Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

37 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

-.r RHAI 0 ARWYR RHYDDID CYMRU.…

, BODDIADAU.I

CI YN BRATHU.

GWENW YNO MEWN MYNACHLOG.

GENEDIGAETH AR PWRDD AGER.LONG.

OFFEIRIAD YN SAL MEWN PRIODAS.

CHWAREU GYDA MATSUS.I

PRIFYSGOL CYMRU.

Advertising

MEWN ADGOF AM Y GWRON.

I CHWE' CHANT YN SYRTHIO I…

MARWOLAETH AMHEUS YN RHOS-I…

Advertising

. PAHAM YR YDWYF AM FOTIO…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PAHAM YR YDWYF AM FOTIO I LLOYD GEORG. RHESYMAU GWEITHIWR. SYR,—Gweithiwr ydw i, ac felly nis gallaf ysgrifenu yn rhyw dda iawn, ond nis gallaf beidio rhoddi ychydig o'r rhesvmau sydd gen i dros bleidio Lloyd George yn erbyn Nanney y tro yma. Mae cryn lawer o ddadleu rhwng y Librals a'r Toris ynglyn a sefyllfa y gweithiwr dan y naill Weinydd- iaeth a'r llall. Mae'r Toris yn dadleu fod y gweitbir yn fwy cyfoethog dan y Llywod- raeth Doriaidd na phan y bydd y Rhydd- frydwyr mAwn swydd. Oad welis i erioed ddim gwahaniaeth. Yn wir roeddwn in dechieu meddwl fod yn well arna i rwan nag y buo hi erioed, masnach yn dechreu byw- iogi ar ol iddi fyn'd i'r lie isaf y galla hi fyn'd iddi pan oedd y Toris mewn awdurdod, ac y mae arna i ofn yr eith hi yn ddrwg eto gan fod y Toris am wario mwy ar bethau nag y mae eisio, neu felly faswn i'n meddwl ar en bymddygiad nhw ynglyn a'r man arfau. Gwario mwy nag yr oedd y gofyn am dano. Wel yn lie mynd i feddwl am bethau fel yna, mi ddechreuis gysidro pa un un o'r ddau wr sydd gerbron yr ctholwrs ydi'r gora. DynÅo Mr George ar un ochr, a Mr Nanney ar y llaw arall: ga.dewch i ni eu mesur nhw. Y mae Mr Lloyd George yn ddyn ifane heini, digon o fyn'd yno fo, a'i lygad yn i ben. Yn wir, mae "o wedi ei drainio i fod a'i lygad ya ei ben bob amser. Ar yr ochor arall mae Mr Nanney yn ddyn canol oed, yn dechreu blino ar bethau, os oedd yr olwg ges i arno fo y dydd o'r b'aen yn rhoi mynegiad cywir o'i deim- ladau, ac heb erioed gael ei drainio i fod fel twrna yn gwel'd pethau ar un waith. Dyn gymith amser, ie, ac amser mawr, i gysidro beth i siarad a sut i wneyd pethau, yn lie gwel'd pethau ar unwaith, a medru cario allan ei benderfyniad heb oedi. Mae Lloyd George yn siaradwr hyawdl a llithrig; yn wir y Cymro a'r tafod arian y gelwir ef gan y Saeson. Chwerthinllyd fuasai ceisio dweyd yr un peth am Nanney. Un o'r siar- adwyr salaf dan haul, faswn i'n feddwl, ydi o. Mae o yn methu cadw rhyw lawer o gyfarfodydd. Ond am Lloyd George,mae o yn medru siarad, ac yn defnyddio y medr hwnw at wasanaeth ei genedl. Welwch chi mor dda y defnyddiodd ef a Herbert Lewis eu gallu o blaid y dynion gafodd eu troi i ffwrdd ar y relwe. Mi ddaru'n orchfygu y Saeson yn lan, a thori tir newydd yn y Senedd. Ni fu y Senedd erioed o'r blaen yn ymyraeth dim pan y byddai