Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

28 erthygl ar y dudalen hon

f-0-BWRDEISDREFI ARFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

f -0 BWRDEISDREFI ARFON. Y Polio. Cymerodd y polio le dydd Sadwrn, ac yn -d.diau ni bu ymladdfa gaietach erioed. Er pan y gorchfygwyd Syr John Pulestou yn 1892 gan Mr Lloyd George, mae y blaid Doriaidd wedi bod yn gweithio gyda'r egni uawyaf er trefnu ei byddinoedd ar gyfer buddugoliaeth. Ar y Haw arall, er y pryd hwnw, dangoswyd cryn ddifaterwch gan y Rhyddfryawyr, ac ni ddechreuasant ymaflyd yn eu gwaith o ddifrif hyd nes yr ymddi- swyddodd y Lly wodraeth. Mewn canlyn- iad, pan ddechreuodd yr ymdrechfa, yr oedd y fantais yn gorwedd gyda'r Toriaid, ac yr dd y rhestr o fuddugoliaethau yr Undeb- wyr yn Lloegr a manau eraill yn ychwanegu brwdfrydedd y Toriaid i fesur helaeth. Ar yr un pryd, gwnaed gwa.ith arddcrchog gan y Rhyddfryclwyr yn ystod y pythefnos di- weddaf, a buont yn llwyddianus i ddwyn i'r pol 3m yr oil o'r |bwrdeisdrefi bron yr oil o r Rhyddfrydwyr oeddynt ar y rhestr. Pan agorwyd y pol ddydd Sadwrn, dis- gynai y gwlaw yn gawodydd trymion. Ni ddangoswyd ond ychydig gyffro yn y gwa~ hanol fwrdeisdrefi hyd oddeutu haner dydd; ond fel yr elai y dydd yn mlaen dangosid y bywiogrwvdd mwyaf. Yn ystod y dydd ymwe!odd Mr George a r gwahanol fwrdeisdrefi, a chafodd dder- byniad brwdfrydig. Pan wnaetn ei ym- ddangosiad yn N ghaernarfon yn ystod y prydnawn gosgorddwyd ef trwy yr heolydd gan dorf anferth a. ddaethant i'r dref. Yn ddiweddarach ymadawodd, ac ymwelodd a'r rhan ddeheuol o'r etholaetb. Cyrhaeddodd yr oil o fiyuhau y ballot i Gaernarfon erbyn oddeutu deg o'r gloch yr un noswaith, a chsdwyd bwy yn neuadd y dref. Dechreuwyd cyfrif am ddeg o'r gloch, a gwnaed -y canlyniad yn hysbys oddeutu haner dydd. In 1890, ar farwolacth Mr Swetenham, yr oedd y pleidleisio fel y Ctnllyn D. Lloyd George, R 1963 Ellis Nanney, C 1945 Mwyafrif 18 1892. D. Lloyd George, R 2153 Syr John Puleston, C 1958 Mwyafrif 195 DERBYNIAD Y NEWYDD YN MHWLLHELI. Nid ydym yn cofio cyinaint o dydderdeb yn cael ei arddangos gy lag unrhyw etholiad a'r un diweddaf. Yr oedd Pwllheli wedi ei berwi ers dyddiau. Fel y gwyr y Toriaid- I i'w hangbvsur—yma y maent yn cael y gwaethaf' Bu y Toriaid yn gweithio yn egniol. Yr oedd rhai o honynt bron bob dydd yn talu ymweliad a'r etholwyr, ond o'r I ochr arall, does dim amheuaeth nad y cy- farfodydd brwdfrydig ddarfu danio y | Rhyddfrydwyr. Gweithiodd y pwyllgor Rhyddfrydol ddydd Sadwrn y fath na fu erioed ei debyg. Cyn haner dydd yr oedd mwy ra harier yr etio'kNv, ,r wedi pleidleisio, ac yn fuan yn y prydnawn yr oedd y mwyafrif mawr wedi gwneyd, Y rheol ydyw ar etholiad, y bydd pawb ar redeg, megis, o chwech byd wyth