Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO LET. ARRAN HOUSE, Gwyddelwern, consisting jU- of 5 Rooms, flower and kitchen garden. Rent, moderate. App'y, Mr. Williams, Post Office, Gwyddelwern.
Advertising
YN EISIEU. BACHGEN cryf fel egwyddorwas o Of Danf >ner at Edwards, Berwyn Works Corwen.
NODIADAU CYFFREDINOL. --
NODIADAU CYFFREDINOL. —MAE y Bwrdd Masnach wedi rhoddi can- iatad swyddogol i wneud rheilffordd ysgafn o Borthywaen (Sir Amwythig), i Langynog. -GOFYNIR yn ami beth sydd wedi dyfod o'r cynygiad i wneud rheilffordd ysgafn o Gorwen i Bettwsycoed. Pwy atteba ? —Y LLONG fwyaf yn y byd ydyw yr Oceanic,' yr hon a adeiladwyd gan y Mri. Harland a Wolff, Belfast, at wasanaeth llinell y White Star. Yr oedd dros ddeg mil ar hugain o bobl yn bresenol boreu Sadwrn diweddaf yn edrych ami yn cael ei gollwng i'r rnor, ac aed trwy yr oruchwyliaeth yn hollol iwyddianus. Yr oedd y Great Eastern yn llestr anferth o faintioli, ond mor anhwylus ag ydoedd o fawr, ac anffodus fu ei hanes o'r dechreu i'r diwedd. Mae yr Oceanic' yn fwy bob ffordd na'r Great Eastern,' ac ar yr un pryd, yn debyg o fod yn un gyflym a hawdd ei rheoli. Bu 5,000 o bobl gyda'r gwaith o'i hadeiladu, un haner yn gweithio y dydd, a'r :haner arall y nos. Ei defnyddiau a bwysent 30.000 o dunelli. Ei hyd ydyw 704 o droedfeddi; lled, 68 o droedfeddi; a dyfnder, 49t o droed- feddi. Nerth peirianol y Great Eastern ydoedd cyfartal i 2,600 o geffylau, ond y mde nerth peirianol yr Oceanic, yn gymnint ag eiddo 45,000 o geffylau. Gellir ciudo ami 410 o deithwyr o'r dosbarth blaenaf 300 o'r ail ddosbarth, ynghyda 1,000 o'r trydydd ddosbarth. Pan y gorphenir ei dodrefn-i, bydd y llong anferth ac ardderchog hon yn werth miliwn o bunau. —CREDIR erbyn hyn yn lled gyffredin mai Syr H. Campbell Bannerman a ddewisir yn arweinydd I'r blaid Ryddfrydol yn Nhy y Cyflredin, ac os cymera y swydd, y mae Mr. Asquith yn barod i roddi iddo bob cynorth- wy a chyfarwyddyd. Tipyn gormod o aberth fuasai disgwyl i Mr. Asquith roddi i fyny ei alwedigaeth enillfawr ar hyn o bryd, ond tipyn pellach yn mlaen, mae'n debyg y dyrch- efir Syr H. Campbell-Bannerman i Dy'r Ar- glwyddi, ac y cymerir yr arweinyddiaeth gan Mr. Asquith. -YN ei araeth amserol yn Bradford, yr wythnos ddiweddaf, beirniadodd Syr John Gorst yn lied lym, ein dull presenol o gyf- ranu addysg yn ein hysgolion elfenol. Ei gwyn penaf ydoedd, na roddir y lie priodol i ofynion lleol mewn addysg,—fod yn rhaid i: bob rhan o'r wlad, fel eu gilydd, syrthio i mewn i gynllun unffurf wedi ei dynu allan yn Llundain. Yr un r' code" sydd ar gyfer plant y trefi a phlant y wlad, ac un o ddiffyg- ion yr ysgolion nos ydyw na chyfrenir addysg drwyadl ynddynt yn y cangenau fydd o fwyaf o les i'r plant yn eu galwedigaethau ar ol gad- ael yr ysgol. Prin y gellir dweyd fod y twaith a gyflawnir gan y Byrddau Ysgol mewn awer o ardaloedd yn cyfiawnhau eu bodol- aeth, am y rheswm na fedd yr aelodau ragor o gymwysderau na'u bod yn cynrychioli rhyw enwad neu gilydd. Swm a sylwedd syniad ami un o'i ddyledswyddau fel aelod o Fwrdd Ysgol ydyw arbed y dreth a chadw yr athraw- en yn ddiddig ar y cyflog isaf sydd bosibl. Un o anghenion mawr Cymru ynglyn ag add- ysg y dyddiau hyn ydyw llawer mwy o gyd- ymdeimlad a'r gwaith yn y Byrddau Ysgol, a sefydliad awdurdodau canolog i drefnu addysg rhanau o'r wlad yn ol eu gofynion. .oj;II
