Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

29 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

-----. JACK Y LLONGWR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JACK Y LLONGWR DADL Y SAFONAU. Daeth tri chyfaill i edrach am dana'i ddoe", ac mi gawsen bowliad o do a bara calad a 'menyn hallt hefo Bila, Jim, a mina'. Mr Jones, Mr Hughes, a Mr Ro- berts oeJd enwau yr ymwelwyr, ac efallai fod fy narlkiiwrs yn 'u nabod nhw yn dda. Digwyddodd Bila ofyn i Mr Hughes pwy oedd yn pregethu yn ei gapal o y Sul nesa', ae i Mr Hughes ddeyd, "Mr Edwards sy' acw yn y bora, ysgol yn y prydnawn, a chyf- arfod gweddi yn y nos"; a dyma Bila yn deohrru holi yn nghylch yr Ysgol Sul. Y canlyniad fu i ddadl fawr gymeryd lie yn nghylch yr Ysgol Sul a'r Safonau. Mr Hughes Mae llai o gryn dipyn yn dwad i'r ysgol nag a fu, ac yr ydan ni yn inethu yn hollol a deal I be'di r matar. Bila: Diar mi. Biti garw. Fi: Ia'n siwr. Gofidus iawn ydi peth fel yna. Mr Hughes: Buom i yn meddwl yna fy hun fod a. wnelo'r safonau rywbeth a'r path. Mr Jones Na, choelia'i fawr. Mr Roberts: Peidiwch'i a bod mor 'siwr, Mr Jones. Meddyliwch'i dipyn uwch 'i ben o, ac efaila' y oewch ch'i oleuni arall larno. Mr Jones: Bcbol anwyl, peidiwch a dy- rysu. Fuo erioed y fath fendith i'n gwlad ni. Bedach'i 'n ddeyd, Jack? Fi: Mae yn 4mlwg fod rhywbeth yn achoe o fod yr Ysgolion Sabbothol yn myn'd i lawr yn etin gwlad. Mae hyny yn eglur iawn i bawb. Mr Hughes Gwir bob gair. Bila: A fedar un ohonoch ch'i ddangoe pryd y dechr^uodd yr aelodau golli o'r ysgol- ion? Mr Roberts: Dyna'r ffordd i ddwad at y gwir. Mr Jones Fedra'i ddim deyd. Yn ddi- weddar yma y sylwais i ar y matar. Bila Diar anwyl, mi glyw'is am dano yn Hghyfarfod yr ysgolion y dosbarth acw. Cwynid yn ddifrifol yno. Mr Jones Clywis inau am beth tebyg y ffordd acw. Ond 'doedd neb yn meiddio dweyd mai y safonau oedd yr achos o'r lleihad,—na, choelia'i fawr. Mr Hughes Wel, mi 'rydw'i wedi dal sylw fod y lleihad wedi dechreu wedi i'r safonau ddwad i mewn. Mr Jones Dim y fath beth. 'Does dim posib. Y safonau yn gwagio'r ysgolion! Hym! B'asa' cystal i ch'i ddeyd fod dyn ag isio bwyd arno yn myn'd allan o'r ty lie y gwyr o y caiff o fwyd! Fi: Mae'r cwestiwn yn un pwysig iawn. Gwyddom fod y safonau yn mhob Ysgol Sul bron yrwan. Dda gen'i mo'onyn'hw ond gan fod y mwyafrif wedi syrthio i mewn a nhw, tydw'i ddim am 'u gwrthwyne"bu. Gwn am lawer sy' yr un fath yn union a fl. Mr Roberts: Felly fina' yn hollol. Rho'is i mewn iddyn'hw acw ar y pwnc. Bila: Adwaen inau yn ardal y ohwareli acw lawar o bobol wedi troi yn erbyn y safonau. Buont yn gryfion iawn o'u tu yn y detehreu. Pethau newyddion oeddan'hw y pryd hyny. Mr Hughes: Be'di'ch barn ch'i, Jim? Jim (yr hwn oedd wrthi hi yn cnoi bacco ae yn po€!ri gymaint a fedrai) 'Dwn i ddim, tad. Fydda'i ddim yn myn'd i'r ysgol fel y byddwn i stalwm. Os colla'i Sul neu ddau neu dri, bydda'i wedi colli dilyn y lleill yn y wers; a phan a'i yno wed'yn, ni chvmerir dim Llawar o sylw ac o drafferth hefo mi. > Mr Hughes: Dyna fo yn union. Fel yna yn onion y mae pethau. Mr Jones 0, nage. Bydd yn dda gan yr ysgol welad Jim a phawb fel fo. Bila: Bydd, mid rhaid dweyd y buasai croesaw Jim a phawb ereill yn fwy diffu- antr pe heb y safonau. Mr Jones: Be' ? Maa acw groesaw i bawbi. Bila: 0, oes, yn ddiau. Mr Roberts: Yr hyn a olyga Bila ydi hym nid ydi'r ysgolorion a gollant ranau o'r