y meistr creulon yn gwasgu ei weision, oherwydd nad oedd neb wedi mentro dwyn eu hachos yno. Ond rwan diolch i Lloyd George, mae gan y gweithiwr hawl i godi ei lef yn y Senedd, ac mi all y Senedd reoli'r meistr anghyfiawn. Fasa Nanney wedi gallu gneyd yr hyn naeth Lloyd George dros y gweithwyr ? Na fasa byth. Fasa fo wedi ymladd fel teigr o'n plaid ? Na, mi fasa wedi dilyn Mr Kenyou t.'i blaid, a bod yn ddystaw. Mae o'n ddyn mor neis." Rbaid iddo fo gael cadw i fenyg am i ddwylo, ac mi fasa'n resyn i maeddu nhw i weithio dros ychydig o labrwrs. Pe na bae Lloyd George wedi gwneyd dim yn y Senedd ond amddiffyn y gweithiwrs yma, mae o yn haeddu cael ei anfon yn ol yno eto. Dylai pob Cyipro gwladgarol votio drosto fo, ie, pob un Tori a Rhyddfrydwr. Welodd Cymru yr un amddiffynwr mor selog a chadarn o'r blaen. Ond heblaw bod yn siaradwr ac yn ymladdwr, y mae Lloyd George yn gwybod beth sydd arnon ni eisio. Weles i rioed mo Nanney yn gneyd dim ond yn adeg lecsiwn. Weles i rioed mono fo yn siarad ar ddirwest, a chlywis i ddim i fod o wedi gneyd. Nath o rywbeth ar yCownti Cownsul ? Chlywis i ddim. Na, Mae Cyrnol West a dynbn eraill y Toris yn fwy gweithgar nag ef. Mae o'n ddyn rhy neis i weithio rhyw lawer. Ond nid yn unig y mae Lloyd George yn gweithio adra, ond mae o wedi dwad ag enw Bwrdeisdrefi Arfon yn adnabyddus i'r byd. Prun well gan yr etholwrs gael rhan amlwg yn y Senedd, ynte cael eu cynrychioli gan ddyn na wneith un araeth mewn blwyddyn, a'r hwn fydd yn ddystaw fel y bedd. Fel y gwyr pawb, nid yw y Toris yn addo dim i ni. Mae nhw yn gwrthod Dadgysylltiad, yn gwrthod Mesur Dirwestol, yn gwrthod Mesur Bwrdd oyf- lafareddiad iawn, yn gwrthod pob peth sydd arno ni eisiau. Nid ydyw y Celtiaid yn werth sylw ganddynt. Felly, yr ydw i yn credu mai rhoi ein cynorthwy i'r rhai y mae yn werth ganddynt ein cydnabod fel cenedl ydi y goreu, a gwrthod Mr Nanney. Trwy wnejd hyny, byddwn yn sicr o roddi mwy o anrhydedd arno. Mae yn awr wedi ei orch- fygu dair gwaith, ac os gwrtbodwn o eto y tro yma, bydd i Arglwydd Salisbury gyd- nabod y gwaith a wnaeth dros y Toriaid, a'i wneyd yn arglwydd neu yn farwnig. Felly, os am gael cynrychiolydd iawn i'r Senedd, ac am roddi chance i Mr Nanney gael ei neyd yn Arglwydd, PLEIDLEISIWX DROS LLOYD GEORGE. Yr eiddoch, LABRWR.

Y FASNACH ALCAN.

- HUNANLADDI IB GOBUCHWYL-1WR…

Y FRWYDR TRWY Y DE)CRNAS.

CYMRY LLUNDAIN A'R ETHOLIAD.

PURWCH Y GWAED.

Advertising

DIWEDD CWERYL.

IS-IARLL MORGANWG.

STREIC YN LEICESTER.

DADGORPHORTAD.I

Y SHAHZADA.

DAMWAIN I GWCH.

MARWOLAETH HYNOD YN MANCEINION.

COLLED AC ENILL.

I SUGNO MATSUS.

MARWOLAETH SYDYN GWEINIDOG.…

RHYDDHAD O'R CARCHAR.i

Mgr.,.. YSTORMYDD YN CHICAGO.

------RHANBARTH-CROESOSWALLT.

CYNGOR PLWYF NEFYN.I

GWRTHDARAWIAD AR Y RHEILFFORDD.

ACHUB BYWYD YN YR ABERMAW.