o'r gloch, ond y II tro hwn yr oedd yu hollol wahanol, ac jr oedd yr arolygwyr Rhyddfrydol wedi cael I yr oil o gefuogwyr Mr George i bMdleisio yn gynar, oddigerth ychydig oedd i'w dis- gwyl gyda'r tren saith o'r glncb. Ofnid y ¡ buasai y tren yn hwyr, ond daeth i mewn oddeutu chwarter i wyth, a chyrhaeddodd yr oil y Town Hall mown pryd. Daeth y ddau ymgeisydd i'r dre pryuuawn Sadwrn. Prin y buasem vn gwy bed fod Mr Nanney yma, oni bai i ni weled rhyw ychydig fel cyn.. hebrwng preifat yn cyderdded i gyfeiriaci y I Clwb Geidwadol. Ond cafodd Mr Lloyd George dderbyniad arddeichog. Tynwyd ef trwy yr heolydd gan gancedd o'i gefucg- wyr. Dydd Llun yr oedd pawb yn bur bryderns; a dweyd y gwir, y Rhyddfrydwyr oedd fwyaf digalon o 1 iwer. Pa un bynag, daeth rhyw air o rywle ychydig wedi unarddeg boreu Llun fod Lloyd George i mewn." Ond 'doedd dim sicrwydd, ac yn nghanol pryder y Bhyddfrydwyr yr oedd y Toriail yn cysuro eu hunain mai camgynietiad oedd y owbl. Bu raid disgwyl am hauer av/r neu well cyn cael sicrwydd. a,c crbyn hyn yr oedd canoedd wedi d'od i'r heol gyferbyn a'r Post Office. O'r diwedd dycua'r official telegram yn dwad, a dyna fioedd na fu er's llaw«r dydd ei thebvg. Yr oedd pobl y wlad yn disgwyl yn awyddus am y newydd, ac yr oeddynt wedi ymgasglu ar benau y bryniau. Aeth nifer i fyoy i Pen yr Allt i waeddi y newydd, a dyma doedd o rywle yn nghyfeiriad Llannor o "Lloyd George am byth," yn dangos eu bod wedi clywed, ac yr oeddym vn clywed eu bloeddiadau i hysbysu I rhai eraill yn mhellach yn y wlud, yn cael ei chario tuag ato:n ar yr r\\vol. I Nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod yn y neuadd drefol i gydlawenliau yn y fuddugoliaeth. a chyfarfod rhyfedd oeid;) 'Dof'dd dim pall ar ddoniau. Wedi d'od allin, trefawyd gor- ymdaith ardderchog, yn cael ei blaeuori gan rai yn cario fflivaidorchau, a govymdeithiwyd trwy yr heolydd dan ganu. Yr oedd yn olygfa ardderchog. Yn hwyrach gollyng- wyd allan H dan gwyllt oddiar y Cob. v Disgwyliwn y bydd Mr Lloyd George yma. ddydd Sadwrn, ac yn ddiddadl cai!f dderbyniad ardderchog.

YR ETHOLIAD YN MON.

BATHLU'R FUDDUGOLIAETH YN…

G W ii AI G YN NILLAD DYN.!

OYNILDEB : Y GWIR A'R GAU.

MARW WRTH BLEIDLEISIO.

SUT I ENTLL :.iWHAIG.

LLONG AR DAN.

GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS ARI…

Advertising

EFRYDWYR AR GOLL.I

mellten-en lladd MEDDYG CYMREIG.

MELLT YN LLADD.

! LLOFRUDDIO PRlE^vEINIDOG.

Advertising

.---t PETISIWN LLANWENLL WYFO.

4- L ■ . BODDIAD V.VtWEL vDD…

Advertising

DIGWYDMAD &HYFEDD YN FFE>TINI0G.

Advertising

llofrudd helmsley.

KARW^EWN ETHOLIAD.

Y SENEDD NEWYDD,

damweiniau arswydus yn NGWRECSAM.

[No title]

Y MERCHED GARTKEF-1.

PA FODD I DREUL10 EIN" GWYLTAF

Advertising