ysgol yn ffitio i fewn i gyfundrefn y safonau; ac feUy gwell gan yr ysgol yr ys- golorion a. ddont yn rheolaidd, er mwyn iddyn hw basio yr ecsam-in-ashion. Mr Jones: Dim o gwbwl. Yr ydach'i yn cimgymeryd yn fawr iawn. R Mr Hughes: Wir, mae ama'i ofn mai f. rhywtm arall sy'n camgymerycf. Fi: Fy mjhrofiadi vdi byn,-fod y lleihad wedi dechrw wedi i'r safonau fod mewn gweithrediad dipyn. Mr Jones: Diar mawr, dim o'r fath beth, fy machgen i. Mae acw well gwaith yn cael ei wneyd nag erioed. Edrychwch fel bydd y plant a'r bobot ifanc yn cael eu paratoi at yr arholiadau, ac fel bydd arholwyr yn myn'd drwy vr ysgolion i'w harholi yn y safonau, ac fel bydd gweinidogion profiadol yn tynu al!an gwestiynau Fr dosbarth hynqf, ac yn beirniadul yr atebion ysgrifenedig wfdyn. Mr Roberts Mae hyny yn dda, gan bell- ed ag y mae y gyfundrefn yn myn'd. Ond dyna ei llodith hi wedi'r cwbl. Mr Jones: Be,' y safonau yn feUdith! Mr Roberts, 'styriwch eich geiriau ddyn. Mr Roberts: Gwn yr li> u a ddywedir gen i, gwn, gwn. Mr Hughes: Buaswn yn cyngliori llawar o'ch harholwyr fyn'd am flwy-dd-rn i ddysgu gramadeg Cvmraeg, sut i ysgrifenn Cyra- raeg, sut i sillebu Cymraeg. a sut i ddarlian, ac yna profi eu hunaiu trwy gynyrchu gwaith yn dangos eu bod yn gyfarwydd yn y pethau hyn oil. Bila: Buasai yn dra nuddiol cael gwell- iantau pwysig vn yr arhohryr hyn. Mr Jones: Chlvw^is i 'r.'oed y fath beth! Fi: Tebyg yw fod Mr Jones wedi llvneii v cyfimdrefn b.ej erioed ei hystyried yn ei hoH gvsylltiadau. Hyd y gwyr o, hi yw v gyfundrefn ora o ddigon. 'Dow dim dadl nad vw hi wedi g'nevd daioni. mewn un ffordd1, nrwv na'r hen drefn, ond nid oe* le i ajchen yr hvn p gredir yn arr ei bod yn gwneyd mwy o ddrwg nag a wne.:d gan yr Len drefrf. [ < Mr Hughes: Be' ddaw o'r safonau a'r cwbl j os na chawn ni y bobol ifanc a rhai byii i'r Ysgol Sul? I Bila: Y bobol sy' wedi myn'd drwy y saf- onau sy' yn cael eu colli wedyn o'r ysgol. Mr Roberts: la, a'r bobol hyny ag sy'n methu syrthio i mewn a'r safonau. Teim- lai y rhai olaf eu huna.;n fl allan o'r llanw yn yr ysgol, ac felly peidiant a myn'd yno. Bila: Peirianyddol ydi'r Ysgolion Sul yrwan, a thebyg i'r ysgol ddyddiol. Gwydd- och. y foment y gall y plant adael yr ysgol ddyddiol, ymaith a nhw. Felly yn union hefo'r Ysgol Sul. Pan a'r plant drwy y safonau, a phan y byddont wedi dwad yn bobol collir llawar o honyn 'hw o'r Ysgol Sul. Mr Jones: Nid ydw'i ddim yn meddwl mai y safonau sydd yn eu gyru nhw allan o'r ysgol. Mr Hughes: Wel, os felly y oredwoh, yr ydach yn groes eioh barn i bawb sy' yma. Mr Roberts: Dywedodd, un o honoch 'i 'rwan just mai peirianyddol ydi'r Ysgol. Digon gwir. Gormod o'r peiriant sy' yno, a rhy fychan o gariad. Fi: Nis gellir ystyried yr ysgol yn fodd- irtn i "Tvrchui ysprydofrwydd meddwl yrwan, fel y gedlid yr yr hen amser. Pasio yr arholiad ydi'r am can, nid ceisio achub eneidiau ac ysprydoli meddyliau yr aelod- au. Mr Jones: Chefais i 'rioed y fath weled- igaeth ag a gefais i lheddyw hefoch'i. Yn wir, mae rhywbeth yn yr hyn ydach'i yn ddoyd, 'bobol bach. Mi dala'i sylw mauwl i'r moatar o hyn allan, ac os ca'i welad fod pobol yn peidio dwad i'r ysgol oherwydd y safonau mi geiff y safonau ei chychwyn hi yn slap. Fi: Dyna'r ffordd i w-nthredu yn siwr, Mr Jones. Mr Hughes Cweit reit. CWYN Y GWRAGEDD. Round Llanllyfni a Nebo clywais lawar o gwyno yn mysg rhai gwragedd fod y gwyr yn dwad adra y prydnawn) yn