Insley am gan' doler, ceffyl, ebol, a dedrefn ty. Aeth y wraig yn eithaf di- ddig tua Texas gyda'i gwr newydd mewn prairie schooner."
AI GWIR HYN ?
AI GWIR HYN ? Gwn," medd Elis Onest, am weinid- ogion y bu eu heglwysi yn ddigon tyner a charedig i roddi nifer o Suliau o wyliau iddynt, er adnewyddiad i'w nerth a'u hys- bryd; ond hwythau yn myned ar draws yr eglwysi i bregethu bron bob nos, ac yn dyfod at eu praidd yn fwy lluddedig na phan yn cychwyn ar eu recreation."
PROTESTANIAID JAPAN.
PROTESTANIAID JAPAN. Yn Japan, mae gan y Presbyteriaid 92 o eglwysi a 11,126 o aelodau; yr Annibynwyr, 65 o eglwysi a 11,110 o aelodau; Methodist- iaid Esgobol Americanaidd, 59 o eglwysi a 4034 o aelodau; Methodistiaid Esgobol Camadaidd, 20 o eglwysi a 1987 o aelodau y Bodyeldwyr, 12 o eglwysi gyda 1549 o aelodau. Mae yno hefyd enwadau eraill.
CYNULLEIDFA FAWR.
CYNULLEIDFA FAWR. Ar ol marwolaeth Henry Ward Beecher, y pregethwr sydd yn anerch y cynulleidfaoedd mwyaf yn yr America yw y Parch Russell H. Conwell, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Philadelphia. Rhifa ei gynulleidf& oddeutu 8000 bob Sabboth, ac y mae wedi sefydlu coleg, lie mae 120 o efrydwyr yn derbyn addysg reolaidd, a 3500 eraill yn efrydwyr gwahanol ganghenau mewn dos- barthiadau.
CREULONDEB YN RWSIA.
CREULONDEB YN RWSIA. Darganfyddwyd nifer o eagym-dynol gyda chadwenau am y fraich a'r coesau ychydig ddyfnder islaw iard y Tolldy yn St. Peters- burg. Oddeutu pymtheng mlynedd yn ol gwnaed darganfyddiad tebyg, a'r pryd hwnw dygwyd nifer o arfau arteithiau i'r golwg. Dywedir mai yn y lie hwn yr oedd carchar anweledig y Regent Biron, ffafryn yr Ymherodres Anne, ac mai yma byddai y rhai a'i gwrthwynebent yn dioddef arteith- iau am hyny, ar orchymyn y goxmeswyr creulawu.
MYNYDD YN SYMUD.
MYNYDD YN SYMUD. Nid oes amheuaeth nad oes mynydd yn agos i Raiadr y Columbia yn graddol symud tua'r afon, fel pe yn. bwriadu codi argae ar draws yr afon fawr a ffurfio llyn mawr o'r Cascades i'r Dalles. Mae yn debygol mai nid ffydd sydd yn symud y mynydd hwn, er y dywedir fod ffydd gref yn ofynol i wneyd i ymwelwyr gredu ei fod yn symud ond y mae rheil y cerbydresi wedi eu gwthio yn nes i'r afon amryw droedfeddi mewn ych ydig flynyddau. Bernir fod dwr yr afon yn gwtithio dan seiliau y mynydd.
LLYTHYRGODAU'R WERDDON.
LLYTHYRGODAU'R WERDDON. Ryw chwe' mis yn ol cwblhaodd y Mri Thomeycroft a'i Gyf., chwech o lestri torpedoe o'r dosbarth cyntaf, i lywodraeth dramor. Gan nad oedd gan y llywodraeth hono arian i dalu am aanynt, gwerthwyd hwy i gwmni yn y wlad hon. Yn awr dy- wedir fod y cwmni hwn am geisio cael y gwaith o gario'rllythyrgodau o Gaergybi i'r Iwerddon, yn lle'r Dublin Steampacket Co. Wrth gwrs, y mae'r cychod torpedo yn rhai cyflym anarferol, ond nis gallant gario teith- wyr, fel y gwna'r agerlongau presenol.
BUCHFRECHU YN LLADD.
