Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

42 erthygl ar y dudalen hon

-..----TE. ASIIYPWSO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TE. ASIIYPWSO. CYFFRO YN Y BY]) GWi»Eii>YBBDL. AUGLWYD!) SA. LIS BURY YN FFUIiFIO SWEINYDDIAETE. Y CKF8IH -CTH6H0S ä f J i! i U U 11 ti 'f N V f\ r) HEWYDD. :RHA0OLYG50N ETHOLIAD CYFFKEDLVOL. Er pan ymddangosodd ein rhifyn di- weddaf, y mae argyfwng pwys:g wedi ey- meryd lie yn y byd gwleidyddol: Gweinydd- iaeth Arglwydd Rosebery wedi ynl- ddiswyddo, ac Ardalydd Salisbury wrthi yn ffumflo Gweinyddiaeth newydd. Y rheswru dros hyn yw fod y Llywodraetu wedi cael eu gorchfygu mewn ymraniad a g-ymerodd le nos Weuer pan y pleidleisid ariiui tuagat y Fyddin. Ar ddechreu'r gweitmediadau ,hysbysodd Mr Campbell Bannerman fod Due Cambridge yn ymddiswyddo ar y dydd cyntaf o fis Hydref, fel prif swyddog y fyddin Brydeinjg. Teindai y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr er's blynyddau nas gellid cael fawr o drefn ar y fyddin tra y byddai y Due yn parliau wrth y 11 yw, Ond gorinod gwaith i bob gweinyddiaeth ill symud car y Frenhines oddiar y ffordd hyd nes y cym- erodd gweinyddiaeth Arglwydd RosebeVy y mater mewn llaw. Felly aehosodd yr hysbysiad a wnaeth yr Ysgrifenydd Rhyfel lawenydd mawr drwy bob cwr o'r Ty. Ond och, y noson a ddechreuodd mor obeitbiol, a drodd allan y chwerwaf i'r Llywodraeth. Mynai Mr St. John Brotiricic na.d oedd y Swyddfa Rhyfel yn cadw digon o bylor ac ergydion writ gefn. Rhoddodd Mr Camp- bell Bannerman ei air ef a'r prif swyddog- ion milwrol fod llawn ddigon mewn llaw, ond ni fynai y Toriaid goelio hyny, a chyn- ygientfjd eyflog Mr Campoeli Bannerman yn cael ei dynu i Lavr gan' punt. GORCHFYGU Y LLYWODRAETH. I Yna rhanwyd y Ty ar y cwestiwn. Pan ddeuwyd yn ol rboddodd y clerc y papyr yn hysbysu y canlyniad yn Haw Mr T. E. Ellis. Yr oedd hyn yn ar- wvdd fud y Llywodraeth wedi enill. Pan welwyd hyn rhoddwyd banllefau o gymer- adwyaeth gan y Rhyddfrydwyr. Fodd byaag. wedi i Mr Ellis edrych ar y papyr, er dirfawr syndod i bawb, rhoddodd ef i Mr Akers-Douglas, y chwip Toriaidd. Cymerodd hwnw y papyr, ac wedi iddo yntau edrych arno. rhoddodd ef yn ol i Mr Ellis. Wedi i Mr Ellis ail graffu ar y papyr, rhoddodd ef unwaith yn rbagor i Mr Akers-Doug]as, yr hwn, o'r dlwidd, a ddarllenodd y fc'gyrau fel y canlyn :— Dros y wel' anfc 132 Yn erbyn 15 Mwyafrif 7 Ar byn cymerodd golygfa gynhyrfus le. Crochlefai y Toriaid a'r Khyddfrydwyr Undebol fel gwallgofiaid, ac uwchlaw yr holl lefain clywid y Toriaid yn galw am i'r Gweinidogion ymddiswyddo ar unwaitih. Pan gafwyd ychydig o egwyl. aywrdodi Mr Campbell Bannerman nad oedd yn bwriadu gofyn i'r Ty fyned yn mlaen y noson hono gydag amcangyfrifon y fyddin. Wedi hyny treuliwyd rhyw deirawr i drafod mesurau nad oedd gwrfchwynebiad -iddynt. CYFARFODYDD Y CYFRIN GYNGOR. Bu y sefyilfa wleidvddol, oherwydd y bleidlais nos Wener, yn destyn ymgynghor- iad pryderus ar ran aelodau y Cyfrin