lie arc-6 hefo'u gwaith hyd yr hwyr. Mae. y trie yma ar ran y gwyr yn difetJha, cyfleusderau' y gwragedd i gael y tel bach hwnw sydd mor felus gynyn 'hw. Mae'r gwragedd hyn yn benderfynol, meddan 'hw, os na. fydd i fosses y ohwareli lwyddo i gadw'r gwyr yn y chwareli hyd yr hwyr, o anfon at y Sgwl Bord i ofyn a 'nan 'hw hel y gwyr i'r ysgol! Yr ydw'i wedi cael gair yn gofyn i mi ddwad yn bwrpasol i godi list o'r gwyr sy I mor gas a dwad adra yn y prydnawnia' i ddifetha te bach y gwragedd. GWYLWYR YR EFAIL. I LI6 handi sy' mewn gefail hwng Rhydbach ac Ynys Enlli, i washiad pobol yn pasio. Wrth gwrs, bydd boss yr efail yno. Gwelir hefyd fab coachman, rhai o bobl ffatri, &c. Mae un yn dipyn o fardd a cherddor, ac un arall yn debyg iawn i fyrtshiant a fydd yn gwerthu burum sych. Ceir pob news gyno fo. Yn wir, mae o fel papur newydd. Gall un reidio beisicl yn de- byg iawn i'r dyn wetir yn Shou Baraman a Beili. Gwisga drowsus pen glin, a rhwng godra ei wallt yn y fFront a chorn ei wddw y mae gwynab fel lleuad lawn. Lie campus am stori svn 'Refail. Dvma i ch'i un a ddaeth oddiyno yn ddiweddar: GINGER BREAD A R FUN. Byddai carmon 11 arfer mynd i gyfarfod ran H- J- i gyfeiriad M-- Poeth, er mwyn prynu Ginger Bread i'w galon siwgwr. Yn ddiweddar aeth at y van ar y neges bon, ond yn anffortunus 'doedd dim Ginger Bread yn y van y tro hwnw: Gwyddai y carmon na chai o ddim llawar o grceso gan ei fun os na fyddai gyno fo Ginger Bread iddi hi, ac felly gadawyd noson wag y noson hono. Ohafodd y lodes ddim na Ginger Bread na dim arall gyno fo y noson dan sylw. Gan fod v fun yn disgwyl am dano fo fel arferol, a clian na ddaethai o yn ol yr addewid, a chan na ddaru o ddim teligrafftio na dim, aeth y lodes at yr Efail i chwilio am lano, fo. Cafodd hyd iddo yno. Galwodd arno o'r neilldu, a gCfynodd am sponiad ar ei ym- ddygiad. Fel bachgen gonest, dyma fo yn deyd nad oedd gan H- o ddim Ginger Bread. "Clyw," eb hi, "dyna gloch H- J- yn canu yrwan." Awd ar ol y swn canu, a beth oedd yno ond rhyw beici yn canu ei gloch! Pan'ymadawodd y fun dlos a'r lie dyma sgwra fawr am yr eisteddfod a phethau cy- sylitioll a hyny.. "Petasai pobol Steddfod Genedlaethol Lerpwl yn gw'bod am dana'i," meddai un, "ac liefyd yn 'nabod fy mrawd, 'rwy'n siwr na f'asan' hw byth wedi cvm'ryd Saeson fel beirniaid cerddorol." "Digon gwir," ebai un ohonynt, "a buasai y wobor am wlanan gartra wedi dwad i Leyn, oni buasai am yr hen Saeson yna sy'n llvwodr- aethu yn mhob 'steddfod. Wyddost ti be', Wil, 'does dim byd tebyg i drowsus pen glin at reidio beic; ac yr ydw'i am gael patant ar ddull newydd i ferchad reidio beics." Cofiad un o'r bechgyn i beidio myn'd i'r efail i garu heb yn gyntaf gau y drws, rhag ofn y bydd un o griw y smac yma yn mynd heibio. «

Damwaln yn Creve.

RHAGOCIiEUADAU YR HYDREF.

T Llofrndd Rhafelnlg. "

"Y Gentnen" am Hydref.

Advertising

:Ynadlys Pwllheli.

..0"'".,'GEIRIAU WEBI EtJ…

Geiriau gan Gymraes.

¡Geiriau Geneth o Gymraes.

Due a Duces York yn Mynwy…

Ymladd yn y Phllllpines.

Dosbarth Demi Man ae irfon.

"Kruger fel B!aenor Methodist."

FFAITH GWERTH EI GWYBOD.

- Damwaln i Weithiwr.

T Colledion yo y Rhvfel yn.…

Gogledd Cymru a'r Pla.

Marwolaeth Ddrwgdybns ,UillivnTdd.

[No title]

[No title]

Geiriau gan Fam o Gymraes.

[No title]

Sipido, yr Anarchlad.

[No title]

, Terfvsg yn Roumania.

Gwallgotsy Gogledd ClmrO.

OLD FALSW TEETH BOUGHT.