BUCHFRECHU YN LLADD. Dydd Llun, dygwyd H. Whalley, dyn fydd yn cymeryd y gwaith o edrych ar ol claddedigaethau, gerbron ynadon Preston am beidio buchfrecnu ei blant. Ei resymau am beidio gwneyd hyny, meddai ef, oedd ei fod wedi cael dwy flynedd ar bymtheg o brofiad, ac yn ystod y deuddeng mis di- weddaf yr oedd wedi claddu deg a thriugain o blant. fuont farw o effeithiau buchfrechu. Dywedodd ei fod wedi buchfrechu dau o'i blant, ac wedi peidio buchfrechu dau arall. O'r ddau gyntaf yr oedd un wedi marw, a'r llall yn wan a gjwael, tra yr oedd y ddau ddiweddaf yn iach.—-Y Cadeirydd a ddy- wedodd fod yn rhaid iddynt orchymyn iddo eu bachfrechu, er fod ganddynt barch mawr i'r rhai ooddyntyn gwrthwynebu buch- frechu.
ERYRI.
ERYRI. Eryri, gwlad fy nghadau, Pa wlad sydd fel tydi ? Ardderchog yw dy fryniau Er gwyllted, caraf di; I Mawreddeg yw dy greigiau, Mae genyt idolydd glan, 'Rwy'n diolch am gael rhywle i fy w Rhwng dy fynyddau man. Cydgan:—Mewn bwthyn bach yn Nghymru, A'm telyn wrth y tin, Mi gana'n lion, yn iach fy mron, Hen gerddi gwlad y gan. Yn enwog bu dy feibion Yn yr hen oesau gynt Gwnawn ninau oil yn ffyddlon Eu dilyn ar eu hynt; Fe daflwn drais a gormes j I ffwrdd oddiar ein gwlad,— Ymddygwn oil fel Cymry pur Tuag at ein hanwyl wlad. C) dgan :-Mewn bwthyn bach, &c. Eryri Wyllt fynyddig, Yn harddach wyt bob dydd, Yn llawn yr wyt o fiwsig, 'Run wlad o'th flaen ni fydd A bendith fyddo arnat Yw fy nymuniad i, 0 hyd y paro'th iaith a'th gan Tra Cymro ynot ti. I eyagalk: -Mewn bwthyn bach yn Nghymru A'm telyn wrth y tan, Mi gana'n lion, yn iach fy mron, Hen gerddi gwlad y gin. Llanbrynmair. HUGH P. OWEN. j Derbynia aelodau Seneddol Awstralia bunt y dydd at eu treuliau. Y mae cymaint a saith miliwn o bunnau yn cael eu gwario yn flynyddol yn Mhrydain yn unig ar gladdedigaethau. Yn ei flynyddoedd olaf derbyniodd Browning ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn ¡ oddiwrth ei farddoniaeth. Yn Ucheldiroedd Ysgotland y mae y plant I iachaf yn y byd. Anaml y byddant yn gwisgo esgidiau cyn bod yn ddeuddeg oed. ) Hi: "Os ydyw pob gronyn o'r corff dynol yn cyfnewid bob saith mlynedd, nis gallaf fod yr un ddynes ag a briodasoch chwi." Efe Yr wyf wedi bod yn ameu hyny er's tro." Y tenlu lluosocof yn y byd ydyw eiddo Brenhin Siam. Y mae ganddo ddel- a phedwar ugain o wragadd, a denddeg a thriugain o blant. Nid yn unig y mae Cecil Rhodes, y miliwnydd, ac arwr" politicaidd deheu- barth Affrica, yn hen lane, ond y mae yn amgylchynu ei hun ag hen lanciau. Pob un a briodo yn ei wasanaeth, y mae yn cael ei daflu i ffwrdd. Dywed fod priodi yn dinystrio bywyd dyn neu ddynes. Ei amcan ydyw myned yn gyfoethog, ae y eyn llwyddo.
Advertising
DELICIOUS M.\ZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TKAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOV-, MAZAWATTEE TEAS. At JJt, L/LO) "14, F »»
LLONGWYR MYNACHAIDD.
