Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO LET. AR RAN HOUSE, Gwyddelwern, consisting JjL of 5 Rooms, flower and kitchen garden. Rent, moderate. Apply, Mr. Williams, Post Office, Gwyddelwern.
Advertising
YN EISIEU. BACHGEN cryf fel egwyddorwas o Of. 1) Danf 'ner at Edwards. Berwyn Works, Corwen.
NODIADAU CYFFREDINOIi.
NODIADAU CYFFREDINOIi. —DYWEDAI y Parch. H Price Hughes am Arddangosiad yr Eglwysi Rhyddion a gynal iwyd yn y City Temple, Llundain, yn y mis diweddaf, ei fod y cyfarfod mwyaf mawredd- og gynaliwyd yn Ewrop yn ystod y tair can- rif diweddaf." Cynrychiolai y cynulliad ar- dderchog, 1,841,767 o aelodau eglwysig; 7,000,000 o ymlynwyr; 3,170,193 o blant Ysgolion Sul, a ^50,000,000 mewn eiddo. -UN o'r dynion mwyaf diwyd, a chyfranwr haelfrydig at bob achos da ydyw Mr. W. P Hartley, U.H., Aintree, Lerpwl, yn ngweithfa pa un y cynyrchir 100 tunell o jam yn ddydd- iol yn nhymor y ffrwythydd. Ar adeg brysur, bydd Mr. Hartley yn bresenol yn y gwaith o 6 o'r gloch y boreu hyd 9 o'r gloch yn yr hwyr. —YN y London Gazette," yr wythnos ddi- weddaf, gwnaed yn hysbys ganolbris yr yd am y saith mlynedd hyd Nadollg 1898. Mae y ffigyrau fel y canlyn—Gwenith 3s.5ic.; haidd 3s.o^c., a ceirch 2s.i^c. y bwsiel. Gwerth pob Zoo o ddegwm yn y flwyddyn 1899 fydd jQ68 2S. 4%'C. Yr oedd gwerth £ 100 o ddegwm yn ystod y saith mlynedd diwedd- affel y canlyn-yn yflwy. 1892-^75 18s. 3ic. 1893-£74 155. z!; 1894—^74 3s. 9^c. j *895—^73 °^c' '> 1B96— £ 71 9s. 6^c 1897—^69 17s. ii^c. ac 1898—^68 145 lie. Cyfartaledd gwerth ,(-ioo o ddegwm am 63 mlynedd o 1836 hyd 1899 ydoedd ^97 os. 724°- Gwelir fod iselder prisiau yr yd, yr hyn sydd yn fantais i'r bwytawr, yn golled o yn agos i un ran o dair yn nghyllid blynyddol yr offeiriad a'r degwm dderbynwyr. —DYDDOROL dros ben ydoedd y crynodeb darluniedig gyhoeddwyd yr wythnos ddiwedd- af gyda'r Oswestry Advertizer' er dathlu haner can mlwyddiant y papyr hwnw. Heb- law haner cant o ddarluniau ardderchog, ceir yn y llyfr, gofnodiad gwertfrfawr o brif ddig- wyddiadau y rhan hon o'r wlad yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf. -MEWN ystyr arianol, troi allan yn llwydd- ianus wnaeth Arddangosfa Amaethyddol Meirionydd gynaliwyd yn Nhowyn y llynedd. Yr oedd y gweddill yn ^99 4s, tra nad oedd gweddill yr Arddangosfa gynaliwyd yn y Bala y flwyddyn cynt ond £ 28 14s. Diameu na fuasai y Gymdeithas yr hyn ydyw, onibai am ymroddiad egniol yr Ysgrifenydd llafurus, Mr. E. M. Roberts, Y.H., Talsarnau. Y CWESTIWN pwysig cyntaf ger bron y wlad y dyddiau hyn ydyw, pwy fydd olynydd Syr William Harcourt fel arweinydd i'r blaid Ryddfrydol yn y Senedd ? a,r cwestiwn pwysig arall ydyw, beth fydd nodwedd gwleidydd- iaeth y Rhyddfrydwyr yn jy dyfodol ? Fel y ceirjjcipolwg ar wahanol amgylchiadau fu yo foddion i Syr William Harcourt roddi ei swydd i fyny, mae'n amlwg fod cydymdeim- lad y wlad yn fawr ag ef, ac y mae ei gymer- lad, ei ymroddiad, a'i waith mawr yn ystod yr amser a basiodd yn cael ei ddeall yn well a'i werthfawrogi fwy-fwy bob dydd. Diau pe'r ail-gymerai Harcourt yr awenau yn ei law, y cawsai gyfangorph Rhyddfrydwyr y wlad o'i blald. Ychydig iawn o uchelgais