Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr wythnos ddiwoddaf cynhaliwyd cyf- arfod rheolaidd cyntaf Cyngor y Cyngrair CenedJaethol yn Llandrindod, Buwyd yn eistedd am wyth awr, a gwnaed swm mawr o waith angenrhidiol. Yn llywydd y Cyngrair fe ddewiswyd Mr Alfred Thomas, A.S.; yn drysorydd, y Parch Lewis James, Brynbank; a Mr Beriah G. Evans yn ys- grifenydd cyffrcdinol. Trefnwyd i gael cynhadledd gyda Chyngrair Rhyddfrydol y De, a phenodwyd y Cadeirydd, Mri T. Gee, Lloyd George, A.S., Herbert Lewis, A.S., a'r Y sgrifenydd i gynrychioli y Cyng- rair Cenedlaethol. Gobeithiwn y bydd y gynhadledd hon yn foddion i ddwyn oddi- amgylch heddwoh a chydgordiad rhwng holl adranau y blaid Ryddfrydig yn Nghymru yn yr argyfwng pwysig pre- senol. r Cafwyd ymdrafodaeth yn Llandrindod ar gwestiwn Dadgysylltiad, ac amlygwyd ym- lyniad wrth y penderfyniadau a basiwyd yn y Gynhadlodd Genedlaethol yn Aberys- twyth, ac yn diolch i'r aelodau Cymreig hyny a fu yn ceisio gweUa y Mesar yn y cyfeiriad a nodwyd yn Aberystwyth. Pan ddeuir at adran y nawfed fe fydd i Mr Willi || n | ■ Lloyd George gynyg ei welliant eto yn laglyn a'r awdurdod i reoleiddio y degwm, C!1 gaa y disgwylir y bydd i'r Llywodraeth gydsymo i dderbyn y cynygiad i benodi cynrychiolwyr y gwahanol gynghorau sirel i ofalu am y degwm, ac nid tri dirprwywr, fel y darperir yn awr yn y Mesur. Yn y Rhyl, yr wythuos ddiweddaf, cyn- haliwyd cynhadledd o gynrychiolwyr Cyng- horau Sirol Gogledd Cymru ac ereill yn y Rhyl, dan lywyddiaeth Mr M'Killop, cad- eirydd Cyngor Mon. Cymeryd i ystyr- iaeth ymddygiad trahaus cwmni rbeilffordd y London and North Western at fasnach- wyr Gogledd Cymru oedd gwaith y gyn- hadledd, ac yn y diwedd penodwyd pwyll- gor cryf i ymweled a chwmniau ereill i'w gwahodd i estyn eu rheilffyrdd i Ogledd Cymru. Hwyrach y deillia daioni yn mhen amser oddiwrth y ddirprwyaeth hon, ond ofnwn fod cryn waith i berswadio y cwm- niau i suddo miloedd o bunau i wneuthur rheilffyrdd os na cheir sicrwydd digonoL am gefnogaeth iddynt. Yr wythnos hon cynhelid Cymanfa Gyff- redinol y Methodistiaid Calfinaidd yn Llun- dain, dan lywyddiaeth yParch W. James, Aberdare. Y Parch Griffith Ellis, AT. A etholwyd yn llywydd am y flwyddyn nesaf. Nos Fercher darllenodd y Proffeswr Ellis Edwards y ddarlith oedd wedi cael ei pharatoi gan y Prifathraw T. C. Edwards. testyn ydoedd Y Duw-Ddyn." Ym- ddangosodd amlinelliad o'r ddarlith yn y Genedl ddydd Llun.

-----. AMAETHWYR AMERICA YN…

Advertising

AR OL Y GWYLIAU. --

LLITH M~E EI JOS.

Advertising