Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
SALE GAN Mri. DAVID ROBERTS A'l FAB. Dydd Mawrth nesaf, Ion. 31ain, CAECYNDDEL, LLANDDERFEL. o Fuchod; 6 o Fustych Cymreig, yn codi yn dair oed HefFer yn codi yn dair oed Heflfer yn codi yn ddwyflwydd; Tarw blwydd; HefFer a dau Fustach blwydd Hwch dorog Offerynau Amaethu Dod- refn Ty a Llestri Llaeth—trwy orchymyn cynrych- iolwyr y ddiweddar Mrs. Elizabeth Owen. Tri mis o goel ar sicrwydd boddhaol, neu ddiscount am arian parod. Yr Auction am haner dydd. SWYDDFEYDD YR ARWERTHWYR,— CORWEN, DINBYCH, A LLANGOLLEN.
Advertising
VICTORIA HALL. BALA. CYNHELIR CYNGHERDD UWCHRADDOL Yn y lie uchod gan
Advertising
GWMNI 0 FFESTINIOG, Nos lau nesaf, Ionawr 26. LLYWYDD-DR. WILLIAMS, BALA. Bydd hwn yn un o'r cyngberddau mwyaf dydd- orol fa yn y dref er's llawer dydd.
BALA.-LLIFOGYDD MAWRION.
BALA.-LLIFOGYDD MAWR- ION. Yn ystod y tri mis diweddaf, nid oes odid neb yn fyw yn cofio y tymmor hwn o'r flwydd- yn wedi bod mor wlyb a stormllyd; a nos Wener diweddaf, darfu'r elfenau ail-ymgyn- ddeiriogia chynhyrfu ag adnewyddu eu gwlyb- aniaeth a chodi yn dymmhestl angherddol, yr hyn a barodd i'r hen Lyn (gadawaf allan ei gyfenw o ran parch), yr hwn er's talm o amser bellach oedd yn llawn o ddiod, ac wedi ym- chwyddo hyd at ei ymylon, ymwylltio a chwib- ianu gan nerth neu ysgogiadau y corwynt a'r llifddyfroedd, nes gwneyd iddo luchio ei freich- iau arianaidd ar hyd ei geulenydd, megis ar adenydd y gwynt oedd yn chwythu ar y pryd ,o'r deau-orllewinol, i fod yn foddion gyda'r cawodydd gwlaw trymmion a fwriodd trwy gydol y nos i orlifo y rhan adnabyddus o'r dre a alwyd y Plase," ond yn awr a adweinir yn Aran Lane," a myned i'r oil o'r tai yn ddi- wahaniaeth ar bob ochr i'r heol, oddigerth i dri o dai a stepie iddynt; a gorfodwyd y pres- wylwyr fyned i'w llofftydd am nodded, a gad- ael pob peth arall i dynged yr elfenau, a thrwy gydol dydd Sadwrn (bythgofiadwy) yn eu hystafell newydd y llechent, rhai gyda d w y riât, a'r lleill heb yr un. Cyrhaeddai y dwr o ben wal y capel ar hyd Aran Lane, a rhan o Plasey Street, mor bell a drws mawr y Barries. Cawn fod seleri tafarndai y dref i gyd yn llawn o ddwfr. ac mewn un amgylchiad o leiaf caf- Wyd fod yr haner barilau yn nofio yn braf fel cywion alarchod yn mis Mehefin ar Lyn Tegid; cawn hefyd fod un ty yn neillduol yn y Stryt fawr o ran ei iseldra yn y ddaear wedi ei orlifo gan ddwr-codi. Bu pawb yn garedig ac ewyllysgar iawn i roddi help i'r carcharorion diniwed oil. Wrth gwrs, digwyddodd ambell 1 dro chwerw a thorcalonus yn ystod dydd Sadwrn y caeth-gludiad, ac eto rai pethau yn 13911anol y trybin; a'r gofid (heb fodyn ysgafn a chellwerus) a barodd i'r cannoedd edrychwyr Wenu a sirioli trwy'r cwbl i gyd, wrth ganfod y rilodd y byddai rhai oedd wedi eu cyfyngu i'w tei yn cael gollyngdod a rhyddhad. Gwelwn y G?f crwn a phwysfawr, dan wenu yn dod allan 0'1 ystafell ar gefn, glamp o lane cryf a heini, gan ei ddodi yn ddiangol a throedsych