Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

32 erthygl ar y dudalen hon

!)———————-——————— Mr Lloyd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

!) ———————-——————— Mr Lloyd George YN i NGHAERNARFON. CYFARFOD BRWDFR Y DIG. Cvnhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Dref, Caernarfon, nos Fawrth, i hyrwyddo ymgeisiaeth Mr Lloyd George. Y cadeir- ydd ydoedd Mr W. G. Thomas (cadeirydd y Bwrdd Ysgol). Ar y llwyfan yr ydoedd Mr J. Davies (Gwyneddon), Y.H.; Air J. R. Pritchard, Y.H.; Dr Parry, Y.H.; Mr R. 0. Roberts (cyfreithiwr), Mr Norman Davies, Parch Evan Jones, Parch Lloyd Morgan, Parch J. E. Hughes, Parch E. J. Jones, ac eraill. Yr oedd y cyfarfod yn un o nodwedd tra brwdfrydig ac unol, yn gymaint felly fel na chaed neb i godi ei law yn er yn Uoyd George. Diau fod yn y Sy?11^ amryw a anghytunent a Mr Llo^ eorge ar bwnc y rhyfel; ond nid un person deallus na chydnabyddai dalentau disglaer a gwasanaeth 9-erthfawr j Mr Lloyd George. Yn wir, gelhr dweyd nad oedd yn y cyfarfod un sa'a° anf Wedi i'r Cadeirydd draethu ychydig eir- iau, cynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i Mr Lloyd George am ei wasanaeth-nid i ni fel sir, i Gymni. Eiliwvd hyn gan y Parch Lloyd Morgan Pontardulais. Yr oedd yn yr araeth hon amryw ergydion tarawiadol; ac effeithiol ydoedd ei gyfeiriad at Mr Lloyd George tel un o fechgyn glewaf a godidocaf Cymru. k Ar ol hyn cafwyd araeth gan yr hen w a ur r, y Parch Evan Jones, Caernarfon,- ac un finiog i'r eithaf ydoedd. Yn mysg un o'r dywediadau mwyaf brathog a ddy- wedodd y gwr Parchedig yr oedd hwnw "Yn ngwlad cordite y ganed y ^lywo J" aeth hon- Araeth ardderchog ydoed yn cael ei thraddodi gyda grymusder cawr a fu yn ymladd brwydrau rhyddid. Tra ar (ranol araeth y pafchJ J™? ™' daetli yr ymgeisydd Rhyddfrydol-Mr Lloyd George-i mewn I'r ystefell. Ar fath ddcrbyniad a gafoddl Nid cynffon- wyr na'u cyffelyb, ond gan bersonau a wahaniaethent oddiwrtho ar bwno y rhy- fel yn y Transvaal; yr oedd y dorf yn ferw i gyd. Wedi mabwysiadu y penderfyniad o laaid ymgeisiaeth Mr Lloyd George, cod- GWRON Y NOSON ar ei draed. Mor fedrus yw. Liithra Gymraeg i Saesneg bob pum mynyd. Ao heblaw hyny y mae yn ei gawell saethau lawer. Ar ddechreu ei araeth gwadodd Mt Lloyd George yr hyn a briodolid iddo gan y \> asg Doria iddv—fod cyfathrach rhyngddo a'r° Boeriaid mewn unrhyw fodd. Wedi hyny symudodd y boneddwr i sylwi S ar areithiau neu anerchiadau yr arweinwyr Toriaidd. Ond nid oes ynddynt son am Gymru na Lloegr. Pa le v mae blwydd- dal i'r hen bob!? ir oedd y Toriaid yn cynyg .uesur i bobl adeiladu eu tai ar eu eoethu eu hunain. Dyma beth ardderch- og yn wir! Heblaw hyny. bu y Llyw- odraeth bresenol yn garedig wrth y land- lord Ln id, a dyna paham y dewiswyd J Mi- wriad x-Latt i ddyfod aUan yn » erbyn ef j(Mr Llovd George). Yr oedd ef (Mr Lloyd George)*wedi cefnogi cynygiad i roddi ao- esiiad i deuluoedd milwyr a fuont feirw yn Neheudir Affrica; ond fe wrthcdwyd hyn gan y Llywodraeth bresenol; ac eto dyma'r Llywodraeth a fyn alw ei hun yn wladgar- ol a theyrngarol. Na, yr oedd yn rhaid i'r arian gael 'eu rhoddi i dirfeddianwyr a pharsoniaid. I'r miilwyr dewr a fuont yn ymladd ar faes y gwaed, nid ydoedd yr un ddimai i fyned iddynt hwy. Yna cyfeiriodd Mr George at un Adfilwr o Gaernar- fon, o'r enw Mayland, gweddw yr hwn a archwyd i anfon yn ol "post office order," -&erwydd nas gwyddd fod ei gwr wedi nte,rw. Ac eto, dyma Lywodraeth a alwai *jt hun yn wladgarol a chenedlgarol. Ond l«wyrach mai un o'r pethau cyrhaeddgar o -eidde Mr Lloyd George ydoedd y dadleniad a wnaeth o gvsylltiad teulu Chamberlain ar ftowndri bowdwr yn Birmingham. tte an- fonwch fi yn ol," ebai Mr Lloyd George, yn eofn ac yn ddifrifol, "mi ddywedaf ychwan- «g wrth Mr Chamberlain." Yn ysfcod ei Boll araith, gellir dweyd, heb ormodiaeth, fod llygaid y dorf wedi eu ryfedu ar Mr" Lloyd t^eorge. Y fath ydoedd nerth ei areithydd- aeth fel y teyrnasai y distawrwydd mwyaf drwy y lie, fel pe y teimlid fod yr hyn a dra- ddodic] i glywedigaeth y dorf yn deilwng o yt-tyriaeth ar ol i'r cyfarfod fyned heibio. Nid oedd betrusder yn meddwl neb, ar ol gwraiido araeth orchesfcol Mr Lloyd George, na fabwysiedid pleidlais o ymddiriedaeth ynddo, yr hvn a wnaed heb un law yn erbyn, er fod y cyfarfod, cofier, yn un agored. Wedi hyn cafwyd araeth benigamp gan Parch Hirst Hollowell, yn ymdrin yn fwyaf neillduol,.ag addysg.

4; #y .. YR HEN WR LLON.

Marw trwy Frath'ad Pryf.

GOGLEDDBARTH ARFON. -

---MR LLOYD GEORGE YN KEFYN

BARN ARGLWYDD ROSEBERY.

DUC DYFNAINT YN ATEB ARGLWYDD…

'-MR BALFOUR YN ANERCH.

- IANERCH MR JOHN MORLEY.

.------------GWYLIA U']t JIAF.

- Dyfod o hyd I siptio.

THE EXCELSIOR. -

[No title]

I TRANSVAAL

[No title]

Y BOERIAID YN YMOSTWNG I BULLER.…

[No title]

RHODDI I FYNY HEB DYWALLT…

NEWYDDION CALONOGOL PELLACH.

CHINA

YR YMOSODIAD AR PEITANG.

GWYLIOTEt PORTHLADDOEDD YN…

Y LLYSGENHADWR ELLMYNIG.

Advertising

---------PA'M Y MAE YN GAS…

Dlwjdlon Cymreig.

!Bwrdd Llywodraethol Melrlonydd

Dirwyo am Weithio ar y Sol

Advertising

I.Plentyn yi Bleldlelslwr.

Advertising

--Weil Boddi.