Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

. GWYL L IF Hit.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYL L IF Hit. I Y CHWARELWiR YN NGHAER- N ARFON. Dydd Llun diweddaf cynhaliodd Chwarel- wyr Goglerld Cymru eu Gwyl Lafur flyn- yddol yn Nghaernarfon Trodd y tywydd allan yn anarfenl o hafaidd, a chymerodd miloedd fantais i ymweled a Chaernarfon, ac ar y cyfan ymddygodd y dorf anferth yn I bur weddus. Ym y boren cynbaliwyd cynhadledd yr Undebwyr yn y Pafilion, dan lywyddfaeth Mr John Jenkins, Ffestiniog, yr hwn a draddododd araeth bemgump, adroddiad cyfiawn o ba un a ymddangosodd yn y Genedl Gvmreig," yr unig bapur a gy- hoeddodd adroddiad llawn. Cyffyrddwyd a thaliadau isel yr Undeb, a pheixlorfynwyd fod 6c yn cael ei dalu i'r gronfa gyffredinol, r n a 6c i'r gronfa leol bob mis am y flwyddyn nesaf, ond nad oedd bla,en.dal i gael ei godi. Penodwyd Mri W. Gadlys Williams, Waen- fawr; ac R. G. Jones, Talysarn, yn archwil- wyr. Gwrthododd Mr Jenkins gymeryd ei enwi fel llywydd, a phleidleisiwvd ar y ddau is-lyvvydd, Mri. J. W. Thomas, Waenfawr; a J. W. Roberts, Nantlle; ac etholwyd Mr Thomas yn llywydd. Penodwyd Mri. Ro- bert Davies, Bethesda; a J. W. Roberts, Nantlle, yn is-lywyddion. Yn ngwyneb sef- yllfa arianol isel yr Undeb, gohiriwyd y mater o benodi trefnydd. YR ORTMDAITH. Ffurfiwyd yn orymdaith tua dau o'r gloch. Cymerwyd rhan ynddi gan Beindyrf Nantlle, Gwirfoddolwyr Penygroes, Waenfawr, Llan- beris, Oakeley, a Llan, Ffestiniog. Pur hwyrfrydig i ymuno a'r orymdaith ar y cychwyn oedd canoedd lawer o'r-chwairelwyr, ond fel yr elid Y11 mlaen ymunai llawer, er nad mor drefnus ag y gallesid ddymuno. Gorymdeithiwyd trwy heolydd y dref, ac yna aed i'r Pafilion. Y CYFARFOD CYllOEDDUS. Erbyn adeg dechreu yr oedd torf fawr yn y PavilioD, a chan wyd yr emyn, 0, Ar- glwydd Dduw Rhagluniacth," dan arwein- iad Mr J. W. Thomas, Waenfawr. Darllen- odd Mr W. J. Williams lythyr oddiwrth Mr T, E. Ellis, fel Chwip, yn hysbysu nad oedd raodd gadael i Mr Lloyd George dd'od i Gaernarfou i lywyddu y cyfarfod, gan fod Mesur Dadgvcylltiad yn myned i bvvyilgor y diwmod hwnw. Dewiswyd Mr J. K. fntchard, ALaer Caernarfon, yn gadeirydd, yr hwn a dra- ddododd aracth fer, yn ystod yr lion y sylw- odd fodyn dd30 ganddo weled fod yr Undeb o hyd mewn bodolaeth. Kid oedd yn gwybod yn iawn yn mha gyflwr yr oedd ynddo—diau y caeut glywed cyn terfyn y cyfarfod. Yr oedd ganddo un peth neill- duol ilw ofyn iddynt, a hyny oedd-bydded iddynt beidio ymdoibynu ar neb ond hwy eu hunain (cymeradwyaeth). Os dymunent gael gwelliantau yn eu gwaith, eu horiau, eu cyflogau, neu uurhyw beth, yr oedd digon o chwarelwyr yn siroedd Arfon a Meirion i sicrhau iddynt eu hunain gyfiawn- der ond iddvnt fod yn ffyddlon i'w gilydd. 3 Bydded iddynt fod yn unol, ymdrechgar, a dyfalbarhael, dc felly byddaut yn sicr o gael yr hyn fyddai yn gyfiawn iddynt ei ofyn, a theimlai yn sicr na ofynent ddim ond yr hyn fyddai yn gyfiawn i'r meistr fel hwythau (uchel gymeradwyaeth). Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan Mr W. W. Jones (Cyrus), Llanllyfni:— Fod y cyfarfod hwn o chwarelwyr Gog- ledd Cymru, a gynhelir ddydd Llun, Mai Sed,|1895, yn Mhafilion, Caernarfon, ynargy- hoeddedig y dylent fel dosbarth o weithwyr feddu mwy o fanylion am y fasnach lechau, ac mai dyledswydd y Llywodraeth ydyw eu mynu gan y perchenogion, a'u cyhoedcli yn ilynyddol yn yr yttadegau swyddogol sydd yn dyfod allan. Dylent gyuwys nifer y tunelli wneir bob blwyddyn yn mhob chwarel, wedi eu rhanu i dri dosbartb, sef, goreu, ail, a thrydydd, a bod cyfartaledd pris y gwerthir pob dosbarth ar eu cyfer, ac nid cyfan swm pob sir fel sydd yn cael ei gyhoeddi yn bresenol." Sylwodd Mr Jones Mae yn ddyledswydd arbenig ar y Llywodraeth fynu y wybodaeth hon er ei mwyn ei hun. Heb hyn nis gall wybod gwir gvnyreh mawr ei llechfeini, y rhai a gynwysir yn benaf hyd yn hyn yn siroedd Arfon a Meirion. Mae y Llywodraeth yn orfanwl am fynu gwybodaeih am ei chyn- yrch amaethyddol, end am eu dull o gy- hoeddi cynyreh y chwarelau, nid oes man- ylrwydd, cyfiuwnder, na threfn yn ganfydd- adwy o gwbl, dim ond gwneyd rhyw job lot o bris ar yr oil o'r tunelli, heb fanylu ar na goreu, ail, na thrydydd. Dylai y Llywodr- aeth fynu a chyhoeddi pob manylion am gynyrch pob chwaiel mewn tiefn i osod y gweithwyr a'r mcistri ar safle glir i bender- fyau yn heddychlawn raddau y cyflog. Am lawer o weithwyr y wlad hon, mae bychander eu cyflog yn eu gosod yn y fath sefyllfa fel mai y bedd ydyw yr unig jiwbili aydd ganddynt i'w ddisgwyl. Credwn pe buasai y manylion y gofynir am danynt wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth na buasai rhai sefyll allan a fu yn mysg y chwarelwyr wedi cymeryd He am y buasent yn gweled uaai diod-lef ftiastti orcu. Crodaf, hefyd, na buasent ar adegau ereill mor ddall i'w budd- ianau a'u hadegau, fel y maent ar hyn o bryd, am y buasai y fasnach a'r prisiau yn dangos y dylasent gael mwy o ran o'r gwell- iant. Dylai y Llywodraesh gyhoeddi pob manylion am enillion y dosbarth gweithiol, a'r chwarelwyr yn eu myag, fel y gellid fearnu yn gyfiawn mewn achosion o anghyd- welediad rhwng meistri a gweithwyr. Mae swyddogicn y Llywodraeth wedi bod yn ddiweddar yn ganolwyr, neu gyfryngwyr, mewn achosion o'r fath. Yn mhob achos yr oedd yn rhaid iddynt sylfaenu eu dyfarniad ar adroddiadau y meistri o un ochr, a'r gweithwyr o'r ochr arall. Pe buasent yn d'od i geisio cyfryngu rhwng y chwarelwyr a'u cyflogwyr, buasai yn rhaid iddynt gy- meryd cyfrif y meistri yn unig, gan nad oes genym fel corph o weithwyr gyfrif o'r eiddom ein hunain. Yr ydym wedi son Uawer am fyrdduu cyflafareddol, a da fyddai ea cael, ond os na cheir hefyd yr hyn a gy- nwysir yn y penderfyniad hwn, nis gallaf weled pa fodd y gallwn gael cyfiawnder ganddynt. Credaf ein bod fel corff o weith- wyr yn rhwym o deimlo yn ddiolchgar i'r Ysgrifenydd Cartrefol presenol am yr ym- chwiliadau y mae wedi wneyd i'n hanes er's pan y mae yn ei swydd. Gobeithiaf na or- phwysa nes cael pob manylion am werth cynyrch ein llafur yn y farchnad, fel y dysgom ddioddef pan fydd raid, ac hefyd y oiynwn ein rhan gyfiawn o'r gwelliant pan fydd y prisiau