LLONGWYR MYNACHAIDD. Ymadawodd o Odessa y dydd o'r blaen long o'r enw Holy Apostle Andrew," ac ar ei bwrdd y mae llongwyr sydd yu ddeiliaid o Fynachdy Mynydd Athos. Y Tad Anphil ydyw y cadben, ac ymddengys y dwylaw oil yn hollol gyfarwydd a'u gwaith. Fel y gallesid disgwyl, y mae eu hymddangosiad yn tystio i ddisgyblaeth a glanweithdra y mynachod.
GOLYGFA MEWN CHWAREUDY.!
GOLYGFA MEWN CHWAREUDY. Rhuthrodd dynes barchus yr olwg i un o orielau chwareudy yn Blackburn, er gwaethaf y dyn a wyliai'r drws. Ceisiodd y dyn ei hatal, ond taflodd ef ar ei hyd ar lawr, a rhuthrodd yn inlaen i'r yuayl. Yna taflodd fricsen oedd ganddi wedi ei chuddio dan ei mantell i'r seddau islaw. Tarawyd un dyn yn ei ben ac anafwyd ef mor ddifrifol fel y bu raid myn'd ag ef i'r ysbyty. Cymerwyd y ddyues i'r ddalfa. —
O'R PWLPUD I'R CHWAREUFWRDD.
O'R PWLPUD I'R CHWAREUFWRDD. Nid yn ami y clywn am weinidog yr Efengyl yn gadael y pwlpud am y chwareu- dy; ond dyna hanes Mr George C. Miln. Selydlwyd Mr Miln yn weinidog ar eglwys Undodaidd yn Chicago gyda'r cyflog o ddwy fil o bunau yn y flwyddyn. Yn sydyn mecdyliod'i mai nid y pwlpud ydoedd ei le priodol, a chyfeiriodd ei wyneb tua'r chwareudy, gyda'r hon alwedigaeth y mae wedi bod yn hynod lwyddianus.
YSMALDOD ANFFODUS.
YSMALDOD ANFFODUS. Chwareuai amryw o fechgyn ar lan yr afon Thames, pan y gwaeddodd un ohonynt, "Mae plismon yn dwad. Ceisiodd un hogyn naw oed neidio i lawr o ben trawst, ond syrthiodd i'r dwfr, a bu foddi. Yn y trengholiad addefodd y bechgyn iddynt waeddi fod plismon yn d'od er cael hwyl" am ben y bachgen fu foddi. Rheithfarn Marwolaeth ddamweiniol," a cheryddwyd y bechgyn.
GORNEST ARSWYDUS.
GORNEST ARSWYDUS. Bu dau swyddog Prydeinig yn India, Cadben Philippi a'r Is-gadben Shepherd, yn ymladd-os iawn defnyddio'r gair bwn- gornest angbyffredin. Cauwyd neidr wen- wynig mewn ystafell dywyll, ac yn mhen yr awr aeth y ddau ornestwr i mewn ar un- waith drwy ddau ddrws gwahanol. Cyn I pen deng munyd yr oedd Shepherd wedi ei bigo gan y neidr, a bu farw mewn poenan dirfawr. Yr oedd gwallt y Cadben Philipps wedi troi yn hollol wyn erbyn iddo dd'od I allan o'r ystafell.
ARWYDDION GWLAW.II
ARWYDDION GWLAW. II Pan fo hi am wlawio gellir deall hyny oddiwrth yr arwyddion canlynol :—Bydd i'r falwoden ddringo i fyny rhisg y coed i'r dail; y morgrug a frysiant oddiamgylch, gan fod yn hynod fywiog rhed y pryfaid copyn i fyny'r parwydydd; a heidia'r gwybed oddeutu'r coed; llyfa'r catbod eu hunain yu ddibaid o flaen gwlaw, tra yr ymddengys cwn yn eithaf difater, gan edrych yn ddi- fywyd ac yn ymroi i gysgu o fiaen y tan. Ymdreigla'r dofednod yn y ihveh, a gwna adar y ty yr un peth anesmwytba'r ceffylau, a gall bodau dynol ragfynegu cyfnewidiad yn 0 y y tywydd yn bur dda os bydd y crydcymalsu arnynt neu gyrn ar eu traed.
