Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

....... jWEDI EU crLlTMU YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WEDI EU crLlTMU YN NGHYH Mewn rkyw ffordd, rhy ddirgel i ni ei deall, y mae'r meddwl wedi ei gylymu yn nghyd a'r corph wedi ei weu i fewn iddo, mewn ffordd, fel y darluniau i fewn i ddarn o deisban. A thyna paham y teimlai Mr Edward James Grant mor isel ei yspryd, ac mor druenus fel na wyddai beth i'w wneyd. Dywedai ei feddyg mai croniad yr iau a'i blinai, ac edrychai pethau fel pe buasai'r meddyg yn iawn. Deebreuodd yr helbul draw yn Ehagfyr. 1887. (yn hyny, mwyn- hai Mr Grant gystal iechyd a reb. Yna daeth i deimlo yn sydyn fod ei nerth oil yn llifo ohono teimlai yn flinedig, diegui, a datod- edig, a tLrymllyd. Wrth ddal ei dafod allan o flaen drych efe a sylwodd ei bod hi yn ddrwg ei lliw, a rhyw gaenen dew drosti. Yr oedd digonedd o fwyd ar y bwrdd bob pryrl) ond nid oedd arno ef mo'i eisiau. Yr oedd archwaeth, brenhin pob saws, yn niffyg. Pan lyncai efe rywbeth ar ei waethaf, ar yr egwyddor fod raid i ddyn fwyta er mwyn byw, nid oedd y canlyniad yn foddhaol. Wedi pob ymdrech o'r fath, teimlai bwysau a phoen yn ei fron a'i ys- tlysau a rhywbeth a eilw ef yn "fath 0 lwmp" rhwng y fcon a'r gwddf. Mynych y poerai ryw hylif cyn chwer- wed a'r bustl, a chyn felyned a'r gini. Fel yr elai amser rhagddo, efe a deimlai ben- syfrdandod a serfylldra. Weithiau, turaw- ent arno yn yr heol, ac ofnai syrthio. Fel yr elai o gwmpas ei waith, nofiai ei ben a deuai hyn arno ddwy neu dair gwaith yn y dydd. Mi a deimlwn mor isel fy ysbryd, ac mor druenus," meddai, fel na wyddwn beth i'w wneyd," a hawdd y gallwn ei gredu. Ymgynghorais a meddyg," meddai wrth- ym, yr hwn a ddywedodd mai croniad yr iau a'm blinai, a rhoddodd i mi feddyglyn a'm helpiodd am beth amser. Bu'm hefyd yn cymeryd peleni at yr iau, ond ni theim- lwn ddin gwell er y cwbl. Yn yr ystad yma bu'm bedair blynedd, yn ceisio yn ol a blaen am ryw feddygin- iaeth gymhwys i'm ewyn, ond heb gael hyd iddi. Yn Ionawr y flwyddyn hon (1892) y clywais gyataf am Mother Seigel's Curative Syrup, ac y rhoddais brawf arno. Wedi i mi gymeryd dwy botel, ciliodd yr arwyddioa drwg, dechreuodd fy archwaeth ddychwelyd, ni ddaeth y pensyfrdandod arnaf drachefn; ac yn awr mi fedraf fwyta unrhyw beth, ac yr wyf cyn iached ag erioed. Chwi a ellwch gyhoeddi fy llythyr, os bernwch y gwna ddaioni, a bydd yn dda genyf ateb ymhol- iadau. Yr eiddoch yn gywir (arwyddwyd), Edward James Grant (gwerthwr llaeth)' 43, Vestry road, Camberwell, Llundain, b.B., Rhagfyr 6ed, 1892." Dechreuwyd yr helbul fel hyn:—Yr ystumog wedi cael ei gorlwytho a'i gor- weithio, i ddechreu, a osgodd ran o'i gwaith, a gyrodd swm o stwff haner treuliedig i'r iau. Gwrthodai yr organ olaf hyn, a nacai ei drin, oherwydd rhaid i chwi gofio y rhaid i bob ymborth fyned drwy yriau cyn y medr gyrhaedd unrhyw bwynt pellach, Felly, wedi i'r iau gymeryd diwrnod," fel y byddwn yn dyweyd, hi a beidiodd a chasglu bustl o'r gwaed i gynorthwyo y ooluddion. 0 ganlyniad, safai y bustl yn y gwaed, ac a gychwynodd yr hyn oil a wnaeth i'n cyfaill deimlo mor druenus, fel na wyddai beth i'w wneyd. Yn ffodus iddo ef, a phawb o honom, gwyddai Mother Seigel pa beth i'w wneyd, a rhoddodd ei gwybodaeth yn ffurf y feddyg- iniaeth hynod a anfarwolodd ei henw. Efe a glywodd am dani, fe'i defnyddiodd, a gwellhawyd ef di,ddiffyg treuliad ac anh wyl- deb ei iau ar unwaith. Ac yn gymaint ag y cwyd y rhan fwyaf o'n hanhapusrwydd o afiechyd, daeth ysbrydoedd Mr Grant yn fuan fel y dylai ysbrydoedd pob dyn iach fod -yn ysgafn a bywiog. Ar y casilyniad hwn, bydded gystal a derbyn eiu llongyfarchiadau cywiraf.

GRONYNAU.

Advertising

:..;;::---GLYVYSOCH CKWI ;

-------Y JAPAN! A.ID YN FORMOSA.

----TRYSORFA AMDDIFFYN YR…

Advertising

I RHYFEL GA.RTREFOL YR AMERICA.

Advertising

Y NEDDYti A'R WYRTH. |

GWIREBAU GVVEHTtf rW7 HYM-ARFER.

aemenTA^

- Y FFYRDD.