Gyngor. YmgynuJlasaut nos Wener, ac eto ioreu Sadwrn. Ar yr achlysur diweddaf, ym- gynullodd lluaws mawr o bibl yn Dawning street, y rhai yn ddiau oeddynt yn fwy awyddus i weled y gweinidogion yn myned yn ol a blaeu nag i dderbyn hysbysrwydd oddiar risiau yr onedd-dy swyddogol. Gohiriodd y Cyfrin Gyngor am ugain munyd i ddau, a chyfarfyddasant eilwaith am bed- war o'r gloch, a buont yn eistedd am dros ddwy awr. ARGLWYDD ROSEBERY YN WINDSOR. Fel y digwyddai fod, yr oedd y Prifwein- idog wedi ei orchymyn i giniawa gyda'i Mawihydi nos Sadwrn. Ond nid gyda'r amcan hwn yn unig y gadawodd ei ar- glwyddiaeth Lundain haner awr wedi chwech am Windsor. Ei brif amcan oedd hysbysu i'r Frenhines o benderfyniad cyfarfod y Cyfrin Gyngor ag oedd newydd ei gynal. Ciniawodd ei arglwyddiaeth a'r Frenbines ae aelodau y Teulu Brenhinol. Boreu Sul, yr oedd i fyuy yn gynar, ac yr oedd yn bre- senol yn y gwasana-. th a gynhaliwyd yn nghapel St George am wyth o'r gloch. Yn ddiweddarach yn y dydd, oafodd ymgyng- horiad cyfrinacbul a'i Mawrhydi. GALW AM ARGLWYDD SALISBURY. Ar ol derbyn ymddiswyddiad Arglwydd Rosebery darfu i'r Frenhines anfon am Ar- glwydd Salisbury, yr hwn a gyrhaeddodd i Windsor tuag un o'r gloch ddydd Llan. Dychwelodd Arglwydd Salisbury i Pad- ding ton o Windsor rhwng 4 a 5 o'r gloch, a dreifiodd yn uniongyrchol i Arlington street, lie y cyrhaeddodd ar unwaith a Mr Balfour. Yn ddiweddarach, ymunwyd a hwy gan yr Anrhydeddus Schomberg Me Donnell a Mr Akers Douglas, y Prif Chwip Geidwadol. Bu y pedwar mewn ym- gynghoriad hyd tua banner awr wedi 6, pryd yr ymadawodd Mr Balfour a'r Prif Chwip. HYSBYSU'R SENEDD. Ymgynullodd aelodau Ty y Cyffredin yn dyrfa ftivr erbyn tri o'r gloch brydnawn Llun, gan y clisgwylid hysbysrwydd pen- dant ar ran y Llywodraeth. Ar ol myned drwy y busnes prifat yn gyntaf, cododd Syr William Harcourt i fyny, gan ddweyd fod y Llywodraeth yn ystjried yr ymraniad a gymerodd ie nos Wener yn bleidlais union- iongyrchol o gerydd ar yr Ysgrifcnydd Rhytel. Teimlai y Weinyddiaeth eu bod lawn mor gyfrifol a'r Ys^rifenydd Rhyfel am y dull yr oedd yn cario allan waith y Swyddfa Rhyfel. Yr oedd y cwrs a gymerodd aelodau blaenllaw yr Wrthblaid yn gyfryw ag a ataliai yr Ysgrifenydd Rhyfel i fyned yn mlaen gyda'r amcangyfrifon oedd ganddo, ac a'i gwnai ya ymarferol awbostbl i'r Llyw- odraeth gael y cyflenwad arianol angen- rheidiol. 0 gaulyniad gwelodd y Cyfrin Gyngor mai eu dyledswydd oedd cvflwyno eu hymddiswyddiad i'w Mawihydi, yr hyn a dderbyniwyd. Wrth ,adèi.31 y swydd a ddaliai, dymunai ddiolcH am bob cefnog- aeth a hwylusdod oddiar law pawb. Ei ym- drech fawr tra mewn swydd oedd cadw i fyny urddas Ty'r Cyffredin. Mr Balfour a dalai deyrnged o barch i Syr William Harcourt am y dull medrus I gyda pha un y cariai allan ei waith, ond a gondemniai y Weinyddiaeth am mai ymddi- swyddo a wnaethant, yn lie dadgorffori y Senedd yn ddiymdroi. Ar ol myned trwy ychydig o fusnes ffurf- iol, gohiriwyd y Ty hyd