vn yniyl ei weithdy; yn mhellach draw gwelir Ilanc ieuanc yn hwylio berfa drol gyda'i dad ynddi i fyned at ei waith, gan drochioni y dwr Alewn prysurdeb i gyrhaedd y Ian; mewn cwr 3jrail rhyfeddach fyth gwelwn oddiar gariad dyn yn cario ei wraig allan, yr hon oedd o faintioli a thaldra lied fawr, pryd nad oedd ei gwr ond o daldra cyffredin, ac wrth ei weled yn brasgamu trwy y dwr, oherwydd ei oerder, a thraed ei wraig yn llusgo'r cenllif, yn natur- iol chwerthodd yr edrychwyr, a rhoisant floedd o "hwre" iddi; hithau a'i hatebasant,—"gell- wch chwi chwerthin ytia, ond mae hi yn ddrwg iawn yn y pen pella acw," deallais mai dyfod allan yr oedd i 'mofyn ei thorth o'r popty. Hawddamor iddi! Wele wraig ddiwyd a ffydd- Ion yn hwylio byw er gwaetha pob dryccin daearol, bydd clod i hon. Heb fod neppell o'r fan hon gwelwyd un gwr parchedig yn cael ei gludo mewn cerbyd drwy y dyfroedd, er ei alluogi i fyned i'w gyhoddiad at y Sul; er ei fod yn dra phybyr o blaid y dwfr, eto, gallem feddwl mai ei deimlad oedd, nid da gormod o ddim." Ondhwyrach yn y prydnhawn gwelaf glamp o ddyn (dieitnr yn yr ardal) o dan effaith y ddiod feddwol yn cael ei gario ar gefn dyn arall trwy'r rhyferthwy dwfr a'i ddpdi i eistedd ar gadair yn ei lodgins a'i draed yn y dwfr hyd ben ei liniau; yr hyn a achosodd i'r cre- adur gwirion i radd:,u i ddod i'w bwyll ac i gyfaddef ei "ffolineb." Yn amserol yn y cyfyngder a'r caledi mawr hyn trwy haelioni ac elusengarwch rhai o fon- eddigesau dyngarawl yr ardal, a chyda chyd- weithrediad a'r parodrwydd llwyraf aelodau y Bwrdd Lleol a Gwareidwaid Undeb Penllyn gyrwyd allan ar unwaith Mr Jones y Relieving Officer mewn cerbyd i alw heibio i bob ty oedd y dwr wedi cyrhaedd iddo i edrych pa beth oedd arnynt eu eisio ac felly yn mlaen, a buont yn ddiwyd hyd yn hwyr y prydnhawn gwaith yn cludo glo iddynt ac anghenrheidiau cynhaliaeth, a daliwyd ati dydd LIun drachefn am 9 o'r gloch i gario glo iddynt yn nghydag anghenrheidiau ereill. Darfu i un mab sydd yn byw mewn rhan alrall o'r dref yofio fod ei hen fam anwyl yn byw yn Aran Lane ac aeth yn uniongyrchiol trwy y dwr a chwpaned o de a bara ag ymenyn iddi gan eu codi i fyny at ffenestr y llofft gyda bach a choes iddo. Eg- wyddor dda o anrhydedd. Nos Fawrth, yn Vestri capel Tegid, cynhal- iwyd cyngherdd o dan lywyddiaeth y meddyg Williams, cynyrch pa un oedd yn myned i gynorthwyo y teuluoedd tlodion ddyoddefas- ant niwaid oddiwrth y llifddyfroedd. Yn y flwyddyn 1838 coronwyd ein Grasusaf Frenhines, ac yn y flwyddyn ddilynol 1839, ar y Sul cyntaf o Ionawr (byth a hefyd) y bu cyffelyb dymmestl o ruthrv^nt a gwlaw trwm gan wneyd difrod a cholledion mawr ar for a thir; hefyd oddeutu 16 mlynedd yn ol bu dwr mawr" o'r blaen ond nid i'w gyffelybu i hwn-Rhyfeddwn y fath wahaniaeth 4 blyn- edd yn ol, yr eira gwyn yn gorchuddio'r ddaear yn Ionawr, ac yn Chwefror i'w gofio byth Rhew mawr Llyn Tegid." Dwl yw'r t, y modd, dolur o'm bys.—W. E. i
LLYTHYR YR HEN LANC.
