Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

! . ETHOLIAD CyrFREDINOL,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETHOLIAD CyrFREDINOL, 1900. AT ETHOLWYR SIR FFLIXT. FONKDDiGIOX.— Ar gais Cymdeithas Rvdafrydig Sir Fflint mae genyf yr bvfrvdlwch o gynnyg fv ngwasanaeth unwaith eto am aelodasth Sen eddol. Yr ydwyf wedi cynrychioli y Sir hon am dros bedair blvnedd ar ddeg, ac wedi eistedd yn y Senedd am yn agos 'i ddeunaw mlynedd; y tair blynedd cyntaf o ba rai a dreuliais yn cynrychioli etholaeth Liverpool, cyn ei dos raniad. Yn ystod yr holl amser hwnw bu'm yn aelod gweithgar o'r Blaid Ryddfrydig, a phery fy gweithgar o'r Blaid Ryddfrydig, a phery fy ymlyniad wrth egwyddorion Rhvddfrydiaeth yn ddiysgog. Diamheu ein bod yn myned trwy gyfnod o brawf llym, ond "Melus ydyw gwersi adfyd," a phan drydd y lIanw, fel y gwna cyn bo hir, cymher ein Plaid eto mewn llaw y gwaith cydweddol o wella cyflwr cym- deithasol y bobl, trwy ddeddfwriaeth ddoeth, a thrwy weinyddiaeth heddychlawn a chynil- drefnol i orchwylion y deyrnas. Aethom drwy dymhor o bryder dibaid, a threuliau anferth yn y pum' mlynedd diwedd- af o Lywodi-aeth Doriaidd, a pha blaid bynag a ddaw i awdurdod ar ol yr Etholiad hwn a deimla ei hun dan feichiau llethol trethiadau trymion a chostau milwrol enfawr. Difudd ydyw dadleu yn awr pa un a allesid osgoi y rhyfel yn Neheudir Affrica ai peidio. Yr wyf fi yn derbyn y canlvniad fel mater ter- fynol, ac yn ymfoddloni i gysylltu a Phrydain Fawr ddwy Lywodraeth annibynol y Boeriaid. ac yn edrych ymlaen at yr amser pan y bydd ein holl diriogaethau yn Neheudir Affrica wedi eu cydgorffori yn un Cyfundeb hunan- lywodraethol, tebyg i eiddo Canada ac Awst- ralia. Yr wyf yn llawenhau wrth weled y gwlad- garweh sydd yn ffynu ymhlith ein cyd-ddinas- yddion ein Lunain, yn gystal ag ymhlith ein Trefedigaethau mawrion hunan-lywodraethol, ac yr wyf yn edrych gyda boddineb neillduol ar sefydliad hapus Gwerin-lywodraeth Awst- ralia. Nid oes genyf ddim i'w ddyweyd yn erbyn cadwraeth ddiba.11 o etifeddiaeth ogonpdduz yr Ymerodraeth Brvdeinig, ond teimlaf fod y cyfrifoldeb a gymerwn arnom ein hunain yn ofnadwy, ac yr wyf yn hollol wrthwynebol i unrhyw yehwanegiad tiriogaethol. Yn sior ddigon daeth yr amser i lefain, "Aros bellacb, atal dy law," pan y cofiom fod agos i un ran o bedair o'r byd preswyliedig wedi ei fedd- ianu genym, a'n bod yn llywodraethu dros un rhan o bedair o'i drigolion. Dymunwn gadw drws agored yn China, ao yr wyf yn wrthwynebol i ddadgorfforiad yr Ymherodraeth anferth hono, ond ar yr un, pryd teimlaf yn gryf y dylai y Galluoedd fynu ad-daliad cosbawl llawn am yr vmosod- iadau haerllug ar y Llysgenhadaeth ac am frad-lofruddiaeth anfad Cenhadon yr Efengyl, onide ni bydd bywyd Ewropeaid yn ddiogel yn China am oesau i ddyfod. Un o effeithian y rhyfel yn Neheubarth Aff- rica ydyw yr elyniaeth dost sydd wedi ei henyn yn erbyn y wlad hou, yn enwedig yn mhlith cenedloedd milwrol galluocaf Ewrop. Buom mewn perygl mawr, yn arbenig yn nechreu y flwyddyn hon, pan oedd agos yr holl fyddin reolaidd, a rhan fawr o'n cadlu- oedd cynorthwyol, wedi eu hanfon allan o'r deyrnas. Pa un bynag a garwn hyny ai peidio gorfodir ni gan bunangadwraetb i ad- drefnu amddiffynfeydd y wlad hon, ac i wneyd defnydd helaethach o'n cartrefluoedd (inilitia) a'n gwirfoddolwyr (volunteers) fel gwir gyf- ryngau ein hamddiffyn cartrefoL U. wchlaw pob peth rhaid i ni ad-ennill ewyllvs da cen- hedloedd era;ll trwy iyn^Ivniad gwyftadwrus wrth gyfiawnder, ac ymogeliad o ysbryd gwar- adwyddus gwag-ymffrost, a rhyfelgarwch Gor- phwyllog (Jingoism)—ysbryd sydd wedi teyrn- asu yn rhwysgfawr yn y blynyddau diweddaf hyn, wedi ei fagu, a'i feithrin gan adran bwysig o'r Wasg, a chan rai o'n gwleidyddwyr mwyaf cyhoeddus. Mac ar y wlad bellach eisiau cael grrpfawysiad a llonyddwch ar ol yr aberthau mawrion a wnaeth, ac ni ddylai ddina ond yr Angenrhpidr-,vydd mwyaf dybryd ei