sydd yn y wlad am y swydd, a llai fyth yw nifer y rhai cymwys, llu o'r dynion mwyaf gwybodus yn helyntion y wladwriaeth, a'r mwyaf aeddfed ydyw Mr. T. P. O'Connor. Y nesaf mewn eymhwysder i Harcourt, yn ol barn T. P. yd- yw Mr. Campell-Bannerman,-gwnai arwein- ydd di-ail pe cymerai y swydd. Medda gyf- oeth mawr, a gall fforddio gwario a byw fel y myn. Yn anffodus, y mae ei iechyd yn mhell o fod yn foddhaol, ac mewn canlyniad, hoffa fyd gweddol dawel, yn hytrach na gosod ei hun dan gyfrifoldeb mawr, oriau meithion a phryder parhaus. Yn nesaf ato ef daw Mr. Asquith-gwnai yntau arweinydd campus. Nis gellir ei ystyried yn ddyn cyfoethog, ac y mae ganddo deulu mawr i'w cynal. Prin y y I gellid disgwyl iddo roddi i fyny alwedigaeth gwerth o bedair i bum mil o bunau yn y flwyddyn er mwyn y gwaith di-dal o fod yn arweinydd yn Nhy y Cyffredin. Am Mr. J. Morley, yr oedd yn ddyn wrth fodd Mr Glad- stone, ac y mae yn gefnogwr aiddgar i Syr Harcourt. Trwy ei fod wedi ymgymeryd a'r gorchwyl mawr o ysgrifenu cofiant i Mr Glad- stone, y mae allan o'r cwestiwn iddo ef ar hyn o bryd, gymeryd yr arweinyddiaeth. Enwir Syr Henry Fowler, ond ei fai mwyaf ef ydyw, ei fod yn Ymneillduwr rhy selog. Yr oedd golwg Mr. Gladstone ar Syr Ed. Grey, ond nid yw ef eto wedi enill digon o brofiad gwladwriaethol i hawlio ymddiriedaeth gyff- redinol ei blaid. Ar hyn o bryd, mae y blaid Ryddfrydol mewn mwy o benbleth nag y bu er's llawer o flynyddoedd, ac mae'n bosibl y bydd raid gwynebu y pwnc dyrus o bender- fynu polisi gwleidyddiaeth Ryddfrydol y dyf- ydol cyn y gellir penderfynu ar arweinydd. -Miss ANNA ROWLANDS, B.A., o Brifysgol Aberystwyth, merch y Parch. D. Rowlands, M.A., Prifathraw Coleg Normalaidd, Bangor, a ddewiswyd gan Gyngor Llywodraethol Sir Ddinbych, yn Br!fathrawes i Ysgol Sirol y Merched, a agorir yn Ruthin yn Ebrili nesaf. —MR. JOHN ROBERTS, prif glerc y diweddar Mr. Llewelyn Adams, Ruthin, a ddewiswyd ddydd Gwener i fod yn Glerc yr Heddwch a chlerc i Gyngor Sirol Dinbych, hyd nes yr awpwyntir ohnydd i Mr. Adams i'r swyddi hyn. YR wythnos ddiweddaf cafwyd hen wr o Ddinbych wedi marw yn ffos y clawdd. Ym- ddengys fod yr hen greadur wedi penderfynu myn'd i gardota i Bodfari, er ceisio ganddo beidio myn'd ar ddiwnod mor ystormus, ac wrth geisio myn'd dros wrych, iddo syrthio i'r ffos, a'i fod yn rhy fethedig ac oer i allu symud o'r lie y syrthiodd. —MEWN adolygiad ar farchnad gig y flwyddyn 1898, ys^rifenai Mr. John Jones, Llandudno, i gyfoesolyn, mai camgymeriad mawr ydoedd parotoi anifeiliaid rhy fawr a bras i'w lladd. Y gwartheg goreu i'r cigydd ydyw y rhai lleiaf ellir gael, a chaniatau eu bod yn meddu y tew- der gofynol o gig brith maethlon-rhai yn pwyso o 600 i 700 pwys dalant oreu am eu pesgi. —Y MAE Mr. R. Griffith, Corwen, wedi cael ei benodi gan Gymdeithas Genadol Llundaln i fyned i lafurio i Madagascar. —CYHOEDDWYD yn y papurau Seisnig fod iechyd Mr. T. E. Ellis, A.S. yn mhell o fod yn foddhaol. a bod yn debyg na ddychwel efe i'r Senedd am wythnosau, ar ol agoriad y Ty. Ymwelodd ein gohebydd a Chynlas, a hysbyswyd ef gan y teutu ei fnd yn llawer gwell ar ol y fordaith. Ni chlywyd dim oddi- wrtho ar ol hyny.
j Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd.
Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd. Llywyddion-Parch. E. Edwards, Cwmtirmynach, a Dr. Hughes, Bala. Cynhaliwyd ef yn y Bala yr wythnos hon. Nos Lun cynhaliwyd y Pwyllgor Arianol, Pwyllgor yr Ysgol Sul, a Pwyllgor y Cymanfaoedd Canu. Dydd Mawrth caed eisteddiadau am 9-40, 10-2 a 5, ac aed trwy raglen faith a dyddorol. Wele grynhodeb o'r gweithrediadau. Wedi darllen a chadarnhau y cofnodion, cafwyd ym- driniaeth ar y priodoldeb o gael cylchgrawn cenhadol i'r cyfundeb—teimlid y dylid rhoddi mwy o sylw i len- yddiaeth genhadol, a phenderfynwyd anfon anogaeth i'r pwyllgor cenhadol iddynt gyhoeddi yn achlysurol draethodyn sylweddol yn ymwneud a'r gwaith,ynghyd a rhoddi mwy o sylw i'r gwaith yn y ddwy Drysorfa.— Darllenwyd llythyr yn cydnabod cydymdeimlad y Cyf- arfod Misol.—Hysbyswyd o Lansantffraid fod yr eg- lwys yn unfrydol yn ^alw y Parch. E. Edwards,Cwm- tirmynach, i'w bugeilio, a chadainhawyd yr alwad.— Ar ol derbyn y gwahanol gasgliadau, pa rai oedd yn swm sylweddol, casglwyd tafleni yrystadegau ynghyd a'r papyrau ordeinio, a chafwyd fod yr eglwysi yn un- frydol yn galw am i'r Parch. J. O. Jones, Ysbytty, gael ei ordeinio. Cafwyd ymdriniaeth fuddiol ac amserol ar Berth- ynas y Gweinidog a'r Blaenoriaid, yr hwn a agorwyd gan y Parch. W. Williams, Glyndyfrdwy, a Mr. H. Hughes, Penrhewl (yn absenoldeb O. Lloyd, Ysw., Corwen).— Hysbyswyd fod y Cyfarfod Misol nesaf i fod yn Llandrillo, Mawrth 9, IO.-Penodwyd y Parch. I.J. Williams i ysgrifenu anerchiad o flaen yr Ystad- egau. a'r Parch. William Williams a T. Ellis, Cynlas, i wneuthnr sylwadau arnynt.-DarllenA,yd trefn a materion yr ymweliad Eglwysig, ynghyda gwaith y cyfarfodydd dosbarth.—Darllenwyd papyr cynwysfawr gan y Parch. Isaac Davies, Glynceiriog ar Y perygl o wneuthur yn hyf gyda phethdu cysegredig," a chaf- wyd sylwadau ardderchog gan amryw frodyr.—Teim- lid fod hwn yn fatel gwir amserol, ac mewn canlyniad tynwyd allan benderfyniad i'w anfon i'r holl eglwysi i alw sylw at y pwysigrwydd o wrthsefyll y duedd sydd yn yr oes i fyned yn hyf gyda phethau cysegredig.— Cafwyd adroddiad siriol a chefnogol, am yr achos yn Bala a Llanfor, yr hwn a ddangosai fod mawr ofal yn cael ei deimlo gyda golwg arno, a bendith yrArglwydd yn amlwg yn gorphwys ar ymdrechion y ddwy eglwys. Cyflwynwyd cenadwriaethau o Gymdeithasfa Festin- iog gan y Parch. E. Edwards, Cwm, a Mr. J. Ll. Owen, Bala, a chaed sylw arnynt.—Hysbyswyd o Llandderfel eu bod wedi cael yr arian arferol eleni eto yn ol ewyllvs y diweddar Barch. Robert Edwards.