LLYTHYR YR HEN LANC. MR. GOL. Yr wyf er's tro bellach wedi meddwl am ysyrifenu gair 'rwan ac yn y man i'r papur newydd a olygir genych, a elwir yn awr yr WYTHNOS A'R ERVR. Cyn dyfod at faterion pwysig, a phynciau y dydd, rhodd- af ychydig o fy hanes fy hun i gychwyn. Ar y 5ed dydd o'r flwyddyn hon, edrychais i'r Bibl Teuluaidd am fy oed, ac er fy mawr syn- dod, cefais fy mod wedi gweled llawn dri deg o flynyddau, ac wedi cyraedd y cyfnod hwnw pan y mae pob dyn yn dyfod i'w gyflawn syn- wyr, sef, deg-ar-hugain oed.—yr adeg hono pan y mae yn ffarwelio a bod yn Ilanc ifanc, ac yn dechreu a bod yn hen llanc. Mewn pentre bychan yn nghanol y wlad yr ydwyf yn byw, mae yma Eglwys Wladol, a chapelau gan y gwahanol enwadau Ymneillduol; amryw dafarndai, a phob math o bobol. Cadw siop ydyw y busnes sydd genyf, dyna waith fy nhad o fy mlaen, a phan y bu ef farw, disgyn- odd y cyfan i fy ngofal i. Mae fy mam eto yn fyw, a hi sydd yn cadw cartrefi mi. Yr wyf wedi dealt os bydd neb am lwyddo mewn masnach mai gwell ydyw peidio dangos llawer o set enwadol, er mai i gapel y Methodistiaid Calfinaidd y byddaf fi, fel rheol, yn myned, eto, byddaf 'rwan ac yn y man yn myned i'r Eglwys, i gapelydd yr Annibynwyr, a'r Trefn- yddion Wesleyaidd. Byddaf yn gweled hyny yn talu mewn mwy nag un ystyr. Ni fyddaf chwaith byth yn awgrymu wrth y merchaid fydd yn dyfod i'r shop, fy mod yn meddwl aros yn hir yn Hen Lane, ond yn hytrarh fel arall. Byddaf yn awgrymu wrth y merchaid ifanc, a hen ferchaid, hefyd, o ran hyny, fod fy mam yn myned yn hen a methedig, ac y bydd raid i minau fod ar y look-out am rhywun i gadw ei lie cyn bo hir. Bydd rhoddi y gair allan fod yr hen wraig yn lied wael, 'rwan ac yn y man, yn foddion i ychwanegu y busnes. Bydd llu yn dyfod i'r shiop i ofyn am dani, a neb yn dyfod nag yn myned yn waglaw; rhai yn dyfod a liefrith, eraill a chiw iar wedi ei bluo, potel o win gan y Hall. A bydd ar bob un, wrth gwrs, eisiau amryw bethau o'r shiop i fyned gyda hwy gartref. Byddaf yn cadw yr hen wraig yn ei gwelu am ddyddiau os bydd wedi cael ychydig anwyd. Byddaf yn gweled hyny yn talu yn dda iawn. Er fy mod fel hyn yn cadw ar delerau da a hail ferchaid yr ardal, eto, y tebygrwydd mawr ydyw na welir fi wedi fy rhwymo er gwell ac er gwaeth" gyda'r un ohonynt. Hen Lane ydwyf ac a fyddaf, ac y mae genyf Ysgrythyr bendant, a rhesymau anatebadwy dros fod felly, a chaiff darllenwyr yr WYTHNOS A'R ERYR eu gweled yn fy Ilythyr nesaf. Hyd hyny byddwch wych. Yr eiddoch. HEN LANC.
Advertising
EDEYRNION RURAL DISTRICT COUNCIL TENDERS are invited for the removal of 1 of the ashes, house refuse, fcc., from the town of Corwen, from the 2nd day of April, 1899. It will be necessary that the refuse be carted on "W'ecLflGScUiyS weekly. Sealed tenders to be delivered at my office not later than Thursday, the 16th day of February, 1899. BY ORDER, THOMAS HUGHES, CLERK, Union Offices, Corwen, 23rd January, zsgg.