yn oaniatau. Eiliwyd hyn gan Mr Griffith Edwards, Bethesda, yr hwn a ddywedai ei fod yn eefn- ogi pob gair a ddywedwyd' gan y siaradydd .IKYda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd dau au yn y penderfyniad, sef y dylent gael yr ystadegau gan y Llywodraetb. Nid oedd neb yn amheu hyny (clywch, clywch). Nia gallent gyfarfod eu meistri a dadleu e* hawliau gydag unrhyw lwyd^iaut heb wybod pris y nwyddau yn y farchnad (cym- eradwyaeth). Yr ail vdoedd y dylai y Llywodraeth eu rhoddi iddynt (clywch. clywch). Nid oedd ef yn amheu na wiielvi y Llywodraeth hyny ond anfon cais i mewn. Beth oedd y bobl ieuainc oeddynt yn bre- senol am Wneyd ? A oeddynt yn barod i ymuno ag Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru er cjyfhau eu dwylaw i anfon y cais hwn at y Llywodraeth (cymeradwyaeth). Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Yna canwyd yr emyn O fryniau Caer- salem," ar yr hen don Crugybar." Pan roddwyd y owestiwn i bleidlais pas- *wyd ef yn unfrydol. Yn nesaf caf wyd anerchiad gan y Parch Adams, B.A., Bethesda. Dywedodd: iilawen genyf fod yn bresenol yn IN gwyl Jur y. Chwarelwyr, am fy rood yn llawn cytiymdcuahtd ag amcaniooa ei seiydHad er sicrhau mwy o undeb a chydweithroliad rhwng y gweithwyr a'u gilydd, ac i roddi ffurf eglnrach i'r hyn a geisient gan eu 0 meistri. Nid yw yr wyl flynyddol yma i gael edrych ami fel rhyw gyhoeddiad rhyfel vn erbyn y meistri. Deallir bdllach iod un- rhyw ftith o gytimdeb lieddychol yn well na ,,y rhyfel agored er i ni enill rhai pwyntiau. Y mae y "W lad wedi blino ar strbics a locks-out.. Deuir i edrych arnynt nid fel parlysiad mas- nach yn unig, ond fel gwarthrudd {),1' war- eiddiad diweddar. Mewn achosion o'r fath, nerth anianyddol, gallu i ddal corph ac enaid wrth eu gilydd am fwyaf o amser, ac nid iawnder yr ac-hos, sydd yn cael pender- fynu yr ymrafael. Y mae bwrdd cyflafar- eddol neu gymodol wedi dyfod yn angen- rhaid masnach yn Mhrydain Fawr, a llawen- hawn yn y rhagolwg am ddeddfwriaeth fuan ar y mater. Nid ydym yn cyfarfod yma heddyw i ofyn am elusen gan ein cyflogwyr, ond i alw yn uehel, eofn, a phenderfynol am hawliau cyfiawn. Ond o dan lawer o am- gylchiadau mae yn rhw yddach acyn rhatach r bod yu elusengar nag yn gyfiawn (uchel gymeradwyaeth). Nid angen y ffermwyr yw dychwelyd iddynt 25 y cant o'r rhent, ond trefniant i roddi arnynt rent rhesymol fyddo yn cael ei reoli gan brisiau y farchnad. Nid angen y chwarelwyr yw derbyn 5s yn awr ac yn y man fel cardod o flaen etholiad, neu er mwyn gweled Tywysog, ond 5s neu ychwaneg bob dydd am lafur gonest er rnwva i dvwvsogion cysur, digonedd o angenrheidiau bywyd, i ymweled a hi, neu ein hymweliad ni a'r tloty yn ein henaint (clywch, clywch). Rliodder i weithwyr eu hawliau cyfiawn, ac yna gallant wneyd heb y gardod a roddir ar adegau, yr ydym yn ofni, er ceisio gwneyd caethion ohonynt. Yr hyn a geisia gweithwyr Prvdain heddyw yw, Dosraniad mwy cyfartal o gynyrch llafur." Yr ydym yn foddlon, dylem fod yn foddlon, i gyfalaf gael ei gyfran o'r proffit. Ond yr ydym yn hiwlio -hagor- fraint tebyg i lafur