MR GLADSTONE. j
MR GLADSTONE. j Prydnawn ddydd Iau, bu tri o fecldygon | yn edrych llygaid Mr Gladstone. Y mae tri mis wedi myned heibio er pan wnaed y gweithrediad meddygcl arno yn Llundain a'r pryd hwnw ystynd y byddai yn angen- rheidiol iddo fyned o dan weithrediad ysgafn arall yn mhen chwarter blwyddyn. Pan j ddaeth y tri i Benarlag y prydnawn a hod- wyd, modd bynag, a gwneyd ymchwiliad, cawsant yn fuan nad oedd angen am iddynt j gyffwrdd a'r naill na'r Hall o'i lygaid, a'i fod, o ran ystad gyffredinol ei iechyd, yn J bobpeth ag y gallesid dymuno a disgwyl i ddyn pump a phedwar ugain mlwydd oed < fod. Am hyny, aethant oddiyno heb dynu eu harfau miniog allan. j ============ |
TANIO AR caw AREUYDDES. I
TANIO AR caw AREUYDDES. Cymerodd digwyddiad angbyffredin Ie mewn chwareudy yn Barliugton, Iowa, nos Iau. Pan ymddangosodd chwareuydcies ar j y llwyfan neidiodd Hebread o'r enw Eliza Davies i fyny yn nghanol y gwrandawyr, a chan waeddi Hi ydyw hi ydyw," taniodd ei llawddryll ar y ddynes. Yn ffodus ni an- afwyd hi, ond syrthiodd mewn llewyg. Bu yn agos iawn i Davies gael ei lyusio gan y bobl. Modd bynag, wedi ei gymeryd i'r carcbar dywedodd stori ryfedd. Deuddeng mlynedd yn ol, meddai, priododd a dynes ieuanc o sefyllfa uchel o'r enw Van Praack | yn Denver, Ar ol y brecwest priodasol, gan wneyd esgusawd aeth. i'w hjstafell a diang- odd. Ni welodd Davies niohoni drachein, hyd nes y gwelodd hi ar y chwareufwrdd y J noswaith hon. Adnabyddodd hi yn y fan. j
[No title]
Y mae Alphonse Karr, y bardd-arwr, wedi j cynyg esiampl i'r byd. Yr oedd yn ddi- | weddar mewn gwledd a raddld gan rai o j ddisgyblion Hahnemann. Cynygiwyd HWJIC destynau i bob 1lleddyg enwog gau bawb pan y rylwodd y llywydd, Monsieur Karr, ( nid ydych chwi wedi cynyg iechyd neb.' Cododd y bardd, ac atebodd yn foesgar, Yr wyf fi yn cynyg iechyd i'r claf."
Advertising
DELICIOU. MAZAWATTEE TEAS. t DELICIOUS MAZV'A-ATTEE TEAS. I DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DKUDOUS M K7 A W \TTKF TFAS. «l (A VMt » ■' <»-' •>' <«wr« 1
Y GWR PERFFAITH.
Y GWR PERFFAITH. j Dylai'r dyn sydd yu ewyllysio bod ya wr i perffaith, ebai yr Arglwyddes Jennie, fod i yn ddyn prysur, a'i ddiwrnod yn llawn gwaith. Nid yw dynion byth yn hapus os na fydd ganddynt ddigon o waith. Os na chaiff dyn gyfle arall i roddi ei yni ar waith, fe ddug ei sylw at amgylchiadau'r ty, ae nid yw'r canlyniadau bryd hyny bob amser yn ddymunoL
DIANGFA GWEINIDOG.
DIANGFA GWEINIDOG. Adroddir am ddiangfa gyfyng a gafodd y Parch W. Jenkins, M.A., Tyddewi, Mrs Jenkins, a Mrs Parry, Caerdydd (chwaer Mrs Jenkins), yr hon oedd ar ymweJiad a hwy. Ymddengys iddynt fwyta tinned salmon, yr hwn yn uniongyrchol a roddodd boen dir- fawr iddynt, a chymerwyd y tri yn sal, yn enwedig Mr Jenkins. Drwy drugaredd, caf- odd y tri adferiad, ac y mae yn amlwg oddi- wrth yr adroddiad mai diangfa gyfyng yd- oedd.
