Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

JACK Y LLONG WE j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JACK Y LLONG WE j MERI JEN. Mae llawer o wahanol fydoedd yn y wy- bren, a bydoedd gwahanol wedyn ar y ddaear. Ar y ddaear ceir y byd llysieuol, y byd anifeilaidd, a'r byd rhesymol. Rhenir y byd olaf, drachefn, i amryw fydoedd l gwahanol: byd y gweithwyr, byd y siop- wrs, byd y myrtshiants, byd y galwedig- sethau proffeswrol, a byd y byddigions. I fyd y gweithiwrs y mae Men Jen yn per- thyn, ac i adran y morwynion. Y mae byd Meri Jen gymaint ar wahan i'r bydoedd reill ag sydd bosib bron, a meddylia Meri I gymaint ohono fo ag y meddylia pobol er- eill o'u bydoedd hwytha!. Cred hi ei bod wedi cael ei gneyd i fyw yn y byd dan sylw, a'r byd wedi cael ei greu iddi hi fyw ynddo. Gosodwyd gagendor maavr rhwng ei byd hi a byd y byddigions. Fel rheol perthyn i'r Ymneillduwyr y bydd Meri Jen ond weithia' rhaid iddi fynd i'r eglwys. Ond buasai yn llawn cystal iddi fynd i wrando ar injian yn mynd wrth falu eith- in, ag ar injian ddynol yn mynd trwy lot o weddia', ar ddim daioni ysprydol neu ddealltwriaethol a dderbyniai hi. Yn ngolwg Meri Jen y mae crefydd ei meistr a'i meistres yr un peth a'r meistr a'r feis- tres, ac ufuddha iddi hi yr un fath ag yr ufuddheir i'r feistr a'r feistres. Chymer Meri Jen mo'r drafferth i wahaniaethu rhwng y naill a'r llall; ao os y digwydda hi ffraeo hefo 'i meistres bydd Meri Jen yn priodoli hyny i grefydd y feistres, a chon- demnia y feistres a'i chrefydd. Neu os ffraeo a'r meistr a 'Heir i'r un penderfyn- iad y daw Meri Jen yn ei achos yntau: yr un ydi o a'i grefydd. Ond os llwydda hi i fyw yn hapus mewn gwasanaeth am flynyddoedd daw Meri Jen i gredu yn holl athrawiaethau crefydd ei mestres a'i meistr, er na fydd hi yn eu deall nhw; o gwbl. Rhyw feddwl y bydd hi fod yn rhaid eu bod nhw yn wir oherwydd fod ei meistr a'i meistres yn eu credu nhw. Cred hefyd fod gwahanol drigfan- ac yn y nefoedd. Y mae hi yn gallu credu hyn yn well nag y gall hi gredu dim byd arall, trwy ei bod hi yn gweled orefyddwrs yn byw mewn tiymaint o wahanol drigfan- au ar y ddaear. Teimla Meri Jen yn ber- ffaith foddlawn i hyn oil. Ei barn hi ydi fod yn y nefoedd drigfana' prydferth, crand, hefo carpets a chlustoga' gwerth- fawr a heirdd, lie y bydd y bobol fawr a'r personiaid a'r gethwrs yn aros; fod yno drigfana dipyn yn salach i'r siopwrs a'r ttyrtshianta, a lie salach wedyn i'r gweith- iwrs. Trwy fod Meri Jen wedi arfer byw y rhan fwya' o'i hoes yn y gegin ac yn ymyl twll tanygrisiau, a thrwy fod ei meistr a'i meistres hi, a gweinidog ei chapal hi, wedi ymddwyn tuag ati fel at ddynes yn .byw yn ymyl twll tanygrisiau, y mae Meri Jen wedi mynd i gredu eu bod yn hollol iawn, ao fod yn y nefoedd dwll danygrisiau yn ymyl yr hwn le y gall hi aros tra y bydd ei meistr a'i meistres a'r parsoniaid a'r gethwrs yn sitting