dranoeth. Gwnaed hysbysiad yn Nhy'r Arglwyddi hefyd fod y Weinyddiaeth wedi ymddi- swyddo. Dydd Mawrth, disgwylid y bnasai Syr' William Harcourt yn gallu hysbysu fod Ar. I glwydd Salisbury wedi ymgymeryd a ffurfio Gu einyddiaeth, ond ni chyrhaeddodd y pelleber mewn pryd i allu gwneyd hyny. Y WEINYDDIAETH NEWYDD. Boreu Mawrth bu Arglwydd Salisbury mew» ytngynghoriad a'i brif gyfeillion, ac yn y prydnawn aeth ei Arglwyddiaeth i Windsor. A ganlyn ydyw y penoviiadau sydd hyd yn hyn yn wybyddus: Prifweinidog ac Ysgrifenydd Tramor—Ar- dalydd Salisbury.. Llywydd y Cyngor—Due Devon. Prif-arglwydd y Trysorlys-Mr A. J. Balfour. Ysgrifenydd y Trefedigaethau—Mr Joseph Chamberlain. Canghellydd y Trysorlys—Syr Michael Hicks-Beach. Prif Arglwydd y Morlys-Mr Goschen, W rth gwrs, Balfour fydd olynydd Syr William Harcourt fel arweinydd Ty'r Cyffredin. PRYD CEIR ETHOLIAD? Y gred gyffredinol ydyw y cymer y Dad- gorphoriad le gyntaf fytb ag fydd yn bosibl, gan fod y Toriaid yn tybio mai goreu po gyntaf iddynt hwy gtel apelio at y wlad. Dywed rhai y dadgorphorir y Senedd ryw- dro rhwng Gorphenaf 4ydd a'r 9fed, tra y tybia y rhan fwyaf mai Gorphenaf lofed fydd y dyddiad. Os mai y dybiaeth olaf dry allan yn gywir, cymer yr etholiadau le fel y canlyn::— BWRDEIBDREFI. Dadgorfforiad: Llun, Gorphenaf 15. Derbynir y Writs Mswrth, Gorphenaf 16. Enwi Ymgeiswyr: Gorphenaf 18 neu 19. Polio Gorphenaf 20 i 22. SIROEDD. Dadgorpboriad: Liun, Gorphenaf 15. Derbynir y Writs: Mawrth, Gorphenaf 16. Enwi Ymgeiswyr: Gorphenaf 16 i 24. Polio.: Gorphenaf 22 i 31. Gall y Senedd, felly, eistedd am dair wythnos eto, ac i'r holl etholiadau fod dros- odd cyn diwedd mis Gopphenaf. CYMRU'N PAROTOI. Nos Sadwrn derbyniodd yr aelodau Cym- reig oedd yu Llandrindod yu cymeryd rhan yn y Gynhadledd Heddwch, hysbysiad oedd yn ei gweyd yn dra thebygol y gallai'r Sen- edd ddadgorphori rhag blaen. Galwyd felly gyfarfod arbeuig o'r gynhadledd i gyfarfod boreu Llun. Teimlai y rhai oeddynt yn bresenol y dylid bellach gael rhaglen ar- benig Gymreig erbyn -yr etholiad. Aw- durdodwyd yr ysgrifenyddion, os byddai y Senedd yn tori i fyny, i alw Cynhadledd Genedlaethol yn ddioed, ac i wahodd pob cymdeithas Rydd- frydol a chenedlaethol yn Nghymru i ddanfon cynrychiolwyr iddi. Amcan y gynhadledd fydd tynu allan raglen ethol- iadol i Gymru, a phenderfynu ar ba linellau yr ymleddir y frwydr. Rhoddir cylfe i'r holl etbolaethau ac i bob adran o'r blaid i ddat- gan ei llais yn y gynhadledd, yr hon a gyn- helir yn Llandrindod Gorphenaf 18fed. YMGEISWYR GOGLEDD CYMRU. A ganlyn sydd restr o'r ymgeiswyr a ddewiswyd yn Ngogledd Cymru Dynoda hen aelodau. Arfon: W. Jones (R); Proffeswr Hughes (U). Bwrdeigdrefi Arfon: *D. Lloyd George (R); Ellis Nanney fU). Bwrdeisdrefi Dinbych Walter Morgan (R); Tudor Howell (U). Bwrdeisdrefi Fflint: *J. Herbert Lewis (R); P. P. Pennant (U). Bwrdeisdrefi Maldwyn: Owen Philipps (R); Cadben Pryce-Jones (U). Dinbych (Gorllewin): ^Herbert Roberts (R); Cadben Wynne