YSGRIFENYDD EISTEDuFOD LLANELLI.
YSGRIFENYDD EISTEDuFOD LLAN- ELLI. Mewn cyfarfod o'r tanysgrifwyr, &c., tuag at yr eisteddfod uchod, a gyuhaliwyd nos C, Wener, yn Dgwyneb fod Mr Frank Randall wedi ymddiswyddo fel ysg-ifenydd anrhydeddus, penodwyd Mr W. Wilkins, trysorydd Undeb Cicio y Bel Droed, yn ysgrifenydd, gyda chyflog o loOp. Hysbys- wyd hefyd mai Mr Woodward, G-ouceiter, fydd arweinydd y canu, a'r Ilhingyll Samuel, Llanelli, yn arweinydd y g irddorta.
Y DDIRPRWYAETH D
Y DDIRPRWYAETH D YR EISTEDDIADAU DYF. 00L. Y mae dyddiad eisteddiadau pellach y Ddirprwyaeth wedi eu nodi. Dros Ddeheu- dir Cymru, cynhelir eisteddiadau yn Neuadd Drefol, Caerfyrdain, ar y 29ain, 30ain, a'r 31ain 0 Hydref; a thros Ogledd Cymru yn Neuadd oryhoeddus y Drefnewydd, ar y 5ed, 6ed, a'r 7fed o Dachwedd. Y diwmod cyntaf dechreuir yi eisteddiad am haner awr wedi un-ar-ddeg yn y boreu. Trefnir y rhai hyn ar gyfer y tystion sydd wedi methu cael y cyfleusdra i raddi t oherwydd y cynhauaf ac amgylchiadau eraill. Gall unrhyw berson roid tystiolaeth, ond rhoddi rhybudd i'r ysgrifenydd, Mr D. Lleufer Thomas, Trafalgar Buildings, Charing Cross, Llundain, os y bernir fod y dystiol- aeth yn un ddigon pwysig.
DEDDF YR HELWRIAETH.
DEDDF YR HELWRIAETH. Y CEEDWWU) A'R TENANT. Yu. heddlys Rhutbyn, ddydd Llun, ger- bron Dr Jenkins a Mr J. J. Bancroft, gwys- iwyd Joseph Wynne,prif geidwad helwriaeth Mr Porrit, tenant Arglwydd Bagot, gan Henry Hughes, mab i denant Bychymbed Bach, yn mhlwyf Llanvnys, ar etifeddiaeth Arglwydd Bagot. Ymddangos&i Mr Fred. Ll. Jones, Dinbycb, i erlyn, a Mr Edward Roberts i amddiffyn. Mr Fred. Jones, wrth agor yr achos, a ddywedodd y dangosai y dystiolaeth fod yr erlynydd, ei dad a'u gweision wedi dioddef llawer oddiar ddwylaw y diffynydd, ac fod ei ymddygiad wedi myned o ddrwg i waeth nes, ar y 30ain cynfisol, yr ymosododd ar yr erlynydd. Ar y diwrnod hwnw yr oeddynt yn tori yd mewn cae yn agos i blanhigfa lie y cedwid helwriaeth, ar yr hwn yr oedd llawer o niwed wedi ei wneyd gan wnhingod. Yr oedd ef (Mr Jones) wedi gweled nifer luosog o wuhingod yn rhedeg dros y cae hwn. Peuderfynodd y tenant gymeryd mantais ar Ddeddf y Ground Game, a gwneyd ei oreu i ddinystrio y gwnhingod. Cyfar- wyddodd un o'i weision i chwilio am rwyd, yr hon a roddwyd mewn safle neillduol yn y boreu. Yn y prydnawn symudwyd y rhwyd i ran arall i'r cae rhwng yr erlynydd a'r blanhigfa. Oddeutu dau o'r gloch, pan oedd y medelwyr yn brysur wrth eu gwaith, gwelsant fab y diffynydd yn dyfod atynt. Aeth ymaith am ychydig o fynudau, ac yna dychwelodd gyda'i dad, gyda dryll bob un. Aethant i mewn i'r cae, a chymerodd Wynne, y