rooms a pharlyra' y nefoedd. Y mae y drefn hon yn hollol foddhaol i Meri Jen. Hyn oil a welodd hi yn y byd hwn, a chan fod y gethwr wedi deyd ar ei bregeth fod y Proffeswr Drum- mond wedi deyd fod deddf natur yn y byd ysbrydol. y mae yn rhaid fod syniada' Meri Jen yn gorect am sefyllfa petha' yn y byd ysprydol. Heblaw hyny, pan ddaw y gweinidog i edryoh am y teulu, i edrych am y teulu a wn& fo, ao nid i edryoh am dani hi, er ei bod hitha' yn aelod o'i gapal yn talu at ei gyflog o a thalu am ei set ei hun. Meri Jen y geilw fo hi. a phan ddaw 0 i'r drws i guro, a phan a Meri Jen i agor iddo, dywed o wrthi hi, "Wel Meri Jen, a ydi'ch mistar neu'ch mistras i fewn?" Pywed Meri Jen eu bod neu nad ydynt. Os y byddant i mewn, hebryngir Mr Wheit-Choler i'r parlwr gora, a dy- wed efe wrth Mr Trwmgod mor dda oedd ganddo ei weled, ac mor Hawen oedd gStn- ddo gyfarfod a Mrs Trwm-god yn edrych mor ardderchog. Wedi aros yno am oria a. chael te a swpar yno, gan achosi trafferth fawr i Meri Jen a'i rhwystro hi gael myn'd allan am y noson, a y gweinidog adra. Heb- ryngir o at y drws gan Mr a Mrs T., pa rai a ddtywedant wrtho "Gwd Neit, Mr W. Ch., brysiwch yma eto." Ystyria Meri Jen hyn yn hollol iawn, ac ymfoddlona ar ei sefyllfa. Enaid bach, isel bris oedd ganddi- hi, ddim gwerth son am dano wrth enaid Mrs T. Yr oedd enaid Mrs T. mor bwysig ac ardderchog, fel y byddai y gweinidog yn gwario oria meithion bob wsnos yn ei chwmni, pryd na fyddai yn gwario tri mynyd yn nghwmni Meri Jen, er fod Meri yn aelod mor ddichlynaidd a neb yn y capal. Ond boddlawn oedd Meri ar hyn i gyd. Rhaid fod yr hyn a 'nai y gweinidog yn ber- fiaith wwn, er y byddai Meri Jen weithia yu methu cysoni vr hyn a ddywedai Mr W. Ch. yn y pwlpud a'r hyn a wnai o allan SKidiyno. Eto parod oedd hi i gredu fod gan Dduw fwy o gariad o lawar at bobol fawr, neis, foneddigaidd, fyddai yn porthi y gweinidogion a brasder hyrddod, er yn gedael y morwynion i fyw ar 'lowans, nac at bobot gomon fel hi. Barnu byddai Meri Jen oddiwrth ymddygiad pobol fawr y grefydd a ddywedid a arweiniai i'r nefoedd. Roedd- an nhw 111> bownd o fod yn iawn, trwy eu bod wedi cael ysgoi, a Uwwy eu bod yn gyfoethog, tra nad oedd hi wedi cael addysg na ohyfoeth. Er y cwbl oil .yr oedd- gan Meri Jen rhyw deimlad yn. mhell yn ei cbalon fod Duw yn ei charu hi. Pan y methai hi gael myn'd i'r capal i'r gwasan- aeth Sabbothol, oherwydd fod y gweinidog a ffryndia erill wedi bod yn gwledda yn y ty, trwy yr hyn yr ychwanegid at waith mawr Meri Jen ar y Sul, byddai hi yn gallu myn'd I'W hystafell wely a darllen ychydig ar y Beibl a roddasai ei mam iddi h: pan yn cychwyn allan i weini. Trwy yr adgofion am y fam ag oedd erbyn hyn yn y beddj a thrwy y gair a ddarllenai Meri, deuai hi i feddu ymdeimlad dirgel fod gan- ddi hithau ran yn Nheyrnas Nef, er gwaeth- af dysgeidiaeth ymddygiadau y bobol a hon- ent eu bod yn