hefyd. Y ddaear a roddodd Efe i feibion dynion" -y ddaear yn ei thrysorau ar y wyneb ac yn ei chrombil. Nid yw cyfoethogion wedi'r cyfan ond ym- ddiriedolwyr ar eiddo Daw. Y maent yn cael caniatad i ddal eu tiroodd a'u trypora u ar y dybiaeth eu bod yn myn'd i'w defnyddio er mantais cymdtithas yn gyffredinol, ac nid er hunanelw personol yn unig. Oa yw yn wir nas gall ilafur wneyd rhyw lawer heb gVf- alaf, y mae yr un mor wir nas gall eyfelaf wneyd dim heb lafur. Rhaid wrth y ddau ) fel wrth ddwy olwyn cerbyd cyn y gall gwlad deithio yn mlaen i diriogaeth lisvyddiant a cbysur (eymeiadwyaeth). Yn awr y mae ■ llafur yn dechreu d'od i deiralo ei nerth. Y I mae wedi ymfoddloni i falli mewn dallineb yn melin^u y Philistiaid yn rhy hir o lawer. I II Rhodder ei olwg iddo; addysger ef yn egwvddorion trafiiideld gwladol, a moesoler ef, a daw yn fwy-fwy o allu bob blwyddyn. Ond o'r ochr arall, pe eedwid et yn ei ddall- ineb gall brofi. yn wir beryglus, a thynu i lawr, fel Samson, adeiiad trefn a llwyddiant yn ein gwlad (cymeradwyaeth). Da genyf gani'od pra,v.-fio:i fod gweithwyr Prydain yn dyfod i ddeall eu hawliau yn wall o hyd, ac yn cynllunio moddion mwy cyfansoddiadol a moesol er eu sicrhau. Y mae yn bwysig i weithwyr gofio fod eu liiaehawdwriaeth i raddau mawr yn eu dwylaw eu hunain bell- ach. Gyda'r etholfraint eang, y tugül, a'r hawl i ffurfio Undebau, y mae y feddyg- iniaath yn eu gafael. Pa'lll na. ddefnydd- iant y moddion ? Am fod yn rh/iid rhyfela. am ein hiawnderau a thrwy hyny beryglu digio y landlord, y meistr, neu y stiward. Rhaid i'r ychydig frwydro, tra mae y lluaws yn llechu yn llwfr. Mae Reuben yn aros rhwng corlanau y defaid." "Gilead a drigodd y tuhwnt i'r Iorddouen." Dan a erys mewn llongau." Y cowardiaid yma yn llechu yn ddyogel tra yr oedd Zabulon yn "rhoi ei einioes i farw ar uchelfanau y maes." Hoffem roddi sen i'r absenolion llwfr yma. Rhywrai o hyd yn disgwyl i angel gael ei anfon fel i'r carchar at Pedr i dori ei gyffion a'i waredu o ddwylaw Herod (clywch, clywch). Yn fynych pan y daw angel i dori y cadwynau, ni wraudawant arno, ond edliwiant iddo fel yr Hebrewr i Moses, Pwy a'th anfonodd di i fod yn rhanwr arnom ni ? Gwell gan rai yw y pysgod a'r wynwyn a fwytaent yn yr Aipht nag anfanteision yr anialwch er fod eu gwynebau ar Ganaan rhyddid (cymeradwy- aeth). Ond rhodder i ni weithwyr unedig, a gweithwyr goleuedig, a gweithwyr wedi eu rhesymuli a'u moesoli, ac yna ni raid i'r cyfryw aros yn hir yn y caethiwed, ond o dan arweiniad rhyw Foses nea gilydd bydd- ant yn sicr o gyfeirio taa Chfiiiaan eu rhyddid a'u hawliau cyfiawn (uchel gymeradwyaeth). Cafwyd datgauiad penigamp o Cymru Fydd," gan Miss Lizzie Davies, aelod o Gor Merched Cymru. Mr Richard Griffith, Blaenau Ffestiniog, a gynygiodd: Fod y cyfarfod hwn o'r farn nad yw y chwarelwyr yn bresenol yn derbyn y fantais ddyledus yn ol y galw mawr sydd BUt y Ilechaii a chan fod mwy- afrif mawr o lech-chwarelwyr y wlad yn gweithio yn siroedd Arfon a Meirion, a bod y corph goreu o lechfeini y deyma.s yn Nghymru, y dylai hyn fod yn fantais ar- benig