diffynydd, afael yn y rhwyd a rhyddhaodd hi oddiar y pegiau fel ag i'w gwneyd yn C, 10 hollol ddiwerth i'r amcan y rhoddwyd ef i fyny. Pan y daeth. Wynne i fyny at Hughes edliwiodd i'r erlynydd ei fod yn herwhela. Aeth y gwaith yn mlaen, ac mewn ychydig amser anfouodd Wynne ei fab i ymbfyn Rowlands, ceidwad arall. Ar gyfarwyddyd Wynne aeth Rowlands ymlaen i hel y rhwyd at ei gilydd, ac yna gofyaodd Hughes i'r ail g-eid wad roddi y rhwyd iddo ef. Nid oedd ga.n Rowlands yr un hawl o gwbl i'r rhwyd, ond ar gyfarwyddyd Wynne gwrthododd ei rhoddi i fyny felly cymer- odd Hughes afael ynddo. Daeth Wynne i fyny ato, a chymerodd yntau afael yn y rhwyd. Deciueuusant lusgo Hughes at y blanhigfa, ac yn ystod yr ymdrech syrthiodd Wynne i lawr. Pan gudodd ar ei draed tarodd yr erlynydd dair gwaith yn ei wyneb, gan wneyd i'w Jrw) u waedu. Yna aeth Wynne a Rowlands ymaith, gan gymeryd y mwyd gyda hwynt. Yr oedd wedi ei fenthyca gan Hughes. Sylwodd Mr Jones, ymhellach, nad oedd yn dymuno am foment briodoli unrhyw beth i feistriaid y ceidwaid hyn. Credai nad oedd yr un boneddwr oedd yn cymeryd helwriaeth yn y dosbarth fuasai yn goddef ceidwad a ymddygai fel y gwnaeth Wynne. Nid un amgylchiad yn unig oedd hwn. n cl Enghraipht ydoedd o'r modd yr ymddygid at amryw o denantiaid gan y ceidwaid hyn. Henry Hughes a roddodd ei dystiolaeth yn Gymraeg. Gwadai mai aebos pander- lyniad y teulu i saethu cwnhingod oedd eu bod wedi eu siomi na fuasai Mr I oritt yn aros gyda hwynt y flwyddyn hon dros adeg y saethu. Mewn blynyddau ereill yr oeda Mr Porrit a'i barti wedi aros gyda'r teulu yn Bychymbed Bach. Nid oedd gan y tyst awdurdod ysgrifenedig ar y pryd i ladd helwriaeth, ond yr oedd ganddo awdurdod llefaredig. Wedi galw tystion ereill, gwadai Mr Edward Roberts, ar ran Wynne, y cyhudd- iad. Nid oedd yr un o'r dynion yn y cae wedi. eu hawdurdodi gan y tenant i ddefn- yddio y rhwyd, "Il eubod wedi ei defnyddio yu angiiyfre'tLlawu. Ni wna-d ymosodiad, ac hyd yn oed pe buasai ymosodiad wedi cymeryd ile, yr oedd i'w gyfiawnhau, oher- wydd fod Hughes wedi gwrthwynebu Wynne. Y ffaith ydoedd fod Hughes wedi peri i Wynne syrthio yn bwrpasol. Edward Hughes, wila y diffyntdd, a dystiodd na ddarfu i'w dad daro Hughes. Yr oedd gan y tyst fou yn ei law. Nid dry;l ydoedd. Y Cadeirydd a sylwodd fod y fainc yn ys- tyried yr achos wedi ei brofi. Ni ddylid cyifroi Lteraiwr oedd yn gweithio ar ei dir, yn y modd hwn. Dylai ceidwaid helwriaeth bob amser ystyried beth fuasai eu meistriaid yn ddymuno iddyut wneyd. Y boneddigion hyn f) ddai y diwe^.daf i ganiatau ymosodiad o'r fath hwn. Dirw) wyd y diffynydd i 10s a'r costau, neu gyfanswm o 2p 7s 6c.