Gristionogion. Disgwyliai hithau am amser y cai hi beidio bod yn gaethes wen yn mysg pobol a broffesent roddi rhyddid i bawb. CEISIO'R WHISCI. Qywyd fod casgeni whisci wedi dwad i'r laa heibio bodia'r Eifl. Sicrhawyd rhai o honyn nhw gan yr awdurdodau. Dywedodd rhyw un o'r ardal fod casgen braf o whisci da wedi myn'd i rhyw gilfach fan draw. Nis gellid myn'd i'r gilfach hon ond trwy ddefn- C5 jddic cwch. Cafwyd cwch a chadben arno, ac ymaith ag o dan ofal y cadben a'r criw. Ar j ffordd rhedai dwr fires, glan, o enau y giang wrth fedd-wl am y whisci oedd fan draw. Pwl awe <><(dd hi gan neyd pob prysurdeb i gyrhaedd yr hafan ddymunol. Cyrhaeddwyd y gilfach ac awd yno. Ond yr nwig beth yno cedd y cwch! Os oedd casgen whisci wedi bod yno rhaid fod Neptiwn wedi ei llyncu hi a'i chynwys. Siomedigaeth fawr i'r criw oedd hyn oil. Chafwyd ddim cymaint a thropyn i godi ysbryd y criw i fyn'd yn ol. RHYBUDD. Mae fisitors yn gwau o gwmpas fel chwain glanymor y dyddiau hyn. Talaf ymweliad a'r Creigiau Mawr cyn ymadael, a gnaf sylw o bob ty a phob drws yn y lie os caf hamdaen. Gofaled pawb fydd yn feifar bod yn y drysau, fod yno y diwrnod dan sylw. Cant eu hanfarwoli. Bydd gwobosr o gadach llawr i'r sawl fydd yn adrach ora yn y pictiwr. Petha lied ddi- ath mewn rhai lleoedd ydi cadachau llawr. Bydd gen i stoo o sebon glas at dynu baw o'r croen. Rhana' hwn hefyd rhwng y gor- euon yn yr ardal COT 0 BAENT YN EISIEU. Mae paentio prysur yn bod tuag ardal Tanyrallt, Talsarn, y dyddia hyn. C, Mae rhai o r tai-ddalwyr am y crandia. Biti garw na f'asa rhywun yn cvm'ryd trugar- edd ar y capel, i'w bolishio fo i fyny dipyn. Tydio ddim yn edrych yn dda yn nghanol cym'int o baentio. Ar y mor yma byddan ni yn paentio bob man fydd isio i baentio. Mae'n gamp i ch'i basio Ty'nyweirglodd na fydd y Biwtis yn siwr o'ch gwelad ch'i. Ond chwara' teg iddyn'hw, maen'hw wrthi hi yn ddygn iawn yn tendio pawb a phobpeth fydd yn pasio, am ddim byd ond er mwyn y tendio. Eto maen'hw ar ol Biwtis Nant- 110 gryn dipyn. CESAREA. Cwyna Robart Jones, Ty maes, fy mod yn ddiath iawn v ffordd yma yrwan. Gall hyny fod; ond tydw'i ddim wedi gallu dysgu hedag hefo'r smac eto; ac yn wir, os parha y gwds i gynyddu fel y maent wedi gneyd yn ddiweddar, 'does dim gob- aith i'r smac allu 'hedag byth. Heblaw hyny, cha'i ddim dwad i'r lan bob nos. Holais be' all'sai fod y matar fod y merch- ad yn stwffio eu dwylaw dan eu bassloda', yn cerddad i dai pobol er'ill, ac yn ym- lwybro ar hyd pena' tomeni ar y Sul? Cefais atebion i hyn oil, ond ro'i mo' hon- yn'hw yma heddyw. Mae dosbarth o I addolwyr yn India fyddan yn sefyll o fiaen yr addoldy, gan losgi rhyw stwff ac arogl- darthu felly. Ofnir fod arferiad tebyg wedi dwad i'r ardal yma. Gwelir mewn ambell le fechgyn yn ymdyru o flaen addoldy ac yn smocio sigarets yno. B'asach yn disgwyl rhywbath gwell na mwg ddwad o'i gena' nhw, ond dyna y peth gora a