Edwards (U). Dinbych (Dwyrain): *Syr George Osborne Morgan (R); St. John Raikes (U). Eifion *J. Bryn Roberts. (R). Fflint: *Samael Smith (R) Cyrnol Howard (U). Meirionydd *T. E. Ellis (R). Mon: Ellis J. Griffith lIt)¡ J. Rice Ro- berts (IT). Trefaldwyn: *A. C. H. Owen (R); R. Williams Wynne (U). Dyddorol mae'n ddiau fydd 'gan ein dar- llenwyr gael ffigyrau etholiad 11892 wrth law:— Y GOGLEDD. MON. T. P. Lewis (R) 4420 Morgan Lloyd (T) 2702 Mwyafrif 1718 ARFON. W. Rathbone (R) Diwrthwynebiad. EIFION. J. Bryn Roberts (R) 4567 W. Humphreys (T) 1973 Mwyafrif 2594 BWRDEISDREFI ARFON. D. Lloyd George (R) 2154 Syr J. H. Puleston (T) 1958 Mwyafrif 196 BWRDEISDREFI DINBYCH. Anrhyd. G. T. Kenyon (T) 1664 T. H. Williams Idris (R) 1566 Mwyafrif 98 DINBYCH (DWTRAIX). O. Osborne Morgan (R) 4188 Syr W. W. Wynn (T) 3423 Mwyafrif 765 I DINBYCH (GORLLEWIN). J. Herbert Roberts (R) 4612 I W. Cornwallis West (T) 2279 Mwyafrif 2333 BWRDEISDREFI FFLINT. J. Herbert Lewis (K) 1883 P. P. Pennant (T) 1524 Mwyafrif 359 FFLINT. S. Smith (R) 4597 Syr R. Cunliffc (U) 3145 Mwyafrif 1452 MEIRION. T. E. Ellis (R) 5175 Henry Owen (T) 1937 Mwyafrif 3238 BWRDEISDREFI MALDWYN. Syr Pryce Jones (T). 1406 F. Hanbury Tracy (R) 1288 Mwyafrif 118 TREFALDWYN—yn 1894. A. C. Humphreys Owen (R) 3440 R. Williams Wynn (T) 3215 Mwyafrif 225 Yn 1892 :— S. RendeI (R) 3662 Capt. Mytton (T) 2847 Mwyafrif 815 Y DEHETJDIR. BdYC'HEINIOG. W. F. Maitland (R) 4676 Cadben T. Wood (T) 3418 Mwyafrif 1258 CAERDYDD. Syr E. J. Reed (R) 7226 j. Gjuuii (U) 6540 Mwyafrif 686 ABERTEIFL W. Bowen Rowlands (R) 5249 W. Jones (U) 3278 Mwyafrif 1971 BWRDEISDREFI CAERFYRDDUT. Uchgadben E. R. Jones (R) 2412 Syr J. J. Jenkins (li) 2187 Mwyafrif 225 DWYlLAIN CAERFYRDDIN. Abel Thomtis (R) 4339 Cadben Davies (T) 1223 Mwyafrif 3116 GORLLEWIN CAERFYRDDIN. J. Lloyd Morgan (R) diwrthwynebiad. MORGANWG, DEHEU. A. J. Williams (R) 4743 Syr M. Horgan l T) 3825 Mwyafrif 918 MORGANWG, CANOL. S. T. Evans (R) 5941 F. C. Grove (T) 1725 Mwyafrif 4216 MORGANWG, DWYRAIN. Alfred Thomas (R) 5764 H. C. Lewis (T) 2797 Mwyafrif 2967 MORGAKWG, GORLLEWIN. D. Randall (R), diwrthwynebiad. RUONDDA. 6 W. Abraham (R), diwrthwynebiad. HWLFFORDD A BWRDEISDREFI PENFRO. C. F. E. Allen (R) 25SO Cadfridog Laurie (C) 2385 Mwyafrif 195 MERTHYR TYDFIL (2). D. A. Thomas (R) 11,948 W. P. Morgan (R) 11.756 B. F. Williams (T) 2304 Mwyafrif 9644 BWRDEISDREFI MYNWY. A. Spicer (R) 3530 G. Elliott (T) 3137 Mwyafrif 293 MYNWY, GOGLEDD. Cadben T. P. Price (R) 5020 J. H. Rolls (T) 3860 Mwyafrif 1160 MYNWY, GORLLEWIN. C. M. Warmington (T) 5421 Barwn" Profumo (R) 4700 Mwyafrif 721 PENFRO. W. Rees Davies (R) 4800 Syr C. E. G. Phillips (T) 3701 Mwyafrif 1099 MAESYFED. Frank Edwards (K) 1973 J. A. Bradney (T) 1740 Mwyafrif 233 TXEF ABERTAWE. R. D. Burcie (R) 3733 Syr J. T. D. Llewelyn (T) 3011 Mwyafrif 722 BWRDEISDREFI ABERTAWE. Mr W. Williams (R), diwrthwynebiad. Yn 1892. Syr H. H. Vivian (R) 5959 H. Monger (U) 933 Mwyafrif 502S