i'r perchenogion a'r gweithwyr i re- oleiddio y fasnach, ac i gael pris rhesymol a theg am y nwydd a gynyrchir ganddynt, fel ag i alluogi y gweithwyr i enill cyflog byw, a'r mewtriaid i dderbyn elw rhesymol oddiwrth eu cyfalaf. Nid oes ond un peth yn angeorheidiol er sicrhau hyn-sef cyd- ddealltwriaeth yn mysg y gweithwyr a'r perchenogion." Wedi cyfeirio at y gwa- hanol gvfuodau a'r prisiau a del id, sylwodd Mr Griffith ei fod yn deall nad oedd safon cyflog yn Arfon, tra yr oedd creigwyr, chwarelwyr, a mwnwyr Meirion yn cael eu talu yn ol. 27s 6c yn yr wythnos a'r labrwyr yn ol 24s. Yr oeddynt wedi eal dau god- iad yn Meirion, ac wedi ymladd yn galed am dano, ac yr oeddynt a'u bryd am un ar- all, ond yr oedd un peth ar y fiordd. Yr oeddynt hwy yn Arfon a Meirion yn myned i lawr ae yu codi gyda'a gilydd. Ond cyn y gelUd cael codiad rhaid oedd i'r holl 10,000 neu 12,000 chwarelwyr Cymru wneyd cais unol a rhoddi argraph ar y meistriaid eu bed yn unol (cymeradwyaeth). Eiliwvd san Air Kyffin Roberts, Porth- madog, mewn araeth wresog, a pbasiwyd yn unfrydol. Mr William Jones, yr ymgeisydd Rhydd- frydol dros Arfon, a gododd yn nesaf i anerch y cyfarfod, a cbafodd dderbyniad brwdfrydig. Dywedodd: Mae'r Undeb, yn ol a wu i, yn myned ar ei ddwy fl wydd ar bugain oed. Dylasai fod megis llanc o'r oed hwnw, yn dirf a hoew, yn mlodau ei ddyddiau, wedi goresgyn peryglon luaws, ac yn y barod i wynebu llawer mwy, gan ym- drechu ymdrech deg, er mwyn cael tegweh ac iawnder i feibion llafur. Dywedir fod deuddeng mil o chwarelwyr yn y dosbarth, ond heb fwy na dwy fil yn Undebwyr. Pwy all ddirnad y grym a ddeiljiai o'u cael yn unol P Dau beth yn arbenig y ceisiwyd am danynt o'r cychwyn yw safon eyflog uniawn a byrddau cymmod. Mae angenion ereill wedi pwyso'n drwm. Bu raid ymladd ami i frwydr, ond er gwaethaf enciliad a brad yn y gorphenol, sa,fasoeh yn gadarn dros eich egwyddorion a'ch argyhoeddindau (eymeradwyaetb). Mae rhai petbau wedi eu cael, yn hwyrfrydig, rhaid cyfaddef; ond gan ddiolch am y gwaith wnawd a'r tyst- iolaethau roddwyd gerbron y Ddirprwyneth Frenhinol ar Lafur, ma.e'ch hawliau a'ch dy- headau heddyw yn cael gwell cyfiawnder (gymeradwyaeth). Mue dros chwarter can- rif o'ch hanes, a hanes chwarelyddiaeth, yn gyfiawn yn yr adroddiad. Wedi hyny, mae'r Llywodraeth wedi penodi is-arolygwyr o'ch mysg, i wylied eich dyogelwch (cymeradwy- aeth). Yr oedd cyfalaf wedi bod am ddigon dan ofal manwl a gwavchodaeth sicr. Yr oedd hi'n llawn bryd i lafur gael ei haedd- iantgan y Llywodraeth. Llafur yw ffynonell i pob mawredd. Yn ngwdwrc1d3dd cym- j deithas yr oedd llafur yn llawn yni byw cyn I deffi-o o gyfalaf. 