gorfodi eto i fyned allan i xyfel. Mewn perthynas i bynciau cartrefol mae fy ngolygiadau yn ddigon nysbys. Aethum i mewn i'r Senedd fel diwygiwr cymdeithasol, ac yr wyf wedi glynu wrth y rhftglen a osodnis o'm b!aen am 18 mlynedd. Fy amcan psnaf yd oedd dyrehafu sefyllfa gymdeithasol a moesol y bobl, yn enwadig y dosbarth tlotaf a mwyaf anffortunus o honynt, a pharaf i weithio ar eu rhan tra bydd genyf eisteddle yn y Senedd. Yr ydwyf befyd o blaid cydraddoldeb crefydd- ol, a Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghyxnru, ac yr wyt yn edrych gydag arswyd ar gynydd cyflym y Blaid Babyddol'sydd yn Rhufainaiddio Eglwys Loegr. Gwnaethom ymgais egniol i gyffroi y teimlad Protestanaidd yn y Wlad, ac yr wyf yn llawenhau wrth weled mudiad cryf o fewn yr Eglwys Genediaethol i ddyohwelyd yn ol at egwyddorion y Diwygiad Protestan- aidd. Gelwais sylw y Senedd dro ar ol tro at yr annhogweh o drosglwvddo rheolaeth rnwy na haner ysgolion elfc-not y deyrnas i ddwy!aw clerigwyr Eglwys Loegr, pan y mae llawpr o honynt yn defnyddio yr ysgolion hyny i sathni allan egwyddorion y Diwygiad Protestanaidd ac i Rufeineiddio neu Babeiddio meddyliau plant y wlad, y rhai uad oes ganddynt ysgol- ion eraill i fyned iddynt. Yr wyf yn vs- tyried hwn yn un o ddrygau gwaeddCa wr y dydd, nad ellir ei wella ond drwy estyniad o gyfundrefn y Bwrdd Ysgol dros yr holl wlad yn gyffredinol. Yr wyf yn gryf o blaid diwygiad yn achos sobrwydd wedi ei seilio ar adroddiad y Ueiafrif o'r Ddirprwyaeth Freiniol a dynwyd allan gan y Cadeirydd parchus, Arglwydd Peel. Yr ydwyf dros drethiad neillduol ar werth tir ardrethol, a theyrnged y mwngloddiau. Yr wyf hefyd yn bleidiol i fesur wyth awr y Mwn- wyr, a gwnaf fy ngoreu i hyrwyddo deddfwr- iaeth i sicrhau tai annedd i'r Gweithwyr. Yr wvf yn eymeradwyo egwyddor yr un dyn, un bleidlais." Dadleuaf dros estyniad llywodr- aeth leol yn Nghyrftru, ac yn mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol, fel ag i liniaru yr ymgron- iad sydd yn awr yn atalfa ar weithrectiadru y Senedd Ymerodrol. Byddaf o blaid deddfwriaeth neillduol mewn perthynas i fcmddiffyniad ffarmwyr Cymru, wedi ei seilio ar adroddiad mwyafrif y Ddir- prwyaeth rDirol i Gymru, ac yn mhob ystyr He mae sefyllfa Cymru yn Vahanol i sefyllfa Lloegr, dadleuaf dros ymdriniad gwahanol. Yr wyf yp'hollol wrthwynebol i'r wfedlyw- iaeth sydd in rhoddi dognau elusenol o arian i ddosbarthiadau ffafredig, trwy ba foddion y mae y Llywodraeth bresenol wedi ychwanegu tair miliwn o bunnau yn flvnvddol at dreul- iadau y Wladwriaeth, yr hyn sydd gyfartal i gyfalaf o dros gan miliwn o bunnau. Os tynir yn ol y rhodd a ganiateir dan Ddeddf Trethiad Amaethyddol, yr wyf o blaid iddi gael ei thalu gan y tirfedd- iannwyr, pa rai felly a gymerant eu rhan o faich y trethi gyda'r tenantiaid. Yr wyf yn wrthwynebol i roddi unhyw faich ychwanegol ar amaethwyr, pa lai ydynt wedi dioddcf yn dost am gyfnod hir o farweidd-dra amaeth- yddol. Yn ddiweddaf, yr wyf o blaid cangiad Deddf Iawn-daliad y Gweithwyr at bob dosbarth o niweidiau, gan gynwys y rhai y. mae ein mil- wyr dewr a'n morwyr yn eu diodaof yn ngwas- anaeth y Llywodraeth. Os bydd i chwi fy anrbydeddu eto a'cli ym- ddiriedaeth, gwnaf fy ngoreu i'w gadw trwy ofal neillduol am eich buddianau, ac am lwyddiant yr Ymherocraeth fawr, o'r hon yr ydym yn ddeiliaid. Ydwyf, Foneddigion, Eich ufudd Wasanaethydd, SAMUEL SMITH. c Gciurhwvliwr Ekboliadcl: — F. Liewellvn-Jones, Cyfreithiwr, Traff>->uon.

The Excelsior Tonic.

Mr Bryn Roberts yn Nihorth.…

[No title]

CvrnoJ Piatt yn Biiwllhell.

[No title]

--.-----.-. Cymanfa Ddirwestol…

[No title]

Advertising

' i . ..jETHOLIAD CYFFREDINOL,…

Advertising

DYDD I AIT, HYDREF 4, 1900.

Advertising

Cymanfa Dilrwestol Gwynedd.

Cynghor Dosbarth Ogwen.

I Bwrdd Gwarcbeidwald Caerarfon.

YR HEN WR LLON.

Advertising

-.--Mwyafrif mewn EthoIIadau.

Ymadawlad Mr Ellis Owen o…

"Llyth rau Caru."

[No title]