[No title]
Ni chaniateir i swyddogion y Ilythyrdai yn Germany Lriodi heb ganiatad y llywodraeth Mae undebau llaiur yn China er 4,000 mlynedd, sc yn llawer manylach yn eu gofynion na'n hundebau ni.
Advertising
DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DEE;CI0U> MAZAWATTEE TBAS. E-ELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. I DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. DELICIOUS MAZAWATTEE TEAS. At tffi .o. ?/ a,'<, And «!■ prr !b rf leading Grocertk
Y DDIRPRWYAETH DIR.
Y DDIRPRWYAETH DIR. SYR J. LLEWELYN A'R TYSTIOL- AETHAU. Wrth anerch cyfarfod Toriaidd yn Aber- tawe nos Fawrth, dywedodd Syr John Llew- elyn, un o aelodau y Ddirprwyaeth Uir Gym- reig, na fyddai yn bradychu unrhyw ymddir- iedaeth wrth ddyweyd fod y Ddirprwyaeth yn hollol gytuno ar ddau bwynt. Y cyntaf o'r rhai hyn oedd fod pob tenant i gael iawn Uawn am welliantau ar y tir. Yr oedd ef yn hollol bleidiol i hyn fel cyfiawnder rhwng dyn a dyn, a dymunai yn fawr pe buasai hyn yn cael ei gydnabod fel egwyddor gyffred- inol, fod unrhyw ymyraeth a masnach yn cael ei wneyd yn fater o iawn. Cafodd y Dirprwywyr fod nifer lluosog o rydd-ddal- wyr, mewn rhai parthau o Gymru, ac yn enwedig yn sir Aberteifi, wedi benthyca arian i brynu y tir oeddynt yn ei drin. Yr oedd y bobl hyn, fel y gwelodd y Dirprwy- wyr mewn sefyllfa waeth o lawer na rten- antiaid, oherwydd yr oedd yn rhaid iddynt «drych ar ol gwelliantau eu tai eu hunain, gwaith a wnaed yn achos y tenantiaid gan I y tirfeddianwyr. Cawsant hefyd nad oedd y dynion oedd yn rhoddi arian allan ar fenthyg mor dyner a'r cyffredin o dirfeddianwyr Cymreig, ac felly yr oeddynt dan anfantais fawr. Dywedent, Y mae y Wladwriaeth wedi pasio deddfau neillduol ar gyfer yr j Iwerddon, yn caniatau arian yn fenthyg am I brisiau isel er mwyn i'r tenantiaid brynu tir. Gwnaeth hyn les i'r bobl Wyddelig, ae os ydyw yu dda iddynt hwy paham nas gallai fod yn dda i Gymru? Os ydyw oredit y Gwyddel yn dda, yn sicr y credit y Cymro gystal ag ef." Nis gallai ef wrthwynebu y golygiad hwn, ac yr oedd yn eithaf parod i arwyddo adroddiad yn argymell fod y rhydd-daalwyr presenol i gael hawl i fenthyca gan y Wladwriaeth, ac y gallent fenthyca rhan o'r arian a warias- ant ar y tir gan y Llywodraeth. Yr oedd modd bynag, cono yn I .nglyn a hyn beth oedd y Llywodraeth. Y llywodraeth oedd cynrychiolydd trethdal- wyr y genedl, a thra nad oedd ganddo yr Un gwrthwynebiad i drysorfeydd y Llyw- odraethgael eu defnyddio yn fenthyg i'r r Aai ii brynant yn y dyfodol. Os byddai iddynt gynyg arian i brynu tir i bob tenant a ofynai am dano, buasai y tir yn sicr o godi yn ei werth, nes cyrhaedd gwerth annheg, a buasai hefyd yn rheddi beichiau am y trethdalwyr na ddylent gael eu rhoddi. Hyn, felly, oedd y Ddirprwyaeth yn barod i wneyd. Yr oeddynt yn barod i roddi iawn llawn a chyflawn am welliantau an-, hysbyddedig, ac mor bell ag yr oedd y rhydd-ddalwyr presenol yn y cwestiwn, yr oeddynt yn barod i roddi iddyut y budd p fenthyca arian oddiar y Wladwriaetii (cymeradwyaeth)..