0 (Yn rhedegfa ac ymdrech chwerw cydym- Jjaisiaetb/darfu i gyfalaf gael uchafiaeth ar lafur,ond llafur ni orthrechwyd (cymeradwy- aeth). Heddyw, mae llafur yn derbyn mwy o sylw Bag erioed yn hanes gwareiddiad. Mae gan lafnr hawl i nawdd ac i ryddid. Yn neehreu'r ganrif hon, pan y gwesgid ar weuwyr hosanau yn Nottingham gan eu meistri, dywedodd Mr Pitt yn Nhy'r Cyff- redin Dylid galw'r Senedd i gyfarfod; ac os nas gall symud eich camwri, nid oes yn- ddi rym. Na ddywedwch wrthyf nas gall y Senedd ei symud. Mae'ia hou-gadarn i I amddiffyn." Gwasgarwyd y geiriau hyn fel hedyn i dir difirwyth. Heddyw deallir eu hystyr. Mae gwaith y Llywodraeth yr awr hon yn cael ei hwyluso er mwyn cael terfyn ar streic y glowyr, a chael cymod cydrhwng meistri a gweithwyr o -ryddion yn North- ampton. O'r blaen llenwid y Senedd gan gyfoethogion a gwyr cyfalaf a waharddent bob ymllniad a llafnr. Neu os ceisient ym- uno ag unrhyw symudiad llafur, gwnaent hyny fynyehaf er mwyn eu llwyddiant eu hunain yn hytrach nag er mwyn teimlo cyf- rifoldeb byw er lleddfu y gorthrymedig. Ond yn awr mae'r Llywodraeth yn cydym- deimlo mwy a phynciau llafur. Mae mesur gerbron y Senedd i sefydlu byrddau cymod yn ein gwlad, a phan ddaw yn ddeidf dis- gwylir iddynt fod yn gyfryngau cyfiawn er mwyn llafur a chyfalaf, a chael dealltwriaeth cydrh wng y gweithwyr a'r perchenogion (cymeradwyaeth). Dywedir gan Mr Charles Booth, yr ystadegydd enwog, fod 45 y cant o'n gweithwyr a'n siopwyr bychain yn gor- fod derbyn elusen plwyfol pan wedi cyr- haedd pump a thriugain oed. Gwyddom yn burioa nad yw 45 y cant o'n gweithwyr yn feddwon, yn annarbodus, nac yn was- traffus. Felly, tybiwn mai cyflog isel sydd yn peri y fath drueni (cymeradwyaeth). Mae Cyngor Sirol Lluudain wedi gweithio yn rhagorol i geisio dileu hyn. Peuderfyn- odd roddi Trade Union Wage i bawb o'r crefftwyr sydd yn gweithio dano, a chyf- log byw i'r gweithwyr heb grefft gelfydd. Rhaid penti "iselfitu cyflog" (minimun wage) i'r chwarelwr, a bod y eyflog hwnw i fod yn ddigon i ddyn fedru byw arno yn gysurus ac i ddarparu ar gyfer methiant a henaint (cymeradwyaeth). Hawl cyflog yw yr hawl gyntaf. Mae gogwydd a thueddiad deddfwriaeth yn y dydditin hyn tuag at I leddfu y gydymgeisiaeth a'r gystadleuaeth lem f a'ii tycio yn y gorphenol. Yn Nghymru mae pwnc llafur eisoes wedi dod yn bwnc I cenedl. Yn y deffroad inawr sydd yn myw- yd ein cenedl mae meibiou llafur yn barod i I aberthu yn ogystal a derbyn en gwobrau. Bydd gauddynt barch tuag at eu gilydd. Rhaid i'r person unigol fyned trwy ddysgybl- I aeth er mwyn lies cymdeithas yn yr Undeb. Arwvddodd mwvafrif o'r srweithwvr v cv- tundeb i amddiffyn eu gilydd fel dosparth. Felly bydd genym lygaid i weled a chalon i deimlo, a dewrder a faidd gydfyned a holl fywyd llafur ein gwlad (cymeradwyaeth). Ar gynygiad Mr D. G. Williams, Ffes- tiniog, y¡: cael ei eilio gan Mr W. Williams, pasiwyd penderfyniad yn condemnio Cwinni Rheilffordd y London a'r North Western yn troi ymaith y Cymry unieithog o'u lleoedd, ac yn cyfiawnbau yr aelodau Cymreig am ddwyn y mater i sylw y Senedd. Terfynwyd y cyfarfod trwy ddiolch i'r Gadeirydd.

Advertising

GLO W nilDU RHAM

GWRTH&YFEL Y^CUADOR.

' CRYDDION NORTHAMPTON.

DAMWAIN XN PUOLE.

BHESYMEG WIRIONEDDOL.

JABEZ BALFOUR.

Advertising

•""1 tan iN -

ETREIC GLOWYR YN BOLTON.

OSCAR WILDE.

CEISIO LLADD PLENT iN EI MEISTS.

SERI 81'. HELENS.

DIANGFA GYFYNG.

NICARAGUA.

[No title]

Advertising

GBONYSAU

|CHINA A JAPAN.

Advertising

DAMWAIN I GERBYDRES FRENHINOL.