ddaw. Felly, rhaid ymddwyn yn wahanol tuag atyn'hw na thuag at fechgyn fydd a rhywbath mwy sylweddol na mwg yn dwad allan o'u gena' nhw. BILA YN MYFYR-DRAETHU. Mae Bila wedi cyfansoddi yr hyn a eilw fo yn fyfyr-draeth. Dyma fel y dywed: Peth hyll iawn ydi gwelad swyddogion eglwysi yn pasio eu gilydd yn ardaloedd Nantlle, ao yn pasio pobol er'ill heb ddeyd dim wrth eu gilydd. Prawf ydi hyn o can leied o grefydd ymarferol sy'n y byd. Ceir pobol yn ocheneidio ac yn ymofidio yn fawr ar y Sul, gan fynd, a'u penau yn hongian fel 'fala' oddiar frigyn coedan 'fala', M petasai hyny yn grefydd. Lol ydi peth felly. Nid peth y Sul ydi cref- ydd, ond peth pob diwmod. Cofier nas gall neb brynu crefydd1 yr un fath ag y gellir prynu swydd. Gwir y gellir cau cega' rhai eglwysi trwy ro'i yn dda at yr achos, er bod yn gwsmar da i was Shion Heiddan. Cam-ddywediad mawr ydi dweyd fod pobol y seiat yn mynd i'r daf- arn. Y gwir am dani yw, pobol y jlafarn sy' 'n mynd i'r seiat. Chewch ch'i ddim Cristion yn mynd i botio i'r dafarn. Ofnir fod disgyblaeth eglwysig wedi mynd allan o ddet yrwan. Dyna y rheswm fod gwedd mor anatdyniadol ar grefydd y dyddia' hyn: mae'r eglwysi wedi llygru. Cawn cystal pobol heb fod yn perthyn i'r eg- lwysi ag sy' 'n perthyn iddyn'hw. Arian yw prif beth yr eglwysi nid ysprydol- rwydd, nid cymeriad. NEWS I FY FFRYNDIA'. Parhau i ddyfalu y mae pobol Nantlle pwy ydw'i. Mae'r Boss yma wedi addaw ychydig o bolides i mi, ac mi rydw'i am'u spendio nhw yn rhanol o Benygroes i Nant- lle, Rhyd-ddu a Beddgelert. Disgwyliaf gael sgwrsus hefo Edward E. Edwards, W. B. Williams, 0. W. Jones, Pitar Williams, E. P. Jones W. R. Jones, D. Rees, I R. Robert Roberts, Evan Owen, W. I J. Jones, G. J. Griffiths, Richard W. I Jones, Tom S. Jones, John W. Roberts, D. W. Williams a Bob ei frawd o, a'r hen batriarch Z. Jones. Peidied neb a mynd i unrhyw draffarth hefo mi, hogia. Boy plaen ydw'i, wedi byw y rhan fwya' o fy oes ar fara calad a choffi, cig hallt a dyff. Os bydd arnoch'i, boys, isio i mi ddwad a scedan neu ddwy i ch'i, a darn o salt junk, anfonwch air per return, a deuaf a rhai i ch'i. Cofiwch frysio. JIM YN Y PORT. Mae Jim yn hoff iawn o Borthmadog, ac y mae o wedi anfon llythyr mawr yma yn deyd ei hanas. Mae gyno fo lot fawr am Stryt Wesla, a dywed betha' dyddorol am Benycei. Sonia am bobol yn cael deyd eu ffortiwn, ac am hudo i leoedd o addoliad o leoedd ereill. Drwg oedd ganddo fo welad y trad mor ddrwg: llonga' yn methu cael llwythi, a phobol yn methu cael gwaith.

Marw trd yn Slarad.

------I GWYLIAU'R HAF.

.r 0 BEN Y TWR.

[No title]

I l.IuosogrwrddjGyfreithwrrI…

——————————I Hunanladdiad Morwyn…

Tnadlys Bwrdeislol Caernarbn.

Dirwyo Percben Gwelthfa.

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

Ymweliad Due Efrog ag Awstralla.

Pwy sv'n Euog ?

IlllwDldd Gwallgof.

Ymosodiad ar Wralp yn .Aberystwyth.

[No title]

Advertising