STREIC YR " HOGIA."
STREIC YR HOGIA." Cymarodd streic anghyffredin le yn nglofa Bettisfield, Bagillt. Boreu Llun daeth yr hogia," sef y gyrwyr a'r rhai a lanwant y tryciau glo i fyny oddiwrth eu gwaith oher- wydd anghydwelediad yn nglyn a'r cyflogau. Y mae gwaith y bechgyn, yn rhifo oddeutu pedwar ugain, wedi gwneyd i'r holl lofa sefyll, ac y mae oddeutu 700 o ddynion allan o waith. Deallir fod y meistriaid am erlyn y bechgyn am fod yn absenol oddiwrth eu gwaith heb iddynt roddi rhybudd o hyny.
IGWYNEDDON.-_-..--
GWYNEDDON. Treuliodd Mr John Davies, Y.H. (Givyn- eddon), Caernarfon, a Mr E. W. Hughes (Menai Fardd), rai dyrldiau yn Utica ar eu ffordd i Niagara Falls. Bm-iada Mr T)avi aros yn y Talaetbau am tua dau fis, a bod yn bresenol yn Nghymanfa Fair Haven, Vt., yn nechreu Tachwedd.
Y LLAWR YN TORI DAN 200. j
Y LLAWR YN TORI DAN 200. j Fel yr oedd dau gant o bobl yn eistedd mewn neuadd enfawr yn ystod cyfarfod adloniadol yn Brussels nos Sul, rhoddodd y llawr ffordd a syrthiodd yr holl gwullli i werthdy masnach wr cadeiriau. Anafwjd ugain, pump ohonynt yn beryglus.
SYR WILFRID LAWSON.
SYR WILFRID LAWSON. Trefna Syr Wilfrid Lawson i dalu vmwel- iad a Deheudir Cymru, mewn cysylitiad a Chyngrair Dirwetfcol y Deyrnas Gyfunol. Dechreua ar gyfres o ddarlithiau ar y 12fed o Dachwedd. Dywedir fod Syr Wilfrid Lawson a'i deulu wedi cyfranu dim llai na 30,000p yn ystod y deugain mlynedd di- weddaf tuag at y gymdeithas ddirwestol uchod.
BABAN HYNOD.
BABAN HYNOD. Ganwyd baban i wraig George From, New Orleans, yn pwyso naw owns. Bach- gen yw, perffaith mewn ffurf. O goryn ei ben i wadn ei droed mesura ddeng modfedd. Nid yw ei freichiau yn fwy na bawd dyn, a'i goesau o'r un cyfartaledd. Pwysa y tad 145 pwys a'r fam 125. Bu iddynt 17 o blant, o'r rhai yr oedd dau yn flaenorol yn gor- ynod; un 16 oed yn pwyso 40 pwvs, arall 12 oei yn pwyso 15 pwys. Y mae i bob ymddangosiad yn hollol iach, ac yn gallu crio uched a phlant ereill.
-------------._--_._-----,GWOBR,…
GWOBR, £1000. Cyny;r;a -B,reii;,Il. Belgium wobr o fil o bun- nau am y cynilun goreu i gyflenwi Brussels a dwir. Mae'r gystadleuaeth yn agored i'r byd.
Mk GLADSTONE A'R FAS-. NACH…
dwyn yn mlaen yn eu nernv ac er eu budd hwy. Ni byddai r ffaith mai y Cyngor Trefol neu'r Cyngor Plwyf fuasai yn "rhedeg" y tafarnau yn gwneyd i ffwrdd a'r demtasiwn i hud- ddenu ein bl ieuainc i'r lleosdd y llithir hwy i ymarfer a'r diodydd meddwol, ac y,gwneir meddwon cy- hoeddus o'n dynion ieuainc mwyaf gobeithiol. Cyn y glanheir ein gwlad, rhaid i'r bobl gael yr hawl i'w dwylaw eu hunain i ysgubo y maglau hyn o'u mysg.