ETHOLIAD CORK.

ME-LINAU COTWM BURNLEY.

^CHINA A RWSIAT

FFUGIO GAN BOSTFEISTR CYMREIG.

BODDIAD YN MHORTHAETHWY.

ARIAN MEWN PERYGL.

DYN AMYNEDDGAR.

Advertising

LLOSGI CANT 0 DAI.

BODDILD NAW 0 BLESERDEITHWYR.

CHINA A JAPAN.

GEORGE MEREDITH AC EISTEDDFOD…

■—————^ SUDDIAD AGERLONG.…

SAETHU GORUCHWYLIWR TIR.

CHWAREU PifiRYGLUS YN MANGOR.

LLADD DAUOL .VYNWR.i -1

MARW AR Y DDAUOLWYNUR.

Y FFRWYDRIAD GER HALIFAX.

- YNADON BLACKPOOL A'R CHWAREUDY,

PERERINION I FFYNON GWENFREWI.

HANES RHAMANTUS 0 DDYFFRYN…

Advertising

ISYRTHIO O'R GD3ARTH.

(LLOFRUDDIAF.TH HELlviSLEY.I

MR PRITCHARD MORGAN A'I ETHOLWYR.

PRIFYSGOL CYMRU.

FFRWYDRIAD" ARSWYDUS YN PENNSYLVANIA.

CLE RIG WR YN LLADD EI HUN.…

MRS THOMPSON ETO.

----DAMWAIN I GERBYD.

YSBEILIO BANC YN MINESOTA.

YNADON NEWYDD SIR DRE!FALDWYN.…

-__-"-----BODDIAD DWY FONEDDIGES.

------------COLLED AO ENILL.

Advertising

Family Notices

! PLENYDD A'I EIDDO.

DIANGFA WYRTHIOL GER DEGANWY.

CERBYDAU DIGEFFYLAU.

RWSSIA YN LLEDU EI THERFYN…

[No title]