Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ANOGAETHAU AH DDECHREU I BLWYDDYN.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ANOGAETHAU AH DDECHREU BLWYDDYN. Mae dechreu blwyddyn yn dod a chyfleus- dra newydd i ni ddiwygio a myned rhagom mewn gwahanol gyfeiriadau. A chan nad oes neb o blant dynion islaw i roddi anogaeth, na neb ar y Haw arall uwchlaw i dderbyn y cyf- ryw, ar yr ystyriaethau yna cyflwynwn yr an- ogaethau a ganlyn. Yn (a) At wrandawyr yr Efengyl.-Cawn fod y dosbarth yma yn byw i wrando, yn hyt- rach na gwrando i fyw a gweithredu-gwrando yn ol cyfarwyddyd y gwirionedd, Fel byddo byw yr enaid." Gelwir y dosbarth yma yn wrandawyr y Gair." Gwrando heb wneuthur, ac nid gwneuthur ar ol gwrando, i gael eu rhestru yn mhlith gwneuthnrwyr y Gair. Ym- ddengys fod y dosbarth yma yn lluosog. Ceir gweled rhan helaeth o bob cynulleidfa gref- yddol yn myned allan ar nos Suliau. Mae llawer o honynt yn wrandawyr astud, ac wedi arfer gwrando llawer ar drefn y cadw—gwrando heb glywed-gwrando ar y cenhadon heb glywed y genadwri-gwrando ar y gweision heb glywed y Meistr. Mae lie i ofni y bydd clust ami i un wedi troi yn dafod i'w gon- demnio ddydd y cyfrif. Maent yn troi yn fyddariaid i beidio clywed tra yn parhau i wrando-Ilawer yn gwrando, ond ychydig yn clywed. Mae bod yn y cyflwr yma yn golygu colledigaetli-colli ein hunain. Mae llawer yn colli yr hyn sydd y tu allan iddynt, ond mae bod y tu allan i Grist yn golygu colli yr hyn sydd tumewn, sef yr enaid, yr hwn sydd yn fwy ei werth na'r byd i gyd. Dyma gyfle newydd i derfynu bod yn wrandawyr, a dech- reu bod yn wneuthurwyr, ar ddechreu y flwyddyn newydd hon. Yn (b) Gwrthgilwyr.—Mae llawer iawn yn y dosbarth yma, rhai wedi troi eu cefnau ar dy eu Tad, a rhoddi anair i'r wlad dda. Ceir llawer yn gwrthgilio am eu bod yn teimlo eu hunain yn rhy bwysig i fod yn aelodau mewn eglwysi bychain. Ereill yn teimlo nad ydynt yn ddigon pwysig, eu bod yn cael eu han- wybyddu yn ormodol, i fod yn aelodau mewn eglwysi mawrion. Ereill yn hoffi arferion y wlad bell, yn well na gwleddoedd Seion. Gymaint maent yn ei gudclio o'u talentau gwerthfawr. Dinystrio eu defnyddioldeb wrth fyw iddynt eu hunain, ac yn robio Duw o'i eiddo gwerthfawr. Beth ydyw gwrthgil- iwr ? dim amgen na dyn yn lladrata ei hunan oddiar Dduw. Cawn fod rhai o honynt wedi bod yn ddefnyddiol mewn gwahanol gylch- oedd yn eglwys Dduw, ond erbyn hyn wedi gwerthu eu defnyddioldeb er mwyn prynu pleserau gwag a darfodedig. Mae'n well bod yn elyn heb fod yn ddisgybl, na disgybl wedi troi yn elyn. Cawn fod un Judas wedi gwneyd mwy o niwaid i Grist, na llawer o'r gelynion gyda'u gilydd. Gresynus yw medd- wl fod lie pob gwrthgiliwr yn wag, ei brofiad yn oer a llwm, ei ddylanwad gartref yn an- effeithiol, a'i ddyfodol yn dywyll HC anobeith- iol. Gwaith bychan ydyw troi y wyneb i'r IIV mae'r cefn. Dymunol ydyw cad marw a'n gwyneb at Ganaan, a'n cefnau ar y wlad bell. Hyn ydyw fy nymuniad, gan d ymuno— Blwyddyn newydd dda i chwi oil. SVI.WEDYDD.

EISTEDDFOD MEIRION.

[No title]

Advertising