MARWOLAETH Y PARCH. OWEN.…
MARWOLAETH Y PARCH. OWEN JONES, B.A., GYNT 0 LERPWL. Cymerodd marwolaeth y Parch. Owen Jones, B.A., Llansantffraid, ger Croesoswalit, le nawn Gwener, yn ei breswylfod, yn Llan- santffraid. Yr oedd o 65 i 68 mlwydd oed, ac yn un enwog ac adnabyddus iawn fel ysgolor, lenor, a gweinidog gyda'r M. C. Cafodd ymosodiad o'r parlys yn gynar y flwy- ddyn ddiweddaf, ac ni ymadferodd. Brodor o Llidiardau, ger y Bala, oedd Mr. Jones, a dechreuodd bregethu yn cymharol ieuanc. Aeth trwy ei gwrs addysgol yn y Bala. gyda llwydd mawr, a meddylid rai gweithiau v buosai yn cysegru ei alluoedd disglaer fel athraw, ond ar ddechreuad symudiad y fug- eiliaeth, cafodd alwad unol i fugeilio eglwysi Bethesda a'r T-ibernael, Ffestiniog, a bu yno, ni dybiwn, am ryw bedair blynedd, yn hynod gymeradwy » liwyddianus. Aeth oddiyno i fugeilio eulwys Chatham street, Lerpwl, fel olynydd i'r enwog Henry Rees, ac yno y treuliodd doraeth ei oes fel gweinidog Er's rhai blynyddoedd yr oedd wedi ymneillduo i Faldwyn, i ardal brodorol ei wraig, ac yn parhau i bregethu, ac yn arbenig i efrydu mewn amrywanveddion Caffai hynafiaethau Cym- reig lawer o sylw, a cholled yw na chawsai fyw i roddi cyhoeddusrwydd i ffrwyth ei lafur y blynyddoedd diweddaf, ac yn wir ar hyd ei oes. Gwyr ein darllenwyr mai efe gyhoedd- odd gofiantau dyddorol Dafydd Roland a Robert Thomas." Ysgrifenodd lawer i'r cyfoesolion a'r newyddiaduron Cymreig, a llanwodd gadair y Gymdeithasfa Chwarterol a'r Gymanfa Gyffredinol gydag urddas. Yr oedd hefyd yn bregethwr sylweddol iawn, ac yn foneddwr yn ystyr fanylaf y gair.
BALA.
BALA. Gwledd.-Nos Iau diweddaf, mwynhaodd aelodau Cymdeithas Ymdrech Gristionogol yr Annibynwyr, de a chacenau blasus, parat- oedig gan amryw foneddigesau ieuainc. Yr cedd yr holl drefniadau dan arolygiaeth y Misses M. K. Evans, Ellen Jones, a L. J. Dakin, a gwnaethant eu rhan yn ganmoladwy. Ar ol y te, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth ddoeth a medrus y Meddyg Williams, Tawelfan. Wedi ychydig eiriau ar yfed gormod o de, canwyd gan Misses Maggie Jones a Miss Evans Cafwyd gystadleuaeth au mewn ateb gofyniadau, dbrllen darn heb atalnodau, &c. Am araeth ddifyfyr ar Wynt,' rhoddwyd gwobr hardd i J. W. Rowlands, ac am ddarllen darn heb atalnodau, Miss A. Williams a finau yn gyfartai—gwobr gostus eto. Wrth ateb gofyniadau, clywais un yn dweyd fod Dolgellau a Trau-sfynydd yn mhum plwy Penliyn Hwyrach fxi daeargryn weiii bod, a phethau wedi cyfnewid. Gwnaf ym- holiadau os na chlywyd hi y 1 y Bala. Ivor Evans oedd y goreu am ateb y gofyniadau, a chafodd wobr dda am ei boeti. Yn ol ei haelioni a'i garedigrwydd arferol, rhoddodd y Cadeirydd ddwy wobr i'r ddau oreu am ganu ton ar y pryd, sef 5s. i Miss Dakin, a 2s.6c. i Mr. T. E. Williams (egwyddorwas Mr. D. E. Jones, Draper). Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. T. R. Dakin, a chafwyd anerchiadau gan Mri. J. Parry, T. T. Phillips, O. H. Hughes, W. E. Morris, a James Jones. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymwahanwyd wedi treulio oriau difyr. Gwledd a raIl. Nos Sadwrn diweddaf, rhoddodd Mrs. Thomas, Plasyndre, wledd o de ac amrywiol gacenau i aelodau y Pentecos- tal Leaque, ac eraill. I. dlodion y dref yr oedd y wledd wedi.ei bwriadu, a gwahoddwyd eraill Cyn ymadael o Plasyndre, anrhegodd Mrs. Thomas bawb ag oranges, dilladau, &c. Y diweddar Brifathraw M. D. Jones.- Dywedir fod y diweddar Brifathraw wedi gwario y swm anferth o Z20,000 wrth sefyd- lu y Wladfa Gymreig yn Mhatagonia. .0. Marwolaeth Sydviz.-Boreu ddydd Iau, hysbyswyd y newydd pruddaidd fod Mrs. Jones, priod Mr. David Jones, Cariwr, wedi marw yn sydyn o glefyd y galon. Yr oedd Mrs. Jones yn wraig dyner a charedig, ac yn hoff gan bawb. Cydymdeimlir yn fawr â Mr. D. Jones a'i ddau fab, y rhai sydd wedi eu hamddifadu o fam dyner a phriod caredig. Y TRENGHOLIAD. Cynhaliwyd trengholiad ddydd Gwener, o flaen R. 0. Jones, Ysw. (is-grwner y sir,) a 13 o reithwyr, blaenor pa rai ydoedd Mr. William Ellis, Red Lion Farm. Y tyst cyntaf a alwyd ydoedd Humphrey Williams, Hanc tua 12 oed. yr hwn a dystiai iddo weled Mrs. Jones, tua 8 o'r gloch, nos Fercher, yn eistedd wrth y tan. Gwelodd hi yn cael te am 4, a phwdin gwaed a biff gydag ef, a chafodd swper drachefn am ro Ni wyddai pa bryd yr aeth i'w gwely, ac aeth ef adref, ond ni chlywodd hi yn cwyno, edrychai yn iach fel arfer. Ni chlywodd ef fod dim anghydfod yn y tenlu. Galwyd ar D. Jones (mab i'r drancedig)—Gwelais hi tua 11 nos Fercher, yn eistedd wrth y tan, yn siar- gyda ni, ni chwynai ddim, ac ymddangosai yn ei hiechyd arferol. Hysbyswyd ef: boreu dranoetn, pan ei dad, fod ei fam wedi marw, ac aeth i ymofyn -Dr. Williams. Y tyst nesaf ydoedd Mr. D. Jones (priod yr ymad- awedig,) yr hwn a ddywedai iddo wel'd ei briod yn fyw olaf, nos Fen her. Ymddangosai yn ei hiechyd arferol. Aeth ei i'w wely o'i biaeti hi, a chafodd hi boreu Iau wedi marw. Galwyd arDr. Williams i roddi tystiolaeth Dy- wedai ei tod yn adnabod y drancedig j er's blynydd- au,—wedi bod yn gweini ami ychydig wythnosau yn 01, a rhoddodd leddyginiaeth iddi, am ei bod yn cwyno oddiwrth ddolur yn Y stumog a'r coludtiion. Roreu Iau diweddaf ael I, i dy y drancedig a gwelodd hi wedi marw-a barnai ei bod yn farw er's 0 5 i 8 awr. Yr oedd wedi marw o ataliad gweithrediad y galon. Wedi gwrand: y tystiolaethau, dygwyd rheithfam yn unol a thystiolaeth y meddyg. Cynygiwyd gan Mr. W. Ellis, a chefnogwyd gan Mr. O. Richards ein bod, o dan yr amgylchiad galar- us hwn, yn cyflwyno pleidlais o gydymdeimlad gyda David Jones yn ei brofedigaeth lem a chwerw, a chyda'r ddau fib yn eu colled o fam anwyl, dyner, a chymeradwy gan bawb. Cymerodd y c'addedigaeth le ddydd Sad- wrn, pryd yr Lebryngwyd ei gweddillion i dy ei hir gartref yn mynwe:.t L'anfor gan nifer luosog o gyfeilliou a phcrthynasau.