— Cadarnhawyd enwau ymddiriedolwyr ar eiddo yn Ys- bytty a chaniatawyd i eglwys Glyndyfrdwy gael y Weithred allan o'r Safe.—Penodwyd y Parch J. Howell Hughes, a Dr. Hughes, i fyned i Gefnddwy- sarn i gynorthwyo yr eglwys yn y dewisiad o flaenor- iaid: a'r Parch. H. E. Griffith, M.A., a Mr. W. E. Jones, Bank, i fyned i Llwyneinion, Rhosygwalia, Cefnddwygraig a'r Glyn, i'w cynorthwyo yn y dewis- iad o Fugail ar y pedair Eglwys.—Caniatawyd cais Llidiardau i gael adgyweirio eu capel, datganwyd llawenydd fod yr eglwys yn symud yn y cyfeiriad hwn a gofynwyd iddynt ddod a'u cynllun i'w gyfhvyno i'r Cyfarfod Alisol nesaf,—Hysbyswyd gan y cenhadon fu yn Cwmtirmynach fod yr achos yno wedi ei bender- fynu i foddlonrwvdd pawb. Cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Arianol, yr hwn gynwysai ganiatad er cymhorth arferol i eglwysi y Glyn a Rhosygwalia, ynghyda ^"4 yr un i'r myfyrvvyr sydd yn y Colegau cenhedlaethol, sef y Mri. E. Evans, J. Hughes, ac R. Davies. £3 yr un i'r rhai sydd yn y Coleg Duwinyddol, sef, Mri. Owen Evans, E. G. Jones. J. T. jones, B.A., i gael lOS., ynghyda chym- unroddy diweddar Barch. Robert Edwaras, sef 2 10s. —Dewiswyd nifer o gynrychiolwyr i'r Gymnnfa a'r Cymdeithasfaoedd, a phenodwyd Mr. R. T. Viiu^han vn archwiliwr cyfrifon y Cyfarfod Afisol. i'r Paich. 1. j. Wiliiams yn ysgrifenvcl" y Diysorfa Fenihvciol.— Cafwyd adroddiad o weithrediadau Pwyllgor yr Ysgol Sabbathol, yr hwn. yn mhlith pethau eradl, a gynyg- iai fod yr Arholwyr yn y gwahanol Ddoshar'hiadau 1 fod yn aelodau o'r Pwyllgor."—gohiriwyd pender- fyniad arno hyd Gyfarlod Misol Mawrth.— Dai llenodd cynullydd Pwyllgor y Cymanfaoedd Canu restr o awgrymiadau y Pwyllgor, y rhai a drosglwyddwyd i ystyriaeth cyfarfod dosbarth Chwefror, yr un mo,id y genadwri ? ddosbarth Penllyn, ac awgrymiadau y Pwyllgor Dirwestol, y rhai y bu sylw arnynt mewn cyfarfodydd misol blaenorol.—Danfonwyd cofion a phleidlais o gydymdeimlad at y Prifathraw Edwards, a llawen oedd gan y frawdoliaeth ddeall ei fod yn gwella.—Pasiwyd i anfon ein cydymdeimlad dyfnaf a Mr. K. Hughes (Cwm), yn ei brofedigaeth chwerw o golli ei anwyl briod. Neithiwr, pregethwyd gan y Parchn. S. T. Jones, Rhyl, a Griffith Ellis, M.A., Bootle. Hore heddyw am 8-30, gynhaliwyd y 'seiat, pryd y cdfwyd ymdraf- odaeth ar y mater penodedig.—" Lie y gair yn addys- giaeth y dyfnhad crefydd," seiliedig ar loan vi. 63. Pregethir heddyw gan y Parchn.J. Lewis Rhydlyd- an, J. M. Lewis, CerrigydruidioR, S. T. Jones, a G. Ellis, M. A.